Ceiriog a Mynyddog (testun cyfansawdd)

Ceiriog a Mynyddog (testun cyfansawdd)

gan John Morgan Edwards

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Ceiriog a Mynyddog

CEIRIOG A'I FERCH MYFANWY

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Ceiriog Hughes
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Richard Davies (Mynyddog)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Morgan Edwards
ar Wicipedia

CEIRIOG a MYNYDDOG:

—GAN—

J. M. EDWARDS, M.A.,

Prif Athraw Ysgol Sir Treffynnon.



GWRECSAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES A'I FAB.
1912.



CEIRIOG.

CANODD Ceiriog wrth fodd calon gwerin Cymru. Efe, o'n holl feirdd, yw'r mwyaf adnabyddus,— mae ei enw ar bob aelwyd a mwy o'i waith ar gôf y genedl na gwaith odid fardd. Fel bardd telynegol nid oes ei ail,—cân mor naturiol ag aderyn y gwanwyn. Mewn ffermdy, elwir Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, y ganwyd John Ceiriog Hughes, Medi 25ain, 1832. Enw ei rieni oedd Richard a Phoebe Hughes. Ychydig o fanteision addysg gafodd pan yn fachgen. Bu yn ysgol Nant y Clôg heb fod nepell o'i gartref am beth amser. Treuliodd ei febyd yn hapus yn chware ar hyd lethrau'r Berwyn,—" hefo'r grug a'r adar mân," neu ym murmur "Nant y Mynydd," ar ben ei "Garreg Wen." Ond nid bugail ar un o'r "hen fynyddoedd mawr" garai mor gu, oedd i fod, nac amaethwr i ddilyn yr "arad goch." Bu raid iddo adael mynydd a'i swyn am fwg a dwndwr tref Manceinion, ond rhoddodd ei hiraeth ar eu hol dinc swynol i'w gân. Gadawodd Lanarmon yn 1848 i fod yn argraffydd yng Nghroesoswallt, ond symudodd yn 1849 i Fanceinion, lle y bu hyd 1865.

Tra ym Manceinion, gweithiodd yn egniol i ddiwyllio ei hun drwy ddarllen llenyddiaeth ac ymgydnabyddu â rheolau barddoniaeth. Gwnaeth gyfeillion â llenorion goreu'r ddinas, yn eu mysg yr oedd Idris Fychan. Trwy ddylanwad yr aelwyd, natur, Cyfarfodydd Llenyddol a'r Ysgol Sabothol a'r llenorion hyn, daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Bu ei "Myfanwy Fychan" yn fuddugol yn Eisteddfod Llangollen, 1858. Tybia rhai mai "Myfanwy Fychan" yw ei brif waith, tra dywed ereill mai "Alun Mabon " yw ei oreu—waith, ond mae'r ddwy'n em. Yn 1860, cyhoeddodd ei "Oriau'r Hwyr," ac yn 1862 ei "Oriau'r Bore," lle mae pigion a goreu ei gân. Argreffir ei holl waith yn dair cyfrol ddestlus gan Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam,— dylent fod yn llaw pob Cymro. Gadawodd Fanceinion am Gymru yn 1865, a daeth yn orsaf feistr i Lanidloes. Symudodd yn 1870 i Dowyn, Meirionnydd, a'r flwyddyn ddilynol, aeth i Drefeglwys i symud drachefn cyn diwedd y flwyddyn 1871 i Gaersws.

Bu farw Ebrill 23ain, 1887, a hûn ym Mynwent Llanwnog, ger Caersws. Ar y groes uwch ei fedd mae englyn o'i waith ei hun rydd ddarluniad byw o hono,—

Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angherddol:
Dyma ei lwch, a dim lol.

Yn ddiweddar, codwyd cof-adeilad hardd a gwasanaethgar iddo yn ei hen gartref ar lan yr Afon Ceiriog.

Carai Gymru'n angherddol, a gwnaeth a allai i godi'r Hen Wlad yn ei hol." Hoffai'r Eisteddfod, gwelai ddyfodol gwell iddi, a chymerai ddyddordeb digymysg ym mhob symudiad i hyrwyddo addysg Cymru. Rhoddodd enaid newydd yn alawon ein gwlad, drwy wneyd geiriau cyfaddas i'w canu arnynt. Gyda'r tyner a'r tlws yr ymhoffai ei Awen fwyaf, felly, perlau ei waith yw ei ddarnau lleddf.

Hyderaf y deffry y pigion hyn feddwl ieuenctid Cymru i ddarllen gweithiau llawn Ceiriog a Mynyddog, yn ogystal a gwaith beirdd rhagorol ereill ein Cenedl. Ar ddiwedd y gyfrol ceir cynllun—wers. Ymarferwch ateb y deuddeg gofyniad hyn—neu rai tebyg—ar bob. pennill. Mae'r Eirfa'n lled gyflawn.

J. M. EDWARDS.

ARANFA,
TREFFYNNON.

CYNHWYSIAD

CEIRIOG

Y GARREG WEN

Os pell yw telyn aur fy ngwlad
O'm dwylaw musgrell i;
Os unig wyf o dŷ fy nhad,
Lle gynt chwareuid hi:
Mae'r iaith er hynny gyda swyn,
Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,
I ganu cerdd, os nad yn fwyn
I'r byd—mae'n fwyn i mi.

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn ban,
A choed afalau ar y lan,
Yn edrych ar y lli.

O dan ddisgynfa'r dŵr mae llyn,
A throsto bont o bren;
A charreg fawr, fel marmor gwyn,
Gynhalia'r bont uwch ben.
Fy mebyd dreuliais uwch y lli,
Yn eistedd yno arni hi;
A mwy na brenin oeddwn i,
Pan ar fy Ngharreg Wen.


Pan ddeuai'r Gwanwyn têg ei bryd
Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau'r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin:
Yn afon fawr ai'r gornant fach;
Pysgotwn ar ei glennydd iach-
A phin plygedig oedd fy mâch,
Yn grôg wrth edau lin.

Ni waeth pa ran o'r eang fyd
A grwydraf tra b'wyf byw,
Wyf wrth y Garreg Wen o hyd,
A'r nant sydd yn fy nghlyw;
A phan hysbysaf estron ddyn
Mai ati 'hedaf yn fy hûn,
Maddeua'm ffoledd am mai un
O gofion mebyd yw.

Ffurfafen bell yw mebyd oes,
Serennog fel y nen;
Ac ymysg dynion neb nid oes
Na hoffa godi ei ben
I edrych draw i'r amser fu-
A syllaf finnau gyda'r llu-
Ac O! fy seren fore gu
Wyt ti, fy Ngharreg Wen!

Os cyrraedd ail fabandod wnaf,
Cyn gollwng arna'r llen;
Os gaeaf einioes byth a gaf,
A'i eira i wynnu'm pen-
Bydd angau imi'n "frenin braw,"
Nes caffwyf fynd i Walia draw,
At dŷ fy nhad, i roi fy llaw
Ar ben y Garreg Wen.

Byth, byth ni ddygir o fy ngho'
Gyfeillion mud yr ardd;

Nis clywir trystfawr sŵn y gro
Ar gauad arch y bardd:
A dagrau pur tros ruddiau'r nen
Fo'r oll o'r dagrau uwch fy mhen—
Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wen
O gerrig gwynion hardd.

Colofnau wnaed i feibion bri,
Uchelfawr tua'r nen;
Ond noder fy ninodedd i
Gan garnedd uwch fy mhen:
'R ol gado "gwlad y cystudd mawr,"
Os byw fy enw hanner awr,
Na alwed neb fi ar y llawr
Ond Bardd y Garreg Wen.


Y TELYNOR DALL.

YMGYNDDEIRIOGI 'roedd y gwynt,
A rhuai yn y cwm;
Ac ar ffenestri'm bwthyn gwael
Y cenllysg gurai'n drwm:
Parhaent yn daerion, fel pe'n dweyd,—
Fod honno'n noson flin;
Neu fel pe'n erfyn arnaf fi
Am loches rhag yr hin.

Ymgrymai'r llwyn tu cefn i'm tŷ
Wrth draed y dymhestl gerth—
'Roedd llawer derwen gawraidd, gref,
Yn ildio gwraidd ei nerth,
A holl gerbydau chwyrn y storm
Yn erlid naill y llall,
Pan genid cerdd wrth ddrws fy nhŷ
Gan hen delynor dall.


Ei farf yn fraith, a'i wallt yn wyn,
A'i rudd yn welw- lwyd—
'Roedd ganddo sgrepan draws ei warr,
Ond sgrepan wag o fwyd:
Chwim oedd ei law o dant i dant,
Yn chwareu "Lili Lon; "
A dwedai, "Dyma mywyd i,
Fy anwyl delyn hon.'

Gwahoddwyd ef i ddod i mewn,
Ac at y tân fe ddaeth:
Estynwyd enllyn ar y bwrdd,—
Teisenau ceirch a llaeth.
Ac wedyn, gylch y fantell ddu
Eisteddem oll yn rhawd,
A chanu'r gwynt a'r storm ymhell
Wnai'r hen delynor tlawd.

Adroddai chwedlau rhyfedd iawn,
Rhai difyr a rhai prudd,
Nes oedd tywyllwch dudew'r nos
Yn gymysg gyda'r dydd.
Rhyw wely bach ar lawr. y llofft
I'r hen delynor wnaed;
Rhodd yntau'r glustog tan ei ben,
A'r delyn wrth ei draed.

Mwynhau wnai'r hen bererin hwn
Ei ysgafn felus hûn;
Ac o ddedwyddach fron nag ef '
Rioed ni anadlodd dyn,—
Pe cynhygiasid coron aur
A theyrnas iddo fe,
'Rwy'n credu na werthasai byth
Ei delyn yn eu lle.


Ar uchaf gopa Berwyn bann
Dydd newydd rodd ei droed,
A thano'r eira gwyn a phur
Ai'n wynnach nag erioed:
'R ol storm ofnadwy'r nos fe ddaeth
Têg foreu fel bu'r ffawd:
A mynd i'w daith tros drothwy'r bardd
Wnai'r hen delynor tlawd.

Pan welais ef yr eilfed waith,
'Mhen misoedd wedi hyn,
Wrth ddôr meddygdŷ curo'r oedd,
A'i ben mewn cadach gwyn,—
Ei gefn yn glai gan ôl y traed
A'i mathrent yn y ffôs,—
'Roedd wedi cwrdd dau lofrudd du
Yn un o'i deithiau nos.

Danghosai fraich gleisiedig ddu,
Ac archoll yn ei gnawd,
A dwedai" Nid yw gwaedu'n ddim
I gorff cardotyn tlawd:
O na! mae'm telyn wedi mynd—
Am byth ysgarwyd ni!
Ac wrth ei gollwng o fy llaw,
A'm gwaed y nodais hi."

Wrth ddwyn i ben fy nghaniad ferr,
Os chwedl bruddaidd yw!
I gael ei delyn yn ei hol
Bu'r hen delynor fyw.
O dŷ i dŷ chwareuodd hon
Yn fwynach nag erioed,—
Ond am y delyn, darn o raff
Am wddf y lladron roed.


