Mabinogion J M Edwards Cyf 2 (testun cyfansawdd)
← | Mabinogion J M Edwards Cyf 2 (testun cyfansawdd) golygwyd gan John Morgan Edwards |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Mabinogion J M Edwards Cyf 2 |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

MABINOGION
(O Lyfr Coch Hergest.)
GOLYGWYD GAN
J. M. EDWARDS, YSGOL SIR Y RHYL
❂ ❂
GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, HEOL ESTYN.
1901.
RHAG-YMADRODD.
——————
——————
WELE ail gyfrol, yn cynnwys tair mabinogi a hanes Taliesin. Cafodd y gyfrol gyntaf dderbyniad mor groesawgar, fel yr hudwyd fi i baratoi cyfrol arall; ac yr wyf yn gobeithio y ceir hi mor wasanaethgar ac mor ddyddorol a'r gyntaf.
Cyhoeddwyd y mabinogion, y tair, yn union fel y maent yn Llyfr Coch Hergest, gan Dr. J. Gwenogfryn Evans. Cyhoeddwyd y mabinogion a hanes Taliesin, gyda chyfieithiad Saesneg, gan Lady Guest. Cyhoeddwyd hwy mewn Cymraeg hen a diweddar gan Llyfrbryf.
Yn yr argraffiad hwn cyfaddaswyd hwy ar gyfer plant ysgol.
- J. M. EDWARDS.
- Ysgol Sir y Rhyl,
- Awst, 1901.
Digitized by the Internet Archive in 2011 with funding from University of Toronto
PEREDUR AB EFROG.
——————
EFROG IARLL oedd biau iarllaeth y Gogledd. A saith mab oedd iddo.
Ac nid ar ei gyfoeth yn fwyaf y byddai
Efrog byw, ond ar wrol-gampau, a rhyfeloedd ac ymladdau. Ac fel y mae yn fynych
i'r neb a ganlyno ymladdau a rhyfeloedd,
lladdwyd ef a'i chwe mab.
Seithfed fab a
oedd iddo. Peredur oedd ei enw, a'r
ieuengaf oedd hwnnw. Ac nid oedd mewn
oed i fynd i ymladd nac i ryfel, petai mewn
oed efe a laddasid fel y lladdwyd
ei dad a'i frodyr. Gwraig ddoeth,
ofalus, oedd yn fam iddo. A
phryderu a wnaeth yn fawr am
ei hun mab a'i chyfoeth, a hynny
a gafodd yn ei chyngor-ffoi i anialwch a
diffpethwch didramwy ac ymadael â'r cyfaneddau. Ni adawodd yn ei chymdeithas
ond gwragedd, a meibion, a dynion didraha,
na allent ac na weddai iddynt nac ymladd
na rhyfela. Ni adawai i neb, yn y lle y
clywai ei mab, gynnull na meirch nac arfau,
rhag dodi o'r mab ei fryd arnynt. Ac i'r
fforest yr ai y mab beunydd i chwareu, ac i
daflu darnau o goed ac ysgyrion. Ac un
diwrnod efe a welai ddeadell eifr ei fam, a
dwy ewig yn gyfagos i'r geifr. A rhyfeddu
yn fawr a wnaeth y mab fod y ddwy hynny
heb gyrn, a chyrn ar y rhai eraill. A thybiodd iddynt fod yn hir ar goll, ac am
bynny golli eu cyrn o honynt. A thŷ a oedd
ymhen y fforest i'r geifr, a thrwy fedr a
rhedeg efe a gymhellodd yr ewigod, ynghyd
â'r geifr, i fewn. A daeth Peredur drachefn
at ei fam.
"Fy mam," ebe ef, "peth rhyfedd a welais yn y coed,—dwy o'th eifr wedi mynd yn wyllt, ac wedi colli eu cyrn gan faint yr amser y buont ar goll dan y coed. Ac ni chafodd dyn drafferth mwy nag a gefais i yn eu gyrru i fewn."
Ac ar hynny cyfodi a wnaeth pawb a dyfod i edrych, a phan welsant yr ewigod rhyfeddu'n fawr a wnaethant.
Ac un diwrnod hwy a welent dri marchog yn dyfod ar hyd marchog-ffordd wrth ystlys y fforest. A'r tri marchog oedd,—Gwalchmai fab Gwyar, a Geneir Gwystyl, ac Owain fab Uryen. Ac Owain oedd yn ymlid ar ol y marchog a ranasai'r afalau yn llys Arthur.
"Fy mam," ebe Peredur, "beth yw y rhai acw?"
"Angylion ydynt, fy mab," ebe hithau. 'Dyma fy ffydd," ebe Peredur, "yr af yn angel gyda hwy."
Ac i'r ffordd i'w cyfarfod y
daeth Peredur.
"Dywed, enaid, a welaist ti farchog yn mynd heibio heddyw neu ddoe?"
"Ni wn," ebe yntau, "beth yw marchog "
"Y cyfryw beth wyf fi," ebe Owain.
"Pe dywedit ti i mi y peth a ofynnaf i ti," ebe Peredur, "minnau a ddywedwn i tithau yr hyn a ofynni dithau."
Dywedaf yn llawen," ebe Owain.
"Beth yw hwn?" ebe Peredur am y cyfrwy.
"Cyfrwy yw," ebe Owain.
Ac ymofyn yn llwyr a wnaeth beth oedd y pethau a welai ef ar y gwyr, a'r meirch, a'r arfau, a pha beth fynnent â hwy, ac a allent wneyd â hwy. Owain a fynegodd iddo yn llwyr bob peth a ellid wneyd â hwy.
"Dos rhagot," ebe Peredur, "mi welais y cyfryw a ofynni dithau; a minnau a ddeuaf ar dy ol di."
Yna dychwelyd a wnaeth Peredur at ei fam a'r nifer.
"Fy mam," ebe ef, "nid angylion oedd y rhai gynneu, ond marchogion urddasol."
Yna syrthiodd y fam yn farw lewyg.
A daeth Peredur hyd y lle yr oedd y ceffylau a gludent danwydd iddynt, ac a ddygai fwyd a dwfr o gyfannedd i'r anialwch, a chymerodd geffyl brych-welw ysgyrniog a'r cryfaf debygai ef. A ffynoreg a wasgodd yn gyfrwy iddo, ac â gwyddyn dynwared y pethau a welsai ar y meirch, ac ar bopeth, a wnaeth Peredur.
A thrachefn y daeth Peredur at ei fam, ac ar hynny dadlewygu a wnaeth yr iarlles.
"Ie, fy mab, cychwyn a fynni,"
"Ie," ebe Peredur, gan dy gennad."
"Aros i mi dy gynghori cyn dy gychwyn."
"Yn llawen," ebe ef, "dywed ar frys."
"Dos rhagot," ebe hi, "i lys Arthur, "lle y mae y gwyr goreu, a haelaf, a dewraf. Lle y gweli
eglwys, cân dy bader wrthi. Os
gweli fwyd a diod, a'u heisiau
arnat, ac na bo neb o foesgarwch a daioni eu rhoddi i ti, cymer hwy dy hun. Os
clywi wylofain, dos yno,—a gwylofain
gwraig yn anad gwylofain yn y byd. Os
gweli dlws teg, cymer ef, a dyro i arall; ac
o hynny clod a geffi. Os gweli ferch deg,
câr hi, er na fyn di; gwell gŵr a chywirach
fyddi o hynny na chynt."
Ac wedi yr ymadrodd hwnnw esgyn ar ei farch a wnaeth Peredur, a dyrnaid o bicellau blaenllym yn ei law, a chychwyn ymaith rhagddo a wnaeth. A bu ddeuddydd a dwynos yn cerdded anialwch coediog, ac amryw le diffaeth, heb fwyd ac heb ddiod. Ac yna y daeth i goed mawr anial, ac ymhell yn y coed ef a welai lannerch deg wastad, ac yn y llannerch y gwelai babell. Yr oedd yn rhith eglwys, ac ef a ganodd ei bader wrth y babell. A thua y babell y daeth. A drws y babell a oedd yn agored, a chadair euraidd yn ymyl y drws, a morwyn oleu wallt, brydferth, yn y gadair yn eistedd. Ac am ei thalcen yr oedd cadwen aur, a meini disglaer ynddi, a modrwy aur fawr am ei llaw. A disgyn a wnaeth Peredur, a dyfod rhagddo i mewn; a llawen fu y forwyn wrtho, a chyfarch gwell iddo a wnaeth. Wrth dalcen y babell ef a welai fwyd, a dwy gostrel yn llawn o win, a dwy dorth o fara càn, a golwythion o gig mel—foch. "Fy mam," ebe Peredur, "a archodd i mi pa le bynnag y gwelwn fwyd a diod ei gymeryd."
"Dos dithau, unben, yn llawen i'r bwyd, a chroesaw i ti."
Yna y cymerth Peredur hanner y bwyd a'r ddiod iddo ei hun, gan adael y llall i'r forwyn. A phan ddarfu i Beredur fwyta, dyfod a wnaeth a gostwng ar ben ei lin ger bron y forwyn.
"Fy mam," ebe ef, "a archodd i mi lle gwelwn dlws teg ei gymeryd."
"Cymer dithau, enaid," ebe hi. Cymerodd Peredur y fodrwy; cymerodd ei farch, a chychwynnodd ymaith. Ar ol hynny dyma y marchog biau y babell yn dyfod, sef oedd hwnnw perchennog y llannerch, ac ol y march a welai,— "Dywed," ebe ef wrth y forwyn, "pwy fu yma ar fy ol i?"
"Dyn rhyfedd iawn ei ansawdd, arglwydd," ebe hi, a mynegodd ansawdd Peredur, a'r modd y teithiai, yn llwyr.
"Dywed," ebe ef, "a wnaeth efe ddrwg i ti?"
"Naddo, myn fy nghred," ebe hi, "na cham nis gwnaeth i mi."
"Myn fy nghred nis credaf; ac oni ddaliaf ef i ddial fy nghywilydd a'm llid, ni chei dithau drigo dwy nos yn fy nhŷ." A chyfodi a wnaeth y marchog i geisio Peredur.
Ac yntau, Peredur, a gychwynnodd tua llys Arthur. A
chyn ei ddyfod i lys Arthur,
daeth marchog arall i lys Arthur,
ac a roddodd fodrwy aur fawr yn
nrws y porth er dal ei farch. Ac
yntau a ddaeth i'r neuadd yn lle yr oedd
Arthur a'i deulu, a Gwenhwyfar a'i rhianedd.
A gwas ystafell oedd yn gwasanaethu ar
Gwenhwyfar o flwch aur. Yna y marchog
a dywalltodd y dwfr a oedd ynddo am ei
gwyneb a'i bron, gan roddi bonclust mawr i
Wenhwyfar, a dywedyd,—
"Os oes neb cyn eofned a gwarafun y blwch hwn i mi, a dial sarhad Gwenhwyfar, deued ar fy ol i'r weirglodd, a mi a'i harhosaf yno."
A'i farch a gymerth y marchog a'r weirglodd a gyrchodd. Sef a wnaethant,—pawb o'r teulu, gostwng eu pennau rhag gofyn i un fynd i ddial sarhad Gwenhwyfar. A thebyg oedd ganddynt na wnai neb waith cyn eofned a hynny, oni bai fod arno filwriaeth ac angerdd, neu ledrith fel na allai neb ymddial âg ef.
Ar hynny dyma Peredur yn dyfod i'r neuadd ar geffyl brych-welw ysgyrniog, a thaclau musgrell arno, ac yn anweddaidd mewn llys cyf-urdd a hwnnw. Ac yr oedd Cai yn sefyll yng nghanol y neuadd.
"Dywed, y gŵr hir," ebe Peredur, "acw mae Arthur?"
"Beth a fynní di," ebe Cai, "âg Arthur?"
"Fy mam a archodd i mi ddyfod i'm hurddo yn farchog urddol at Arthur."
"Myn fy nghred," ebe Cai, "rhy anghywir wyt o farch ac arfau."
Ac ar hynny canfu y teulu ef a bwriasant ysglodion ato.
Ar hynny, dyma ŵr yn dyfod i mewn, a ddaeth flwyddyn cyn hynny i lys Arthur, ef a chorres, i erchi nawdd Arthur, a hynny a gawsant. Ac yn ystod y flwyddyn ni ddywedasai un o honynt un gair wrth neb. A phan ganfu y corach Peredur,—
"Haha," ebe ef, "croesaw
calon i ti, Beredur deg, fab
Efrog, arbennig ymysg milwyr
a blodau marchogion!"
"Yn wir," ebe Cai, "dyma
fedr yn ddrwg,—bod flwyddyn yn llys Arthur yn fud, yn cael dewis dy ymddiddanwr, a galw y cyfryw ddyn a hwn, yng
ngwydd Arthur a'i deulu, a'i dystio yn
arbennig ymysg milwyr a blodau marchogion!" a rhoddodd fonclust iddo hyd nes
oedd ar lawr yn farw lewyg.
Ar hynny dyma y gorres,—
"Haha," ebe hi, "croesaw calon i ti, Beredur deg, fab Efrog, blodau y milwyr, a chanwyll y marchogion!"
"Ie, forwyn," ebe Cai, "dyma fedr yn ddrwg, bod flwyddyn yn fud yn llys Arthur, a galw y cyfryw ddyn hwn yn y modd y gelwaist!" a rhoddodd Cai gic iddi nes oedd ar lawr yn farw lewyg.
"Y gŵr hir," ebe Peredur, "mynega i'm pa le mae Arthur."
Taw a'th son," ebe Cai, "dos ar ol y marchog a aeth oddi yma ir weirglodd, a dwyn y blwch oddi arno, a thafl ef, a chymer ei farch a'i arfau, ac wedi hynny ti a geffi dy urddo yn farchog urddol."
"Y gŵr hir, minnau a wnaf hynny."
A throdd ben ei farch, ac aeth allan ac i'r
weirglodd. A phan ddaeth yr oedd y
marchog yn marchogaeth yn
rhyfygus fel gŵr dewr urddasol.
"Dywed," ebe'r marchog, "a welaist di neb o'r llys yn dyfod ar fy ol i?"
"Y gŵr hir oedd yno," ebe ef, "a archodd i mi dy daflu di, a chymeryd y blwch a'r march, a'r arfau i mi fy hun."
"Taw," ebe y marchog, "a dos drachefn i'r llys, ac arch oddi wrthyf i Arthur ddyfod, ai ef ai arall, i ymladd â mi. Ac oni ddaw yn gyflym ni arhosaf i erfyn."
"Myn fy nghred," ebe Peredur, "dewis di ai o'th fodd ai o'th anfodd, myfi a fynnaf y march, a'r arfau, a'r blwch."
Ac yna y cyrchodd y marchog ef yn llidiog, a gwanodd ef â blaen ei waew rhwng yr ysgwydd a'r gwddf,—dyrnod mawr dolurus.
"Aha, was," ebe Peredur, "ni chwareuai gweision fy mam â myfi felly. Minnan a chwareuaf â thi fel hyn."
Bwriodd bicell flaenllym ato, ac a'i tarawodd yn ei lygad hyd onid oedd trwy ei wegil allau, ac yntau yn farw ar amrantiad. "Yn wir," ebe Owain fab Uryen wrth Cai, "drwg a wnaethost yrru y dyn ffol ar ol y marchog. Un o ddau beth a ddigwydd iddo, ei ladd neu ei daflu; os ei daflu a ddigwydd i'r marchog, rhif y marchog ef yn ŵr mwyn o'r llys, ac anghlod dragwyddol fydd i Arthur a'i filwyr; ac os ei ladd a ddigwydd, yr anghlod a gerdda fel cynt, a'i bechod arno yntau yn ychwaneg. A dyma fy ffydd, af i wybod pa hanes yw ei eiddo ef."
A daeth Owain i'r weirglodd. A'r hyn welai Owain oedd Peredur yn llusgo y gŵr ar hyd y weirglodd.
"Beth a wnei di felly?" ebe Owain.
"Ni ddaw," ebe Peredur, "y bais haiarn byth oddi am dano, nis gallaf fi ei thynnu."
Yua diosgodd Owain yr arfau a'r dillad.
"Dyma, enaid," ebe ef, "farch ac arfau gwell na'r rhai eraill, a chymer hwy yn llawen. A thyred gyda mi hyd at Arthur i'th urddo yn farchog urddol, canys ti a'i haeddi."
"Ni chodaf fy ngwyneb os af," ebe Peredur. "Ond dwg di y blwch oddi wrthyf i Wenhwyfar. A dywed wrth Arthur Pa le bynnag y byddwyf fi, gŵr iddo fyddaf ac a allaf o les a gwasanaeth iddo mi a'i gwnaf. A dywed na ddeuaf i'r llys byth oni ymladdwyf y gŵr hir sydd yno, i ddial sarhad y cor a'r gorres."
Yna y daeth Owain drachefn i'r llys, a mynegodd yr hanes i Arthur a Gwenhwyfar, ac i bawb o'r teulu, a'r bygwth ar Gai.
Ac yntau, Peredur, a gychwynnodd ymaith. Ac fel yr oedd yn cerdded, dyma farchog yn ei gyfarfod.
"O ba le y deui di?" ebe'r marchog.
"Deuaf o lys Arthur," ebe Peredur.
"Ai gwr i Arthur wyt ti?" ebe ef.
"Ie, myn fy nghred," ebe Peredur.
"Yr wyt yn glynu wrth Arthur mewn lle iawn."
"Paham?" ebe Peredur.
"Mi a ddywedaf i ti," ebe ef "Gelyn fum i Arthur erioed. Ac mi a leddais bob gŵr iddo a ddaeth i'm cyfarfod."
Ni fu dim yn fwy na hynny rhyngddynt,—ymladd wnaethant. Ac ni fu hir amser cyn i Beredur ei fwrw dros grwper ei farch i lawr. Nawdd a archodd y marchog ganddo.
"Nawdd a geffi," ebe Peredur, "ond rhoddi dy lw yr ai i lys Arthur, a mynegi i Arthur mai fi a'th fwriodd er anrhydedd a gwasanaeth iddo ef. A dywed na ddeuaf byth i'r llys oni chaffwyf ddial sarhad y cor a'r gorres."
A'r marchog a roddodd ei air ar hynny, ac a gychwynnodd rhagddo i lys Arthur. Ac a wnaeth hynny, a'r bygwth ar Gai.
Ac yntau, Peredur, a gychwynnodd rhagddo. Ac yn yr un wythnos cyfarfu âg ef un marchog ar bymtheg; ac ef, Peredur,
a'u bwriodd yn gywilyddus. Ac aethant i
lys Arthur, a'r unrhyw ymadrodd ganddynt
ac a ddaeth gyda'r marchog cyntaf, a'r un
bygwth gan Beredur ar Gai. A cherydd a
gafodd Cai gan Arthur, a phrudd fu yntau,
Cai, am hynny. Yntau, Peredur, a gerddodd rhagddo, ac a ddaeth i goed mawr
anial, ac yn ystlys y coed yr oedd llyn, ac
ar y tu arall yr oedd caer deg. Ar lan y
llyn gwelai wr llwyd bonheddig yn eistedd
ar obennydd o sidan, a gwisg o sidan am
dano; a gweision yn pysgota ar y llyn
hwnnw. Pan welodd y gŵr llwyd Peredur
yn dyfod, cyfodi a wnaeth, a cherdded tua'r
gaer. A chloff oedd yr hen ŵr. Yntau,
Peredur, a gyrchodd y llys. A'r porth oedd
yn agored, ac aeth i'r neuadd. Ac yr oedd
y gŵr gwallt wyn yn eistedd ar obennydd,
a thân mawr yn llosgi o'i flaen. A chyfodi
a wnaeth y teulu a'r nifer i dderbyn Peredur,
a diosg ei esgidiau. Ac archi a
wnaeth y gŵr i'r dyn ieuanc
eistedd ar ben y gobennydd. A
chydeistedd ac ymddiddan a
wnaethant. A phan fu amser
gosod byrddau, a mynd i fwyta, yr oedd
Peredur yn eistedd ar y naill law i'r gwr
biai y llys. Wedi darfod bwyta, gofyn a
wnaeth y gŵr i Beredur, a allai daro â
chleddyf yn dda.
"Na allaf," ebe Peredur, "pe caffwn ddysg tebyg y gallwn." "A all chware â ffon a tharian yn dda, gallasai hwnnw ymladd â chleddyf." Dau fab oedd i'r gŵr,—gwas melyn a gwas gwineu.
'Cyfodwch, weision," ebe ef, "i chwareu â ffyn, ac a thariannau."
Ac yna i chwareu â ffyn yr aethant.
"Dywed, enaid," ebe y gŵr, "pwy oreu o'r gweision debygi di am chware?"
"Tebyg gennyf fi," ebe Peredur, "y gallai y gwas melyn wneuthur gwaed ar y llall pe y mynnai."
"Cyfod dithau, enaid, a chymer y ffon a'r darian o law y gwas gwineu, a gwna waed ar y gwas melyn os gelli."
Peredur a gyfododd, a mynd a wnaeth i chware â'r gwas melyn. A dyrchafodd ei —law, ac a'i tarawodd â dyrnod mawr hyd nes y syrthiodd yr ael ar ei lygad, —a'r gwaed yntau yn llifo.
"Wel, enaid," ebe y gŵr, "dos i eistedd bellach. Y gŵr goreu am daro â chleddyf yn yr ynys hon fyddi di. A'th ewythr dithau, frawd dy fam, wyf finnau. A chyda mi y byddi y tymor hwn yn dysgu moes ac arfer y gwledydd a'u defodau, ac ymddygiad, ac addfwynder, a boneddigeiddrwydd. Gad weithian iaith dy fam, a mi a fyddaf athraw i ti, ac a'th urddaf yn farchog urddol o hyn allan. A dyma a wnei, —os gweli beth a fo ryfedd gennyt, nac ymofyn beth yw, os na bydd digon o foesgarwch i'w fynegi i ti. Nid annat ti y bydd y cerydd, ond arnaf fi, canys mi sydd athraw i ti."
Ac anrhydedd a gwasanaeth ddigon a gawsant. A phan fu amser, i gysgu yr aethant.
Pan ddaeth y dydd gyntaf, cyfodi a wnaeth Peredur, a chymeryd ei farch, a chychwyn ymaith trwy ganiatad ei ewythr. A daeth i goed mawr anial, ac ymhen draw y coed daeth i ddol, a'r tu arall i'r ddol wastad gwelai gaer fawr, a thua'r lle hwnnw y cyfeiriodd Peredur. A'r porth a gafodd yn agored, ac aeth i'r neuadd. A'r hyn welai oedd gwr llwyd bonheddig yn eistedd yn ochr y neuadd, a gwyr ieuainc yn aml o'i gylch. A chyfodi a wnaethant yn foesgar, a'i dderbyn, a'i ddodi i eistedd ar y naill law i'r gŵr biai y neuadd. Ac ymddiddan a wnaethant. A phan fu amser myned i fwyta, dodi Peredur a wnaethant i eistedd ar y naill law i'r gŵr mwyn i fwyta. Ac wedi darfod bwyta ac yfed eu hamcan, gofyn a wnaeth y gŵr da i Peredur a allai ef daro â chleddyf.
"Pe caffwn ddysg, tebyg yw gennyf y gallwn," ebe Peredur.
Ac yr oedd haiarn mawr yn
llawr y neuadd.
"Cymer," ebe y gŵr wrth Peredur, "y cleddyf acw a tharo yr haiarn."
A Pheredur a gyfododd ac a darawodd yr haiarn onid oedd yn ddeu-ddryll, a'r cleddyf yn ddeu-ddryll.
"Dod y darnau ynghyd a chyfuna hwy."
Peredur a'u dododd ynghyd, a chyfunasant fel cynt. A'r ailwaith tarawodd yr haiarn yn ddeu-ddryll, a'r cleddyf yn ddeu-daryll, ac fel cynt cyfuno a wnaethant. A'r drydedd waith cyffelyb ddyrnod a darawodd, a'u bwrw ynghyd, ond ni chyfunai yr haiarn na'r cleddyf.
"Ie, was," ebe y gŵr, "dos i eistedd bellach, a'm bendith i ti. Y dyn goreu yn y deyrnas am daro â chleddyf wyt. Deuparth dy ddewredd a gefaist, a'r trydydd ran sydd heb ei gael. Ac wedi i ti gael dy ddewredd yn gwbl, ni thycia i neb ymryson â thi. A'th ewyrth wyf finnau, frawd dy fam. Brodyr ym ni a'r gŵr y buost neithiwr yn ei dy."
Ac yna ymddiddan â'i ewyrth a wnaeth Peredur. Ar hynny gwelai ddau was yn dyfod i'r neuadd, ac yn mynd i'r ystafell, a gwaew ganddynt anfeidrol ei faint, a thair ffrwd o waed yn rhedeg o'i phen hyd y llawr. A phan welodd y nifer hwnnw wylo a llefain a wnaethant. Ond, er hynny, ni thorrodd y gŵr yr ymddiddan â Pheredur. Er hynny ni ddywedodd wrth Peredur yr ystyr, ac ni ofynnodd yntau. Ar hynny, wedi distewi ysbaid fechan, dyma ddwy forwyn yn dyfod â dysgl fawr rhyngddynt, a phen dyn yn y ddysgl, a gwaed yn dew o'i amgylch. Ac yna llefain yn fawr a wnaeth nifer y llys, onid oedd yn flin trigo yn yr un llys â hwynt. Ac o'r diwedd tewi a wnaethant. A phan fu amser i gysgu, yr aeth Peredur i ystafell deg. A thrannoeth Peredur a gychwynnodd ymaith trwy gan- iatad ei ewyrth.
Oddi yno ef a ddaeth i goed, ac ymhell
yn y coed clywai wylo. A'r hyn welai oedd
gwraig oleuwallt fonheddig, a march a
chyfrwy arno yn sefyll ger ei llaw, a chorff
yn ei hymyl. A phan y ceisiai
roddi y corff ar y cyfrwy oedd ar
y march, syrthiai y corff i lawr,
ac wylai hithau.
"Dywed, fy chwaer," ebe Peredur, "pam yr wyt yn wylo?"
"O esgymunedig Beredur! gwared bychan a gefais o fy ngofid gennyt ti erioed."
"Paham yr wyf fi esgymunedig?" ebe Peredur.
"Am dy fod yn achos i ladd dy fam. Canys pan gychwynnaist o'i hanfodd, neidiodd gwaew i'w chalon, ac o hynny bu farw. Ac am hynny yr wyt yn esgymunedig. A'r cor a'r gorres a welaist yn llys Arthur, corachod dy dad di a'th fam oeddynt, a chwaer—faeth i ti wyf finnau. A'm gŵr priod oedd hwn a laddwyd gan y marchog sydd yn y llannerch yn y coed,—ac na ddos dithau ar ei gyfyl ef rhag iddo dy ladd."
"Fy chwaer, cam wnai i'm fy ngheryddu. Am fy mod cyhyd ag y bum gyda chwi, prin y gorchfygaf ef, a phe buaswn yn hwy anhawdd fyddai i'm ei orchfygu. Taw dithau, bellach, a'th wylo, canys ni thycia ddim. A mi a gladdaf y corff; ac wedi hynny mi a af hyd lle mae y marchog, i edrych a allaf ei ddial arno."
Ac wedi iddo gladdu y gŵr, dyfod a wnaethant i'r lle yr oedd y marchog yn marchogaeth yn rhyfygus yn y llannerch. Ar hyn gofyn a wnaeth y marchog i Peredur o ba le y deuai.
"Deuaf o lys Arthur."
"Ai gŵr Arthur wyt ti?"
"Ie, myn fy nghred."
"Un iawn i ymlynu wrtho yw Arthur."
Ac ni fuont yn hwy na hynny cyn ymladd. Ac yn y lle Peredur a daflodd y marchog. A nawdd a archodd yntau gan Peredur.
"Nawdd a geffi," ebe Peredur, "os cymeri y wraig hon yn briod, a gwneuthur y parch a'r aurhydedd goreu a elli iddi; am ladd o honot tithau ei gŵr priod hi yn wirion. A mynd o honot i lys Arthur, a mynegi iddo mai fi a'th daffodd er anrhydedd a gwasanaeth i Arthur. A mynegi iddo na ddeuaf i byth i'w lys ef oni ymladdwyf â'r gwr hir sydd yno i ddial sarhad y cor a'r gorres arno."
A llw am hyn a gymerodd gan y marchog. A threfnwyd y wraig yn gywir o farch a dillad gydag ef i lys Arthur, a mynegwyd yr hanes i Arthur, a'r bygwth ar Gai. A cherydd a gafodd Cai gan Arthur a'r teulu am gadw o hono was cystal a Pheredur o lys Arthur. Ebe Owain fab Uryen,—
"Ni ddaw y gŵr ieuanc hwn byth i'r llys, onid a Cai allan o'r llys."
"Myn fy nghred!" ebe Arthur, "mi chwiliaf anialwch Ynys Prydain am dano oni chaffwyf ef. Ac yna gwnaed pob un o honynt a allo o waethaf i'w gilydd."
Yntau Peredur a gychwynnodd rhagddo, ac a ddaeth i goed anial. Sathyr dynion ac anifeiliaid ni welai, ond gwyddweli a llysiau. Ac ymhen draw y coed gwelai gaer fawr, a thyrrau cedyrn aml arni. Ac yn agos i'r porth hwy oedd y llysiau nag yn un lle arall. Ac â phen ei bicell curodd y porth. Ar hynny dyna was melyn—goch cul ar fwlch yn y gaer.
"Dewis, unben," ebe ef, "ynte i mi agor y porth i ti, neu fynegi i'r neb pennaf dy fod wrth ddrws y porth?"
"Mynega fy fod yma,'" ebe Peredur, "ac os mynnir i'm ddyfod i mewn, mi a ddeuaf."
Y gwas a ddaeth drachefn, ac a agorodd y porth i Peredur. A phan ddaeth i'r neuadd ef a welai ddeunaw o weision culion, cochion, o'r un dwf a'r un bryd, a'r un wisg a'r un oed, a'r gwas a agorasai y porth iddo. A da ocdd eu moes a'u gwasanaeth. A diosg ei esgidiau a wnaethant.
Eistedd ac ymddiddan a wnaethant. Ar hynny dyma bum morwyn yn dyfod o'r ystafell i'r neuadd. A diau oedd gan Peredur na welodd forwyn erioed cyn deced a'r forwyn bennaf o honynt.
Hen wisg o sidan—fuasai dda gynttyllog fel y gwelid ei chnawd trwyddo. Gwynnach oedd na blawd y crisant. Ei gwallt hi a'i lwy ael oedd dduach na'r muchudd. Dau fan coch bychan oedd yn ei gruddiau,—cochach oeddynt na dim cochaf.
Cyfarch gwell a wnaeth y forwyn i Peredur, ac eistedd ar y
naill law. Cyn hir wedi hynny
gwelai ddwy fynaches yn dyfod,
a chostrel yn llawn o win gan y
naill, a chwe torth o fara càn
gan y llall.
"Arglwyddes," ebe hwy, "Duw a ŵyr nad oes cymaint arall a hyn o fwyd a diod yn y confent acw heno."
Yna aethant i fwyta. A Pheredur a sylwodd fod y forwyn yn mynnu rhoddi mwy o fwyd a diod iddo ef nag i neb arall.
"Tydi, fy chwaer," ebe Peredur, "myfi a rannaf y bwyd a'r ddiod."
"Nac ef, enaid," ebe hi.
"Yn wir, mi a'i rhannaf."
Peredur a gymerth ato y bara, ac a'u rhoddes i bawb gystal a'u gilydd, a mesur ffiol o'r gwin a roddodd i bawb cystal a'u gilydd. Pan oedd amser myned i gysgu, ystafell a gyweiriwyd i Beredur. Ac i gysgu yr aeth.
"Dyma, fy chwaer," ebe y gweision wrth forwyn decaf a phennaf o honynt, "a gynhygiwn i ti."
"Beth yw hynny?" ebe hi.
"Myned at y gŵr ieuanc i'r ystafell uchod, ac ymgyunyg iddo yn wraig neu yn gaeth-ferch, yr hyn oreu ganddo ef."
"Dyna," ebe hi, "beth ni wedda. Myfi heb achos erioed â gŵr. Ac ni allaf gynnyg iddo cyn iddo fy hoffi. Ni allaf fi hyuny er dim."
"I Dduw y dygwn ein cyffes, oni wnai di hynny, ni a'th adawn i'th elynion yma i wneuthur a fynnont â thi."
A rhag ofn hynny cychwyn a wnaeth y forwyn, a than ollwng dagrau aeth rhagddi i'r ystafell. A chan dwrf y ddor yn agor deffro a wnaeth Peredur. Ac yr oedd y forwyn yn wylo ac yn llefain.
"Dywed, fy chwaer," ebe Peredur, "pam yr wyt yn wylo?"
"Mi a ddywedaf i ti, arglwydd," ebe hi. Fy nhad i oedd biai y cyfoeth hwn yn eiddo iddo ei hun; a'r llys hwn a'r iarllaeth o'i chylch oedd y goreu yn ei gyfoeth. Ac yr oedd mab iarll arall yn fy ngofyn innau i fy nhad. Nid awn innau o'm bodd ato ef, ac ni roddai fy nhad fi o'm hanfodd iddo ef nac i iarll yn y byd Ac nid oedd o blant i'm tad i ond myfi.
Ac wedi marw fy nhad dacth y cyfoeth i'm llaw innau, ac yn sicr ni fynnwn i ef wedi hynny mwy na chynt. A'r hyn a wnaeth yntau, wedyn, oedd rhyfela yn fy erbyn i, a goresgyn fy nghyfoeth ond yr un tŷ hwn. A chan mor dda y gwŷr a welaist ti,—brodyr-maeth i mi, a chadarned y tŷ, ni chymer ef byth tra y parhao bwyd a diod. A hynny a ddarfyddodd, ond fel y mae y mynachesau a welaist di yn ein porthi, o herwydd fod y cyfoeth a'r wlad yn rhydd iddynt hwy. Ac yn awr nid oes iddynt hwythau ddim bwyd na diod; ac nid oes amser pellach nag y fory oni ddel yr iarll a'i holl allu gydag ef yn erbyn y lle hwn. Ac os myfi a gaiff ef, ni fydd gwell fy sefyllfa na'm rhoddi i weision y meirch. A dyfod i ymgyunyg i thithau, arglwydd, yr wyf, yn y wedd y bo oreu gennyt ti, er bod yn nerth i mi,—fy nwyn oddi yma, neu fy amddiffyn yma."
"Dos, fy chwaer," ehe ef, "i gysgu. Ac nid af i oddi wrthyt cyn y gwnelwyf ddim a ddywedi, oni welwyf a allwyf fod yn nerth i chwi."
Drachefn aeth y forwyn i gysgu. Trannoeth y bore y cyfododd y forwyn, ac y daeth hyd lle yr oedd Peredur, a chyfarch gwell iddo.
"Duw a roddo dda i ti, enaid, a pha ryw chwedlau sydd gennyt?"
"Nid oes ond fod yr iarll a'i holl allu wedi gwersyllu wrth y porth. Ac ni welodd neb amlach pebyll, a marchogion, yn galw ar arall i ymladd."
"Yn wir," ebe Peredur, "paratoer i minnau fy march."
Yna y march a baratowyd i Beredur. Ac yntau a gyfododd ac a gyrchodd y weirglodd. Ac yr oedd yn y weirglodd farchog yn marchogaeth yn rhyfygus, wedi codi arwydd i ymladd âg ef. Ac i ymladd yr aethant. A Pheredur a daflodd y marchog dros grwper ei farch i lawr. Ac yn niwedd
y dydd daeth marchog arbennig i ymladd
âg ef; a thaflu hwnnw a wnaeth Peredur. Nawdd a archodd hwnnw.
"Pwy wyt ti?" ebe Peredur.
"Yn wir," ebe ef, "penteulu i'r iarll."
"Beth sydd o gyfoeth yr iarlles yn dy feddiant di?"
"Yn wir," ebe ef, "tair rhan."
"Ie," ebe ef, "dychwel iddi dair rhan ei chyfoeth yn llwyr, ac a gefaist o dda o hono. A bwyd can ŵr, a'u diod, a'u meirch, a'u harfau heno iddi yn y llys. A bydd dithau yn garcharor iddi."
A hynny a ganiataodd yn ddiddannod. Ac yr oedd y forwyn yn hyfryd lawen y nos honno, wedi cael y pethau hyn oll. A thrannoeth Peredur a aeth i'r weirglodd, a llawer o honynt a daflodd ef y dydd hwnnw. Yn niwedd y dydd daeth marchog rhyfygus arbennig ato, a thaflu hwnnw a wnaeth Peredur. A nawdd a archodd hwnnw gan Beredur.
"Pa un wyt tithau?" ebe Peredur.
"Distain y llys," ebe ef.
"Beth," ebe Peredur, "sydd o gyfoeth y forwyn yn dy feddiant di?"
"Tair rhan ei chyfoeth," ebe ef.
"Ie," ebe Peredur, "dychwel ei chyfoeth i'r forwyn, ac a gefaist o dda o hono yn llwyr. A bwyd dau gan ŵr, a'u diod, a'u meirch, a'u harfau. A bydd dithau yn garcharor iddi."
A hynny a gafodd yn ddiddannod. A'r trydydd dydd y daeth Peredur i'r weirglodd, a mwy a daflodd ef y dydd hwnnw na'r un dydd. Ac yn niwedd y dydd daeth yr iarll i ymladd ag ef. Ac ef a'i taflodd, a nawdd a archodd yntau.
"Pwy wyt tithau?" ebe Peredur.
"Myfi yw yr iarll," ebe ef, "nid ymgelaf."
"Ie," ebe Peredur, "dychwel ei hiarllacth yn gyfan i'r forwyn, a'th iarllaeth dithau yn ychwaneg. A bwyd tri channwr a'u diod, a'u meirch a'u harfau, a thithau i'w mheddiant."
Ac felly y bu popeth. A thrigodd Peredur dair wythnos, yn peri rhoddi teyrnged ac ufudd-dod i'r forwyn, ac i'r cyfoeth fod wrth ei chyngor.
"Gan dy gennad," ebe Peredur, "mi a gychwynnaf ymaith."
"Ai hynny a fynni, fy mrawd?"
"Ie, myn fy nghred, ac oni bai fy mod yn dy garu di, ni fuaswn yma cyhyd ag y bum."
"Enaid," ebe hi, "pwy wyt tithau?"
Peredur, fab Efrog o'r Gogledd. Ac os daw gofid neu enbydrwydd arnat, mynega i mi, a mi a'th amddiffynnaf, os gallaf."
Cychwyn a wnaeth Peredur oddi yno. Ac ymhell oddi yno cyfarfyddodd marchoges âg ef, ar farch cul, chwysedig. A chyfarch gwell a wnaeth hi i'r gŵr ieuanc.
"O ba le y deui, fy chwaer?"
Mynegi a wnaeth iddo pam y cerddai felly. A phwy oed ond gwraig Syberw y Llannerch.
"Yn wir," ebe ef, "myfi yw y marchog o achos yr hwn y cefaist y gofid yma. Ac edifar fydd y neb a'i gwnaeth."
Ar hynny dyma y marchog yn dyfod, a gofynnodd i Beredur a welsai ef y cyfryw farchog a oedd ef yn ei geisio.
"Taw a'th son," ebe Peredur, "myfi yr wyt yn ei geisio. A myn fy nghred, drwg wyt a'r teulu wrth y forwyn, o achos gwirion yw yn ei pherthynas â mi."
Ac ymladd a wnaethant. Ac
ni bu hir yr ymladd,—Peredur a
datlodd y marchog. A nawdd a
archodd yntau gan Beredur.
"Nawdd a geffi," ebe Peredur, "os ai drachefn y ffordd y daethost i fynegi i ti gael y forwyn yn wirion, ac fel iawn iddi hithau y taflais i di."
A'r marchog a addawodd hynny iddo.
Ac yntau, Peredur, a gerddodd rhagddo. Ac ar fynydd uwch law iddo gwelai gastell, a thuag ato yr aeth. A churo y borth a wnaeth â'i bicell. Ar hynny dyma was goleubryd bonheddig yn agor y porth,—a maint milwr ac oedran mab arno. A phan ddaeth Peredur i'r neuadd yr oedd gwraig fawr fonheddig yn eistedd mewn cadair, a llaw—forwynion yn aml o'i chylch. A llawen fu y wraig dda wrtho. A phan fu amser iddynt, myned i fwyta a wnaethant. Wedi darfod bwyta,—
"Gwell i ti, unben," ebe hi, "fyned i gysgu i le arall."
"Oni chaf gysgu yma?" ebe Peredur.
"Naw gwiddon, enaid, sydd yma, o widdonod Caer Loew, a'u tad a'u mam gyda hwy. Ac os na ddihangwn ni cyn dydd, hwy a'n lladdant. Ac fe ddarfu iddynt oresgyn ein cyfoeth a'i ddifetha, ond yr un tŷ hwn."
"Ie," ebe Peredur, "yma y byddaf heno. Ac os gofid a ddaw arnoch, os gallaf wneyd lles mi a'i gwnaf,—ac afles nis gwnaf finnau."
Ac i gysgu yr aethant. A chyda'r dydd Peredur a glywai wylo angherddol. A chyfodi yn gyflym a wnaeth Peredur, gan roddi ei lodrau a'i fantell am dano, a'i gleddyf wrth ei wregys. Ac aeth allan, a'r hyn welai oedd gwiddon yn trechu gwyliwr, ac yntan yn gwaeddi. Aeth Peredur yn erbyn y widdon, ac a'i tarawodd â chleddyf ar ei phen hyd oni ledodd yr helm a'i phen-orchudd fel discl am ei phen.
"Dy nawdd, Peredur deg, fab Efrog, a nawdd Duw!"
"Pa fodd, wrach, y gwyddost di mai Peredur wyf fi ?"
"Tynged a gweledigaeth eglurodd y byddai i ni oddef gofid oddiar dy law; ac y byddai i tithan gymeryd march ac arfau gennyf finnau. A chyda mi y byddi yn dysgu marchogaeth a thrin arfau."
"Fel hyn," ebe Peredur, "y ceffi nawdd, -addaw na wnei gam byth yng nghyfoeth yr iarlles."
A'i llw ar hynny a gymerodd Peredur. A
chan ganiatad yr iarlles, cychwynnodd
gyda'r widdon i lys y gwiddonod. Ac yno
y bu dair wythnos gyfan. Yna, wedi dewis
ei farch a'i arfau, cychwynnodd rhagddo.
A diwedd y dydd ef a ddaeth i ddyffryn, ac
ymhen draw y dyffryn daeth i gell meudwy.
A llawen fu y meudwy wrtho. Ac yno y bu
ef y nos honno. Trannoeth y bore ef a
gyfododd oddi yno. A phan
ddaeth allan yr oedd cawod o
eira wedi disgyn y nos gynt. A
gwalch gwyllt wedi lladd hwyad
wrth dalcen y gell. A chan dwrf
y march cilio wnaeth y gwalch. A disgynnodd bran ar gig yr aderyn. A'r hyn
wnaeth Peredur oedd sefyll, a chyffelybu
dued y fran, a gwynder yr eira, a chochter
y gwaed, i wallt y wraig fwyaf a garai a
oedd cyn ddued a'r muchudd, a'i chnawd
oedd cyn wynned a'r eira, a chochter y
gwaed yn yr eira i'r ddau fan coch oedd yn
ei gruddiau
Ar hynny yr oedd Arthur a'i deulu yn ceisio Peredur.
"A wyddoch chwi," ebe Arthur, "pwy yw y marchog â'r bicell hir, saif yn y nant uchod?"
"Arglwydd," ebe un, "mi a af i wybod pa un yw."
Yna y daeth y gwas hyd y lle yr oedd
Peredur, a gofyn a wnaeth beth y wnai yn
synfyfyrio felly, a phwy oedd. A chan faint
meddwl Peredur ar y wraig fwyaf a garai,
ni roddodd ateb iddo. A'r hyn wnaeth
yntau oedd ymosod ar Peredur â phicell.
Yntau Peredur a drodd at y gwas, ac a'i
tarawodd dros grwper ei farch i'r llawr. Ac
ar ei ol ef y daeth pedwar gwas ar hugain
ato, y naill ar ol y llall. Ac nid atebodd yr
un mwy na'u gilydd, ond gwneyd yr un
chware â phob un,—ei daro â'r un bwriad
i'r llawr. Yntau Cai a ddaeth
ato ef, ac a ddywedodd yn sarrug
ac anhygar wrth Peredur. A
Pheredur a'i tarawodd â'i bicell
dan ei ddwy ên, ac a'i tailodd
ergyd oddi wrtho, nes y torrodd ei fraich a
gwaell ei ysgwydd. A marchogacth a
wnaeth drosto un waith ar hugain. Ac fel
yr oedd yn farw lewyg gan faint y dolur a
gawsai, trodd ei farch ymaith gan deithio'n gyflym. A phan welodd y teulu y march
yn dyfod heb y gŵr arno, cychwynasant ar
frys tua'r lle y buasai yr ymladdfa. A phan
ddaethant yno, tebygu a wnaethant fod Cai
wedi ei ladd,—ond hwy welsant, os cawsai
feddyg da, y byddai byw.