NANT Y MYNYDD.

(Rhangan gan John Thomas, Llanwrtyd, cân gan William Davies).

NANT Y MYNYDD, grow, loew,
Yn ymdroelli tua'r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O na bawn i fel y nant!

Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug,
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo'r grug.

Adar mân y mynydd uchel
Godant yn yr awel iach;
O'r naill drum i'r llall yn 'hedeg—
O na bawn fel 'deryn bach!

Mab y Mynydd ydwyf finnau
Oddi cartref yn gwneyd cân,
Ond mae'm calon yn y mynydd
Efo'r grug a'r adar mân.


Y FENYW FACH A'R BEIBL MAWR.

Mae y gân hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o'r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Boreu trannoeth, derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn, ar y dydd a'r awr grybwylledig. Fe wêl y darllennydd fod cyd- darawiad yr amgylchiad gyda'r desgrifiad o dad yn marw, yn y gân, yn dra hynod. Er mai cyd- ddigwyddiad nodedig ydoedd, ac er fy mod yn credu hynny yn ddisigl ar yr adeg, cymerodd y peth afael dwfn yn fy meddwl, er gwaethaf pob ymdrech wrthorgoelus a feddwn.— J.C.H.

DISGYNNAI'R gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn;
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei chanwyll frwyn,

Wrth wely ei chystuddiol dad,
A'i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu'r wylo iddi' hun,
A darllen y Beibl mawr.

Disgynnai'r gwlaw, a gwynt y nos
Gwynfannai am y dydd,
A llosgi'r oedd y ganwyll frwyn
Uwchben y welw rudd;
A gwylio'r oedd y fenyw fach
Ei thad o awr i awr,
Gan dorri mewn gweddiau taer,
A darllen y Beibl mawr.

Disgynnai'r gwlaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau'r wlad,
A chwsg a ddaeth i esmwythau
Ei chystuddiedig dad;
Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
Nes dwedai'r oleu wawr
Ei fod ef wedi mynd i'r nef,
Yn sŵn yr hen Feibl mawr.

Disgynnai'r gwlaw, ac eto'r gwynt
A rua yn y llwyn,
Uwchben amddifad eneth dlawd,
Tra deil ei chanwyll frwyn:
Ar ol ei thad, ar ol ei mham,
Ei chysur oll yn awr
Yw plygu wrth eu gwely hwy,
A darllen y Beibl mawr.


DAFYDD Y GARREG WEN.

Tyddyn yw y "Carreg- wen," ger Porthmadog. Yno, yn y flwyddyn 1720, y ganwyd Dafydd, i'r hwn y priodolir cyfansoddiaeth y dôn sydd ar ei enw. Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr Hedydd, Difyrwch Gwŷr Cricieth, ac alawon ereill. Yr oedd yn delynor medrus, ac yn gerddor tra theilwng. Ysgrifennodd Syr Walter Scott ychydig benillion ar ei farwolaeth, a chyhoeddwyd hwy yn y Gems of Welsh Melody. Y mae y dôn yn un o'r rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Dywed Syr Walter Scott," The Welsh tradition bears that a Bard on his death-bed, demanded his harp, and played the air to which these verses are adapted, and requested it might be performed at his funeral." Dywedir iddo gyfansoddi Codiad yr Hedydd pan yn dychwelyd gyda ei delyn o Blas y Borth. Gwelai ehedydd llawen yn ymhoewi ar ei adenydd bychain yn yr awyr las uwch ei ben, ac eisteddai yntau wrth faen mawr, sydd eto i'w ganfod, nes gorffennodd y dôn. Bu y cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef ym mynwent ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i'w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn gerfiedig arni, ynghyd a'r geiriau,— BEDD DAVID OWEN, neu DAFYDD Y GARREG WEN.

ROEDD Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
"Ffarwel i ti 'mhriod, fy Ngwen," ebai ef, "
"Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef."
 
Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth
I chwyddo'r tro olaf trwy'i fynwes oer, gaeth;
"Hyd yma'r adduned, anwylyd, ond moes
Im' gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes."
 
Estynnwyd y delyn, yr hon yn ddioed
Ollyngodd alawon na chlywsid erioed;
'Roedd pob tant yn canu'i ffarweliad ei hun,
A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.

"O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn!
Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo'r dôn,
Y dydd y'm gosodir fi'n isel fy mhen,"—
A'i fysedd chwareuent yr "Hen Garreg Wen."


'Roedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd:
Yn sŵn yr hen delyn gogwyddodd ei ben,
Ac angau rodd fywyd i'r "Hen Garreg Wen."


TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON.

Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad âg ef.
Mae y geiriau wedi eu gosod i gerddoriaeth (Pedrawd) gan Dr. Jos. Parry.

YN araf i safle'r gerbydres gerllaw
Y rhodiai fy mam gyda'i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynnodd y braw,
Pan welai y fan oedd raid cychwyn.
Ymwelwodd ei gwefus— ei llygaid droi'n syn,
Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe'i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Canfyddodd fy llygad mewn dagrau'n pruddhau,
Gwir ddelw o'i llygad ei hunan;
Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,
Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.
Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd
Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd rodd gennad i'w hanadl ddweyd,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Nid son am gynllwynion y diafol, a'i fryd,
Er ennill ieuenctid i'w afael,—
Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,
Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;

Dymunai'n ddiameu bob lles ar fy nhaith,
Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion:
Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,
Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;
Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,
Y nesaf dro'i oll yn ddieffaith;
Do, clywais hyawdledd— er teimlo ei rym,
Mewn effaith ni lŷn ei rybuddion;
Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr
Yn chware â chreigiau peryglon;
O'm hamgylch mae dynion a wawdiant Dduw Iôr,
Wyf finnau ddiferyn o'r eigion;
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffôl,
Ond tra ar y dibyn echryslon
Atelir fi yno gan lais o fy ol,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef
Y tanllyd lyth'rennau "NA PHECHA;
Pe rhuai taranau pob oes yn un llef,—
"Cyfreithiau dy Dduw na throsedda; "
Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
I'm hatal ar ffordd anuwiolion,
Anhraethol rymusach yw awgrym fy mam,—
"Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."


Y BABAN DIWRNOD OED.

Y mae un hanesyn nodedig ynglŷn â thiriad y Ffrancod. Yn Aber Daugleddyf, yn y flwyddyn 1797, pan oedd y gelynion yn ymwasgaru yn wahanol finteioedd, i'r diben o ladd, yspeilio, a lladrata trigolion diamddiffyn glan y môr, yr oedd lliaws o wragedd a phlant yn ffoi am eu bywydau. Yr oedd y cleifion, y rhai methiantus gan henaint, a phawb ag oedd analluog i ddianc, yn cael eu cario ymaith mewn troliau a cherbydau. Nid ychydig o'r cyfryw a gymerwyd o'u gwelyau yn y dull hwn, ynghanol cystuddiau a salwch. Achoswyd ugeiniau o gweigion yn y fan. Mewn un tŷ, ag sydd yn sefyll hyd heddyw, yr oedd gwraig barchus wedi ei dwyn i'w gwely ar enedigaeth mab. Yr oedd y Ffrancod yn lled agos i'r annedd, a cheisiai y gŵr ei pherswadio i ddianc ymaith; ond yr oedd hi yn rhy wan. Penderfynodd aros yn ei gwely, ac ymddiried ei bywyd ei hun a'i baban bychan, diniwed, yn nodded yr Hwn sydd yn gofalu am aderyn y tô. Rhuthrodd amryw ddyhirod Ffrengig i'r ystafell unig lle y gorweddai, codai hithau ei babi newydd eni yn ei breichiau. Y Ffrancod pan welsant y fath apeliad effeithiol, a adawsant yr ystafell yn ddioed. Faint bynnag o greulonderau a gyflawnwyd yr adeg honno gan y gelynion, y mae yr amgylchiad hwn yn dadlu yn gryf trostynt. Y mae eu hymddygiad, modd bynnag, ar yr achlysur hwn yn berffaith gydweddol â nodweddiad naturiol pobl Ffrainc. Y gerddoriaeth gan Eryr Eryri.

ROEDD sŵn magnelau yn y graig,
A sŵn tabyrddau'n curo,
A chlywid trwst ofnadwy traed
Y Ffrancod wedi glanio,
A'r waedd i'r frwydr chwyddai'n uwch,
Gan alw'r dewr i daro;
Terfysgwyd y glannau
Gan rym y taranau
A ruent ar làn y môr.

I dai'r tlodion rhuthrai gwŷr,
Gan ladd y diamddiffyn,
A fflamiai palas hardd gerllaw
Gan dân o longau'r gelyn:

Fe ffoai mamau gyda'u plant,
A chodai'r claf mewn dychryn;
Ond 'roedd yno ddynes,
A babi'n ei mynwes,
Rhy waelaidd a gwan i ffoi.

Ei gŵr erfyniai wrth ei phen,—
"O cwyd! O cwyd! fy Eurfron!
Mae'r march a'r cerbyd wrth y drws,
Tyrd iddo ar dy union!
Olwynwn ymaith fel y gwynt,—
Anwylyd, clyw'r ergydion!
O Dduw, a ddaeth diwedd
Fy mab, fy etifedd?
Fy mhlentyn a anwyd ddoe!"

Atebai'r wraig yn llesg ei llais,—
"Fy mhriod, clyw fy ngweddi!
O gad fi ar y gwely hwn,
Ond gad y baban imi!
Dos at y rheng i gadw'th wlad,
Fe gadwaf finnau'r babi."
Y plentyn a hunai,
A'r tad a'i cusanai,
Ac yna fe ffodd i'r rheng.

'Roedd sŵn cleddyfau yn nesau,
Gwawchiadau ac ysgrechian;
A'r wraig weddiai'n daer ar Dduw,
Gan edrych ar ei baban;
Ac yna holltwyd drws y tŷ
Gan filwyr oddi allan!
A hithau mewn dychryn
A wasgodd ei phlentyn
Yn nes at ei chalon wan.


Ar glicied drws ei 'stafell wâg
Hi welai fysedd llofrudd,
Ac ar y foment rhuthrodd haid
Yn sŵn rhegfeydd eu gilydd;
A syllent fel gwylltfilod erch
O amgylch ei gobennydd;
A'r wraig wàn yn crynnu,
A ddaliodd i fyny,
Ei babi bach diwrnod oed!

Atebwyd gweddi'r ffyddiog fam,
A hi a'i mab achubwyd;
Mae hi yn awr ym mynwent werdd
Yr eglwys lle'i priodwyd;
Ac erbyn heddyw mae y mab
Yn hen weinidog penllwyd,
Yn estyn ei freichiau
I ddangos y Meichiau,—
Y baban a anwyd i ni.


CLADDASOM DI, ELEN.

CLADDASOM di, Elen! ac wrth roi dy ben
I orwedd lle fory down ni,
Diangodd ochenaid i fyny i'r nen,
A deigryn i lawr atat ti.

Claddasom di, Elen! a chauwyd dy fedd,
Pe hefyd b'ai bosibl ei gau;
Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd,
Ac ni fedr angau nacau.

Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu'r gro
Ar gauad yr arch dy ddeffroi;
Ond utgorn a gân, ac o'r dywell fro,
Yn wen a dihalog y doi.


Ai tywell" ddywedasom? Nid tywyll i ti
Fu pyrth tragwyddoldeb a hedd,
Dy lamp oedd wenoleu;— nid ti, ond nyni,
Sy'n dwedyd mai du ydyw'r bedd.

I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben,—
Canfyddem di'n mhell oddi draw
Ar furiau Caersalem, a'th wisg yn glaer— wen,
Yn gwenu gan estyn dy law,—

I'n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw;
A thybiem ein bod wedi dod
I gyffwrdd â'th law, ond deffroisom yn fyw,
Ymhell oddiwrth gyrraedd y nôd.

Claddasom di, Elen! ond rhyngot a ni
Nis erys gagendor yn hir;
O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi,
Claddasom ein hunain yn wir.

Na, na, nis ffarweliwn, mae'r Iesu yn fyw,
I'n dwyn ato'i hun a thydi;
Mae'r ffordd yn agored o'r ddaear at Dduw,
A'r nef mewn addewid i ni.


Y GWELY O GYMRU.

NGHANOL fy ngwely 'rwyf fi,
Ynghanol dwfn eigion fy ngwely,
Yn methu yn glir cael fy ngwynt,
Ac heb fod yn ddeffro na'n cysgu.
 
'Rwy'n chwyrnu nes deffro fy hun,
':Rwy'n chwyrnu fy hunan i huno!
'Rwy'n deffro ynghanol fy nghwsg,
Ac wedyn yn cysgu wrth ddeffro!


Mewn gwely a gefais gan mam,
Dychmygaf fy hunan yn cysgu;
Ond wedyn fe drof ar fy nghefn,
Ac yna mi fyddaf yng Nghymru.

Ar fawn dolydd Ceiriog mae'm pen,
A'm traed a gyrhaeddant Lanarmon;
Ac un o bob ochr im' mae
Moel Sarffle, a Phen Ceryg Gwynion!

Petruso fel yna 'rwyf fi
Pwy ydwyf, beth ydwyf yr awrhon?—P
Pa un wyf, ai Ceiriog y bardd,
Ai ynte yr hen Geiriog afon?

Ymddyddan a murmur mae hi
Wrth redeg hyd raian ei glannau;
Mae'r afon yn siarad trwy'i hûn,
A siarad trwy f' hûn yr wyf finnau.

Mae'r afon yn canu am fôr,
Ac wedi d'od iddo'n tawelu;
Ond nid fel yr afon 'rwyf fi,—
'Rwy'n dechreu fy nghân yn fy ngwely.

Mi wn beth gydnebydd fy mam
Im' wneuthur fel diolch am dano,
Sef plygu fy nglin at fy Nuw,
Wrth fyned a chodi o hono.

Ei chofio mewn cariad bob nos,
Y dodaf fy mhen i orphwyso—
Ei gadw'n ddihalog a phur,
A myned i'r nefoedd o hono.


Y TREN.

[Y gerddoriaeth yn " Gems" Owain Alaw, ac hefyd i T.T.B.B. gan Ioan Williams, A.R.C.M.]

ROL lapio'm traed mewn hugan lwyd,
Fel pawb oedd yn y trên;
Ac ysgwyd llaw âg Wmffra Llwyd
A chanu'n iach i Jane,—
Chwibanodd y peiriant yn gryf ac yn groch,
Fel gwichiad soniarus pum ugain o foch;
"All right," meddai rhywun, a chanwyd y gloch.

Hergwd a phwff,
Ac mewn hanner chwiff,
Ysgytiad a chwff,
Piff, piff, piff-a-piff-piff,
Hwlti heltar skiltar skeltar,
A ffwrdd a ni
Fel rhai ar badellau,
Neu rês o degellau,—
Linc lonc wrth gynffon ci.
O danom mae teiau,
A llwyn o simneiau
Yn agor eu safnau 'n sỳn;
Ond wele ni'n sydyn,
Heb neb yn anhydyn,
Mewn hanner munudyn
Tros ddyffryn a bryn;
Trwy y twnel— tros y pynt
Fel y gwynt:
Bwrw drwyddi— 'mlaen a hi
Yn gynt, gynt, gynt,
Pellach, pellach
Cipir ni
Strim stram strellach:
Ha ha! hi!
Dacw efail, dacw shiop,
Dyma Gymru,— stop, stop, stop!


TELYN CYMRU.

MESUR," Pant corlan yr wyn."

OS parod y'ch yn ddiwahan
I esgusodi Cymro glân,
Fe ganaf i chwi bwt o gân
A wnes i Delyn Cymru:
Y delyn hon, diaddurn iawn
Ei charfan main a'i thannau rhawn,
Ond mae y deircainc eto'n llawn,
Ac ysbryd dewr ein tadau ni
Yn llercian ar ei thannau hi
Henafol Delyn Cymru.

Myfi fe allai sydd ar fai—
Mae pawb yn feius fwy neu lai—
Ond gwared fi rhag rhagfarn rhai
Yn erbyn Telyn Cymru:
Mae ambell un yn hoffi sŵn
Y claronet neu'r bass basŵn,
Ac ambell Gadi fel babŵn,
Wrandawai byth ar hen drambŵn;
Ond waeth genny' glywed band o gŵn,
Os na chaf Delyn Cymru.

Yn sŵn y bibgod gras ei nâd
Fe gofia'r Scotsman am ei wlad,
A naid ei galon gan goffâd
O'i fam, o'i dad, a'i deulu;
Gadewch i'r Niger fynd o'i go,
A dawnsio hefyd os mynn o,—
Wrth rygnu ar ei hoff banjo:
Oes neb mor ddwbwl ddwl na ad
I Gymro hefyd hoff o'i wlad
Gael tôn ar Delyn Cymru.

'Nawr cofiwch hyn bob mab a mun,—
Fel dŵr y nant yn gloewi'i hun
Mewn murmur— gerdd, 'r un fath mae dyn
Mewn miwsig yn ymburo:

Mewn pur gerddoriaeth chwyddawl gref
Dyrchefir ei ysbrydoedd ef
Nes teimla bron wrth byrth y nef,
Ond dyn digerdd, difywyd, llwfr,
Mae fel y distaw farw ddwfr,
I'w ochel rhag mynd ato.


CYMANFA MASNACH RYDD.
BREUDDWYD YN AMSER COBDEN.

BREUDDWYDIAIS weled llongau,
Yn rhoi 'u banerau i lawr;
Yn casglu at eu gilydd,
Ar fôr y Werydd mawr:
Yr haul a'r lleuad safent
Yn wynion uwch y byd,
Tra gwelwn longau'r ddaear
Yn casglu, casglu'n nghyd:
Y lleuad ni fachludai,
Na'r haul am ddeugain nydd,
Tra'r llongau yn cynnal ar ganol y môr
Gymanfa Masnach Rydd.

O'r Gogledd, o'r Gorllewin,
O'r Dwyrain, ac o'r De,—
Fel adar mudol deuent
Yn union i'r un lle.
Ac ymysg myrdd o longau
Canfyddwn gyda gwên,
Rai Cymru Newydd Ddeau,
Yn cwrdd rhai Cymru hen.


Parhaent i ddod yn araf
O bedwar bann y byd,
Am dri o ddyddiau hafaidd
Cyn dyfod oll ynghyd;
Hen lestri mawr Trafalgar
A safent ar y blaen;
O'u hol 'roedd cychod India,
A llongau Ffrainc a 'Sbaen.

'Roedd bwa blaen y llongau
Yn cario delwau gwiw,
Fel brenhinesau hawddgar,
Neu fôr— wyryfon byw;
Pob un yn gwenu'n siriol,
Llawenydd mynwes lawn,
Gan ddawnsio ar y tonnau,
A chrymu'n serchus iawn.

Ar hyn mi glywn daran,
Ond taran fiwsig oedd!
Sef llais mil myrdd o longwyr
Yn rhoddi llawen floedd.
Pob iaith gymysgodd Babel,
Pob tafod ddynol sydd
Yn cario'r meddwl allan
Gydganent "Fasnach Rydd!"

Ar hyn mi welwn gastell
Yn codi yn y dŵr'
A Nefydd Fawr Naf Neifion
Oedd ar ei uchaf dŵr.
Ymgrymai'r haul i wrando,
A'r lleuad syllai' lawr:—
"Hawddamor, longau'r moroedd,
Ysgydwch ddwylaw'n awr."


"Fel mae y De yn agor
Yn rhydd i haul y wawr,
Agorwch chwithau ddorau
Eich holl borthladdoedd mawr.
Gwaith uffern yw carcharu
Pelydrau gwên yr Iôr—
Gadewch i haul Rhydd- fasnach
Gyfodi ar y môr!"


Bu bedwar dydd ar hugain
Yn annerch llongau'r byd:
Pan dawodd— myrdd o hwyliau
Gurasant ddwylaw 'nghyd.
Daeth awel tros y tonnau
O bedwar pwynt y nef,
I ruo cymeradwyaeth
I'r hyn lefarai ef.

"Duw gadwo orsedd Prydain,'
Medd llais Prydeinig cry';
"Duw gadwo ein brenhinoedd,"
Medd myrddiwn o bob tu.
Daeth côr o fôr— wyryfon
Gan gipio'r anthem rydd,
A chanent fel Syreniaid:
"Dduw, cadw Fasnach Rydd!"

Mewn sŵn cerddoriaeth nefol,
Goruwch cyneddfau dyn,
Gwasgarodd llongau'r moroedd
Bob un i'w gwlad ei hun.


A sŵn "Hwre!" y llongwyr
Yn oïan llawen floedd,
Ddeffroes fi, a gofynnais,—
O Dduw, ai breuddwyd oedd?—
Y lleuad giliodd ymaith,
A gwelwn wawr y dydd;
Ond nid oedd y llongau ar ganol y môr,
Ac nid oedd Masnach Rydd!
 


LISI FLUELIN.

MAE Lisi Fluelin yn cael ei phen blwyddyn,
A phlant Mrs. Parry a phlant Mrs. Grey
Am gynnal y diwrnod yn ol braint a defod,
Trwy fwyta cacenau, a chyd yfed tê.

Cydgan y plant—
Mae Lisi bach yn deirblwydd oed,
Yn deirblwydd oed, yn deirblwydd oed:
Sirioli mae'r tân
Wrth glywed y gân,
A dawnsio mae'r gadair a'r stôl dri throed,
Oblegid fod Lisi'n deirblwydd oed.

Mae un am gael chwaneg o dôst bara canrheg,
Gan gyrraedd am dano heb rodres na rhith:
Ond mae y mwyafrif yn edrych o ddifrif
Ar gwpan y siwgwr, a'r plât bara brith.

Mae pob un yn rhoddi rhyw anrheg i Lisi,
Rhyw wydryn, neu gwpan, neu ddoli fach bren;
Ac Alis bach Owen, a'i hwyneb yn llawen,
Yn dod a gwniadur a rîl ede wen.