Ni symudodd Peredur ei feddwl, mwy na chynt, er gweled y pryder oedd uwch ben Cai.
Daethpwyd â Chai hyd ym mhabell Arthur. A gorchmymodd Arthur ddwyn meddygon cywrain ato. Drwg fu gan Arthur gyfarfod o Gai y gofid hwnnw, canys mawr y carai ef. Ac yn y dywedodd Gwalchmai,—
"Ni ddylai neb gyffroi marchog urddol oddi ar y meddwl y bydd ynddo yn annoeth; canys meddylio yr oedd naill ai am y golled a ddaeth iddo, neu ynte am y wraig fwyaf a garai. Ac os bydd da gennyt ti, arglwydd, myfi a af i edrych a symudodd y marchog oddi ar y meddwl hwnnw. Ac os felly y bydd, mi a archaf iddo yn hygar ddyfod i ymweled â thi."
Ac yna y sorrodd Cai, ac y dywedodd eiriau dig, cenfigennus.
"Gwalchmai," ebe ef, "hysbys yw gennyf fi y deui di âg ef, o herwydd blinedig yw. Clod ac anrhydedd bychan, wir, yw i ti orchfygu y marchog lluddedig wedi blino yn ymladd. Felly, wir, y gorchfygaist di lawer o honynt hwy. A hyd tra parhao gennyt ti dy dafod a'th eiriau teg, gwisg o lian tenau am danat fydd ddigon o arfau i ti; ac ni fydd raid i ti dorri, na phicell, na chleddyf wrth ymladd â'r marchog a geffi yn yr ansawdd hon."
Ac yna y dywedodd Gwalchmai wrth Cai,—
"Ti a allet ddweyd a fai addfwynach pe mynnet. Ac nid arnaf fi yr wyt i ddial dy lid a'th ddigofaint. Tebyg yw gennyf hefyd y dygaf y marchog gyda mi heb dorri fy mraich na'm hysgwydd."
Yna y dywedodd Arthur wrth Walch— mai,—
"Fel un doeth a phwyllog y siaredi di. A dos dithau rhagot, a chymer ddigon o arfau am danat, a dewis dy farch."
Gwisgo am dano a wnaeth Gwalchmai, a myned rhagddo yn gyflym ar ei farch tua lle yr oedd Peredur. Ac yr oedd yntau â'i bwys ar baladr ei bicell, ac yn meddylio yr un meddwl. Daeth Gwalchmai ato, heb arwydd gelyn arno, a dywedodd wrtho,—
"Pe gwypwn fod yn dda gennyt ti, fel y mae da gennyf fi, mi a ymddiddanwn â thi. Hefyd negesydd wyf fi oddi wrth Arthur atat, i atolwg armat ddyfod i ymweled âg ef. A dau ŵr a ddaeth o'm blaen i ar y neges yma."
"Gwir yw hynny, "ebe Peredur, "ac
anhygar y daethant. Ymladd a wnaethant
â mi. Ac nid oedd dda gennyf innau hynny;
am nad oedd dda gennyf gael fy nwyn oddi
ar y meddwl yr oeddwn ynddo.
A meddylio yr oeddwn am y
wraig fwyaf a garwn. A'r achos
y daeth hynny i'm cof oedd,— yn
edrych yr oeddwn ar yr eira, ac
a ar y fran, ac ar y dafnau o waed
yr hwyad a laddasai y gwalch yn
yr eira. Ac yn meddylio yr
oeddwn fod mor debyg gwynder yr eira, a dued ei gwallt a'i haelau a'r fran, a'r ddau
fan coch oedd yn ei gruddiau i'r ddau ddefn-
yn o waed."
"Nid anfoneddigaidd y meddwl hwnnw," ebe Gwalchmai, "ac nid rhyfedd mai nid da oedd gennyt gael dy ddwyn oddi arno."
"A ddywedi di i mi a ydyw Cai yn llys Arthur?" ebe Peredur.
"Ydyw," ebe yntau. "Efe oedd y marchog olaf a ymladdodd â thi. Ac nid da fu iddo yr ymladd hwnnw. Torrodd ei fraich ddehau a gwaell ei ysgwydd yn y cwymp a gafodd oddi wrth dy waewffon di."
"Ie," ebe Peredur, "nid rhyfedd dechreu dial y cor a'r gorres felly."
A rhyfeddu a wnaeth Gwalchmai yn ei glywed yn dywedyd am y cor a'r gorres, a dynesodd ato, ac wedi rhoddi ei ddwylaw am ei wddf, gofynnodd beth oedd ei enw.
"Peredur fab Efrog ym gelwir i," ebe ef, "a phwy wyt tithau?"
"Gwalchmai ym gelwir i," ebe yntau.
"Da yw gennyf dy weled," ebe Peredur.
"Dy glod a glywais ym mhob gwlad a fum ynddi, fel milwr a chyfaill. A'th gymdeithas sydd dda gennyi ei gael."
"Ti a'i ceffi, myn fy nghred, a dyro i minnau dy un dithau."
"Ti a'i ceffi, yn llawen," ebe Peredur.
Cychwyn a wnaethant, ill dau, yn hyfryd a chytun, tua'r lle yr oedd Arthur A phan glywodd Cai eu bod yn dyfod, dywedodd,—
"Mi a wyddwn na fyddai raid i Walchmai ymladd â'r marchog. Ac nid rhyfedd iddo gael clod. Mwy a wna of o'i eiriau teg na myfi o'm nerth a'm harfau."
A myned a wnaeth Peredur i babell Gwalchmai i ddiosg eu harfau. Cymeryd a wnaeth Peredur wisg fel a wisgai Gwalchmai, a myned a wnaethant law yn llaw hyd y lle yr oedd Arthur, a chyfarch gwell iddo.
"Dyma, arglwydd," ebe Gwalchmai, "y gŵr y buost er ystalm o amser yn ei geisio."
"Croesaw i ti, unben," ebe Arthur, "a chyda mi y trigi. A phe gwypwn fod dy ddewredd fel y bu, nid aet oddi wrthyf i pan aethost. Fe rag-ddywedodd y cor a'r gorres hyn i ti,—y rhai y bu Cai yn frwnt wrthynt, a thithau a'i dielaist."
Ar hynny, wele y frenhines a'i llawforwynion yn dyfod. A chyfarch gwell a wnaeth Peredur iddynt. A llawen buont hwythau wrtho, a'i groesawu a wnaethant. Parch ac anrhydedd mawr a wnaeth Arthur i Peredur. A dychwelyd a wnaethant tua Chaer Lleon.
A'r nos gyntaf y daeth Peredur i Gaer Lleon i lys Arthur, fel yr oedd yn cerdded yn y gaer wedi bwyd, wele Angharad Law Eurog yn ei gyfarfod.
'Myn fy nghred, fy chwaer," ebe Peredur, "morwyn hygar garuaidd wyt. A mi a allaf dy garu yn fwyaf gwraig, pe da gennyt."
"Myfi a roddaf fy llw," ebe hi, "fel hyn, -na charaf fi dydi, ac na'th fynnaf yn dragwyddol."
"Minnau a roddaf fy llw," ebe Peredur, "na ddywedaf innau air byth wrth gristion hyd oni ddeui i fy ngharu i yn fwyaf gŵr."
Trannoeth cerddodd Peredur ymaith, a dilynodd y brif-ffordd ar hyd cefn mynydd mawr. Ac ar derfyn y mynydd gwelai ddyffryn crwn, a gororau y dyffryn yn goediog a charegog, a gwastad y dyffryn oedd yn weirgloddiau.
Ac ym mynwes y coed gwelai dai duon
mawr, ac an—fanwl en gwaith. Disgynnodd,
ac arweiniodd ei farch tua'r coed. Ac ar
odreu'r coed gwelai ochr carreg
lem, ar ffordd yn mynd heibio
ochr y garreg,—a llew yn rhwym
wrth gadwyn, ac yn cysgu ar
ochr y garreg.
A thwll dwfn,
erchyll ei faint, a welai dan y llew, a'i lond
o esgyrn dynion ac anifeiliaid. Tynnodd
Peredur ei gleddyf, a tharawodd y llew nes
y syrthiodd i'r dibin wrth y gadwyn uwch
ben y pwll. Ac â'r ail ddyrnod tarawodd y
gadwyn nos ei thorri, a syrthiodd y llew i'r
pwll. Ac arwain ei farch ar hyd ochr y
garreg a wnaeth Peredur oni ddaeth i'r
dyffryn. Ac efe a welai ar ganol y dyffryn
gastell teg. A daeth at y castell. Ac ar y
weirglodd wrth y castell gwelai ŵr mawr
llwyd yn eistedd. Mwy oedd nag un gŵr
a welsai erioed. A dau was ienainc yn taflu
carnau eu cylleill o asgwrn morfil. Y naill
o honynt yn was gwinau a'r llall yn was
melyn. A dyfod rhagddo a wnaeth hyd y
lle yr oedd y gŵr llwyd, a chyfarch gwell
iddo a wnaeth Peredur. A'r gŵr llwyd a
ddywedodd,—
"Gwae fy mhorthor!"
Ac yna y deallodd Peredur mai y llew oedd y porthor. Ac yna yr aeth y gŵr gwallt. wyn, a'r gweision gydag ef, i'r castell, ac aeth Peredur gyda hwy. A lle teg anrhydeddus a welai ef yno, a daethant i'r neuadd. A'r byrddau oedd wedi eu gosod, a bwyd a diod yn ddi-dlawd arnynt. Ac ar hynny gwelai wraig go hen a gwraig ieuanc yn dyfod o'r ystafell. A'r gwragedd mwyaf a welsai erioed oeddynt. Ac ymolchi a wnaethant, a myned i fwyta. A'r gŵr llwyd a eisteddodd wrth ben y bwrdd, a'r wraig go hen yn nesaf iddo. A rhoddwyd Peredur a'r forwyn i eistedd gyda'u gilydd, a gwasanaethai y ddau was arnynt, Ac edrych a wnaeth y forwyn ar Beredur, a thristau. A gofyn a wnaeth Peredur i'r forwyn paham yr oedd yn drist.
"Tydi, enaid, er pan y'th welais gyntaf a gerais yn fwyaf gŵr. A garw yw gennyf weled ar was cyn foneddigeidded a thi y diwedd a fydd arnat yfory. A welaist ti y tai duon aml ym mron y coed? Deiliaid i fy nhad i,—y gŵr gwalltwyn acw, sydd yn y rhai hynny yn byw, a chewri ydynt oll. Ac yfory hwy a ymgasglant yn dy erbyn, ac a'th laddant. A'r Dyffryn Crwn y gelwir y dyffryn hwn."
"Ie, forwyn deg, a beri di fod fy march i a'm harfau yn yr un llety a mi heno?"
"Peraf, yn wir, os gallaf, yn llawen."
Pan fu amserach ganddynt gymeryd hûn na chyfeddlach, aeth i gysgu. A'r forwyn a barodd fod march ac arfau Peredur yn yr un llety ag ef. A thrannoeth, clywai Peredur dwrf gwŷr meirch gylch y castell. A Pheredur a gyfododd, ac a wisgodd ei arfau am dano ac am ei farch, ac aeth i'r weirglodd. A daeth y wraig hen a'r forwyn at y gŵr llwyd.
"Arglwydd," ebe hwy, "cymer lŵ y gwas ieuanc na ddywedo ddim a welodd yma. A ni a fyddwn drosto y ceidw ei air."
"Na chymneraf, myn fy nghred," ebe y gŵr llwyd.
Ac ymladd a wnaeth Peredur â'r llu. Ac erbyn y gwyll fe ddarfu iddo ladd un rhan o dair o'r llu, heb neb ei anafu ef. Ac yna y dywedodd y wraig go hen,—
"Fe ddarfu i'r gŵr ieuanc ladd llawer o'th lu. Dyro nawdd iddo?"
"Na roddaf, yn wir," ebe ef.
A'r wraig go hen a'r forwyn deg oedd ar fwlch y gaer yn edrych. Ac ar hynny cyfarfyddodd Peredur â'r gwas melyn, a lladdodd ef.
"Arglwydd," ebe y forwyn, "dyro nawdd i'r gwas ieuanc?"
"Na roddaf, yn wir," ebe y gŵr llwyd.
Ac ar hynny cyfarfyddodd Peredur â'r gwas gwineu, a lladdodd ef.
"Buasai'n well i ti pe rhoddasit nawdd i'r gŵr ieuanc cyn iddo ladd dy ddau fab. A phrin y dihengi dithau dy hun."
"Dos dithau, forwyn, ac ymbil â'r gŵr ieuanc roddi nawdd i ni."
A'r forwyn a ddaeth o'r lle yr oedd Peredur, ac erchi nawdd ei thad a wnaeth, ac i'r sawl a ddihangasai o'i wŷr yn fyw.
"Cei dan amod,—myned o'th dad a phawb sydd dano i wrhau i'r ymherawdwr Arthur, ac i ddywedyd wrtho mai Peredur, gŵr iddo, a wnaeth y gwasanaeth hwn."
"Gwnawn, yn wir, yn llawen."
"A chymeryd eich bedyddio. A minnau a anfonaf at Arthur, i erchi iddo roddi y dyffryn hwn i ti, ac i'th etifedd byth ar dy ol."
Ac yna y daethant i fewn, a chyfarch gwell a wnaeth y gŵr llwyd a'r wraig fawr i Beredur. Ac yna y dywedodd y gŵr llwyd,
"Er pan ydwyf yn meddu y dyffryn hwn ni welais gristion a elai a'i enaid ganddo oddi yma, ond dydi. A ninnau a awn i wrhau i Arthur, ac i gymeryd cred a bedydd."
Ac yna y dywedodd Peredur,—
"Diolchaf finnau i Dduw, na thorrais iunau fy llw wrth y wraig fwyaf a garaf, na ddywedwn un gair wrth gristion."
Trigo yno a wnaeth y nos honno. Trannoeth y bore aeth y gŵr llwyd a'i nifer gydag ef i lys Arthur. Daethant yn ddeiliaid iddo, a pharodd Arthur eu bedyddio. Ac yna dywedodd y gŵr llwyd wrth Arthur mai Peredur a'u gorchfygodd. A rhoddodd Arthur i'r gŵr llwyd a'i nifer y dyffryn i'w ddal dano ef, fel yr archodd Peredur. A chan gennad Arthur aeth y gŵr llwyd ymaith tua'r Dyffryn Crwn.
Peredur yntau a gerddodd rhagddo y bore drannoeth trwy ddiffaethwch hir heb gael cyfannedd. Ac yn y diwedd ef a ddaeth i gyfannedd fechan foel. Ac yno y clywai fod sarff yn gorwedd ar fodrwy aur, ac ni adawai neb fyw saith milltir o bob tu iddi.
Ac aeth Peredur i'r lle y clywai
fod y sarff, ac ymladd a wnaeth
â'r sarff yn llidiog iawn. Ac yn
y diwedd lladdodd hi, a chymerodd y fodrwy iddo ei hun. Ac
felly y bu ef yn cerdded yn hir, heb ddweyd
yr un gair wrth yr un cristion. Ac am
hynny yr oedd yn colli ei liw a'i wedd o hiraeth gwir am lys Arthur, a'r wraig fwyaf
a garai, a'i gyfeillion. Oddi yno y cerddodd
tua llys Arthur. Ac ar y ffordd cyfarfu
teulu Arthur âg ef yn myned i neges, a
Chai yn eu harwain. Adwaenai Peredur
bawb o honynt, ond ni adwaenai neb o
teulu ef.
"O ba le y deui, unben?" ebe Cai, ddwy waith a thair. Ond ni atebodd ef un gair. Ei wanu a wnaeth Cai â gwaew dan ei forddwyd. A rhag iddo gael ei orfodi i siarad, a thorri ei lw, myned heibio a ddarfu heb ymryson âg ef. Ac yna y dywedodd Gwalchmai,—
"Yn wir, Cai, drwg wneist yn archolli y gwr ieuanc yma er na allai siarad." A dychwelodd Gwalchmai drachefn i lys Arthur.
"Arglwyddes," ebe ef wrth Wenhwyfar, "a weli di archoll mor ddrwg a wnaeth Cai ar y gŵr ieuanc yma er na allai ddywedyd. Ac er Duw ac erof finnau, par di ei feddyginiaethu ef. A phan ddychwelwyf eto mi a dalaf y pwyth i ti."
Cyn i'r gwŷr ddyfod yn ol o'u neges, daeth marchog i'r weirglodd, yn ymyl llys Arthur, i erchi gŵr i ymladd. A hynny a gafodd, a Pheredur a'i taflodd ef. Ac wythnos y bu yn taflu marchog bob dydd. Ac un dydd yr oedd Arthur a'i deulu yn dyfod i'r eglwys, a'r hyn welent oedd marchog wedi codi arwydd ymladd.
"Ha wyr," ebe Arthur, "myn grym gŵr, nid af oddi yma hyd oni chaffwyf fy march a'm harfau i daflu yr hunan acw."
Yna yr aeth gweision yn ol march ac
arfau i Arthur. A Pheredur a gyfarfu y gweision yn myned heibio, a chymerodd y
march a'r arfau, ac aeth i'r weirglodd. A
phan welsant ef yn cyfodi ac yn myned i'r
weirglodd i ymladd, aeth pawb i ben y tai
a'r bryniau, neu i le uchel, i weled yr ymladd. A'r hyn wnaeth Peredur
oedd amneidio â'i law ar y
marchog i erchi iddo ddechreu
arno. A'r marchog a ymosododd
arno, ond nid ysgogodd ef o'i lo er hynny. Ac
yntau, Peredur, a ymbaratodd, ac a'i cyrchodd yn llidiog iawn ac angerddol, yn chwerw
a phenderfynol, ac a wanodd ddyrnod wenwyn-llym, dost, debeuig ei ffurf, dan ei ddwy
ên, nes ei godi oddi ar ei gyfrwy, a'i fwrw
ymhell oddi wrtho. Ac yna dychwelodd, a
gadawodd y march a'r arfau i'r gweision fel
cynt. Ac aeth yntau ar ei draed i'r llys.
A'r gŵr ieuanc mud y gelwid Peredur yno. Ar hynny dacw Angharad Law Eurog yn ei gyfarfod.
"Yn wir, unben," ebe hi, "gresyn yw na alli siarad; a phe gallet siarad mi a'th garwn yn fwyaf gŵr. Ac myn fy llw, er nas gelli, mi a'th garaf yn fwyaf gŵr."
"Duw a dalo i ti, fy chwaer," ebe Peredur, "a myn fy llw, minnau a'th garaf di."
Ac yna y gwybyddwyd mai Peredur oedd.
Ac yna y bu ef mewu cymdeithas â Gwalchmai, ac Owain fab Uryen, ac â phawb o'r teulu, a thrigodd yn llys Arthur.
Arthur a oedd yng Nghaer
Lleon ar Wysg. A myned a
wnaeth i hela, a Pheredur gydag
ef. A Pheredur a ollyngodd ei
gi ar ol hydd. A'r ci a laddodd
yr hydd mewn diffaethwch. Ac ychydig bellter oddi wrtho gwelai gyfannedd. A
thua'r gyfannedd y daeth. Ac ef a welai
neuadd. Ac wrth ddrws y neuadd gwelai
dri gwas penfoel yn chware gwydd-bwyll.
A phan ddaeth i fewn, gwelai dair morwyn
yn eistedd ar fainc, a gwisgoedd yr un fath
am danynt, fel y gweddai i foneddigesau.
Ac aeth Peredur i eistedd atynt ar y fainc. Ac un o'r morwynion a edrychodd yn graff ar Beredur, a wylo a wnaeth. A Pheredur a ofynnodd iddi am beth y wylai.
"Gan mor drist gennyf weled lladd gŵr cyn deced a thi."
"Pwy a'm lladd i?" ebe Peredur.
"Pe yr ateliai hyn i ti aros yn y lle hwn, mi a'i dywedwn i ti."
"Er maint fo y llafur arnaf yn aros, mi a'i gwrandawaf."
"Y gŵr sydd dad i mi," ebe y forwyn, "biau y llys hwn, a hwnnw a ladd bawb a ddel i'r llys heb ei ganiatad."
"Pa ryw wr yw eich tad chwi pan allo ladd pawb felly?"
"Gwr yw a wna drais a cham i'w gymdogion, ac ni wna iawn i neb am hynny."
Ac yna y gwelai ef y gweision yn cyfodi,
ac yn cadw y werin oddi ar y bwrdd. Ac
efe a glywai dwrf mawr. Ac wedi y twrf
gwelai ŵr du mawr un llygad yn dyfod i
fewn. A'r morwynion a gyfodasant i'w
gyfarfod, a thynnu ei fantell oddi
am dano a wnaethant. Ac wedi
iddo sylwi ac arafu, edrych a
wnaeth ar Beredur, a gofyn pwy
oedd y marchog.
"Y gwas ieuanc tecaf a bonheddigeiddiaf a welaist erioed. Ac er Duw, ac er dy hynawsedd dy hun, cymer bwyll gydag ef."
"Erot ti mi a bwyllaf, ac a roddaf ei fywyd iddo heno."
Ac yna y daeth Peredur atynt wrth y tân. Ac a gymerth fwyd a diod, ac ymddiddan â'r rhianod a wnaeth. Ac yna y dywedodd Peredur wrth y gŵr du,—
"Rhyfedd yw gennyf dy fod gadarned ag y dywedi dy fod. Pwy a dynnodd dy lygad di?"
"Un o'm rheolau yw," ebe y gŵr du, pwy bynnag a ofyn i mi yr hyn yr wyt ti wedi ei ofyn, na chaiff ei fywyd gennyf yn rhad nac ar werth."
"Arglwydd," ebe y forwyn, er a ddywedo yn ysgafn am danat, cadw y gair a ddywedaist gynneu, ac a addewaist wrthyf."
"A minnau a wnaf hynny yn llawen erot," Ebe y gŵr du. "Mi a adawaf Ei fywyd iddo yn llawen heno."
Ac felly y trigasant y nos honno. A thrannoeth cyfodi a wnaeth y gŵr du, a gwisgo arfau am dano. Ac archodd i Peredur,—
"Cyfod, ddyn, i fyny i ddioddef angeu," ebe y gŵr du.
Peredur a ddywedodd wrtho,— "Gwna y naill beth, y gŵr du, os ymladd a fynni â mi,—ai tynnu dy arfau oddi am danat, ai rhoddi arfau eraill i minnau i ymladd â thi.”