Mae Ifan bach Parry, yn llawn o ddireidi,
Yn dyfod a phictiwr o'i waith ef ei hun:
Ond wrth iddo redeg ar frys efo'r anrheg,
Ca'dd godwm anffodus a thorrodd y llun.

Mae Robert brawd Ifan, ar ochr y pentan
Yn rhoi cregyn cocos dan draed y gath ddu:
Mae "Gelert a'r sospan ynglŷn wrth ei gynffon,
Yn mynd am ei einioes gan synnu beth sy'.

Mae'n dda gennyf ganfod y plant yn cael diwrnod
I chwareu'n blith— dra— fflith yn un a chytûn:
A chadw penblwyddyn Miss Lisi Fluelin,
Er mwyn yr hen amser bum blentyn fy hun.
 
Mae Lisi bach yn deirblwydd oed,
Yn deirblwydd oed, yn deirblwydd oed:
Sirioli mae'r tân
Wrth glywed y gân,
A dawnsio mae'r gadair a'r stôl dri throed,
Oblegid fod Lisi'n deirblwydd oed.


YN YNYS MON FE SAFAI GWR.

HEN ALAW GYMREIG,—"Ymdaith y Mwnc."

YN Ynys Môn fe safai gŵr
Ym min y nos ar fin y traeth:
Fe welai long draw ar y dŵr,
A'i hannerch ar yr eigion wnaeth:—
Dos a gwel fy machgen gwiw,
Dos a sibrwd yn ei glyw
Yn iaith ddinam
Ei anwyl fam,
A dywed fod ei dad yn fyw.


Ymwêl gyda'm plentyn, a dwed fod ei dad
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli'.
O! chwydder dy hwyliau gan chwäon o'th wlad,
A: thyner bo'r awel lle bynnag 'r ei di!
Dôs tros y donn,
Cei henffych well,
Dwed yno'n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

Fod ywen ddu yn hardd uwchben
Y garreg lâs lle cwsg ei fam,
Ac fod ei dad a'i farf yn wen,
Yn grwm ei warr, a byrr ei gam;
Fod y pistyll eto'n gry',
Fod yr afon fel y bu,
Ar wely glân
O raian mân,
Yn sisial tôn wrth ddrws y tŷ.

Fod ganddo chwaer ar ddelw'i fam,
Sydd yn parhau i'w garu ef,
Sy'n llawenhau wrth feddwl am
Gael eto gwrdd yn nef y nef.
Fod ei wlad heb weld ei hail
Am glysni têg a glesni dail;
A dal wrth ben
Ei Gymru wen
Mae awel nef a melyn hau!.

Ymwêl gyda'm plentyn, a dwed fod ei dad
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli'.
O! chwydder dy hwyliau gan chwäon o'th wlad,
A: thyner bo'r awel lle bynnag 'r ei di!

Dôs tros y donn,
Cei henffych well,
Dwed yno'n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli'r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw. Q


O! NA BAWN YN SEREN.

[Y Gerddoriaeth i S.A.B. gan Dr. Jos. Parry.]

O NA bawn yn seren
Ar ael y ffurfafen,
Yn dilyn y lloer o amgylch y byd,
Fry yn seren fach wen, yn seren fach wen,
Ar faesydd y nen
Yn bod ac yn byw;
Yn hofran uwch ben
Rhwng dynion a Duw, o hyd!

Neu'n un o'r planedau,
Ac imi leuadau,
I'm dilyn trwy'r nef yng ngolwg y byd,
Neu'n blaned fach wen, yn blaned fach wen.
Neu'n un o'r comedau:
Yn cario negesau
O haul pell i haul, o fyd pell i fyd,
Neu'n gomed fawr wen, yn gomed fawr wen.

Mi ddwedwn am ddyfnder,
A hŷd, lled ac uchter,
Eangder y nef, a harddwch y byd.
O! yn seren fach wen, yn seren fach wen,
Ar faesydd y nen,
Yn bod ac yn byw;
Yn hofran uwch ben
Rhwng dynion a Duw, o hyd!


CANU'R WYF GAN CHWARE'R CRWTH.

ALAW," Bardd yn ei Awen." Hefyd, Rhangan gan Alaw Ddu.

CANU'R wyf gan chware'r crwth
I'r ffynnon fach sydd ger fy mwth,
Mysg glaswellt, brwyn, a dail:
A gwylio'r dafnau'n dod ymlaen
Tros ymyl y mwsoglyd faen,
I chware yn yr haul:
Er fod helyg ar bob tu,
Ro'f fi mo'm crwth i hongian fry,
Tra rhedo dŵr yn bur ac iach
O fin fy ffynnon fach.

Llifwch allan, ddyfroedd byw,
I gadw lili'r dŵr yn fyw,
A'i blodau'n wyn o hyd:
A chennych chwi, O! ddafnau byw,
Disgleiried cwpan dynolryw,
Ym mhedwar bann y byd.
Ddirwest anwyl, tŷf i fri,
Hardd lili wen y dŵr wyt ti,
A cher pob bwth yng Nghymru wen,
O! cyfod di dy ben.
 


Y DDAFAD BENLLWYD.

HEN DDAMEG GYMREIG.

Ymysg ryw ddeugain mil
O ddefaid bychain penwyn,
'Roedd dafad benllwyd fach
Yn byw ar Fynydd Berwyn;
Ac ni fu dafad fach erioed
Mor hir ei phen a chwim ei throed.


Fel ebol tros bridd' wâdd,
Neu gath tros ben llygoden,
Hi neidiai tros y gwrych,
Ac yn ei hol drachefen:
Gorweddai' lawr gan gnoi ei chil,
Yn feistres ar y deugain mil.

Ar ben y graig gerllaw
'Roedd blewyn glas yn tyfu;
Ac i ddaneddau'r graig
Yr adar ddoent i nythu—
Ac ebe'r ddafad,— "Gwaith go gas
Yw dringo atat, flewyn glas."

"Mae'r defaid, flewyn glas,
Yn bwyta grug ac eithin;
A thithau wrth eu pen
Yn gwenu ac yn chwerthin:
Mae yma ddeugain mil a'th bawr,
Os doi di dipyn bach i lawr."

Ond ni ddoi'r blewyn glas
I waered oddiyno,
A'r ddafad benllwyd aeth
I ddringo tuag ato;
A dringo bu am bedair awr,
I fyny'r hen ddaneddau mawr.

Cyrhaeddodd ben ei thaith,
Ac fel pe bai mewn newyn,
Cyn cnoi ei chîl un waith
Bwytaodd ef bob blewyn:
A theimlai 'i hun yn mynd yn fras
Pan yn mwynhau y blewyn glas.

Bu byw am bedair blynedd
Yn dew a thynn ei chroen;

Ond ar y creigiog ddannedd
Hi gollodd bedwar oen;
A hithau gwympodd tros y trwyn,
I'r dibyn mawr ar ol yr ŵyn.

'Run fath a'r ddafad benllwyd
Aeth llawer dyn yn fras,
Wrth gripian tua'r dafarn
Lle tŷf y blewyn glas;
A'r diwedd oedd i'w blant a'i wraig,
Ac ef ei hun fynd tros y graig!


A DDWEDAIST TI FOD CYMRU 'N DLAWD

A ddwedaist ti fod Cymru'n dlawd,
Am fod ei llannau'n llonydd,
A thithau 'th hun yn cloddio, frawd,
Ym mryniau aur Meirionnydd?
Mae mwy o gyfoeth tan dy droed,
Na ddaeth i galon dyn erioed,
Anwiredd mwy erioed ni wnawd—
Na ddywed byth fod Cymru'n dlawd.

I ble y trown o fewn y tir,
Nas gwelir mŵn ei meini
Nad yw'r meteloedd o'u gwelyâu
Yn edrych am oleuni,
Nad yw y prês a'r arian faen,
Yn galw ar bob Cymro'n mlaen,
I roi ei ffydd a threio 'i ffawd
Yn holl oludoedd "Cymru dlawd?"

Estyna'th fys pan glywot hyn,
Yn cael ei ddweyd am Gymru,
At unrhyw graig, at unrhyw fryn,
Fo'n edrych ar i fyny.

Mae'r nentydd oll wrth fynd i'r aig
A cherrig ateb ym mhob craig,
Yn dwedyd "Nac yw" gyda gwawd—
Na ddywed byth fod Cymru'n dlawd.


PA LE MAE'R HEN GYMRY?

Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymry hygoel, ond gan yr holl deyrnas, fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o'r America ar gyffiniau yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandans oeddynt. Y mae yr hanes am JOHN EVANS o'r Waunfawr, yn Arfon, yn hynod effeithiol. Cenadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sêl grefyddol ydoedd ef. Ymgymerodd â'r gorchwyl mawr o fynd i eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd John Evans yr afon Missouri am 1,600 o filltiroedd, ond tarawyd ef â'r dwymyn, a bu farw, ymhell o'i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig. Y mae pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn, gan mwyaf, wedi cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog ap Owen Gwynedd. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod darawiadol. "The Ash Grove" gelwir y dôn hon yn Saesneg, a defnyddiwyd hi gyda'r geiriau "Cease thy funning," yn y Beggar's Opera, gan Gay, yn 1728. Bu y gân hon yn hynod o boblogaidd unwaith. Bu Miss Pollard yn canu llawer arni yng ngwahanol gyngherddau prif drefydd y deyrnas yn 1823-4. Fe gân yr alaw hon yn brudd ac yn llawen, fel y mynno'r canwr.

Alaw,—Llwyn Onn

Mae 'r haul wedi machlud, a'r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri,
I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.
Ymdrochai y sêr yn y tonnau tryloewon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;
"Pa le mae fy mrodyr?" gofynnai i'r afon
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"


Fe ruai bwystfilod, a'r nos wnâi dywyllu,
Tra 'r dwfr yn ei wyneb a'r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un.
Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"


MAES CROGEN BORE TRANNOETH.

Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae tŷ fferm mawr, o'r enw Crogen Iddon. Ac ar y llechwedd, yr ochr arall i'r afon, y mae Castell Crogen, yr hwn a adwaenir yn awr dan yr enw Castell y Waun. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owain Gwynedd, a milwyr Harri yr ail. Yr oedd Harri wedi ei orfodi i ddychwelyd i'w wlad ei hun ddwywaith o'r blaen, ond i ymosod drachefn ar Gymru fe grynhodd ei holl rym milwrol o Ffrainc a Flanders, yn gystal ag o holl wledydd Lloegr. Yr oedd ganddo berffaith hyder o barth llwyddiant y rhyfelgyrch hwn. Yr oedd ei fyddin yn awchus am fuddugoliaeth, a sychedig am ymddial hyd yr eithaf. Arweiniwyd hwy gan Harri i gymydogaeth Croesoswallt, er mwyn ymosod yn gyntaf ar diriogaethau Owain Gwynedd, y galluocaf o'r tywysogion Cymreig. Yn y cyfamser, nid oedd y Cymry yn segur, ond ymunasant i'r frwydr y tro hwn yn well nag ond odid un amser. Penderfynasant gyfarfod oll yng Nghaer Drewyn. Llifodd cadernid Gwynedd yno o dan Owain. Daeth Owain Cyfeiliog, Madog ap Meredydd, a gwŷr Powys, sef Sir Amwythig, i'r un lle. Dygodd dau fab Madog ap Idner wŷr y wlad, a orwedd rhwng afon Gwy a'r Hafren. Gwersyllodd Harri o dipyn i beth yng nghoed Eflo, a glannau afon Ceiriog. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin— ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i. O leiaf, dyna y traddodiad. Mae haneswyr yn gyffredinol yn cyfleu y frwydr fu rhyngddynt yn ymyl Crogen. Gweler "Cofion Dyfrdwy," gan Meudwy Môn, yn y "Traethodydd" am 1855, tudalen 366. Gorfu i Harri droi yn ol y drydedd waith, ar ol ymladdfa Crogen, ond i'r "hin afrywiog" y priodolir methiant y rhyfelawd hwn gan hanesiaeth ein cyfeillion Seisnig. Dywed yr Atheneum am y dôn hon ei bod yn tra rhagori ar y dôn Wyddelig, "The Last Rose of Summer."— J.C.H.

Alaw,—Y Fwyalchen

Y frwydr aeth trosodd o'r diwedd,
A baeddwyd y gelyn yn llwyr;
A'r sêr edrychasant ar Wynedd,
A'r bore ddilynodd yr hwyr.
'R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
Am sefyll tros Wynedd yn bur—
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
I chwilio am feibion a gwŷr.

Fe ganai mwyalchen er hynny,
Mewn derwen ar lannerch y gad;
Tra 'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu,
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.
Gorweddai gŵr ieuanc yn welw,
Fe drengodd bachgennyn gerllaw;
Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
A'i gleddyf yn fyw yn ei law.

Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;
Agorwyd y ffos ac fe 'i cauwyd,
Ond canai 'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn fyd yr aderyn nas gŵyr
Am alar y byw am y meirw,
Y bore ddilynodd yr hwyr.


TROS Y GARREG.

Pan y bydd llanciau a merched Sir Feirionnydd wedi rhoi eu bryd ar fynd i wasanaethu i Loegr, y cam cyntaf a gymer llawer ohonynt wrth "hel i lawr" ydyw, ceisio llefydd rhwng Bwlch Llandrillo a Chlawdd Offa, fel y gallont gael crap o Saesneg ar y gororau. Soniant yn fynych mewn un cwmwd am fynd am dro i sir Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y gân hon gan lodes oedd yn mynd âg arian i helpu ei mam dalu y rhent, am y tŷ bychan, lle y ganwyd ac y bu farw ei thad. Yr oedd y pwrs yn cynnwys deuswllt ar hugain i helpu ei mam, er nad oedd cyflog blynyddol yr eneth ond hynny.

Alaw,—Tros y Garreg

Fe ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf;
Tros y mynydd
I Feirionnydd,
Tros y Garreg acw 'r af.
Ar y mynydd wele hi,
Draw yn pwyntio ataf fi;
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.

Fe gaf chware ar y ddôl,
Fe gaf eistedd ar y 'stôl,
Wrth y pentan,
Diddan, diddan,
Tros y Garreg af yn ôl.
Pan ddaw 'r wythnos yn yr haf,
O fel codaf ac yr af,
Fyny 'r bryn o gam i gam,
Gyda 'm troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.


LLONGAU MADOG.

ALAW,— "Difyrwch y Brenin" (The King's Delight).

Wele'n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a'i dal o don i don.

Sêr y nos a haul y dydd,
O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;
Codai corwynt yn y De,
A chodai 'r tonnau hyd y ne;
Aeth y llongau ar eu hynt,
I grwydro 'r môr ym mraich y gwynt;
Dodwyd hwy ar dramor draeth,
I fyw a bod er gwell er gwaeth.

Wele'n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
'R ôl blwydd o daith yn bloeddio "Tir!"
Canent newydd gân ynghyd,
Ar newydd draeth y newydd fyd—
Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno 'i hun.


BREUDDWYD Y BARDD

Alaw,—Breuddwyd y Bardd

Eisteddai hen fardd yn ei gadair,
Yn wargrwm a'i wallt fel y gwlân;
A'i feddwl a hedodd i'r amser
Y gwelid ei blant wrth y tân.

Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd
Yn weddw ac unig heb neb i’w wahardd-
Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.

Fe welodd ei hun yn priodi,
Genethig anwylaf y wlad;
Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu 'n ei alw fe 'n "dad!"
Ni welodd ef gladdu ei briod a'i deulu,
Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd—
Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.

Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r aeth trwyddynt,
Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

Er na bu un linell mewn argraff
O waith y breuddwydiwr erioed;
Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,
A dynion yn rhodio fel coed,
A bechgyn yn darllen cynhyrchion ei awen,
Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

BUGEILIO'R GWENITH GWYN

Y mae y gair bugeilio yn awr yn gyfyngedig i fugeilio defaid, ond y mae ystyr fwy gyffredinol wedi bod iddo unwaith. Bugeilio'r gwenith rhag anifeiliaid y byddai yr hen Gymry. Ond y mae gwasanaeth y cloddiau a'r gwrychoedd wedi gyrru y gair i ystyr gyfyngach.

ALAW, "Bugeilio'r Gwenith Gwyn" (Watching the Wheat).

Eisteddai merch ar gamfa'r cae,
A'i phen gan flodau 'n dryfrith,
I gadw 'r adar bach ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith.
Rho'i ganiatâd i'r deryn to,
A'r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
A dyna deimlad plentyn.

Pan welot tithau eneth wan,
Yn gofyn am dy gymorth:
Wrth gil y drws, a glywi di,
Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
Gogwydda glust i'w gweddi;
Yr oedd yr haul, a'r gwlith, a'r gwlaw,
Yn meddwl am roi iddi.

Os wyt am fedi gwenith gwyn,
Gofala beth a heui;
A wyt ti'n hau y dyddiau hyn
Yr hyn ddymunet fedi?
Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
A'r heulwen yn haelionus;
Wel dos i hau ar dir y tlawd,
A chofia'th frawd anghenus.

YR ENETH DDALL

Alaw, Toriad y Dydd (The Dawn of Day)

Mae llawer un yn cofio
Yr eneth fechan ddall;
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
Mor brydferth, ac mor gall;
Fe gerddodd am flynyddau
I ysgol Dewi Sant,
Ar hyd y ffordd o gam i gam,
Yn nwylaw rhai o'r plant.
'R oedd gofal pawb am dani,
A phawb yn hoffi'r gwaith
O helpu'r eneth fach ymlaen,
Trwy holl drofeydd y daith;
Siaradai'r plant am gaeau,
A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau tan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi.

Fe glywai felus fiwsig
Yr adar yn y dail;
Fe deimlai ar ei gwyneb bach
Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau'r ddaear;
Ond nis adwaenai'r fun
Mo wên yr haul, a mwy na'r oll
Mo wên ei mam ei hun.
Mae'r plentyn wedi marw,—
Ar wely angau prudd
Fe wenodd ar ei mam gan ddweyd,
"Mi welaf doriad dydd!"
Ehedodd mewn goleuni
Oddiwrth ei phoen a'i phall,
A gweled golygfeydd y nef
Y mae yr Eneth Ddall!

CODIAD YR HEDYDD

Nid yw yr alaw hon o ran oed tros ddau can mlwydd. Dywedir iddi gael ei chyfansoddi gan David Owen, awdwr "Dafydd y Garreg Wen." Gresyn meddwl fod llanc fel efe wedi marw yn naw ar hugain oed! Pe cawsai fywyd ac iechyd, pa sawl alaw fuasai ar ei enw heddyw? Gwnaeth Dafydd y dôn fwyaf bruddglwyfus a'r dôn fwyaf ysgafn- galon sydd gennym yng Nghymru.

Dywedir fod D. Owen wedi mynd i noson— lawen i Blas y Borth, Porthmadog, ac yn ol braint a defod cwmniau dyddan yr hen amseroedd, arosodd y telynor yn rhialtwch yr arwest tan ddau neu dri o'r gloch yn y bore. Daeth dydd ar warthaf Dafydd a'i delyn pan ar y ffordd adref. Eisteddodd y llanc ar y garreg sydd eto yn yr ardal i sylwi ar ehedydd uwch ei ben yn taro cyweirnod ei galon ar doriad dydd. Dyna'r fan a'r pryd y cyfansoddwyd y dôn "Codiad yr Hedydd."

Alaw,—Codiad yr Hedydd

Clywch, clywch foreuol glod,
O fwyned yw'r defnynnau 'n dod
O wynfa lân i lawr.
Ai mân ddefnynnau cân
Aneirif lu ryw dyrfa lân
Ddiangodd gyda'r wawr?
Mud yw'r awel ar y waun,
Brig y grug yn esmwyth gryn;
Gwrando mae yr aber gain,
Yn y brwyn ymguddia 'i hun.
Mor nefol swynol ydyw'r sain
Sy 'n dod i ddeffro dyn.

Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,
O le i le ar aden lwyd,
Yn uwch, yn uwch o hyd;
Cân, cân dy ddernyn cu,
A dos yn nes at lawen lu
Adawodd boen y byd,—
Canu mae a'r byd a glyw,
Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ôl i fröydd ne:
Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw,
I fyny fel efe.

DIFYRRWCH GWYR HARLECH

Alaw,—Difyrrwch Gwŷr Harlech (The March of the Men of Harlech)

Wele goelcerth wen yn fflamio,
A thafodau tân yn bloeddio,
Ar i'r dewrion ddod i daro
Unwaith eto 'n un;
Gan fanllefau'r tywysogion,
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
Craig ar graig a gryn.
Cwympa llawer llywydd,
Arfon byth ni orfudd;
Cyrff y gelyn wrth y cant
Orffwysant yn y ffosydd;
Yng ngoleuni'r goelcerth acw,
Tros wefusau Cymro 'n marw,
Annibyniaeth sydd yn galw
Am ei dewraf dyn.

Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid
Harlech! Harlech; cwyd i'w herlid;
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid,
Yn rhoi nerth i ni;
Wele Gymru a'i byddinoedd
Yn ymdywallt o'r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaiadrau dyfroedd
Llamant fel y lli.
Llwyddiant i'n lluyddion,
Rwystro bâr yr estron,
Gwybod yn ei galon gaiff
Fel bratha cleddyf Brython.
Cledd yn erbyn cledd a chwery,
Dur yn erbyn dur a dery,
Wele faner Gwalia i fyny,
Rhyddid aiff a hi.


'DOES DIM OND EISIEU DECHREU

Alaw,—Y Gadlys

'Does dim ond eisieu dechreu,
Mae dechreu 'n hanner gwaith,
I ddysgu pob gwybodau
A deall unrhyw iaith.
Nac ofnwch anhawsderau,
'Does un gelfyddyd dan y rhod
Nad all y meddwl diwyd ddod,
I'w deall wedi dechreu.