"Ha, ddyn, a'i ymladd a allet ti pe caffet arfau? Cymmer yr arfau a fynnot."
Ar hynny daeth y forwyn â'r arfau a oedd yn hoff ganddo i Beredur. Ac ymladd a wnaeth â'r gŵr du, nes y bu raid i'r gwr du erchi nawdd Peredur.
"Y gŵr du, ti a geffi nawdd tra y byddi yn dweyd wrthyf pwy wyt, a phwy dynnodd dy lygad."
"Arglwydd, minnau a ddywedaf. Ymladd y bum â'r pryf du o'r Garn. Crug sydd a clwir Crug Alar, ac yn y grug y mae carn. Ac yn y garn y mae y pryf. Ac yng nghynffon y pryf y mae maen. A rhinweddau y maen ydynt,—pwy bynnag a'i caffai yn ei naill law, ar ei law arall caffai a fynnai o aur. Ac wrth ymladd â'r pryf hwnnw y collais i fy llygad. A'm henw innau yw y Du Trahaus. A'r achos fy ngalw y Du Trahaus yw am na adawn ddyn yn agos i'm heb ei dreisio, ac iawn nis gwnawn i neb."
"Ie," ebe Peredur, "pa cyn belled yw y grug a ddywedi?"
"Y dydd y cychwynni oddi yma, ti a ddoi i lys meibion Brenin y Dioddefaint."
"Paham y gelwir hwy felly?"
"Bwystfil y llyn a'u tarawai unwaith bob dydd. Pan ddeui oddi yno ti a ddeui i lys Iarlles y Campau."
"Pa gampau," ebe Peredur, sydd yno?"
"Tri chan ŵr sydd iddi yn deulu. A dywedir campau y teulu i bob dyn dieithr a ddel i'r llys. A'r achos am hynny yw hyn, —y tri chan ŵr y teulu a eistedd yn nesaf at yr arglwyddes. Ac nid er amharch i'r dieithriaid, ond er dywedyd campau y llys. Y dydd yr ai oddi yno y deui i'r Grug Galarus. Ac yno y mae perchen tri chan pabell o gylch y grug yn cadw y pryf."
"Gan
dy fod wedi gorthrymu cyhyd a
hyn, mi a wnaf na wnai byth
bellach."
A Pheredur a'i lladdodd. Ac yna y dywedodd y forwyn a ddechreuasai ymddiddan âg ef,—
"Os mai tlawd y daethost yma, cyfoethog fyddi bellach o drysor y gŵr du a leddaist. A thi a weli y fath forwynion hygar y sydd yn y llys hwn. Ti a geffi yr un a fynni o honynt yn wraig."
"Ni ddaethum i yma o'm gwlad, arglwyddes, i wreica; ond gweision hygar a welaf yma. Prioded pawb o honoch â'u gilydd fel y mynno. A dim o'ch da chwi nis mynnaf, ac nid rhaid i'm wrtho."
Oddi yno cychwynnodd Peredur
rhagddo, a daeth i lys meibion
Brenin y Dioddefaint. A phan
ddaeth i'r llys ni welai ond
gwragedd. A'r gwragedd a gyfodasant i'w gyfarfod, ac a fuont
lawen wrtho. Ac ar ddechreu eu
hymddiddan ef a welai farch yn
dyfod a chyfrwy arno, a chorff ar y cyfrwy.
Ac un o'r gwragedd a gyfododd i fyny, ac a
gymerth y corff o'r cyfrwy, ac a'i golchodd
mewn cawg oedd is law y drws a dwfr twym
ynddi, ac a ddodes eli gwerthfawr arno.
A'r gŵr a gyfododd yn fyw, ac a ddaeth i'r
lle yr oedd Peredur, gan ei groesawu. A bu
yn llawen wrtho. A dau ŵr arall a ddaeth
yn eu cyfrwyau. A'r un peth a wnaeth y
forwyn i'r ddau hynny ac a wnaethai i'r
cyntaf. Ac yna y gofynnodd Peredur i'r
unben paham yr oeddynt felly. Hwythau
a ddywedasant fod bwystfil mewn ogof, ac mai hwnnw a'u tarawai unwaith bob dydd.
Ac felly y trigasant y nos honno. A thrannoeth y cyfododd y gweision i fyned rhagddynt. A Pheredur a archodd, er mwyn y
ferch a garent fwyaf, iddynt ei adael fyned
gyda hwy. A hwythau a omeddasant iddo
gan ddywedyd,—
"Pe y'th leddid yno, nid oes i ti a'th wnelai yn fyw drachefn."
Ac yna y cerddasant rhagddynt. A cherddodd Peredur yn eu hol. Ac wedi iddynt ddiflannu fel na welai hwy, cyfarfu â'r wraig decaf a welsai neb yn eistedd ar ben crug.
"Mi a wn dy hynt," ebe hi; "myned yr
wyt i ymladd â'r bwystfil. Ac efe a'th ladd,
—nid am ei fod yn ddewr, ond am ei fod yn
gyfrwys. Ogof sydd iddo, a philer maen
sydd ar ddrws yr ogof. Ac y mae ef yn
gweled pawb yn dyfod i fewn, ond ni wel
neb ef. Ac â llech—waew wenwynig o
gysgod y piler y lladd efe bawb.
A phe rhoddet ti dy lw y caret fi
yn fwyaf gwraig, mi a roddwn i
ti faen fel y gwelot ef pan elot i
fewn, ond ni welai ef dydi."
"Rhoddaf, yn wir," ehe Peredur, "er pan y'th welais gyntaf mi a'th gerais. A pha le y ceisiwn i dydi?"
"Pan geisiech di myfi cais tua'r India."
Ac yna y diflannodd y forwyn ymaith,
wedi rhoddi y maen yn llaw Peredur. Ac
yntau a ddaeth i ddyffryn afon. A gororau
y dyffryn oedd yn goed, ac o bob tu i'r afon
yn weirgloddian gwastad. Ac ar un ochr
i'r afon gwelai yr o ddefaid gwynion, ac ar
yr ochr arall gwelai yr o ddefaid duon. Ac un o'r defaid gwynion, deuai un
o'r defaid duon drwodd a byddai
yn wen. Ac fel y brefai un o'r
defaid duon, deuai un o'r defaid
yn wyn, a gwynion drwodd a byddai yn
ddu. A phren hir a welai ar lan
yr afon; a'r naill hanner o hono
yn llosgi o'r gwraidd hyd y blaen,
a'r hanner arall a dail îr arno.
Ac uwch law yr afon gwelai was ieuanc yn eistedd ar ben crug, a dan filgi bronwynion brychion mewn cadwyni yn gorwedd yn ei ymyl. A diau oedd ganddo na welodd erioed was ieuanc mor urddasol ag ef. Ac yn y coed ar ei gyfer clywai helgwn yn codi hydd. A chyfarch gwell a wnaeth i'r gwas ieuanc, a'r gwas ieuanc a gyfarchodd well i Beredur. A thair ffordd a welai Peredur yn myned oddiwrth y grug. Dwy ffordd yn fawr, a'r drydedd yn llai. A gofyn a wnaeth Peredur i ba le yr äi y tair ffordd.
"Un o'r ffyrdd a ä i'm llys i. A chynghoraf di wneyd un o ddau beth,— mynod i'r llys o'm mlaen at fy ngwraig sydd yno, ynte aros yma, a thi a weli yr helgwn yn codi yr hyddod blin o'r coed i'r maes. A thi a weli y milgwn goreu a glewaf a welaist erioed yn lladd yr hyddod wrth y dwfr is law. A phan fo yn amser i ni fyned i fwyta, daw fy ngwas â'm march i'm cyfarfod. A thi a geffi groesaw yn fy llys heno." "Duw a ddiolcho i ti. Nid arhosaf fi, ond ymlaen yr af."
"Y naill ffordd a ä i'r ddinas sydd yn agos yma, ac yn honno ceffir bwyd a diod ar werth; a'r ffordd y sydd lai na'r lleilla ä tuag Ogof y Bwystfil."
"Gan dy gennad, ŵr ieuanc, tuag yno yr af fi."
A dyfod a wnaeth Peredur
tua'r ogof. A chymeryd y maen
yn ei law aswy, a'i waew yn ei
law ddeheu. Ac fel y deuai i
fewn, darganfod y bwystfil a
wnaeth, a'i wanu â gwaew trwyddo, a thorri ei ben. A phan ddaeth i maes
o'r ogof, wele, yn nrws yr ogof, ei drí chydymaith. A chyfarch gwell a wnaethant i
Beredur, a dywedyd fod darogan mai efe a
laddai y bwystfil hwnnw. A rhoddi y pen
a wnaeth Peredur i'r gwŷr ieuainc. A
chynnyg a wnaethant hwythau iddo yr un
a fynnai o'u tair chwaer yn briod, a hanner
eu hetifeddiaeth gyda hi.
"Ni ddaethum i yma i wreica," ebe Peredur. "A phe mynnwn un wraig, mae yn debyg mai eich chwaer chwi a fynnwn yn gyntaf."
A cherdded rhagodd a wnaeth Peredur. Ac efe a glywai dwrf yn ei ol. Ac edrych a wnaeth yntau yn ei ol. Ac ef a welai ŵr ar gefn march coch, ac arfau cochion am dano. A'r gŵr a ddaeth yn gyfochr âg ef. A chyfarch gwell o Dduw ac o ddyn a wnaeth i Beredur. Ac yntau, Peredur, a gyfarchodd well i'r gŵr ieuanc yn garedig.
Arglwydd, dyfod i ddeisyf peth gennyt yr wyf fi." yfodd Etlym "Beth a ddeisyfi di?" ebe Peredur.
"Fy nghymeryd yn was i ti."
"Pwy a gymerwn innau yn
was, pe cymerwn i di?"

Gleddyf Coch ym gelwir, iarll o ystlys y dwyrain."
"Rhyfedd gennyf dy fod yn cynnyg dy hun yn was i ŵr nad yw ei gyfoeth yn fwy na'th gyfoeth di. Nid oes i minnau ond iarllaeth arall. Ac am mai gwiw gennyt ti ddyfod yn was i mi, mi a'th gymeraf yn llawen."
A dyfod a wnaethant tua llys yr iarlles. A llawen fuwyd wrthynt yn y llys. A dywedwyd wrthynt mai nid er amharch iddynt y dodid hwy is law y teulu wrth y bwrdd, ond mai arferiad y llys oedd hynny. Ond y neb a daflai dri channwr ei theulu hi, bwyta a gaffai yn nesaf iddi, a hi a'i carai yn fwyaf gwr."
Ac wedi i Peredur daflu tri channwr y teulu i'r llawr, ac eistedd ar y naill law iddi, y dywedodd yr iarlles,—
"Diolchaf i Dduw am gael gwas cyn deced a chyn hardded a thi, gan na chefais y gŵr mwyaf a garwn.'"
"Pwy oedd y gŵr mwyaf a
garet tithau?"
"Yn wir, Etlym Gleddyf Coch oedd y gŵr mwyaf a garwn i, ac nis gwelais ef erioed."
Yn wir, cydymaith i mi yw Etlym.—a dyma ef. Ac er ei fwyn ef y daethum i chware a'th deulu di. Ac ef a allai wneyd hynny yn well na myfi pe mynnai. A minnau a'th roddaf di iddo ef."
"Duw a dalo i tithau, ŵr ieuanc, teg. A minnau a gymeraf y gŵr mwyaf a garaf."
A'r nos honno priodwyd Etlym a'r iarlles.
A thrannoeth cychwyn a wnaeth Peredur tua'r Crug Galarus.
"Myn dy law di, arglwydd, mi a ddeuaf gyda thi," ebe Etlym.
A hwy a ddaethant hyd i'r lle y gwelent y crug a'r pebyll.
"Dos," ebe Peredur wrth Etlym, "at y gwyr acw, ac arch iddynt ddyfod i wrhau i mi,"
Ac aeth Etlym atynt, ac a ddywedodd wrthynt fel byn,—
"Deuwch i wrhau i'm harglwydd i."
Pwy yw dy arglwydd di?" ebe hwythau. "Peredur Paladyr Hir yw fy arglwydd i," ebe Etlym.
"Pe gweddus difetha cennad, ni aet drachefn yn fyw at dy arglwydd, am erchi arch mor drahaus i frenhinoedd, a ieirll, a barwninid, a dyfod i wrhau i'th arglwydd di."
Peredur a archodd iddo fyned drachefn atynt, a rhoddi dewis iddynt, ai dyfod i wrhau iddynt ai i ymladd âg ef. Hwythau a ddewisasant ymladd âg ef. A Pheredur a daflodd berchen can pabell y dydd hwnnw i'r llawr.
A'r trydydd dydd penderfynodd cant wrhau i Beredur.
A Pheredur a ofynnodd iddynt, beth a wnaent yno. A hwythau a ddywedasant mai gwylio y pryf hyd nes y byddai farw yr oeddynt. "Ac yna ymladd a wnaem ninnau am y maen, a'r un fyddai drechaf o honom a gai y maen."
"Arhoswch fi yma," ebe Peredur, "mi a af i ymweled â'r
pryf."
"Nage ef, arglwydd," ebe hwy, "awn i gyd i ymladd â'r pryf."
"Ie," ebe Peredur, "ni fynnaf fi hynny. Pe lladdwn i y pryf, ni chawswn i fwy o glod nag un o honoch chwithau."
A myned a wnaeth i'r lle yr oedd y pryf, a'i ladd. A dyfod atynt hwythau, a dywed— yd wrthynt,—
"Cyfrifwch eich traul er pan ddaethoch yma, a mi a'i talaf i chwi," ebe Peredur.
Ac efe a dalodd gymaint ag a ddywedodd pawb oedd ddyledus iddo; ac ni archodd iddynt ddim ond addef eu bod yn wŷr iddo ef. Ac efe a ddywedodd wrth Etlym,—
"At y wraig fwyaf a geri yr äi díthau.
A minnau a af rhagof. Ac mi a dalaf i ti am fod yn was i mi."
Ac yna y rhoddodd efe y maen i Etlym
"Duw a dalo i ti, a rhwydded Duw dy daith."
Ac ymaith yr aeth Peredur. Ac efe a ddaeth i ddyffryn ag afon yno, y tecaf a welsai erioed. A llawer o bebyll amryliw a welai ef yno. A rhyfeddach na hynny oedd ganddo weled cynifer a welai o felinau dwfr a melinau gwynt. A chyfarfyddodd gwr gwineu mawr âg ef, a gwaith saer ganddo. A gofyn pwy oedd a wnaeth Peredur.
"Pen melinydd wyf fi," ebe ef, "ar y melinau acw oll."
"A gaf fi lety gennyt?" ebe Peredur.
"Ceffi yn llawen," ebe yntau.
A daeth Peredur i dŷ y melinydd. Ac efe a welodd mai llety hoff, teg, oedd i'r melinydd. A gofynnodd Peredur i'r melinydd arian yn fenthyg i brynnu bwyd a diod iddo, ac i dylwyth y ty, ac y talai iddo cyn yr äi oddi yno. A gofyn a wnaeth i'r melinydd pa achos y deuai cynifer o bobl yno. Yna y dywedodd y melinydd wrth Peredur,— "Mae y naill beth,—am dy fod yn wr o bell, ynte am dy fod yn ynfyd. Yma y mae brenhines Cristinobyl Fawr. Ac ni fyn honno ond y gŵr dewraf, canys nid rhaid iddi wrth eiddo. Ac ni ellid dwyn bwyd i'r fath filoedd ag sydd yma. Ac achos hynny y mae yr holl felinau hyn."
A'r nos honno cymeryd eu hesmwythder a wnaethant. A thrannoeth cyfodi i fyny a wnaeth Peredur, a gwisgo am dano ac am ei farch i fyned i'r twrneiment. A gwelai babell ymhlith y pebyll eraill y rhai tecaf a welsai erioed. A morwyn deg a welai yn estyn ei phen trwy ffenestr ar y babell. Ac ni welsai erioed forwyn decach. Ac eurwisg o bali am dani. Ac edrych a wnaeth ar y forwyn yn graff, a'i charu yn fawr wnai. Ac felly y bu yn edrych ar y forwyn o'r bore hyd hanner dydd; ac o hanner dydd hyd nes oedd brydnawn. Ac yna fe ddarfyddodd y twrneiment. A dyfod a wnaeth i'r llety, a thynnu ei arfau oddi am dano, a gofyn arian yn fenthyg i'r melinydd. A dig fu gwraig y melinydd wrth Peredur; ond er hynny, rhoddodd y melinydd arian yn fenthyg iddo. A thrannoeth y gwnaeth yr un wedd ac y gwnaeth y dydd cynt. A'r nos honno y daeth i'r llety, a chymerodd arian yn fenthyg gan y melinydd. A'r trydydd dydd, pan ydoedd yn yr un lle yn edrych ar y forwyn, clywai ddyrnod mawr rhwng ei ysgwydd a'i wddf â throed bwyall. A phan edrychodd drachefn y melinydd oedd yno. Y melinydd a ddywedodd wrtho,—
"Gwna y naill beth,—dos ymaith, ynte el i'r twrneiment."
A gwenu a wnaeth Peredur ar y melinydd, a myned i'r twrneiment. Ac a gyfarfu âgef y dydd hwnnw efe a'u taflodd hwy oll i'r llawr; ac anfonodd yr holl wŷr a daflodd yn anrheg i'r ymherodres, a'r meirch a'r arfau yn anrheg i wraig y melinydd am aros am yr arian benthyg. Dilyn y twrneiment a wnaeth Peredur oni thaflodd bawb i lawr; ac anfon y gwyr a wnaeth i garchar yr ymherodres, a'r meirch a'r arfau i wraig y melinydd am aros am yr arian benthyg. Yr ymherodres a anfonodd at farchog y felin i erchi iddo ddyfod i ymweled â hi. A gwrthod a wnaeth Peredur y gennad gyntaf. A'r ail a aeth ato. A hithau y drydedd waith anfonodd gan marchog i erchi iddo ddyfod i ymweled â hi. Ac oni ddeuai o'i fodd, erchi iddynt ei ddwyn o'i anfodd. A hwy a aethant ato, ac a ddywedasant eu cenadwri oddi wrth yr ymherodres. A Pheredur a ymladdodd yn dda â hwy, ac a barodd eu rhwymo hwy fel rhwymo iwrch, a'u bwrw i ffos y felin. A'r ymherodres a ofynnodd gyngor y gŵr doeth a oedd yn ei chyngor. A hwnnw a ddywedodd wrthi,—
"Mi a af ato, os caniatei."
A dyfod a wnaeth at Peredur a chyfarch gwell iddo, ac erchi arno, er mwyn y ferch fwyaf a garai, i ddyfod i ymweled â'r ymherodres. Ac yntau a aeth,—ef a'r melinydd. Ac yn yr ystafell gyntaf y daeth iddi o'r babell eisteddodd. A hithau a ddaeth ar y naill law; a byr ymddiddan a fu rhyngddynt. Ac wedi cael cennad, myned a wnaeth Peredur i'w lety. Trannoeth ef a aeth i ymweled â hi. A phan ddaeth i'r babell, nid oedd un o ystafelloedd y babell yn waeth eu diwyg na'u gilydd, am na wyddent hwy pa le yr eisteddai ef. Eistedd a wnaeth Peredur ar y naill law i'r ymherodres, ac ymddiddan a wnaeth yn garedig. Pan yr oeddynt felly hwy a welent ŵr du yn dyfod i mewn, a chwpan aur yn ei law yn llawn o win. A phlygu a wnaeth ar ben ei lin gerbron yr yinherodres, ac erchi arni na roddai hi ond i'r neb a ddelai i ymladd âg ef am dani. A hithau a edrychodd ar Peredur.
"Arglwyddes," ebe ef, "moes i mi y gwpan."
Ac yfed y gwin a wnaeth Peredur, a rhoddi y gwpan i wraig y melinydd. A phan yr ydoedd felly, wele ŵr mwy na'r llall, ag ewin pryf yn ei law ar ffurf ewpan, a'i lonaid o win. Rhoddodd ef i'r ymherodres, gan erchi arni na roddai ef ond i'r neb a ymladdai âg ef.
"Arglwyddes," ebe Peredur, "moes ef i mi,"
A'i roddi i Beredur a wnaeth hithau; ac yfed y gwin a wnaeth Peredur, a rhoddi y gwpan i wraig y melinydd. A phan oedd- ynt felly, wele ŵr pengrych coch, oedd fwy nag un o'r gwŷr eraill, a chawg yn ei law a'i lonaid o win ynddo. A phlygodd ar ben ei lin o flaen yr ymherodres, ac a'i rhoddodd iddi, gan erchi iddi na roddai y cawg ond i'r un a ymladdai âg ef am dano. A'i roddi a wnaeth hithau i Beredur, ac yntau a'i hanfonodd i wraig y melinydd. A'r nos honno myned i'w lety a wnaeth Peredur. A thrannoeth gwisgo am dano, ac am ei farch, a dyfod i'r weirglodd a lladd y tri wyr a wnaeth Peredur. Ac yna y daeth i'r babell; a hithau a ddywedodd wrth Peredur,—
"Peredur deg, coffa dy lw a roddaist ti i mi pan roddais i ti y maen pan leddaist y bwystfil."
"Arglwyddes," ebe ef, "gwir a ddywedi, a minnau a'i cofiaf."
Ac arhosodd Peredur gyda'r ymherodres bedair blynedd ar ddeg, fel y dywed yr ystori.
Arthur a oedd yng Nghaer Lleon ar Wysg,
prif lys iddo.
Ac yng nghanol llawr y
neuadd yr oedd pedwar gŵr yn
eistedd ar len o bali,—Owain fab
Uryen, a Gwalchmai fab Gwyar,
a Howel fab Emyr Llydaw, a
Pheredur Paladr Hir. Ac ar
hynny hwy a welent yn dyfod i
fewn forwyn ben—grech ddu ar
gefn mul melyn. A charieu anhrefnus yn
ei llaw yn gyrru y mul; a phryd garw ac
angharuaidd arni. Duach oedd ei gwyneb
a'i dwylaw na'r haiarn duaf wedi ei bygu.
Ac nid ei lliw oedd yr hagraf, ond ei llun.
Gruddiau aruchel oedd iddi, a gwyneb hirgul, a thrwyn byr, ffroen—foel. A'i naill
lygad yn frith—las chwerw, a'r llall yn ddu
fel y muchudd yng ngheunant ei phen.
Dannedd hirion melynion,—melynach na.
blodau y banadl. A chodai ei chorff oddi
wrth ei dwyfron yn uwch na'i gên; ac
asgwrn ei chefn a oedd fel bagl. Cyfarch
gwell wnaeth i Arthur a'i deulu oll, ond i
Beredur. Ac wrth Peredur dywedodd eiriau
dig, anhygar.
"Peredur, ni chyfarchaf fi well i ti, ni haeddi hynny. Dall fu ffawd pan roddodd i ti ddawn a chlod. Pan y daethost i lys y brenin cloff, a phan welaist yno y gwas yn dwyn y gwaew blaenllym, ac o flaen waew ddafan o waed, a hwnnw yn rhedeg yn rhaiadr hyd i ddwrn y gwas. A rhyfeddodau ereill hefyd a welaist yno. Ac ni ofynnaist eu hystyr, na'r achos o honynt. A phe gofynnet, iechyd a gaffai y brenin, a'i gyfoeth heddwch. A bellach, brwydrau ac ymladdau, a cholli marchogion, a gadael gwragedd yn weddw, a rhianod yn ddiamddiffyn fydd yno,—a hynny oll o'th achos di."
Ac yna y dywedodd hi wrth Arthur,— "Gan dy gennad, arglwydd, pell yw fy llety i oddi yma. Nid amgen nag yng nghastell Syberw—ni wn a glywaist am dano. Ac yn hwnnw y mae chwe marchog a thri ugain, a phum cant o farchogion urddol, a'r wraig fwyaf a gar pob un gydag ef. A phwy bynnag a fynno ennill clod am drin arfan ac am daro, ac ymladd, efe a'i caiff yno os yn ei haeddu. A phwy bynnag hefyd a fynnai glod ac edmygedd arbennig, gwn yn lle y caiff ef. Castell sydd ar fynydd amlwg; ac yn hwnnw y mae morwyn, a'i chystuddio a wneir yno. A phwy bynnag a allai ei rhyddhau, pen clod y byd a gai." Ac ar hynny cychwyn ymaith a wnaeth. Ebe Gwalchmai,—
"Myn fy nghred, ni chysgaf hun lonydd nes gwybod a allaf ollwng y forwyn." A llawer o deulu Arthur a gytunodd âg ef. Ond peth arall a ddywedodd Peredur,— "Myn fy nghred, ni chysgaf hun lonydd nes gwybod chwedl ac ystyr y waew y dywedodd y forwyn ddu am dani."
A phan yr ydoedd pawb yn paratoi i gychwyn, wele farchog yn dyfod i'r porth, yn meddu maint a nerth milwr ynddo, ac yn gyflawn o arfau a dillad. A daeth ymlaen gan gyfarch gwell i Arthur a'i deulu oll, eithr i Walchmai. Ac ar ysgwydd y marchog yr oedd tarian aur gerfiedig, a thrawst o las cryf ynddi; a'r un lliw a hynny yr oedd yr arfau eraill oll. Ac efe a ddywedodd wrth Walchmai,—
"Ti a leddaist fy arglwydd o'th dwyll a'th frad. A mi a brofaf hynny yn dy erbyn."
Cyfododd Gwalchmai i fyny. "Dyma," ebe ef, "fy ngwystl yn dy erbyn, nad wyf fi na thwyllwr na bradwr, yma nac yn y lle arall."
"Ger bron y brenin sydd arnaf fi, y mynnaf fod yr ymdrechfa rhyngof â thi," ebe y marchog.
"Yn llawen," ebe Gwalchmai, "dos rhagot. Mi a ddeuaf ar dy ol."
Rhagddo yr aeth y marchog; a pharatoi a wnaeth Gwalchmai. A llawer o arfau a gynhygiwyd iddo, ond ni fynnai ef ond ei rai ei hun. Gwisgo a wnaeth Gwalchmai a Pheredur am danynt, a cherddasant ar ei ol, o achos eu cyfeillgarwch a'r maint y carai y naill y llall. Ac nid aethant gyda'u gilydd, ond pawb ei ffordd ei hun.
Gwalchmai yn ieuenctid y dydd a ddaeth i ddyffryn. Ac yn y dyffryn gwelai gaer, a llys mawr yn y gaer, a thyrau uchel-falch o'i gylch. Ac efe a welai farchog yn dyfod i'r porth allan i hela ar farch gloyw ddu, nwyfus, cyflym, gerddai'n wastad, a hoyw, a di—dramgwydd. A phwy oedd ond y gŵr biai y llys.
Cyfarch gwell a wnaeth Gwalchmai iddo.
"Duw a roddo dda i ti, unben. O ba le y deui?"
"Deuaf o lys Arthur," ebe ef.
"Ai gŵr i Arthur wyt ti?"
"Ie, myn fy nghred," ebe Gwalchmai.
"Mi a wn gyngor da i ti," ebe y marchog. "Blin a lluddedig y'th welaf. Dos i'r llys, ac yno y trigi heno, os da gennyt."
"Da, arglwydd, a Duw a dalo i ti."
"Hwde fodrwy yn arwydd i'r porthor.
A dos rhagot i'r twr acw, mae chwaer i mi ynddo.
Ac i'r porth y daeth Gwalchmai, a dangos y fodrwy a wnaeth, a chyrchu y tŵr. A phan ddaeth i fewn yr oedd yno dân mawr yn llosgi, a fflam oleu, uchel, ddifwg, yn codi o hono, a morwyn fonheddig, lân, yn eistedd mewn cadair wrth y tân. A'r forwyn a fu lawen wrtho, a'i groesawu a wnaeth. Ac yntau a aeth i eistedd ar y naill law i'r forwyn; a'u cinio a gymerasant. Ac wedi eu cinio, dal i ymddiddan yn hygar a wnaethant. A phan oeddynt felly, dyma ŵr gwalltwyn bonheddig yn dyfod i fewn atynt.
"O ferch ddrwg," ebe ef, "pe meddyliet ti ai iawn yw i ti ddiddanu ac eistedd gyda'r gŵr yna, nid eisteddet ac ni ddiddanet ef."
Yna tynnodd ei ben o'r drws ac aeth ymaith.
"Ha, unben," ebe y forwyn, " pe gwnelet fy nghyngor i, ti a gauet y drws, rhag ofn fod gan y gŵr gynllwyn yn dy erbyn."
Cyfododd Gwalchmai i fyny, a phan ddaeth tua'r drws yr oedd y gŵr ar ei farch yn llawn arfau, yn cyrchu tua'r tŵr. A'r hyn wnaeth Gwalchmai oedd ei atal rhag dyfod i fyny â bwrdd gwydd—bwyll, hyd nes y deuai'r gŵr oedd biai'r castell o hela.
A'r hynny dyma'r iarll yn dyfod.
"Beth yw hyn?" ebe ef.
"Peth hagr," ebe'r gŵr gwalltwyn, "fod y ferch ddrwg acw yn eistedd ac yn bwyta gyda'r gŵr a laddodd eich tad,—a Gwalchmai fab Gwyar yw."
"Peidiwch, bellach," ebe yr iarll, "myfi a af i mewn."
Yr iarll a fu lawen wrth Gwalchmai.
"Ha, unben," ebe ef, "cam oedd i ti
ddyfod i'n llys ni os gwyddet i ti ladd ein tad. Ac er na allwn ni ei ddial, Duw a'i dial arnat."
"Enaid," ebe Gwalchmai, "dyma fel y mae pethau. Ni ddaethum yma i addef nac i wadu i'm ladd eich tad. Negeseuwr wyf yn myned dros Arthur a throswyf fy hun Fe ddymunaf flwyddyn o amser hyd oni ddelwyf o'm neges. Ac yna, ar fy nghred, deuaf i'r llys hwn i wneuthur un o ddau beth,—ai addef ai gwadu."
A'r amser a gafodd yn llawen. Ac yno y bu y nos honno. Trannoeth cychwyn ymaith a wnaeth. Ac ni ddywed yr ystori fwy na hynny am Walchimai yn y rhan honno o'r wlad.
A Pheredur a gerddodd rhagddo. Crwydro i'r ynys a wnaeth Peredur, i geisio chwedlau am y forwyn ddu; ac ni chafodd. Ac efe a ddaeth i dir nas adwaenai,—dyffryn ae afon yn myned trwyddo. Ac fel yr oedd yn cerdded y dyffryn, ef a welai farchog yn dyfod i'w gyfarfod, mewn gwisg offeiriad. Ac erchi ei fendith a wnaeth.
"Och, druan," ebe ef, "ni haeddi fendith, ac ni wnai les i ti, am dy fod yn gwisgo arfau ar ddydd mor bwysig a'r ddydd heddyw."
"A pha ddydd yw heddyw?" ebe Peredur.
"Dydd Gwener y Groglith yw heddyw."
"Na cherydda fi,—ni wyddwn i hynny. Blwyddyn i heddyw y cychwynnais o'm gwlad."
Ac yna disgyn i lawr a wnaeth, ac arwain ei farch yn ei law. A thalym o'r ffordd a gerddodd oni ddaeth at groesffordd, ac ai'r groesffordd i'r coed. Ar ochr arall i'r coed of a welai gaer foel, ac arwydd fod pobl yn byw ynddi. A thua'r gaer yr aeth. Ac ar borth y gaer cyfarfu âg ef yr offeiriad a'i cyfarfyddasai ef cyn hynny; ac erchi ei fendith a wnaeth.
"Bendith Duw i ti," ebc ef, "ac iawnach yw cerdded fel y gwnai na marchogaeth. A chyda mi y byddi heno."
A thrigo a wnaeth Peredur y nos honno yno. Trannoeth gofyn a wnaeth Peredur gai fyned ymaith.
"Nid dydd heddyw i neb i gerdded. Ti a fyddi gyda mi heddyw, ac yfory a thrennydd. A mi a ddywedaf i ti yr hanes goreu a allwyf, am yr hyn yr wyt yn ei geisio."
A'r pedwerydd ddydd gofyn a wnaeth Pededur a gai fyned ymaith, ac erfyn ar yr offeiriad ddywedyd hanes am Gaer y Rhyfeddodau.
"Cymaint ag a wypwyf fi, mi a'i dywedaf i ti. Dos dros y mynydd acw, a thu hwnt i'r mynydd y mae afon. Ac yn nyffryn yr afon y mae llys brenin. Ac yno y bu y brenin y Pasc. Ac os ceffi yn un lle hanes am Gaer y Rhyfeddodau, ti a'i ceffi yno." Ac yna y cerddodd Peredur rhagddo, ac a ddaeth i ddyffryn yr afon. A chyfarfu âg ef nifer o wyr yn myned i hela. Ac ef a welai ymhlith y nifer ŵr urddasol, a chyfarch gwell iddo a wnaeth Peredur.
"Dewis di, unben, pa un wnai ai myned i'r llys, ynte dyfod gyda ni i hela. A minnau a yrraf un o'r teulu i'th orchymyn i ferch sydd yno i gymeryd bwyd a diod hyd oni ddelwyf o hela. Ac an dy negesau, yr hyn a allaf ei wneuthur, mi a'i gwnaf yn llawen.
A gyrru a wnaeth y brenin was byr-felyn gydag ef. A phan ddaethant i'r llys yr oedd yr unbennes wedi cyfodi, ac yn myned i ymolchi. Aeth Peredur rhagddo. A hi a groeshawodd Peredur yn llawen, ac a archodd iddo eistedd wrth ei hochr. A chymeryd eu cinio a wnaethant. A pha beth bynnag a ddywedai Perodur wrthi; chwerthin a wnai hithau yn uchel, fel y clywai pawb yn y llys. Ac yna y dywedodd y gwas byr-felyn wrth yr unbennes:—
"Myn fy nghred, os bu gŵr
i ti erioed, y ieuanc hwn
yw. Ac oni bu gŵr it y mae
dy fryd a'th feddwl arno."
A'r gwas byr-felyn a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd mai tebycaf oedd ganddo fod y gŵr ieuanc a'i cyfarfu ef yn wr i'w ferch.
"Ac onid gŵr mi a debygaf y bydd yn ŵr iddi yn fuan oni ateli ef."
"Beth yw dy gyngor di, was?" ebe'r brenin.
"Fy nghyngor yw i ti anfou dewr-wŷr yn ei erbyn a'i ddal, oni wypych yn sicr am hynny."
Ac yntau a ddanfonodd wýr yn erbyn Peredur i'w ddal a'i ddodi yng ngharchar.
A'r forwyn a aeth i gyfarfod ei thad, ac a ofynnodd iddo, am ba achos y parasai garcharu y gŵr ienanc o lys Arthur.
"Yn wir," ebe yntau, "ni bydd yn rhydd heno, nac yfory, na thrennydd. Ac ni ddaw o'r lle y mae."
Ni wynebodd hi yr hyn a ddywedodd y brenin. Ac aeth at y gŵr ieuanc.
"A'i annigrif gennyt ti dy fod yma?"
"Ni fuasai waeth gemyf heb fod."
"Ni fydd waeth dy wely na'th ansawdd nac un y brenin. A'r cerddau goreu yn y llys ti a'u coffi wrth dy gyngor. A phe diddanach gennyt tithau na chynt, mi a ddeuwn i'th gysuro yma, ac i ymddiddan â thi. Ti a geffi hynny yn llawen."
"Ni wrthwynebaf fi hynny, " ebe Peredur.
Ef a fu yng ngharchar y nos honno, a'r forwyn a gywirodd yr hyn a addawsai iddo.
A thrannoeth y clywai Peredur gynnwrf yn y ddinas.
"O forwyn deg, pa gynnwrf yw hwn?" ebe Peredur.
"Llu y brenin a'i allu y sydd yn dyfod i'r ddinas hon heddyw."
"Beth a fynnant hwy felly?"
"Iarll y sydd yn agos yma a dwy iarllaeth iddo. Ac ymryson fydd rhyngddynt heddyw."
"Dymuniad yw gennyf fi," ebe Peredur, "i ti beri i mi farch ac arfau i fyned i ddisgwyl am yr ymryson. Ac ar fy llw deuaf i'r carchar drachefn."
"Yn llawen," ebe hi, "mi a
baraf i ti farch ac arfau."
A hi a roddodd iddo farch ac arfau, a mantell burgoch ar uchaf yr arfau, a tharian felen ar ei ysgwydd. A myned i'r ymryson a wnaeth. Ac a gyfarfu âg ef o wyr yr iarll y dydd hwnnw efe a'u taflodd oll i'r llawr. Ac ef a ddaeth drachefn i'r carchar. Gofyn chwedlau a wnaeth y forwyn i Peredur, ac ni ddywedodd ef un gair wrthi. A hithau a aeth i ofyn chwedlau i'w thad, a gofyn a wuaeth pwy a fuasai oreu o'i deulu. Yntau a ddywedai nas adwaenai ef.
"Gŵr oedd â mantell goch ar uchaf ei arfau, a tharian felen ar ei ysgwydd."
A gwenu a wnaeth hithau, a dyfod i'r lle yr oedd Peredur. A da fu ei barch y nos honno.
A thridiau yn olynol y lladdodd Peredur wyr yr iarll. A deuai i'r carchar drachefn cyn y caffai neb wybod pwy oedd. A'r pedwerydd ddydd y lladdodd Peredur yr iarll ei hunan. A dyfod a wnaeth y forwyn i gyfarfod ei thad, a gofyn chwedlau iddo.
"Chwedlau da," ebe y brenin, "lladd yr iarll; a minnau biau y ddwy iarllaeth."
"A wyddost ti, arglwydd, pwy a'i lladdodd ef?"
"Gwn," ebe y brenin, "marchog y fantell goch a'r darian felen a'i lladdodd."
Arglwydd," ebe hi, "myfi a wn pwy yw hwnnw."
Yn wir," ebe yntau, "pwy yw ef?"
"Arglwydd," ebe hi, "y marchog y sydd yng ngharchar gennyt yw hwnnw."
Yntau a ddaeth hyd lle yr oedd Peredur, a chyfarch gwell iddo a wnaeth. A dywedyd wrtho y gwasanaeth a wnaeth, ac y talai iddo megys y mynnai of ei hun. A phan aethpwyd i fwyta, dodwyd Peredur i eistedd ar y naill law i'r brenin, a'r forwyn yr ochr arall i Beredur.
"Mi a roddaf it," ebe y brenin, "fy merch yn briod, a hanner fy mrenhiniaeth gyda hi. A dwy iarllaeth a roddaf i ti yn rhodd."
Arglwydd Dduw a dalo it," ebe Peredur, "ni ddaethum i yma i wreica."
"Beth a geisi dithau, unben?"
"Ceisio chwedlau yr wyf fi am Gaer y Rhyfeddodau."
"Mwy yw meddwl yr unben nag ydym yn ei geisio?" ebe y forwyn. "Chwedlau am y Gaer a geffi. A hebryngydd i ti trwy gyfoeth fy nhad, a digonir di â phopeth. A thydi, unben, yw y i gŵr mwyaf a garaf fi." Ac yna y dywedodd,—
"Dos dros y mynydd acw, a
thi a weli llyn a chaer o fewn y
llyn. A hwnnw a elwir Caer y
Rhyfeddodau. Ac ni wyddom ni ddim o'i
ryfeddodau ef, eithr y gelwir ef felly."
A dyfod a wnaeth Peredur tua'r Gaer. A phorth y gaer oedd yn agored. Ac fel y deuai i mewn gwydd-bwyll a welai yn y neuadd. A phob un o'r werin yn chwareu yn erbyn eu gilydd. A chollai yr ochr garai ef y chwareu, a'r llall a ddodai waedd yr un wedd a phe byddent wyr. A'r hyn a wnaeth yntau oedd digio, a chymeryd y werin yn ei arffed, a thaflu y bwrdd i'r llyn. A phan ydoedd felly, wele y forwyn ddu yn dyfod i mewn, ac yn dywedyd wrth Peredur,—
"Ni fydd croesaw Duw i ti. Mynychach y gwnai ddrwg na da."
"Beth a ofynni di i mi, y forwyn ddu?" ebe Peredur.
"Di—golledu o honot yr ymherodres o'i bwrdd, ac ni fynnai hi hynny er ei hymherodraeth. A'r wedd y ceffi y bwrdd yn ol yw myned i Gaer Ysbidinongyl. Y mae yno ŵr du yn difetha llawer o gyfoeth yr ymherodres. A lladd hwnnw, a thi a geffi y bwrdd. Ac os ai di yno ni ddeui yn fyw drachefn."
"A fyddi di arweinydd i mi yno?" ebe Peredur.
"Mi a fynegaf y ffordd i ti yno," ebe hi. Ac ef a ddaeth hyd yng Nghaer Ysbidinongyl. Aca ymladdodd â'r gwr du; a'r gŵr du a archodd nawdd Peredur. "Mi a roddaf nawdd i ti,—par fod y bwrdd yn y lle yr oedd pan ddaethum i i'r neuadd."
Ac yna y daeth y forwyn ddu i mewn, ac a ddywedodd wrtho,—
"Melldith Duw i ti yn lle dy lafur, am adael y gormeswr yn fyw sydd yn diffeithio cyfoeth yr ymherodres."
"Mi a addewais," ebe Peredur, "ei fywyd iddo, os perai ddychwelyd y bwrdd."
"Nid ydyw y bwrdd yn y lle cyntaf y cefaist ef. Dos drachefn a lladd ef."
A myned a wnaeth Peredur a lladd y gŵr du.
A phan ddaeth i'r llys yr oedd y forwyn ddu yn y llys.
"Ha, forwyn," ebe Peredur, "pa le mae yr ymherodres?"
"Yn wir, nis gweli di hi yn awr, oni fydd i ti ladd yr ormes sydd yn y fforest acw."
"Pa ryw ormes yw honno?"
"Carw sydd yno, a chyn ebrwydd yw a'r
aderyn cyntaf, ac un corn sydd yn ei dalcen,
cyhyd a choes gwaew, a chyn flaen—llymed
yw a'r dim blaen—llymaf. A thorri a wna
frig y coed goreu yn y fforest; a
lladd pob anifail ynddi a gyffyrddo âg ef; ac er na laddo
hwy, marw fyddant o newyn. A
gwaeth na hynny, dyfod a wna
beunydd ac yfed y pysgod—lyn yn ddiod,
gan adael y pysgod yn noeth; a meirw a
wna y rhan fwyaf o honynt cyn y del dwfr
iddo drachefn."
"Ha, forwyn," ebe Peredur, "a ddeui di i ddangos yr anifail hwnnw i mi?"
"Na ddeuaf,—ni feiddiodd dyn fyned i'r fforest er ys blwyddyn. Mae yna gi bach i'r ymherodres, a hwnnw a gyfyd y carw, ac a ddaw âg ef atat ti; a'r carw a'th gyrch di."
Y ci bach a aeth yn arweinydd i Beredur, ac a gyfododd y carw, a daeth tua'r lle yr oedd Peredur ac ef. A'r carw a gyrchodd Peredur, ac yntau a adawodd iddo fyned heibio, gan daraw ei ben oddi arno â cleddyf. A phan ydoedd yn edrych ar ben y carw, ef a welai farchoges yn dyfod tuag ato, ac yn cymeryd y ci bach yn llawes ei chot, a'i ben rhyngddo a'r corff, a thorch o rudd—aur a oedd am ei wddf.
"Ha, unben," ebe hi, "anfoesgar y gwnaethost,—lladd y tlws tecaf a oedd yn fy nghyfoeth."
"Gofynnwyd i mi wneyd hyn. A oes yna wedd y gallwn i gael dy faddeuant di?"
"Oes; dos i fron y mynydd acw, ac yno ti a weli lwyn, ac ym mon y llwyn y mae llech; ac yno galw ar ŵr i ymladd deirgwaith. Ti a geffi fy maddeuant."
Peredur a gerddodd rhagddo, ac a ddaeth i ymyl y llwyn, ac a archodd wr i ymladd. A chyfododd gŵr du o dan y llech, a march ysgyrniog dano, ac arfau rhydlyd mawr am dano ac am ei farch. Ac ymladd a wnaethant. Ac fel y taflaí Peredur y gŵr du i lawr, y neidiai yntau ar ei gyfrwy drachefn.
A disgyn a wnaeth Peredur, a
thynnu cleddyf. Ac ar hynny
diflannu a wnaeth y gŵr du â
march Peredur ganddo a'i farch
ei hun, fel na welodd ef ail olwg
arnynt. A cherdded a wnaeth Peredur ar
hyd y mynydd. Ac yn y rhan arall o'r
mynydd ef a welai gaer mewn dyffryn yr ai
afon drwyddo. A thua'r gaer y daeth. Ac
fel y deuai i'r gaer neuadd a welai, a drws y
neuadd yn agored. Ac i mewn y daeth. Ac
ef a welai ŵr llwyd cloff yn eistedd wrth
dalcen y neuadd, a Gwalchmai yn eistedd
ar y naill law. A'i farch a ddygsai y gŵr
du a welai wrth yr un preseb a march
Gwalchmai. A llawen a fuant wrth Peredur.