"Fe hoffwn innau sengyd
Ar ben y Wyddfa draw,"
Medd hen fonheddwr gwanllyd
A phastwn yn ei law.
Cychwynnodd yn y boreu,
Ac erbyn hanner dydd yr oedd
Ar ben y mynydd yn rhoi bloedd,
"'Doedd dim ond eisieu dechreu."

I fesur y planedau
Sy'n hongian er erioed;
I ddarllen tudalennau
Y ddaear tan dy droed—
Y bachgen efo 'i lyfrau
Ymlaen yr a, ymlaen yr a
I wneuthur drwg neu wneuthur da,
'Does dim ond eisieu dechreu.

Wel, deuparth gwaith ei ddechreu,
'Does un ddihareb well;
Cychwynnwch yn y boreu,
Fe ellwch fynd ymhell.
Edrychwch rhwng y bryniau
Ffynhonnau bach sy'n llifo 'i lawr,
Ond ânt i'r môr yn genllif mawr,
'Does dim ond eisieu dechreu.


Y DYN BYCHAN.
("The Quiet Little Man.")

ROEDD dyn pur fychan, hynod fychan, bychan, bychan bach,
Yn eistedd gartref wrth y tân ar fynydd uchel iach:
'Doedd ganddo fawr o bethau'r byd,
Na gwychter i'w fwynhau,
Ond cadwai'r ddeuben bach ynghyd,
A gwariai swllt neu ddau.
'Roedd ganddo briod wenlan wiw,
A dwedai wrthi hi:
"Mae hyn yn ddigon, onid yw
I ddyn mor fach a fi."
A'r dyn pur fychan, bychan, bychan, hynod fychan hwn,
Fel hyn siaradai wrtho'i hun, a dyna fel y gwn;
Gall pobl dybio mod i'n dlawd,
Mewn helbul ar fy hynt;
Tra mewn gwirionedd nid oes dim
Yn pwyso ar fy ngwynt.
Ar hirnos gaeaf cwsg ni ddaw
At lawer gŵr o fri,
Tra'r cwsg melusaf yn dod at
Greadur bach fel fi.
Ac er mai bychan odiaeth wyf
I drin peryglus arf,
Ond torri barf dyn gonest wnaf
Bob tro 'rwy'n torri marf.
Ac wedi darfod diwrnod gwaith,
'Rwy'n brysio adre'r nos:
Ac wrth y drws fel dwyfol lamp,
Bydd gwên fy mhriod dlos.
Gwna hyn fy mwth yn balas clyd,
Ac er na choeliwch chwi,
Mae llawer teyrn wnai newid byd
Efo dyn mor fach a fi.

Ac mae i'm eneth fach lygatlas,
Ieuanc, iachus, dlos,
Sy'n mynnu chware ar fy nglîn
Pan elwyf adre'r nos:
Hi deifl deganau wrth fy nhraed,
Gan ganu trwy'r prydnawn,
Nes teimlaf rywbeth yn fy ngwaed
I'm gwneyd yn ddedwydd iawn.
Gall llawer feio hyn a'r llall,
A beio'n daear ni:
Mae'r byd fel mae yn ddigon da
I ddyn mor fach a fi.


BEIBL FY MAM

Y cyfan oll sydd genny'n awr
Yn y cyfanfyd crwn
Yw'r fendigedig gyfrol hon,
Yw'r Beibl anwyl hwn.
Mae'n dechreu gyda dalen deg
Ein pren teuluaidd ni:
Fy mam wrth farw, megis mam
A roddodd hwn i mi.

Rwy'n cofio'n dda rai enwau hoff,
Ar ddechreu'r gyfrol hon;
Fy mrawd, fy chwaer, a'r baban bach
Fu farw wrth y fron.
Rwy'n cofio'r hwyr darllennai'nhad,
Am Grist ac angeu loes;
Ac fel y codai'r Beibl hwn
Wrth son am waed y groes.


Mi dreuliais lawer awr erioed,
I feddwl am y fan;
Rwy'n gweld y teulu'n fyw, er fod
Eu beddau yn y Llan.
Rwy'n gweld y plant ar derfyn dydd,
A'r bychan byr ei gam
Yn myned ar ei ddeulin bach,
Wrth lin fy anwyl fam.

Mae'r byd yn wag, cofleidiaf di,
Fy Meibl anwyl iawn;
Y fynwent a'th ddalennau di
Yw'r unig bethau llawn.
Esmwytha di fy ffordd i'r bedd
Trwy ddysgu'r ffordd i fyw:
Crynedig dwylaw fo'n dy ddal
Fys anweledig Duw.—Lledgyfieithiad.


PA LE MAE FY NHAD?

MEWN bwthyn diaddurn yn ymyl y nant
Eisteddai gwraig weddw ynghanol ei phlant;
A'r ie'ngaf ofynnodd wrth weld ei thristâd,
Mae'r nos wedi dyfod, ond ple mae fy nhad?

Fe redodd un arall wyneblon a thlws,
I'w ddisgwyl ef adref ar garreg y drws:
Fe welodd yr hwyrddydd yn cuddio'r wlad,
A thorrodd ei galon wrth ddisgwyl ei dad.

Y sêr a gyfodent mor hardd ag erioed,
A gwenodd y Lleuad trwy ganol y coed:
A'r fam a ddywedodd, mae'th dad yn y nef,
Ffordd acw, fy mhlentyn— ffordd acw mae ef.


Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i'r nefoedd mae'r weddw a'i phlant:—
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wâd
Fod byd anweledig os collodd ei dad.


MAE'N GYMRO BYTH
(THE PATRIOT BOY)

Tôn,—O Gylch y Ford Gron

Mae'n Gymro byth pwy bynnag yw,
A gâr ei wlad ddinam;
Ac ni fu hwnnw 'n Gymro 'rioed,
A wado fro ei fam.
Aed un i'r gâd a'r llall i'r môr,
A'r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
A wnaiff y Cymro iawn.

Does neb yn caru Cymru 'n llai,
Er iddo grwydro 'n ffôl;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siŵr o ddod yn ôl.

Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw o honni 'n hir,
Ac er i'r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir,
Mae 'r cof am dad a mam yn mynd
I'r bwthyn yn y ddôl,
A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw galw 'n ôl.


Enilled aur ac uchel glod,
Mewn gwlad o win a mêl;
Aed yn ei longau ar y môr,
Er maint o'r byd a wêl;
Wrth edrych ar fachludiad haul
A gwylio sêr y nos,
Bydd clychau arian yn y gwynt
Yn son am Gymru dlos.

Does neb yn caru Cymru 'n llai,
Er iddo grwydro 'n ffôl;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siŵr o ddod yn ôl.


MI WELAF MEWN ADGOF.

Y Gerddoriaeth i T.T.B.B. gan Dr. Jos. Parry.

Mi welaf mewn adgof hen ysgol y Llan,
A'r afon dryloew yn ymyl y fan:
O'm blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,
A'r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres.
Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt,
Yn eilio 'r hen alaw a ganwn i gynt;
Rwy 'n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf,
A 'nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.

Rwy'n gweled y defaid a'r ŵyn ar y bryn,
Rwy 'n gweled gwynebau sy 'ngwaelod y glyn;
Rwy'n clywed rhaiadrau yn adsain o draw,
Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw.
O sued yr awel, a rhued y don,
Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon,
Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn,
Yng Ngwalia mae 'r galon ple bynnag yr awn.


RHOSYN YR HAF.

ALAW, "Merch Megan."

MAE Rhosyn yr Haf yn dechreu blaendarddu,
A mantell y maes yn newydd yn awr:
Mae egin yr ŷd yn edrych i fyny,
A'r haul yn ei wres yn edrych i lawr.
Mae'r wennol yn dychwel i'w hannedd ei hunan,
Ac iechyd yn dychwel i fynwes y claf:
'Does neb yn rhy hen i wenu ar anian,
Pob wyneb a wên ar Rosyn yr Haf.

Mae Rhosyn yr Haf yn dechreu blaendarddu,
Y Gwanwyn a drôdd a gwynnodd y drain:
Mae'r helyg yn îr a'r gwaenydd yn gwenu,
Y dolydd yn deg a'r goedwig yn gain.
Mae blodau afalau fel eira'n y berllan,
Ac adar yn canu ple bynnag yr âf: '
Does neb yn rhy hen i wenu ar anian,
Pob wyneb a wên ar Rosyn yr Haf.


HUN GWENLLIAN.

Pan oedd Gruffydd Ap Rhys yn y flwyddyn 1135 wedi mynd i Ogledd Cymru i geisio adgyfnerthiad i'w fyddin, cymerodd y Normaniaid fantais ar ei absenoldeb, ac ymosodasant ar ei diriogaethau. Nid oedd grym milwrol Gruffydd ond lled fychan ar y pryd. Arweiniwyd yr ychydig gatrodau hynny yn erbyn y Normaniaid gan ei wraig, sef y dywysoges Gwenllian. Syrthiodd hi a'i mab yn aberth i'r cleddyf, a charcharwyd un arall o'i meibion. Ystyrrir mai merch fechan Gruffydd ap Rhys a'r dywysoges Gwenllian ydyw Gwenllian y testyn, yr hon a fu farw ychydig ddyddiau cyn ymosodiad y Normaniaid ar y fro. Fel hyn y dywed " Enwogion Cymru,"" Gwenlliant, the daughter of Gruffydd ap Cynan, was the wife of Gruffydd ap Rhys, prince of South Wales, by whom she had several children. In 1135, during the absence of her husband in North Wales, who had gone to procure aid from his father— in— law, she took the field in person at the head of her own forces, attended by her two sons. But her army was defeated near Cydweli by Maurice de Londres, the Norman lord of that territory. Morgan, one of her sons, was slain in action, and the other, Maelgwn, taken prisoner, and she herself was beheaded by command of the victorious enemy."

Alaw,—Hun Gwenllian

Hun Gwenllian, ferch y brenin,
Gwyn dy fyd ti tan y gŵys;
Cwsg Wenllian, dyner blentyn,
Yn y ddaear ddistaw ddwys.
Cledd y Norman wnaeth gyflafan,
Nid oes gennyt fam yn awr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o'r cystudd mawr.

Hun Gwenllian, i'th fendithio
Duw'th gymerodd yn ei gôl;
Mae'th frawd hynaf wedi cwympo,
Ni ddaw'r iengaf byth yn ol.
Yn dy gartref trig y Norman,
Seren Cymru aeth i lawr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o'r cystudd mawr.


BEDD LLYWELYN

Alaw,—Goslef Llywelyn

I feddrod Llywelyn mae'r tir wedi suddo,
Ac arno'r gwlawogydd arosant yn llyn;
Mae'r lloer wrth ymgodi, a'r haul wrth fachludo,
Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.
Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
A deryn y mynydd yn nabod y bedd.

Ar ddamwain mae'r Cymro yn dyfod i weled,
Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran;
Yr awel a gwyna a'r ddaear a ddywed,
Fod calon hen Walia yn curo 'n lled wan;
Dieithriaid a ddônt i weled y fan
Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd;
Wel diolch am ddeigryn o'r nefoedd i waered,
Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd!


Y MARCH A'R GWDDW BRITH

Alaw,—Y Gadlys

Caradog eilw 'i ddeiliaid,
Ag udgorn ar ei fant;
Fe ruthrodd y Siluriaid,
Cwympasant yn y pant.
Enciliodd arwyr enwog,
Ond ar y march a'r gwddw brith
Fe ddaw 'r frenhines dêg i'w plith
I edrych am Garadog.

Mae cynnwrf yn y ceunant,
Ar derfyn dydd y gâd;
A dynion dewr orweddant,
I farw tros eu gwlad.

Yr afon foddodd fyddin,
Ond ar y march a'r gwddw brith,
Fe ddaw'r frenhines deg i'w plith,
I edrych am y brenin.

Fe welodd y Rhufeiniaid
Y march a'r gwddw brith;
Ond gwelodd y Brythoniaid
Frenhines yn eu plith.
Mae 'r corn yn ail-udganu,
Brythoniaid yn eu holau drônt,
Rhufeiniaid yn eu holau ffônt,
O flaen cleddyfau Cymru.


DYDD TRWY'R FFENESTR

Alaw,—Dydd Trwy'r Ffenestr

Mae rhyddid i wylan y môr gael ymgodi,
Ac hedeg i'r mynydd uchelaf ei big;
Mae rhyddid i dderyn ar greigiau'r Eryri
Ehedeg i waered i weled y wîg;
O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu
Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda'r wawr, byddwn ninnau'n rhydd,
Byddwn yn rhydd!

Yfory pan welir yr haul yn cyfodi,
Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed;
Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri
Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed;
Pan welom oleuni yn gwynnu'r ffenestri,
Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda'r wawr, byddwn ninnau'n rhydd,
Byddwn yn rhydd!

MAE JOHN YN MYND I LOEGER

Mae John yn mynd i Loeger,
A bore fory'r a;
Mae gweddw fam y bachgen
Yn gwybod hynny 'n dda;
Wrth bacio 'i ddillad gwladaidd,
A'u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi,
Fel arch ar fynd i ffwrdd.

Mae ef yn hel ei lyfrau,
I'r gist sydd ar y llawr;
Yn llon gan feddwl gweled
Gwychderau 'r trefydd mawr.
Nis gwêl e 'r deigryn distaw
Ar rudd y weddw drist;
Na 'r Beibl bychan newydd
A roddwyd yn y gist.

Rhoed iddo lawer anrheg
A thegan bychan cain,
Ysgrifell gan ei ewyth',
A chyllell gan ei nain:
Fe gymer ddarlun bychan
I gofio'i chwaer ddi-nam,
Fe gymer inc a phapur
I 'sgrifennu at ei fam.

"Rwy'n weddw, fel y gwyddost,
I'th dad sydd yn y ne',
Ond gelli benderfynu
Ddaw yma neb i'w le.
'Rwyf finnau'n gorfod teimlo
Yn wanach nag y bûm:
Tyrd adref, pan y gallot,
I edrych sut yr ym."


Yn fore, bore drannoeth,
Pan gysgai 'r holl rai bach;
Wrth erchwyn y gwelyau
Mae John yn canu 'n iach.
Carasai aros gartref,
Ond nid oedd dim i'w wneyd—
Fe gawsai aros hefyd,
Pe b'asai'n meiddio dweyd.

I gwrdd y trên boreuol,
Cyn toriad dydd yr a,—
"Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,
O bydd yn fachgen da!
Y nef a'th amddiffynno,
Fy machgen gwyn a gwiw;
Paid byth anghofio 'th gartref,
Na 'th wlad, na 'th iaith, na' th Dduw."


BUGAIL YR HAFOD

Alaw,—Hobed o Hilion

Pan oeddwn i'n fugail yn Hafod y Rhyd,
A'r defaid yn dyfod i'r gwair a'r iraidd ŷd;
Tan goeden gysgodol mor ddedwydd 'own i,
Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;
Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,
Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion
Yn mwynhau y maesydd a'r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.

Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad
Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;
Tra 'm chwaer efo 'i hosan a mam efo carth,
Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lân y barth,
Deued a ddeuo, anian dynn yno,
Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth
I'r hen dŷ, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.


Mae'r wennol yn crwydro o'i hannedd ddi-lyth,
Ond dychwel wna'r wennol yn ôl i'w hanwyl nyth;
A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,
Gan gofio 'r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,
Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio
Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.


HUGH PENRI'R PANT.

ROEDD hi'n chwarter i chwech yn y borau,
A'r haul wedi torri trwy'r wawr,
Yn felyn ar bennau'r mynyddau,
Gan araf ymddisgyn i lawr
Fel cawod o aur ar y bryniau;
Pan welid Hugh Penri y Pant
Yn pasio erchwynion gwelyau—
Gwelyau bach dedwydd ei blant.

Y nef yn unig ŵyr
Bleserau'r gweithiwr fore a hwyr,
Tra heulwen Duw trwy heulwen plant
Yn gwenu ar Hugh Penri'r Pant.

Cusanodd bob un wrth fynd heibio,
A Roli, yr hynaf o'r saith,
Ddeffrôdd yr holl deulu gan floeddio:—
"Mae tada yn cychwyn i'w waith."
Rhodd Elin benelin i Susan,
Gan ddweyd:— " Paid a chysgu mor ffôl,"
A chlywent eu tad yn troi allan,
Gan gau drws y cefn ar ei ol.

Fe weithiodd trwy'r dydd, "am frechdanau "
O wirfodd ei galon yn llwyr,

Rho'dd nerth ei holl blant yn ei freichiau,
A brysiodd i'w gartref yr hwyr.
A'i droed ar ei drothwy glân calchwyn,
Cusanodd ei brïod yn gu,
Tra'r plant a'i cylchynent, fel gwenyn,
Nes prin gallai droi yn y tŷ.

O'r diwedd eisteddai Hugh Penri
I yfed cwpanaid o de,
Tra ar ei lîn aswy 'roedd " Arti,"
A "Tedi" 'n marchogaeth y dde,
A'r ie'ngaf diddannedd yn gwingo,
Gan chwerthin wrth frathu ei àr,
A Tom fel cath wiwer yn dringo
I fachu ei dad yn ei wàr.

Bydd lonydd, da Tedi, cais ddarfod
A phwtian fy mraich megis hwrdd:
Fe'm bwytânt," medd Hugh wrth ei briod,
"Rho'r trïag a'r uwd ar y bwrdd."
Gwnaed hynny, a'r plant a dawelwyd
I eistedd bob un yn ei le:
A'r fendith arferol ofynwyd,
A llonydd ga'dd Hugh efo'i dê.

Gweddïai'r rhai bach yn blith-dra- phlith,
Yn rhyfedd o gyflym bob un;
A Tedi ofynnai am fendith
Ar "pwsi" heblaw arno'i hun.
O'r bwyta! O'r gwenu! O'r caru!
A welid ar aelwyd y Pant:
A phurdeb dedwyddwch holl deulu
Hugh Penri— ei briod a'i blant!

Y nef yn unig ŵyr
Bleserau'r gweithiwr fore a hwyr,
Tra heulwen Duw trwy heulwen plant
Yn gwenu ar Hugh Penri'r Pant.


MAES BOSWORTH.

ALAW, "Rhyfelgyrch Capten Morgan."

CYMRY a gasglant tan fanerau'r Ddraig,
Cefnu wna'r llencyn ar ei fûn;
Cefnu wna'r milwr ar ei blant a'i wraig,
Rhwymy ei gleddyf wrth ei glun.
Cewri a floeddiant, hefyd cewri glyw,
"Am ein coron gwnawn y ganfed gais;
Gwibiog ddraig— fellten fflamia ym mhob trem,
Ac yn uchel daran tyrr eu llais.

Trannoeth yn foreu fel y gadarn graig,
Wele blant Gwyddfa yn y gâd:
Wele goroni dan yr oesol Ddraig,
Frenin naturiol ar ein gwlad.
Tua Maes Bosworth gyda'r hwyr brydnawn,
Cododd Prydain ei hir waewffon:
Dyma hen frwydr drôdd i'r ochor iawn,
Byth na'n galwed i ail-ymladd hon.


HELA 'SGYFARNOG.

DOWCH a'r milgwn at eu gilydd,
Clywch y rhewynt yn y coed;
Wele'r Wawr yn rhodio'r mynydd,
Gydag eira dan ei throed.
Meirch werhyrant,
Welwyr gasglant,
Dyma ddiwrnod o foddhad:
O mae'n iechyd,
A dedwyddyd,
Hela sgwarnog yn y wlad.


Dyna floeddio ar y ddehau,
Talihoian tros y fro:
Wele'r gwta" hir ei chlustiau,
Yn ymwrando "Hei Si Ho!"
Neidia, rheda,
Dyna drofa,
Ar ei hol pob milgi âd:
O mae'n iechyd,
A dedwyddyd,
Hela sgwarnog yn y wlad

Chwaneg, chwaneg, yw ei chynnydd,
Nid yw dal y fach mor hawdd:
Dyna hi yn rhydd i'r mynydd,
Heibio'r cŵn a thros y clawdd.
Rhedeg, neidio,
Dal neu beidio,
Mwy mewn hela boed mwynhad,
O mae'n iechyd,
A dedwyddyd,
Hela sgwarnog yn y wlad.


MYFANWY

"Myfanwy!'rwy'n gweled dy rudd
Mewn meillion, mewn briall, a rhos;
Yng ngoleu dihalog y dydd,
A llygaid serenog y nos;
Pan gyfyd claer Wener ei phen
Yn loew rhwng awyr a lli,
Fe'i cerir gan ddaear a nen.
I f' enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti,
Mil lanach, mil mwynach i mi.


"Fe ddwedir fod beirddion y byd
Yn symud, yn byw ac yn bod,
Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,
Ar obaith anrhydedd a chlod;
Pe bâi anfarwoldeb yn awr
Yn cynnyg ei llawryf i mi,
Mi daflwn y lawryf i lawr—
Ddymunwn i moni, fe'i mathrwn os na chawn i di,—
Myfanwy, os na chawn i di.

Myfanwy ai gormod yw dweyd
A honni mai bardd ydwyf fi?
Os ydwyf— 'rwyf wedi fy ngwneyd
A'm hurddo i'r swydd gennyt ti!
Dy lygad fu'r cleddyf diwain,'
A'th wyddfod oedd gorsedd' fy mri,
Cylchynaist fi byth gyda' main;
O fywyd fy Awen! Myfanwy, mi ganaf i ti—
Anadlaf fy nghalon i ti!

"O! na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,
I suo i'th glust ar fy hynt,
A throelli dy wallt ar wahan;
Mae'r awel yn droiog a blin—
Un gynnes ac oer ydyw hi;
Ond hi sy'n cusanu dy fin.
O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti,
Tragwyddol yw'm serch atat ti.


FFARWEL I TI, GYMRU FAD

Y Gerddoriaeth (Canig) gan Dr. Jos. Parry.

Ffarwel iti, Gymru fad,
Mynd yr ydym tros y tonnau,
Mynd gan adael ar ein holau
Beddau mam a beddau tad;
O ffarwel, ein hanwyl wlad.