A myned i eistedd a wnaeth yr ochr arall i'r
gŵr llwyd. Ac ar hynny wele was melyn
yn plygu ar ben ei lin ger bron Peredur.
"Arglwydd," ebe y gwas, "mi a ddaethwn yn rhith y forwyn ddu i lys Arthur. A phan fwriaist y bwrdd, a phan leddaist y gŵr du o Ysbidinongyl, a phan leddaist y carw, a phan fuost yn ymladd â'r gwr o'r llech. A mi a ddaethum a'r pen yn waedlyd ar y ddyscl, a'r waew yr oedd ffrwd waed yn rhedeg o'r pen hyd y dwrn,—ar hyd y coes. A'th gefnder oedd biau y pen. A Gwiddonod Caer Loyw a'i lladdasai. A hwy a gloffasant dy ewyrth. A'th gefnder wyf finnau. A'r syniad yw y bydd i ti ddial arnynt."
A chyngor fu gan Peredur a Gwalchmai i
anfon at Arthur a'i deulu i erchi
arnynt ddyfod yn erbyn y Gwiddonod. A dechreu ymladd â'r
Gwiddonod a wnaethant. A lladd
un o wyr Arthur ger bron Peredur a wnaeth un o'r Gwiddonod.
A'u gwahardd a wnaeth Peredur. A'r eilwaith lladd gŵr a wnaeth y Widdon ger
bron Peredur. A Pheredur a'i gwahardd
eilwaith. A'r drydedd waith lladd gŵr a
wnaeth y Widdon ger bron Peredur. A
thynnu cleddyf a wnaeth Peredur, a tharo y
Widdon ar uchaf ei helm, oni hyllt yr helm,
a'r arfau oll, a'r pen yn ddau hanner. A
dodi llef a wnaeth, ac erchi i'r swynwragedd
eraill ffoi, a dywedyd mai Peredur oedd.
Y gŵr a fuasai yn dysgu marchogaeth gyda
hwynt. Ac yr oedd tynged mai ef a'u
lladdai. Ac yna y lladdwyd Gwiddonod
Caer Loyw oll. Ac felly y traethir am Gaer
y Rhyfeddodau.
BREUDDWYD RHONABWY.
——————
MADOG fab Meredydd a feddai Bowys
yn ei derfynau, sef yw hynny, o
Borfoed hyd yng Ngwanan yu eithaf Arwystli. Ac yn yr amser hwnnw brawd a
oedd iddo,—sef oedd hwnnw Iorwerth fab
Meredydd, ac nid oedd cystal gŵr a Madog.
A Iorwerth a gymerth ofid mawr a thristwch
wrth weled yr anrhydedd a'r meddiant oedd
i'w frawd, ac yntau heb ddim.
A galwodd ato ei gyfeillion a'i
frodyr maeth, ac ymgynghorodd
â hwy beth a wnai. Sef a gawsant yn eu cyngor,—anfon rhai
o honynt i ofyn bywoliaeth iddo.
Cynhygiodd Madog iddo y
swydd o benteulu, a meirch, ac arfau, ac
anrhydedd cystal a'r eiddo ei hun.

A gwrthod hynny wnaeth Iorwerth. A myned ar grwydr hyd yn Lloegr, a lladd celanedd, a llosgi tai, a dal carcharorion wnaeth Iorwerth. A chynghor a gymerodd Madog a gwŷr Powys gydag ef. Sef a gawsant yn eu cyngor,—gosod can wr ymhob un o dri chwmwd Powys i'w geisio. Hyn a wnacthant yn rhychdir Powys, yn Aber Ceiriog, ac yn Alligdwn Fer, ac yn Rhyd Wilure ar y Fyrnwy, y tri chwmwd goreu ym Mhowys. Fel nad da oedd iddo ef na'i deulu ym Mhowys, nac yn y rhandir hwnnw. Ac anfonasant y gwyr hynny hyd yn rhychdir Nillystwn Trefan.
A gŵr oedd yn y llu hwnnw a'i enw
Rhonabwy. A daeth Rhonabwy a Chynwrig
Frychgoch, gŵr o Fawddwy, a Chadwgan Fras, gŵr o Foelfre yng Nghynlleith, i dŷ Heilyn Goch fab Cadwgan fab Iddon. A phan ddaethant at y tŷ, gwelent hen neuadd burddu, dal, uniawn, a mwg lawer yn dod o honi. A phan ddaethant i fewn gwelent lawr pyllog anwastad bryniog, a braidd y safai dyn
arno lyfned y llawr gan fiswael
gwartheg. Lle byddai bwll, clai
dyn dros ei ffer i ddwfr a llaid y
gwartheg. A gwrysg celyn oedd yn aml ar
y llawr wedi bwyta o'r gwartheg eu brig.
A phan ddaethant i gyntedd y ty, gwelent
barthau llychlyd llwm. A gwrach yn ymdwymno ar y naill barth, a phan ddelai
anwyd arni, bwriai o'i harffedog us am ben
y tân, fel nad hawdd oedd i un dyn yn y
byd ddioddef y mwg hwnnw yn myned i
mewn i'w ddwy ffroen. Ar y parth arall
gwelent groen dyniawed melyn ar lawr, ac
anrhydedd oedd i neb gael mynd ar y croen
hwnnw. Ac wedi iddynt eistedd, gofyn a
wnaethant i'r wrach pa le yr oedd dynion y
tŷ, ac ni ddywedai y wrach wrthynt ond
tafodi. Ac ar hynny wele y dynion yn
dyfod. Gŵr coch, gwarfoel, afrosgo, a baich
o wrysg ar ei gefn, a gwraig feinlas fechan,
a cheseliaid o frwyn ganddi hithau. Sych

wele ruthr o wynt a gwlaw fel
nad hawdd i neb fynd allan, A
chan mor anesmwyth oedd eu
taith, blino a wnaethant, a myned i gysgu.
A phan edrychwyd y gwely, nid oedd arno
ond byrwellt dystlyd, chweinllyd, a bonau
gwrysg yn aml trwyddo, a'r gwartheg wedi
bwyta y gwellt oedd uwch eu pennau ac is
eu traed. Tacnwyd hulyn lwydgoch, galed,
lom, dyllog ar y fainc, a llenllian fras,
dyllog, rwygedig ar yr hulyn, a gobennydd
lledwag a gorchudd go fudr iddo ar ben y
llenllian. Ac i gysgu yr aethant, a chwsg a
ddisgynnodd ar ddau gydymaith Rhonabwy
yn drwm.
A Rhonabwy, gan nas gallai na
chysgu na gorffwys, a feddyliodd
fod yn llai poen iddo fynd ar
groen y dyniawed melyn ar y
llawr i gysgu Ac yno y cysgodd. Ac mór fuan ac y daeth
hûn i'w lygaid, breuddwydiodd
ei fod ef a'i gydymdeithion yn
cerdded ar draws maes Argyngroeg, ac oddi yno, debygai, tua
Rhyd y Groes ar Hafren. Ac fel yr oedd
yn cerdded, clywai dwrf, a thebyg y twrf
hwnnw ni chlywsai erioed. Ac edrych a
chleddyf eurdrwm ar ei glun, a gwain o ledrwnaeth drach ei gefn, a gwelai ŵr ieuanc
pengrych melyn, a'i farf newydd eillio, ar
farch melyn, ond fod ei ddwy goes dan ei
ddeulin yn las. A gwisg o bali melyn am y
marchog wedi ei gwnio âg edafedd glas, a newydd iddo, a charrai o ledr ewig a chlasp
arni o aur. Ac ar hynny yr oedd len o bali
melyn wedi ei wnio â sidan glas, a'i odreu
hefyd yn las. A'r hyn oedd las o wisg y
marchog a'i farch oedd cyn lased a dail y
ffynidwydd, a'r hyn oedd felyn o honi oedd
cyn felyned a blodau y banadl.
A chan mor ofnadwy oedd golwg
y marchog, ofni a wnaethant, a
dechreu ffoi. A'u hymlid a
wnaeth y marchog. A phan
yrrai ei farch ei anadl oddi
wrtho y pellhai y gwyr oddi wrtho, a phan
y cymerai ei anadl neshai y gwyr ato,—hyd
ym mron y march. A phan y goddiweddodd hwy, gofyn ei nawdd a wnaethant.

"Ha, unben, gan it roddi nawdd i ni, a ddywedi i mi pwy wyt," ebe Rhonabwy. "Ni chelaf oddi wrthyt fy hanes. Iddog fab Mynyo wyf, ac nid ar fy enw ym gelwir fwyaf, ond ar fy llysenw."
"A ddywedi di i mi beth yw dy lysenw." "Dywedaf. Iddog Cordd Prydain ym gelwir."
"Ha, unben," ebe Rhonabwy, "paham y gelwir di felly?"
"Mi a ddywedaf it. Un oeddwn o'r cenhadau yng nghad
Camlan rhwng Arthur a Medrawd
ei nai. A gŵr ieuanc drwg oedd—
wn i yno, ac mor hoff oeddwn o
frwydr fel y perais derfysg rhyngddynt.
Pan yrrid fi oddi wrth yr ymherawdwr
Arthur i fynegi i Fedrawd ei fod yn dadmaeth ac yn ewyrth iddo, ac i ofyn tangnefedd rhag lladd meibion brenhinoedd
Ynys Prydain, a phan ddywedai Arthur yr
ymadrodd tecaf allai wrthyf, dywedwn innau yr ymadrodd hwnnw hagraf allwn wrth
Fedrawd, ac am hynny y gelwid fi Iddog
Cordd Prydain, ac am hyn yr ymladdwyd
cad Camlan. A theirnos cyn gorffen cad
Camlan y gadewais hwy, ac y daethum hyd
yn Llech Las ym Mhrydain i ddwyn fy
mhennyd. Ac yno y bum yn penydio
saith mlynedd, a thrugaredd a gefais."
Ar hynny, wele, clywent dwrf oedd fwy o
lawer na'r twrf gynt. A phan edrychasant
tua'r twrf, wele was melyngoch heb farf ac
heb gernflew, o arddull bonheddig, ar farch
mawr, ac o ben y ddwy ysgwydd ac o'i
ddeulin i waered melyn oedd y march. A
gwisg oedd am y gŵr o bali coch wedi ei
gwnio â sidan melyn, a godreu y llen yn
felyn. A'r hyn oedd felyn o'i wisg ef ac o'i
farch cyn felyned oedd a blodau y banadl;
a'r hyn oedd goch o honynt oedd
cyn goched a'r gwaed cochaf yn
y byd. Ac yna, wele, y marchog
yn eu goddiweddu, ac yn gofyn
i Iddog a gafai ran o'r dynion
bychain hynny ganddo.
"Y rhan a weddai i mi ei roddi, mi a'i rhoddaf; bydd yn gydymaith iddynt fel y bum innau."
A hynny a wnaeth y marchog, a myned ymaith.
'Iddog,' "ebe Rhonabwy, "pwy oedd y marchog hwn?"
"Rhuawn Bebyr, fab Deorthach Wledig." Ac yna y cerddasant ar draws maes mawr Argyngroeg hyd yn Rhyd y Groes ar Hafren. A milltir oddi wrth y Rhyd, o bob tu i'r ffordd, y gwelent luestai a phebyll, ac yr oedd yno dwrf llu mawr.

a welent, Arthur yn eistedd mewn ynys wastad is y Rhyd, ac ar y naill du iddo Bedwin Esgob, ac ar y tu arall Gwarthegydd fab Caw, a gwas gwineu mawr yn sefyll ger eu bron, a'i gleddau trwy ei wain yn ei law, a gwisg a chapan o bali purddu am dano. A'i wyneb cyn wynned ag asgwrn eliffant, a chan ddued ei aelau a'r muchudd, a'r hyn welai dyn o'i arddwrn rhwng ei fenyg a'i lewis gwynnach oedd na'r lili, a mwy oedd na ffer milwr. Ac yna y daeth Iddog, a hwythau gydag ef, ger bron Arthur, a chyfarch gwell iddo.
"Duw a roddo dda it," ebe Arthur. "Pa le, Iddog, y cefaist di y dynion bychain hyn?"
"Mi a'u cefais, arglwydd,
uchod ar y ffordd."
Sef a wnaeth yr ymherawdwr oedd lledwenu.
"Arglwydd," ebe Iddog, "am beth y chwerddi di?"
"Iddog," ebe Arthur, "nid chwerthin a wnaf, ond gofidio fod dynion mor wael a hyn yn gwylio yr ynys hon yn lle y gwyr da a'i gwyliai gynt."
Ac yna y dywedodd Iddog,—
"Rhonabwy, a weli di y fodrwy a'r maen arni ar law yr Ymherawdwr."
"Gwelaf," ebe ef.
"Un o rinweddau y maen yw y cofi a welaist heno, a phan na welet y maen ni chofiet ddim o hono."
Ac wedi hynny y gwelai fyddin yn dyfod tua'r Rhyd.
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy biau y fyddin acw?"
"Cydymdeithion Rhuawn Pebyr, fab
Deorthach Wledig, ydynt. A'r gwyr acw a gant fwyd a diod yn
anrhydeddus, a chant gyfeillachu â merched brenhinoedd
ynys Prydain yn ddiwarafun.
A haeddant hyn, canys ymhob perygl
byddant yn ei flaen ac yn ei ol."
Ac ni welai liw amgen ar farch nac ar ŵr o'r fyddin honno, ond eu bod cyn goched a'r gwaed. Ac os gwahanai un o'r marchogion oddi wrth y fyddin honno, tebyg fyddai i golofn dân yn cychwyn i'r awyr. Pabellodd y fyddín honno uwch y Rhyd. Ac ar hynny gwelent fyddin arall yn dyfod tua'r Rhyd. Ac o fronnau y meirch i fyny oedd cyn wynned a'r lili, ac o hynny i waered cyn ddued a'r muchudd. A gwelent farchog yn eu rhagflaenu, ac yn spardyn ei farch i'r Rhyd nes y lluchiodd y dwfr am ben Arthur a'r esgob, a'r rhai oedd yn y cyngor gyda hwy, nes oeddynt cyn wlyped a phe tynnid hwy o'r afon. Ac fel yr oedd yn trosi pen ei farch, tarawodd y gwas oedd yn sefyll gerbron Arthur y march ar ei ddwyfron â'r cleddyf yn ei wain; a phe y tarawai â'r dur noeth, ni fai ryfedd pe torasid yr asgwrn yn ogystal a'r cig. A thynnu ei gleddyf hyd hanner y wain a wnaeth y marchog, a gofyn iddo,—
"Paham y tarewaist di fy march i? ai er amarch i mi, ynte er cyngor?"
"Rhaid oedd i ti wrth gyngor. Pa ynfydrwydd wnai i ti farchogaeth mor gyflym, a lluchio dwfr o'r Rhyd am ben Arthur a'r esgob cysegredig a'u cynghorwyr, nes oeddynt cyn wlypet a phe tynnid hwy o'r afon?"
"Minnau a'u cymeraf yn lle cyngor," ebai, a throdd ben ei farch tua ei fyddin. "Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y marchog gynneu?"
"Y gŵr ieuanc ffraethaf a doethaf yn y deyrnas hon,—Adaon fab Taliesin."
"Pwy oedd y gŵr a darawodd ei farch?"
"Llanc traws—fonheddig,—Elphin fab Gwyddno."
Ac yna y dywedodd y gŵr balch bonheddig, ac ymadrodd llithrig eon ganddo, fod yn rhyfedd i lu gymaint a hwnnw gynnull mewn lle mor gyfyng a hwn, a'i fod yn rhyfeddach ganddo ei fod yno yr awr honno, ac wedi addaw bod hanner dydd ym mrwydr Baddon yn ymladd âg Osa Gyllellfawr,—
"A dewis di a gerddi ai ni cherddi, myfi a gerddaf."
"Gwir a ddywedi," ebe Arthur, "a cherddwn ninnau i gyd."
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y gŵr a ddywedai mor hyf wrth Arthur ag y dywedai'r gŵr gwineu?"
"Gŵr a all ddywedyd cyn eofned ag y mynna wrtho,—Caradog Feichfras fab Llyr, ei gynghorwr a'i gefnder."
Yna cymerodd Iddog Rhonabwy wrth ei
ysgil, a chychwynnodd y llu mawr hwnnw,
pob byddin yn ei threfn, tua Chefn Digoll.
Ac wedi eu dyfod hyd yng nghanol y Rhyd
ar yr Hafren, troi a wnaeth Iddog ben ei
farch drach ei gefn, ac edrych a wnaeth
Rhonabwy ar Ddyffryn Hafren, a gwelai ddwy fyddin hardd yn dyfod tua'r Rhyd ar
yr Hafren. A byddin eglurwen
yn dyfod, a llen o bali gwyn am
bob un o honynt, a godreu bob
un yn bur ddu. A phen deulin,
a phennau dwy goes y meirch yn
burddu, a'r meirch yn wynion
oll ond hynny. A'u banerau yn burwyn, a
blaen pob un o honynt yn burddu.
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y fyddin burwen acw?"
"Gwyr Llychlyn ydynt, a March fab Meirchion yn dywysog arnynt. Cefnder i Arthur yw hwnnw."
Ac yna y gwelai fyddin a gwisg burddu am bob un o honynt, a godreu pob llen yn burwyn. Ac o ben eu dwygoes a phen eu deulin i'r meirch yn burwyn, a'u banerau yn burddu, a blaen pob un o honynt yn burwyn.
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y fyddin burddu acw?"
"Gwyr Denmarc, ac Edeyrn
fab Nudd yn dywysog arnynt."
A phan oddiweddasant y llu, wele, disgynasai Arthur a'i lu y cedyrn islaw Caer Fadon; ac wedi disgyn, clywai dwrf mawr a therfysg yn y llu,—a'r gŵr a fai ar ymyl y llu yn awr a elai i'r canol, a'r gŵr fai yn y canol a ddeuai i'r ymyl. Ac ar hynny, wele farchog yn dyfod a gwisg o ddur am dano ef ac am ei farch. Cyn wynned oedd y modrwyau a'r lili wennaf, a chyn goched oedd yr hoelion a'r gwaed cochaf. A hwnnw yn marchogaeth ymhlith y llu.
"Iddog," ebe Rhonabwy, "ai ffoi wna y llu rhagddo?"
"Ni ffodd yr Ymherawdwr Arthur erioed,
a phe clywid di yn siarad felly, gŵr trist
fyddet. Ond y marchog a weli acw, Cai yw
hwnnw. Tecaf dyn a farchoga yn llys
Arthur yw Cai. A'r gwr ar ymyl
y llu sydd yn brysio yn ol i
edrych ar Cai yn marchogaeth,
a'r gŵr yn y canol sydd yn ffoi
i'r ymyl rhag ei frifo gan y
march. A hynny yw ystyr y cynnwrf yn y
llu."
Ar hynny clywent alw ar Gadwr, Iarll Cernyw. Wele yntau yn dyfod a chleddyf Arthur yn ei law. A llun dwy sarff ar y cleddyf o aur, a phan dynnid y cleddyf o'i wain, fel dwy fllam o dân a welid o eneuau y seirff, ac mor ddychrynllyd oedd fel nid hawdd fai i neb edrych arno. Ar hynny wele y llu yn arafu, a'r cynnwrf yn peidio. Ac aeth yr iarll i'w babell.
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y gŵr ddygai gleddyf Arthur?"
"Cadwr, Iarll Cernyw, y gŵr raid wisgo ei arfau am y brenin yn nydd cad ac ymladd."
Ac ar hynny clywent alw ar Eirynwych
Amheibyn, gwas Arthur. Gŵr garwgoch
anhygar, a barf goch o flew sythion iddo.
Wele yntau yn dyfod ar farch coch mawr,
a'i fwng wedi ei rannu o bob tu i'w wddf, a
swmer mawr tlws ganddo. A disgyn a wnaeth y gwas coch mawr ger
bron Arthur, a thynnu cadair aur
o'r swmer a llen o bali caerog.
A thaenu y llen a wnaeth ger
bron Arthur, ac afal rhuddaur

gadair ar y llen. A chymaint oedd y gadair ag y gallai tri milwr arfog eistedd ynddi. Gwen oedd enw y llen. Ac un o rinweddau y llen oedd,—na welai neb y dyn eisteddai arni, ond efe a welai bawb, ac ni arhosai arni byth liw ond ei lliw ei hun. Ac eistedd a wnaeth Arthur ar y llen, ac Owen fab Urien yn sefyll ger ei fron.
"Owen," ebe Arthur, "a chwareui di wyddbwyll?"
"Chwareuaf, arglwydd," ebe Owen. Daeth y gwas coch â'r wyddbwyll i Arthur ac Owen,—gwerin aur a chlawr arian. A dechreu chware a wnaethant. A phan yr oeddynt felly yn ddifyrraf ganddynt eu chwareu uwch y gwyddbwyll, wele, gwelent babell wen, bengoch, a delw sarff burddu ar ben y babell, a llygaid rhuddgoch gwenwynig ymhen y sarff, a'i thafod yn fflam goch. A gwelent lanc ieuanc pengrych melyn, llygadlas, a'i farf yn dechreu tyfu, yn dyfod at lle yr oedd Arthur ac Owen yn chwareu gwyddbwyll. A gwisg a swrcot o bali melyn am dano, a dwy hosan o frethyn gwyrddfelyn teneu am ei draed, ac ar yr hosanau ddwy esgid o ledr brith, a byclau o aur yn eu cau. A chleddyf eurdrwm, trwm, tri miniog, a gwain o ledr du iddo, a swch o ruddaur coeth ar ben y wain. A chyfarch gwell a wnaeth y llanc i Owen. A rhyfeddu a wnaeth Owen am i'r llanc gyfarch gwell iddo ef, ac na chyfarchodd yr Ymherawdwr Arthur. A gwybod wnaeth Arthur am beth y meddyliai Owen.
"Na fydd ryfedd gennyt i'r llanc gyfarch gwelli ti yr awr hon. Efe a gyfarchodd well i minnau gynneu. Ac atat ti y mae ei neges"
Ac yna y dywedodd y llanc wrth Owen,—
Arglwydd, ai wrth dy gennad di y mae
gweision bychain yr ymherawdwr
a'i lanciau yn aflonyddu, a dychrynnu, a blino dy frain?" Os
nad wrth dy gennad, par i'r
ymherawdwr eu gwahardd."
"Arglwydd," ebe Owen, "ti a glywi a ddywed y llanc. Os da gennyt, gwahardd hwynt oddiwrth fy mrain."
"Chware dy chware," ebe ef.
Ac yna y dychwelodd y llanc tua'i babell.
Terfynu y chware hwnnw a wnaethant, a dechreu un arall; a phan oeddynt yn hanner y chware, dyna was ieuanc coch, pengrych, gwineu, llygadog, lluniaidd, wedi eillio ei farf, yn dyfod o babell burfelen a delw llew purgoch ar ben y babell. A gwisg o bali melyn am dano gyrhaeddai at ei esgeiriau, wedi ei gwnio âg edafedd o sidan coch, a dwy hosan am ei draed o fwcran gwyn teneu, ac ar yr hosanau yr oedd dwy esgid o ledr du am ei draed, a byclau aur arnynt; a chleddyf mawr, du, trwm, triminiog yn ei law, a gwain o groen carw coch iddo, a swch aur ar y wain. A daeth tua'r lle yr oedd Arthur ac Owen yn chware gwyddbwyll. Cyfarchodd well i Owen. A drwg oedd gan Owen iddo gyfarch gwell iddo, ond nid oedd Arthur yn malio dim mwy na chynt. Y llanc a ddywedodd wrth Owen,———
"Ai o'th anfodd di y mae llanciau yr ymherawdwr yn niweidio dy frain, ac yn lladd eraill, ac yn blino eraill? Os o'th anfodd y gwnant, atolwg arno eu gwahardd."
Arglwydd, gwahardd dy wyr, os da gennyt."
"Chware dy chware," ebe'r ymherawdwr.
Ac yna y dychwelodd y llanc tua'i babell.
Y chware hwnnw a derfynwyd, a dechreu-
wyd un arall. Ac fel yr oeddynt yn dechreu
y symud cyntaf ar y chware, gwelent
ychydig oddi wrthynt babell frech-felen, y
fwyaf a welodd neb erioed. A delw o eryr
aur arni, a maen gwerthfawr ymhen yr.eryr.
Ac yn dyfod o'r babell gwelent lanc a gwallt
pybyr-felyn ar ei ben. Teg a lluniaidd
oedd o gorff. A len o bali glas oedd am
dano, a gwaell aur cymaint a bys mwyaf
milwr yn y llen ar ei ysgwydd ddeheu, a
dwy hosan am ei draed o ddefnydd teneu, a
dwy esgid o ledr brith a byclau aur arnynt.
Yr oedd y gwas yn fonheddigaidd ei bryd,
gwyneb gwyn gruddgoch iddo, a llygaid
mawr fel llygaid hebog. Ac yn llaw y llanc
yr oedd gwaewffon braff fraith-felen, a'i
blaen newydd ei hogi, ac ar y waewffon yr
oedd baner amlwg. Daeth y llanc yn llidiog
angerddol, gan gerdded yn gyflym at y lle
yr oedd Arthur ac Owen yn chware gwyddbwyll. A deallasant ei fod yn llidiog. A
chyfarch gwell wnaeth i Owen, a dywedyd
wrtho fod ei frain, y rhai mwyaf
arbennig o honynt, wedi eu lladd,
ac fod y rhai na laddwyd o honynt wedi eu niweidio a'u brifo
gymaint fel na ddichon yr un o
honynt ehedeg ddwylath oddi
wrth y ddaear.
"Arglwydd," ebe Owen, "gwahardd dy ŵyr."
"Chware, os mynni," ebe Arthur.
Yna y dywedodd Owen wrth y llanc,—
"Dos rhagot i'r lle y gwelych y frwydr galetaf. Cyfod y faner i fyny; ac a fynno Duw, bydded."
Ac yna y cerddodd y llanc rhagddo hyd y
lle yr oedd y frwydr galetaf ar y brain, a
dyrchafodd y faner. Ac fel y dyrchafid y
faner cyfodai y brain i'r awyr yn llidiog
angerddol, ac yn falch o gael gwynt dan eu
hadenydd, ac o fwrw eu lludded oddi
arnynt. Ac wedi adennill eu nerth a chael
buddugoliaeth, disgynasant gyda'u gilydd
yn llidiog a llawn yni i'r llawr ar ben y
gwyr wnaethai lid a gofid a cholled iddynt
cyn hynny. Pennau rhai a ddygent, llygaid
eraill, a chlustiau eraill, a breichiau eraill, gan eu cario i'r awyr.
A chynnwrf mawr fu yn yr awyr
gan drwst esgyll a chlegar y brain
llawen; a chynnwrf mawr arall
gan ruddfannau y gwyr yn cael
eu brathu a'u hanafu, ac eraill yn cael eu
lladd.
A rhyfedd fu gan Arthur a chan Owen uwch ben y gwyddbwyll glywed y cynnwrf. A phan edrychasant, gwelent farchog ar farch erchlas yn dyfod atynt. Lliw rhyfedd oedd ar y march,——ei gorff yn erchlas, ei ysgwydd ddeheu yn burgoch, ac o bennau ei goesau i ewinedd ei garn yn burfelyn. Yr oedd y marchog a'i farch yn gywair o arfau trymion, estronol. Hulyn y march o'r agorfa flaen i fyny yn sidan purgoch, ac o'r agorfa i waered yn sidan purfelyn. Cleddyf eurddurn mawr, un min, oedd ar glun y gwas, a gwain newydd bur-las iddo, a swch ar y wain o bres yr Hispaen.
Gwregys y cleddyf oedd o ledr glas—ddu, ac ochrau goreuraidd iddo, a gwaell o asgwrn eliffant arno, a chlasp purddu ar y waell. Helm euraidd oedd ar ben y marchog, a meini mawr, gwerthfawr a gwyrthiol, ynddi. Ac ar ben yr helm yr oedd delw llewpard melynrudd, a dwy faen ruddgochion yn y pen, fel mai dychrynllyd oedd i filwr, er caderned fai ei galon, edrych yng ngwyneb y llewpard, chwaithach yng ngwyneb y marchog. Picell goeslas, hirdrwm, oedd yn ei law, ac o'i dwrn i fyny yn rhuddgoch gan waed y brain a'u plyf.
Dyfod a wnaeth y marchog tuag at lle yr oedd Arthur ac Owen uwch ben y gwyddbwyll, a deall wnaethant ei fod yn lluddedig, llidiog, a blin yn dyfod atynt. Cyfarch gwell a wnaeth y gwas i Arthur, a dywedyd fod brain Owen yn lladd ei weision bychain a'i lanciau. Ac edrych a wnaeth Arthur ar Owen, a dywedyd,—
"Gwahardd dy frain."
"Arglwydd," ebc Owen, "chware dy chware."
A chware a wnaethant, a dychwelyd a wnaeth y gwas drachefn tua'r frwydr. Ac ni waharddwyd y brain mwy na chynt.
A phan yr oeddynt wedi chware dalm o amser, clywent gynnwrf mawr, wylofain gwŷr, a chlegar brain yn dwyn y gwyr yn eu nerth i'r awyr, ac yn eu hysglyfaethu rhyngddynt, ac yn eu gollwng yn ddrylliau i'r llawr. Ac oddi wrth y cynnwrf gwelent farchog yn dyfod ar farch canwelw, a choes flaen aswy y march yn burddu hyd ganol y carn.
Yr oedd y marchog a'i farchi yn gywair o arfau trymion a gleision. Hulyn o bali caerog melyn oedd am dano, a godreuon yr hulyn yn las. Hulyn ei farch yn burddu, a'i odreuon yn burfelyn. Ar glun y gwas yr oedd cleddyf hirdrwm, tri miniog, a'i waen o ledr coch disglaer, a gwregys newydd o groen carw coch ag ymylon aur aml iddo, a gwaell o asgwrn morfil iddo, a chlasp purddu arno. Helm euraidd oedd am ben y marchog, a meini saffir rhinweddol ynddi. Ac ar ben yr helm yr oedd delw llew melyngoch, a'i dafod droedfeddi allan o'i ben, a llygaid rhuddgochion gwenwynig yn ei ben. Daeth y gwas a gwaew onnen fawr yn ei law, a gwaed newydd ei roddi ar ei phen, orchuddid âg arian, a chyfarch gwell a wnaeth i'r ymherawdwr.
"Arglwydd," ebe ef, "a'i di-daro gennyt ladd dy weision a
llanciau bychain, a meibion gwyr
da Ynys Prydain, fel na bydd
hawdd cynnal yr ynys hon byth
o heddyw allan ?"
"Owen," ebe Arthur, "gwahardd dy
"Chware, arglwydd," ebe Owen, "y chware hwn."
Darfod wnaeth y chware hwnnw, a dechreu un arall a wnaethant. A phan oeddynt ar ddiwedd y chware hwnnw, wele, clywsent gynnwrf mawr,—dolefain gwŷr arfog a chlegar brain a swn eu hadenydd yn yr awyr. A gollyngai'r brain yr arfau yn gyfain i'r llawr, yna y gwyr a'r meirch yn ddrylliau. Ac yna gwelent farchog ar farch o liw du a gwyn. Yr oedd pen y goes aswy i'r march yn burgoch, a'i goes ddeheu o'i fynwes hyd y carn yn burwyn. Yr oedd y marchog a'i farch yn arfog o arfau brithfelynion wedi eu britho â phres yr Hispaen. A hulyn am dano ef ac am ei farch dau hanner gwyn a phurddu, a godreuon yr hulyn oedd o borffor euraidd. Ac ar yr hulyn yr oedd cleddyf eurddwrn gloew, tri miniog. Gwregys y cleddyf oedd o eurlliw melyn, a gwaell arno o amrant mor-farch purddu, a chlasp o aur melyn ar y waell. Helm loew oedd am ben y marchog o bres melyn, a meini grisial gloew ynddi, ac ar ben yr helm yr oedd llun aderyn y grifft, a maen rhinweddol yn ei ben. Picell onnen goesgron oedd yn ei law, wedi ei lliwio âg asur glas, a gwaed newydd ei roddi ar ei choes orchuddid a gwaith arian cywrain. Dyfod a wnaeth y marchog yn llidiog hyd y lle yr oedd Arthur, a dywedyd darfod i'r brain ladd ei deulu a meibion gwŷr da yr ynys hon, gan erchi iddo beri i Owen wahardd ei frain. Yna yr archodd Arthur i Owen wahardd ei frain.
Ac yna y gwasgodd Arthur y werin aur oedd ar y clawr nes oeddynt oll yn llwch. Ac archodd Owen Wres fab Rheged ostwng ei faner. Ac yna y gostyngwyd hi, a thangnefeddwyd pob peth. Yna y gofynnodd Rhonabwy i Iddog pwy oedd y tri gŵr cyntaf ddaeth at Owen i ddywedyd wrtho eu bod yn lladd ei frain.
Ac yna y dywedodd Iddog,—
"Gwyr oedd ddrwg ganddynt ddyfod colled i Owen, ei gydbenaethiaid a'i gyfeillion, Selyf fab Cynan Garwyn o Bowys, a Gwgawn Gleddyfrudd, a Gwres fab Rheged, y gŵr garia'r faner yn nydd cad ac ymladd."
"Pwy," ebe Rhonabwy, "oedd y tri gŵr diweddaf ddaeth at Arthur i ddweyd iddo fod y brain yn lladd ei wŷr?"
"Y gwyr goreu," ebe Iddog, "a dewraf, a garwaf ganddynt golledu Arthur o ddim, Blathaon fab Mwrheth, a Rhuawn Pebyr fab Deorthach Wledig, a Hyfeidd Unllen."
Ac ar hynny, wele bedwar marchog ar
hugain yn dyfod oddi wrth Ossa Gyllellfawr, i ofyn heddwch i Arthur am bythefnos
a mis. A'r hyn a wnaeth Arthur oedd
cyfodi a myned i gymeryd cyngor, a ddaeth tua'r lle yr oedd gŵr
pengrych gwineu mawr ychydig
oddi wrtho. Ac yno dygwyd ei
gynghorwyr ato,— Bedwin Esgob, a Gwarthegyd fab Caw,
March fab Meirchawn, a Charadog Freichfras, a Gwalchmai fab Gwyar, ac Edyrn fab
Nudd, a Rhuawn Pebyr fab Deorthach
Wledig, a Rhiogan fab brenin Iwerddon, a
Gwen Wynwyn fab Naf, Howel fab Emyr
Llydaw, Gwilym fab Rhwyf Ffrainc, a
Daned fab Oth, a Goreu Custennin, a Mabon
fab Modron, a Pheredur Baladyr Hir, a
Hyfeidd Unllen, a Thwrch fab Perif, a
Nerth fab Cadarn, a Gobrwy fab Ethel
Forddwyd Twll, a Gweir fab Gwestel, ac
Adwy fab Gwereint, a Thrystan fab Tallwch, Morien Manawg, Granwen fab Llyr,
a Llachen fab Arthur, a Llawfrodedd Farfog,
a Chadwr Iarll Cernyw, Morfran fab Tegid,
a Rhyawd fab Morgant, a Dyfyr fab Alun
Dyfed, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Adaon
fab Taliesin, Llary fab Casnar Wledig, a
Filewddur Fllam, a Greiddawl Galldofydd,
Gilbert fab Cadgyffro, Menw fab Teirgwaedd, Gwrthmwl Wledig, Cawrdaf fab
Caradawg Feichfras, Gildas fab Caw, Cadyriaith fab Saidi, a llawer o wyr Norway a
Denmarc, a llawer o wyr Groeg gyda hwy,
a digon o lu a ddaeth i'r cyngor hwnnw.
"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y gwas gwineu a ddaeth ato gynneu?"
"Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gŵr ag y mae yn fraint i bawb ymgynghori âg ef."
"Am ba achos y daeth gŵr cyn ieuenged a Chadyrieith fab Saidi i gyngor gwŷr cyfurdd a'r rhai acw?"
"Wrth nad oedd ym Mhrydain ŵr doethach ei gyngor nag ef."
Ac ar hynny, wele feirdd yn dod i ddatgan cerdd i Arthur, ac nid oedd dyn a adnabai y gerdd honno ond Cadyrieith ei hun, ond ei bod yn gerdd o foliant i Arthur.
Ac ar hynny, wele bedair asen ar hugain ddygai bynnau o aur ac arian yn dyfod, a gŵr lluddedig a blin gyda phob un o honynt yn dwyn teyrnged i Arthur o Ynysoedd Groeg. Yna yr archodd Cadyrieith fab Saidi wneyd heddwch âg Ossa Gyllellfawr hyd ymhen pythefnos a mis, a rhoddi yr asynod a'r hyn oedd arnynt yn deyrnged i'r beirdd yn lle gwobr ymaros, ac ar derfyn yr heddwch talu iddynt am eu canu. Ac ar hynny y cytunwyd.
"Rhonabwy," ebe Iddog, "onid cam fai gwarafun gwas ieuanc a roddai gyngor cyn ddoethed a hwn, fynd i gyngor ei arglwydd?"
Ac yna y cyfododd Cai, ac y dywedodd,—
"Pwy bynnag a fynno ganlyn Arthur, bydded heno yng Nghernyw gydag ef. A'r hyn ni fynno, bydded yn erbyn Arthur hyd ddiwedd yr heddwch."
A chan faint y cynnwrf hwnnw a wnaeth Rhonabwy. A
phan ddeffrodd yr oedd ar groen
y dyniawed melyn, wedi cysgu o
hono dair nos a thri dydd.
A'r ystori hon a elwir "Breuddwyd Rhonabwy." A llyma y rheswm na wyr neb ei freuddwyd, na bardd na dewin, heb lyfr, o achos cynifer lliw a oedd ar y meirch, a hynny o amryw liw odidog ar yr arfau, ac ar y gwisgoedd, ac ar y llenni gwerthfawr a'r meini rhinweddol.
LLUDD A LLEFELYS
——————
I'R Beli Mawr fab Manogan y bu tri mab,
—Lludd a Chaswallon, a Nynyaw; ac
yn ol traddodiad, pedwerydd mab oedd
iddo, un Llefelys. Ac wedi marw Beli, a
syrthio teyrnas Ynys Prydain i law Lludd,
ei fab, yr hynaf, a llywio ei golud
hi yn llwyddiannus, adnewyddodd Lludd furiau Llundain, ac
a'i hamgylchodd â thyrau dirifedi. Ac wedi hynny, gorchymynnodd i'r dinaswyr adeiladu tai
ynddi, fel na bai yn y teyrnasoedd dai cyfurdd ag a fai ynddi hi. Ac
ynghyd â hynny, ymladdwr da oedd, a hael
a helaeth y rhoddai fwyd a diod i'r neb a'u
ceisiai. Ac er fod llawer o gaerau a dinasoedd iddo, hon a garai yn fwy na'r un; ac
yn honno y preswyliai y rhan fwyaf o'r
flwyddyn. Ac wrth hynny y gelwid hi
Caerludd, ac o'r diwedd Caer Llundain. Ac
wedi dyfod estron genedl iddi y gelwid hi
Llundain, neu ynte Lwndrys.
Mwyaf ef frodyr y carai Lludd Lefelys, canys gŵr call a doeth oedd. Ac wedi clywed marw brenin Ffrainc heb adael etifedd iddo ond un ferch, a gadael ei gyfoeth yn llaw honno, daeth at Ludd ei frawd i ofyn cyngor a chymorth ganddo,— ac nid yn fwyaf er lles iddo ef ei hun, ond er ceisio ychwanegu anrhydedd, ac urddas, a theilyngdod i'w genedl,—a allai fyned i deyrnas Ffrainc i ofyn y ferch honno yn wraig iddo. Ac yn y lle, ei frawd a gydsyniodd âg ef, a bu da ganddo ei gyngor ar hynny.
Ac yn y lle paratoi llongau a'u llanw o farchogion arfog, a chychwyn parth â Ffrainc a wnaethant. Ac wedi disgyn o'r llongau, anfon cenhadau a wnaethant i fynegi i wyr da Ffrainc ystyr y neges y daeth i'w cheisio. Ac o gyd—gyngor, rhoddodd gwŷr da Ffrainc a'i thywysogion y ferch i Lefelys, a choron y deyrnas gyda hi. Ac wedi hynny llywiodd Llefelys ei gyfoeth yn gall a doeth, ac yn ddedwydd hyd tra parhaodd ei oes.
Ac wedi llithro talm o amser, tair gormes
a ddigwyddodd yn Ynys Prydain
na welodd neb o'r ynysoedd gynt
eu cyfryw. Cyntaf o honynt
oedd rhyw genedl a ddaeth a
elwid y Coraniaid, a chymaint
oedd eu gwybod fel nad oedd ymadrodd
dros wyneb yr ynys—er ised y dywedid ef—
os cyffyrddai'r gwynt âg ef, nas gwyddent.
Ac wrth hynny ni ellid gwneyd drwg iddynt.
Yr ail ormes oedd,—gwaedd a ddodid bob nos Calan Mai uwch pob aelwyd yn Ynys Prydain. A honno a ai trwy galonnau y dynion, ac a'u dychrynnai yn gymaint fel y collai y gwŷr eu lliw a'u nerth. A'r meibion a'r merched a gollent eu synhwyrau. A'r holl anifeiliaid, a'r coed, a'r ddaear, a'r dyfroedd a wneid yn ddiffrwyth. Trydydd ormes oedd,—pa faint bynnag o wledd ac arlwy a baratoid yn llysoedd y brenin, er fod yno arlwy blwyddyn o fwyd a diod, ni cheid byth ddim o hono ond a dreulid yr un nos gyntaf.
Gwyddid ystyr yr ormes gyntaf, ond nid oedd neb a wyddai pa ystyr oedd i'r ddwy ormes eraill. Ac wrth hynny, mwy gobaith oedd cael gwared o'r gyntaf nag oedd o'r ail neu o'r drydedd.
Oherwydd hynny, Lludd frenin a gymerth bryder mawr a gofal am na
Fel y wyddai pa ffordd y caffai ymgofynnodd wared rhag y gormesoedd hynny.
A galw ato a wnaeth holl wyr da
ei gyfoeth, a gofyn cyngor iddynt
pa beth a wnelent yn erbyn y
gormesoedd hynny. Ac yn ol
cyngor ei wyr da aeth Lludd fab Beli at
Lefelys ei frawd, frenin Ffrainc, i geisio
cyngor ganddo. Canys gŵr mawr ei gyngor
a doeth oedd hwnnw.
Ac yna paratoi llynges a wnaethant, a hynny yn ddirgel ac yn ddistaw, rhag gwybod o'r genedl honno ystyr y neges, na neb arall oddi eithr y brenin a'i gynghorwyr. Ac wedi i'r llongau fod yn barod hwy a aethant ynddynt,—Lludd a'i gyfeillion gydag ef. A dechreu rhwygo y moroedd parth â Ffrainc a wnaethant.
A phan ddaeth y chwedlau hynny at Lefelys, canys ni wyddai achos llynges ei frawd, daeth yntau o'r parth arall yn ei erbyn ef â llynges ganddo, ddirfawr ei maint. Ac wedi gweled o Ludd hynny, efe a adawodd ei holl longau allan ar y weilgi, oddi eithr un long; ac yn yr un honno yr aeth i gyfarfod ei frawd. Ac wedi eu dyfod at eu gilydd, rhoddasant eu dwylaw am yddfau y naill y naill, ac o frawdol gariad pob un o honynt a groesawodd eu gilydd.
Ac wedi mynegi o Ludd i'w frawd ystyr
ei neges, Llefelys a ddywedodd y
gwyddai ef ei hun ystyr dyfodiad
y gormesau i'r gwledydd hynny.
Yna cymerasant gyd-gyngor i
ymddiddan am eu negeseu yn
wahanol i hynny,—megys nad
elai y gwynt a'u hymadroddion
rhag gwybod o'r Coraniaid a ddywedent.
Ac yna y parodd Llefelys wneuthur corn hir o efydd, a siarad trwy y corn hwnnw. A pha ymadrodd bynnag a ddywedai yr un o honynt wrth eu gilydd trwy y corn, ni chlywai yr un o honynt ond ymadrodd go atcas croes. Ac wedi gweled o Lefelys

hynny, a bod y cythrael yn eu llesteirio, ac yn terfysgu drwy y corn, perodd yntau ddodi gwin yn y corn a'i olchi, a thrwy rinwedd y gwin gyrru'r cythrael o'r corn.
Ac wedi bod eu hymadrodd yn ddilestair y dywedodd Llefelys wrth ei frawd y rhoddai iddo ryw bryfaid, a'i fod i gadw rhai o honynt yn fyw i hilio,—rhag ofn i'r ormes honno ddod o ddamwain eilwaith—a chymeryd eraill a'u briwio mewn dwfr. A chadarnhai Llefelys fod hynny'n dda i ddistrywio cenedl y Coraniaid. Nid amgen, pan elai adref i'w deyrnas, iddo gasglu yr holl bobl i gyd,—ei genedl ef a chenedl y Coraniaid,—i'r un cyfarfod, dan yr esgus o wneyd heddwch rhyngddynt. A phan fai pawb o honynt ynghyd, iddo gymeryd y dwfr rhinweddol hwnnw a'i fwrw ar bawb` yn gyffredin. A chadarnhai Llefelys y gwenwynai y dwfr hwnnw genedl y Coraniaid, ac na laddai ac na niweidiai neb o'i genedl ei hun.
"Yr ail ormes," ebe Llefelys, "sydd yn
dy gyfoeth di—draig yw honno. A draig o
estron genedl arall sydd yn ymladd â hi, ac
yn ceisio ei gorchfygu. Ac wrth hynny y
dyd eich draig chwi waedd angerddol. Ac
fel hyn y galli gael gwybod hynny,—pan eli
adref, par fesur yr ynys o'i hyd a'i lled, ac
yn y lle y cei di y pwynt perfedd, par dorri
twll yn y lle hwnnw. Ac yn y twll hwnnw
par ddodi cerwynied o'r medd
goreu a aller ei wneuthur, a llen
o bali ar wyneb y cerwyn. Ac
a'r yno bydd dy hun yn gwylio, a
thi a weli y dreigiau yn ymladd
yn rhith anifeiliaid aruthr. Ac
o'r diwedd byddant yn rhith dreigiau yn yr
awyr. Ac yn ddiweddaf oll, wedi iddynt
flino'n ymladd yn angerddol ac enbyd, hwy
a syrthiant yn rhith dau barchell ar y llen,
ac a suddant yn y llen gan ei thynnu hyd i
waelod y cerwyn. Ac yfant y medd i gyd,
ac wedi hynny cysgant. Ac yna, ar unwaith,
plyga dithau y llen am danynt; ac yn y lle
cadarnaf a geffi yn dy gyfoeth cladd hwy
mewn cist faen, a chudd yn y ddaear. A
hyd tra bont hwy yn y lle cadarn hwnnw,
ni ddaw gormes i Ynys Prydain o le arall."

"Achos y trydydd ormes yw," ebe Llefelys, "gŵr lledrithiog cadarn sydd yn dwyn dy fwyd, a'th ddiod, a'th wledd. Trwn yw ei hud, a'i ledrith a bâr i bawb gysgu. Ac am hynny y mae yn rhaid i tithau dy hun wylio dy wleddoedd a'th arlwyau. A rhag gorfod o'i gysgu ef arnat, boed cerwynied o ddwfr oer ger dy law; a phan fo cysgu yn treisio arnat, dos i fewn i'r cerwyn.'
Ac yna dychwelodd Lludd drachefn i'w
wlad. Ac yn ebrwydd y cynullodd ato bawb yn llwyr o'i genedl
ef ac o'r Coraniaid. Ac megys y
dysgodd Llefelys iddo, briwio y
pryfed a wnaeth yn y dwfr, a
bwrw hwnnw yn gyffredin ar bawb. Ac yn
ebrwydd y difethwyd felly holl wyr y Coraniaid heb niweidio neb o'r Brytaniaid.

barodd fesur yr Ynys ar ei hyd ac ar ei lled. Ac yn Rhydychen y cafwyd y pwynt perfedd. Ac yn y lle hwnnw y parodd dorri twll yn y ddaear, a gosod yn y twll hwnnw gerwyn yn llawn o'r medd goreu a allwyd ei wneuthur, a llen o bali ar ei wyneb. A Lludd ei hun a'i gwyliodd y nos honno. Ac fel yr oedd felly, efe a welai y dreigiau yn ymladd. Ac wedi blino o honynt, a diffygio, hwy a syrthiasant ar warthaf y llen nes ei thynnu ganddynt i waelod y cerwyn. Ac wedi iddynt yfed y medd, cysgu a wnaethant. Ac yn eu cwsg, Lludd a blygodd y llen am danynt, ac a'u dygodd i'r lle diogelaf a gafodd yn Eryri mewn cist faen. A galwyd y lle hwnnw wedi hynny, Dinas Emrys. Cyn hynny Dinas Ffaraon Dande oedd ei enw.
Ac felly y peidiodd y waedd ofnadwy oedd yn ei gyfoeth.
Ac wedi darfod hynny, Lludd Frenin a
barodd arlwy gwledd ddirfawr ei maint. Ac
wedi ei bod yn barod, gosododd gerwyn yn
llawn o ddwfr oer ger ei law. Ac efe ei hun
a'i gwyliodd. Ac fel yr oedd
felly yn wisgedig o arfau, oddeutu'r drydedd wylfa o'r nos, wele,
clywai lawer o ddiddanau godidog, ac amryw gerddau, a hûn yn
ei gymell yntau i gysgu. Ac ar
hynny, beth wnaeth Lludd rhag ei rwystro
ar ei amcan, a rhag i hûn ei orthrymu, ond
mynd yn fynych i'r dwfr. Ac yn y diwedd,
wele ŵr dirfawr ei faint, yn wisgiedig o
arfau trymion cadarn, yn dyfod i fewn, a
chawell ganddo, ac megis yr arferai, rhoddodd yr holl ddanteithion a'r arlwy o fwyd a
diod yn ei gawell. Ac yna cychwynnodd âg
ef ymaith. Ac nid oedd dim rhyfeddach
gan Ludd nac fod ei gawell yn cario cymaint
a hynny. Ac ar hynny Lludd Frenin a
gychwynnodd ar ei ol, ac a ddywedodd
wrtho fel hyn,-
"Aros, aros," ebe ef, "er i ti wneyd llawer o golledion a sarhad cyn hyn, ni wnei ychwaneg oni farn dy filwriaeth dy fod yn drech ac yn ddewrach ymladdodd na mi."

Ac yn ebrwydd yntau a ddodes y cawell ar y llawr, ac arhosodd i Ludd ddod ato. Ac angerddol ymladd a fu rhyngddynt onid oedd tân llachar yn ehedeg o'u harfau. Ac o'r diwedd, ymafael a wnaeth Lludd ynddo, a'r dynged-faen a roddodd y fuddugoliaeth i Ludd, gan fwrw yr ormes rhyngddo a'r ddaear. Ac wedi gorfod arno o rym ac angerdd, gofyn nawdd Lludd a wnaeth.
"Pa wedd," ebe y brenin, "y gallaf fi roddi nawdd i ti wedi yr holl golledion a'r sarhad a wnaethost di i mi?"
"Dy holl golledion eriocd," ebe yntau, a wnaethum i ti, mi a'u henillaf it gystal ag y dygais hwy. Ac ni wnaf y cyffelyb o hyn allan, a gŵr ffyddlawn fyddaf i ti bellach."
A'r brenin a gymerth hynny ganddo. Ac felly y gwaredodd Lludd y tair gormes oddi ar Ynys Prydain. Ac o hynny hyd ddiwedd ei oes mewn heddwch llwyddiannus y llywiodd Lludd fab Beli Ynys Prydain. A'r chwedl hon a elwir Cyfranc Lludd a Llefelys. Ac felly y terfyna.
HANES TALIESIN
GWR bonheddig oedd gynt ym Mhenllyn
elwid Tegid Foel, a'i drefdadaeth oedd
yng nghanol Llyn Tegid. A'i briod wraig
a elwid Ceridwen. Ac o'r wraig honno y
ganed mab a elwid Morfran ab Tegid, a
merch a elwid Greirfyw,—a thecaf merch yn
y byd oedd honno. A brawd
iddynt hwy oedd y dyn hagraf
yn y byd,—Afagddu. Am hynny
Ceridwen ei fam a feddyliodd nad
oedd ef debyg i gael ei gynnwys
ymhlith bonheddigion am ei fod
mor hagr, oni feddai ryw gampau
neu wybodau urddasol. Canys
yn nechreuad Arthur a'r ford gron yr oedd
hynny.
Ac yna yr ordeiniodd hi trwy gelfyddyd llyfrau fferyllydd i ferwi pair o Awen a Gwybodau i'w mhab, fel y byddai urddasach ei gymeriad am ei wybodau am y byd na neb.
Ac yna y dechreuodd hi ferwi y pair, yr
hwn wedi y dechreuid ei ferwi ni ellid torri
y berw hyd dan ben un dydd a blwyddyn,
ac om cheffid tri defnyn bendigedig o rad yr
ysbryd. A Gwion Bach, mab Gwreang o
Lanfair yng Nghaer Einion ym Mhowys, a
roes hi i amodi y pair, a dall a elwid Morda
i gynneu y tân dan y pair. A gorchymyn roddodd na adawai i'r berw dorri hyd pan
ddelai undydd a blwyddyn.
A hithau, Ceridwen, drwy lyfrau astronomyddion ac wrth oriau
y planedau, oedd yn llysieua
beunydd o bob amryfael lysiau rhinweddol.
Ac fel yr oedd Ceridwen un dydd yn llysieua
yn agos i ben blwyddyn, y damweiniodd
neidio a syrthio o dri defnyn o'r dŵr rhinweddol o'r pair ar fys Gwion Bach. Gan
fod ei fys mor boeth, tarawodd ef yn ei ben,
a chan gynted ac y tarawodd y defnynnau
gwerthfawr hynny yn ei ben, gwyddai bob
peth a ddigwyddai. Ac efe a adnabu yn
union mai mwyaf gofal iddo ef oedd dial
Ceridwen, canys mawr oedd ei gwybodau.
A rhag dirfawr ofn, efe a ffodd
tua'i wlad. A'r pair a dorrodd
yn ddau hanner, fel y gwenwyn-
wyd meirch Gwyddno Garanhir
am iddynt yfed y dŵr o'r aber y
rhedodd y dŵr o'r pair iddi, oherwydd y
dŵr i gyd oedd wenwynig oddi eithr y tri
defnyn rhinweddol. Ac am hynny y gelwir
yr aber o hynny allan Gwenwyn feirch
Gwyddno.
Ac ar hynny daeth Ceridwen i fewn, ac wrth weled ei llafur er ys blwyddyn yn golledig, tarawodd y dall Morda ar ei ben oni aeth un o'i lygaid ar ei rudd. Sef y dywed ynte,
"Drwg i'm hanffurfiaist, a minnau'n ddiniwaid; ni buost golledig o'm hachos i."
"Gwir a ddywedaist," ebe Ceridwen,
"Gwion Bach a'm hysbeiliodd i."
A chyrchu ar ei ol dan redeg a wnaeth.
A'i chanfod hithau a wnaeth Gwion Bach,
ac a ymrithiodd yn rhith ysgyfarnog a
rhedodd. Rhithiodd Ceridwen yn
filast, ac ymlidiodd ef tuag afon.
Yna Gwion Bach a ymrithiodd
yn bysgodyn, a hithau a ymrithiodd yn ddyfrast, ac a'i ceisiodd ef dan y dwfr, oni fu raid
iddo ymrithio'n aderyn i'r wybr.
Hithau a rithiodd yn walch i'w ymlid, ac ni
adawodd iddo lonydd yn y wybr; a phan
oedd yn ei ddal—ac yntau âg ofn angau
arno, efe a ganfu dwr o wenith nithiedig ar
lawr ysgubor, a disgynnodd i'r gwenith, ac
a ymrithiodd yn rhith un o'r grawn. Ac
yna ymrithiodd Ceridwen yn iar ddu gopog,
ac i'r gwenith yr aeth, ac â'i thraed ei grafu
a'i adnabod ef, a'i lyucu.

Ac fel y dywed yr ystori, ymhen y naw mis ganwyd mab iddi, ac ni allai ei ladd gan mor deg oedd. Ond rhoddodd ef mewn llestr croen, ac a'i bwriodd i'r môr y nawfed ar hugain o Ebrill.
Ac yn yr amser hwnnw yr oedd cored Gwyddio yn y traeth rhwng Dyfi ac Aber— ystwyth, gerllaw ei gastell ei hun. Ac yn y rhwyd honno y ceid cywerth can punt bob nos Galanmai.
Ac yn yr amser hwnnw yr oedd un mab i Wyddno a elwid Elphin, un o'r rhai mwyaf diwaith o'r ieuenctid, a mwyaf o eisiau arno. Ac fel yr oedd felly, tybiai ei dad ei eni ar awr ddrwg. Ac am iddo ofyn yn daer, rhoddodd ei dad iddo dyniad y rhwyd y flwyddyn honno, i edrych a ddamweiniai iddo ras byth, ac i ddechreu gwaith iddo. A thrannoeth edrychodd Elphin, ond nid oedd dim ynddi; ond wrth fynd i ffordd canfu y llestr croen ar bolyn y rhwyd. Yna y dywedodd un o'r rhwydwyr wrth Elphin,—
"Ni buost ti anhapus erioed
hyd heno, canys ti a dorraist
arferiad y rhwyd yn yr hon y ceid ynddi
werth can punt bob nos Galanmai, ac nid
oedd heno namyn y croenyn hwn."
"Beth yn awr," ebe Elphin, "feallai fod yma gyfwerth can punt o dda?"
Datod y croen a wnaethpwyd, a chanfod o'r agorwr dalcen mab, ac a ddywedodd wrth Elphin,—
"Llyma dal iesin!"
"Taliesin boed ef," eb yr Elphin, a dyrchafodd y mab rhwng ei ddwylo, gan. gwyno anhap iddo, ac a'i cymerodd yn brudd, a gwnaeth i'w farch, oedd o'r blaen yn tuthio, gerdded yn araf, ac arweiniai ef mor esmwyth a phetai yn eistedd mewn cadair esmwythaf yn y byd.
Ac yn fuan ar ol hynny y gwnaeth y mab Taliesin gân o foliant i Elphin, a phroffwyd— odd urddas iddo. Daeth Elphin â Thaliesin ganddo i lys Gwyddno ei dad. A gofynnodd Gwyddno iddo,—
"Ai da y caffaeliad yn y rhwyd?"
Yntau a ddywedodd wrtho gaffael peth oedd well na physgod.
"Beth oedd?" ebe Gwyddno.
"Bardd," ebe yntau, Elphin.
Yna y dywedodd Gwyddno,—
"Och druan! Beth a dâl hwnnw i ti?" Yna yr atebodd Taliesin ei hunan, ac ddywedodd,—
"Ef a dâl hwn iddo ef fwy nag a dalodd y rhwyd erioed i ti."
Yna y gofynnodd Gwyddno iddo, —
"A fedri di ddywedyd, a chyn
fychaned ag wyt?"
Yna yr atebodd yntau, Taliesin, ac a ddywedodd,—
"Medraf fi ddywedyd mwy nag a fedri di ofyn i mi."
Yn y man rhoddodd Elphin ei guffaeliad i'w wraig briod, yr hon a'i magodd ef yn gu ac yn anwyl. Ac o hynny allan yr amlhaodd golud Elphin well well bob dydd ar ol eu gilydd, ac o gariad a chymeriad gyda'r brenin.
Ac yno y bu Taliesin onid oedd yn dair
ar ddeg oed. Yna yr aeth Elphin ab
Gwyddno ar wadd Nadolig at Faelgwn
Gwynedd ei ewyth, yr hwn, ymhen ychydig
amser wedi hyn, oedd yn cynnal llys agored
o fewn Castell Deganwy ar amser Nadolig.
A'i holl amlder arglwyddi o bob
un o'r ddwy radd—ysbrydol a
bydol,—oedd yno, gyda lliaws
mawr o farchogion ac ysweiniaid,
ymhlith y rhai y cyfodai ymddiddan trwy ymofyn a dywedyd fel hyn,—
"A oes yn yr holl fyd frenin mor gyfoethog a Maelgwn—wedi i'r Tad o'r nef
roddi cymaint o eiddo iddo ag a roddodd
Duw iddo o roddion ysbrydol? Yn gyntaf,
—pryd a gwedd, ac addfwynder a nerth,
heblaw cwbl o alluoedd yr enaid." A chyda
y rhoddion hyn, hwy a ddywedent fod y
Tad wedi rhoddi iddo ef un rhodd ragorol,—
yr hon, yn wir, a basiai y rhoddion eraill i
gyd, yr hyn sydd i'w draethu ym mryd a
gwedd ac ymddygiad a doethineb a diweirdeb ei frenhines. Yn y rhinweddau yr
oedd hi yn rhagori ar holl arglwyddesau a
merched bonheddigion yr holl ynys. Pwy
ddewrach ei wyr? Pwy decach a buanach
ei feirch a'i filgwn? Pwy gyfarwyddach a
doethach ei feirdd na Maelgwn? Y rhain
yn yr amser yna a gymerid mewn cymeriad
mawr ymhlith ardderchogion y deyrnas. Ac
yn yr amser yna ni wneid neb o swydd y
rhai heddyw elwir herald onid
gwyr dysgedig, nid yn unig
mewn gwasanaeth brenhinoedd a
thywysogion, ond yn hyddysg
am arfau a gweithredoedd brenhinoedd a thywysogion o hynafiaid y deyrnas
hon yn ogystal a theyrnasoeedd dieithr,—
yn enwedig hanes y tywysogion pennaf.
Hefyd yr oedd yn rhaid i bawb o honynt
fod yn barod eu hatebiad mewn amryw
ieithoedd, Lladin, Ffrancaeg, Cymraeg,
Saesneg. A chyda hyn yn ystoriawr mawr,
ac yn gofiadur da, ac yn gelfydd mewn
prydyddiaeth i fod yn barod i wneuthur
englynion mydr ymhob un o'r ieithoedd
hynny. Ac o'r rhai hyn yr oedd yn yr wyl
hon yn Llys Maelgwn gymaint a phedwar
ar hugain, ac yn bennaf ar y rhain yr hwn a
enwid Heinin Fardd. Felly, wedi darfod o
bawb foliannu'r brenin a'i ddoniau, fe a
ddigwyddodd i Elphin ddywedyd fel hyn,—
"Yn wir, nid oes neb yn abl i gystadlu â
brenin ond brenin. Eithr yn wir oni bai ei
fod ef yn frenin, myfi a ddywedwn fod i mi
un bardd sydd gyfarwyddach na holl feirdd
y brenin."
Dig iawn oedd y beirdd eraill wrth Elphin. A gorchymynnodd y brenin roddi Elphin mewn carchar cadarn, oni ddarffai iddo wybodaeth am ei fardd ef. Yna rhoddwyd Elphin mewn tŵr o'r castell a gefyn mawr am ei draed, a dywedir mai gefyn arian oedd, am ei fod o waed brenhinol.
Dywedodd Talicsin wrth ei feistres ei fod yn myned i ryddhau Elphin. Ac aeth tua Llys Maelgwn. A phan ddaeth i'r neuadd canfu le disathr gerllaw y man y deuai y beirdd a'r gler i fewn i wneuthur eu gwas- anaeth a'u dyled i'r brenin. Ac felly yr amser a ddaeth i'r beirdd ddyfod i ganu clod a gallu y brenin a'i nerth, a daethant heibio y man yr oedd Taliesin yn crwcian mewn cornel, yr hwn a estynnodd ei wefl ar eu hol hwynt, gan chwareu blerwin blerwm â'i fys ar ei wefl. Ond ni ddaliasant hwy fawr sylw arno, ond cerdded yn eu blaen hyd nes y daethant gerbron y brenin, i'r hwn y gwnaethant hwy eu moes â'u cyrff, megis yr oedd yn ddyledus iddynt hwy i wneuthur, heb ddweyd yr un gair o'u pennau onid estyn eu gweflau a mingamu ar y brenin drwy chwareu blerwm blerwm â'u bysedd, ar eu gwellau, megis ag y gwelsent hwy y bachgen yn ei wneuthur o'r blaen. Yr olwg a wnaeth i'r brenin gymeryd rhyfeddod a syndod ynddo ei hun eu bod hwy wedi meddwi. Felly gorchymynnodd i un o'r arglwyddi oedd yn gwasanaethu ar ei ford ef i fynd atynt, ac erchi iddynt alw i'w cof a'u myfyrdod a meddwl y man yr oeddynt yn sefyll, a beth a ddylent hwy ei wneuthur. Hyn a wnaeth yr arglwydd yn llawen; ond ni bu iddynt beidio â'u gorwagedd. Felly anfonodd ef eilwaith a'r drydedd waith i erchi iddynt hwy fynd allan o'r neuadd. O'r diwedd archodd y brenin i un o'r ysweiniaid roddi dyrnod i'r pennaf o honynt, y neb a elwid Heinin Fardd. A'r yswain a'i tarawodd ef yn ei ben oni syrthiodd yn ei eistedd. Yna cyfododd ar ei liniau, a gofynnodd ras y brenin a'i geunad i ddangos iddo ef nad oedd y diffyg hwnnw arnynt o nag eisiau gwybodaeth nag o feddwdod, ond o rinwedd rhyw ysbryd oedd yn y neuadd; ac yna dywedodd Heinin,—
"O frenin anrhydeddus, bid hysbys i'ch gras chwinado angerdd gormod gwirodau yr ydym yn fudion heb allu ymddiddan, fel dynion meddwon, ond o rinwedd ysbryd sydd yn eis— tedd yn y gornel acw ar swm bach o ddyn.
Yna gorchymynnodd y brenin i yswain ei gyrchu ef; yr hwn a aeth i'r gilfach yr oedd Taliesin yn eistedd, ac a'i dygodd ef gerbron y brenin. Gofynnodd y brenin iddo pa beth ydoedd, ac o ba le y daethai.
Atebodd Taliesin ar gân. A phan glybu
y brenin a'i urddasolion, synnu
yn fawr a wnaethant, ac ni chlywsent o ben bachgen ei fychaned a
Taliesin ellid ei debygu i'r gân hon.
phan wybu y brenin mai bardd
Elphin oedd ef, erchi a wnaeth
ef i Heinin, ei fardd pennaf a
doethaf, ddyfod ac ateb i Daliesin, ac ymorchestu âg ef. Ond pan ddaeth yno, nis
gallai amgen na chware blerwm ar ei wefl.
A phan ddanfonwyd y rhai eraill o'r pedwar
ar hugain beirdd, yr un peth a wnaethant,
am na allent yn amgen.

Yna y gofynnodd Maelgwn i'r bachgen Taliesin pa beth oedd ei neges yno. Atebodd Taliesin ar gân mai dod i ryddhau Elphin a wnaeth. Daeth yn ystorm o wynt aruthr, a gorchymynnodd Maelgwn ddwyn Elphin o'r carchar. Canodd Taliesin gân arall, nes agori o'r gefyn oddi am draed ei feistr, Elphin.
DIWEDD


Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1928, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.