Tua'r lan fe drodd y bâd,
Tra cyfeillion ger yr afon
Godant eu cadachau gwynion;
Rhaid dy adael, Gymru fad,
O! ffarwel, ein hanwyl wlad.

Ffarwel, ffarwel, Gymru fad,
Bydd yr heniaith a ddysgasom,
A'r alawon a ganasom
Gyda ni mewn estron wlad;
Ffarwel iti, Gymru fad.


MORFA RHUDDLAN.
ALAW," Morfa Rhuddlan " (The Plain of Rhuddlan)

Gwgodd y nefoedd ar achos y cyfion,
Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd;
Methodd gweddïau fel methodd breuddwydion,
Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;
Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol,
Rhewed yr eigion am byth tros y fan;
Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol
Achos y cyfiawn a chartref y gwan.


Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth,
Lleiddiad Caradog a gymer ei le;
Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog,
Syrthied i'r ddaear fel syrthiodd efe.
Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,
Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo'r Iôr;
Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan,
Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr.


Y DEFNYN CYNTAF O EIRA

Yr ôd, yr ôd! mae'r eira'n dod!
Rhwng y simneiau dacw fe,
Y defnyn cyntaf yn dod or ne;
Yn chware fel aderyn gwyn,
Trwy fŵg a chaddug y melinau hyn.
Mae'n ofni disgyn, ac fel pe bae
Yn ail-ymgodi, ond disgyn mae.
Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr,
Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr;
Gan edrych trwy'r ffenestri ban,
Fry gyda'r awel o fan i fan.
Mae'n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi,
Ac yn dal i ddisgyn, ac yn dal i droi—
Ond gwel ei lengoedd! Mil myrddiwn mân
O angylion gwynion y gauaf glân,
Sy'n dod ag amdo a chistfeddau iâ,
I gladdu meirwon flodau'r ha.
Y nef sy'n galw'r blodyn hardd
I fyw a gwenu o lwch yr ardd.
A phan fydd farw, nis anghofia'r nef
Mo dyrfa wen ei angladd ef.


HEN GWRWG FY NGWLAD

Hen gwrwg fy ngwlad ar fy ysgwydd gymerwn,
Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren ac Wy.
Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwn
Ar hyfryd hafddyddiau nas gwelaf byth mwy.
Pe rhwyfwn ganŵ ar y Ganges chwyddedig,
Neu donnau'r Caveri, rhoi hynny foddhad;
Ond glannau bro Gwalia ynt fwy cysegredig,
A gwell gan fy nghalon hen gwrwg fy ngwlad.

Hen gwrwg fy ngwlad,'rwyf fi gyda thi'n nofio
Afonydd paradwys fy mebyd yn awr;
Hen glychau a thonau o newydd wy'n gofio,
A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr.
Mi dreuliais flynyddau a'r llif yn fy erbyn,
I'm hatal rhag dyfod i gartref fy nhad;
Ond pan ddof yn ol fe fydd cant yn fy nerbyn,
I roi i'm rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad.

Hen gwrwg fy ngwlad, mi a'th rwyfais di ganwaith,
Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt;
Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith,
Yr hon a ddisglaeriodd trwy f' enaid i gynt.
Trwy Venice fawreddog mi fum mewn gondola,
Esgynnais y Tafwys a'r Rhein yn fy mâd;
Ond pasio hen gastell Llywelyn llyw ola,
Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad.


DYCHWELIAD Y CYMRO I'W WLAD EI HUN

O Hinsawdd i hinsawdd mi grwydrais yn hir,
O rewdir y Gogledd i Itali dlos:
Am danat ti Walia, ar fôr ac ar dir,
Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos.
Cyfeiriais fy nghamrau i'r ardal hoff hon,
Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed;
Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron,
A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed,
A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.

Ar dywod yr anial bu ôl fy nau droed,
Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin;
O'r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed,
I wledydd y mêl a gwinllannoedd y gwin;
Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd,
Anwylach a harddach oedd hen Walia wen;
Mi groesais y môr i eithafoedd y byd:
Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen,
Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.


ANNIE LISLE

(Lledgyfieithiad)[2]

Ar fin yr afon araf yn y goedwig gain,
Fan mae'r dŵr yn gwneud arluniau gwiail melyn main,
Fan mae'r adar haf yn canu yn eu temlau dail,
Yma'r ydoedd am ryw adeg annedd Annie Lisle.

Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.


Mwyn, mwyn yw'r awel beraidd, gana fel y dêl,
Trwy ryw fyrdd o erddi gwyrddion, lifant laeth a mel,
Ond ar wely wedi marw gorwedd Annie Lisle,
Hi ni egyr ei du lygad, Angau'n dyn a'i deil.

Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.

"Cwyd fi, fy mam anwylaf, gad i'm weld y plant,
Yn y brwyn a'r melyn helyg draw ar fin y nant;
Hust! mi glywaf fiwsig nefol, miwsig Iesu'r nef,
Mam anwylaf, mi anelaf at ei fynwes Ef."

Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.


O ALUN MABON.

YR ARAD GOCH.

Os hoffech wybod sut
Mae dyn fel fi yn byw,
Mi ddysgais gan fy nhad
Grefft gyntaf dynol ryw;
Mi ddysgais wneyd y gors
Yn weirglodd ffrwythlon ir,
I godi daear las
Ar wyneb anial dir.
'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr,
Ac yn codi efo'r wawr,
I ddilyn yr ôg, ar ochr y Glôg,
A chanlyn yr arad goch
Ar ben y mynydd mawr.

Cyn boddio ar eich byd,
Pa grefftwyr bynnag foch,
Chwi ddylech ddod am dro
Rhwng cyrn yr arad goch;
A pheidiwch meddwl fod
Pob pleser a mwynhad
Yn aros byth heb ddod
I fryniau ucha'r wlad.

Yn ol eich clociau heirdd,
Bob bore codwch chwi:
Y wawr neu wyneb haul
Yw'r cloc a'n cyfyd ni;

Y dyddiaduron sydd
Yn nodi'r haf i chwi;
Ond dail y coed yw'r llyfr
Sy'n dod a'r haf i ni.

Nis gwn i fawr am fyw
Mewn rhwysg a gwychder byd;
Ond diolch, gwn beth yw
Gogoniant bwthyn clyd;
Ac eistedd hanner awr
Tan goeden ger fy nôr,
Pan aiff yr haul i lawr,
Mewn cwmwl tân i'r môr.

Cerddorion Ewrop ddont
I'ch mysg i roddi cân:
'R wyf innau'n ymfoddhau
Ar lais y fronfraith lân;
Wrth wrando'r gwcw las,
A'r hedydd bychan fry,
A gweled Robyn Goch
Yn gwrando'r deryn du.

Ddinaswyr gwaelod gwlad,
A gwŷr y celfau cain,
Pe welech Fai yn dod,
A blodau ar y drain—
Y rhosyn ar y gwrych,
A'r lili ar y llyn;
Fe hoffech chwithau fyw
Mewn bwthyn ar y bryn.

Pan rydd yr Ionawr oer
Ei gaenen ar yr ardd,
Y coed a dro'nt yn wyn
Tan flodau barrug hardd;

Daw bargod dan y to
Fel rhes o berlau pur,
A'r eira ddengys liw
Yr eiddew ar y mur.

Daw Ebrill yn ei dro,
A chydag ef fe ddaw
Disymwth wenau haul,
A sydyn gawod wlaw;
Fel cyfnewidiog ferch,
Neu ddyn o deimlad gwan,
Galara'r awyr las,
A gwena yn y fan.
'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr,
Ac yn codi efo'r wawr,
I ddilyn yr ôg ar ochor y Glôg
A chanlyn yr arad goch
Ar ben y mynydd mawr.


Y GWCW.

Wrth ddychwel tuag adref,
Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi'r moroedd
I'r ynys fechan hon.

A chwcw gynta'r tymor
A ganai yn y coed,
'Run fath a'r gwcw gyntaf
A ganodd gyntarioed.

Mi drois yn ol i chwilio
Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
Ple'r oedd y deryn mwyn.


Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren;
Ac yno'r oedd y gwcw,
Yn canu wrth fy mhen.

O! diolch iti, gwcw,
Ein bod ni yma'n cwrdd—
Mi sychais i fy llygad,
A'r gwcw aeth i ffwrdd.


Y MYNYDDAU MAWR.

Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda'r wawr,
Gân bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa'r llygad dydd,
Ogylch traed y graig a'r bryn;
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt,
Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenedlaeth wedi mynd,
A chenedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymestlog hir,
Alun Mabon mwy nid yw;
Ond mae'r heniaith yn y tir,
A'r alawon hen yn fyw.


MYNYDDOG.

Mynyddog, gwr mwyn addien— ga' urddas
Angel gerddor trylen;
Er hunan, deil ffrwyth awen
Y mawr gawr tra'r Gymraeg wen."

YN Llanbrynmair, ardal hynod am ei henwogion, y ganwyd Mynyddog,— yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes cyn cael ei roddi i huno yn ei daear, yn 44 mlwydd oed.

Pymtheg mlynedd ar hugain yn ol, nid oedd neb mor adnabyddus yng Nghymru na Mynyddog, na'r un cymeriad a hoffid gan Werin Cymru yn fwy nag efe. Mewn ffermdy elwid Dôl Lydan y ganwyd ef, Ionawr 10, 1833. Pan oedd Ceiriog[3] yn flwydd oed, bedyddiwyd ef gan y Parch. John Roberts,— tad S.R., J.R., a G.R., a galwyd ef John[4] Symudodd ei rieni yn fuan i ffermdy mwy,— Y Fron, lle y treuliodd y Bardd fore oes dedwydd.

Yma mae'r bwth ar y Fron,
Cartref fy mam a fy nhad;
O! fel mae'n dda gennyf hon,
Anwyl yw Gwalia fy ngwlad."

Yr oedd o deulu cerddorol,— ei dad, Daniel Davies, godai'r canu yn yr Hen Gapel, fel y gwnai Mynyddog ar ei ol. Gweithiai John[4] yn galed y dydd gyda'r wedd, ac ymroddai'r hwyr, a phob cyfle gai, i ddiwyllio ei hun trwy ddarllen barddoniaeth, ac ymberffeithio yn y mesurau caeth a rhydd; ac ysgrifennu i'r "Cronicl destynau addysgiadol. Galwodd ei hun yn "Mynyddog" oddiwrth enw ffridd oedd y tu uchaf i'w dŷ. Meistrolodd reolau barddoniaeth, ac enillodd aml wobr; ond blinodd yn fuan ar gystadlu ar y mesur caeth. "Yr wyf yn fwy dedwydd o'r hanner," meddai, "wrth ganu caneuon bychain o'm dewisiad fy hun fel daw'r hwyl." Cyn hir, wedi marw ei dad, symud—odd i fyw i Gemaes, a galwodd ei dŷ newydd yn "Bron y Gân." Gelwid am ei wasanaeth fel beirniad, datganwr ac arweinydd i bob llan a thref, a byddai enw Mynyddog yn ddigon i sicrhau llwyddiant unrhyw gyfarfod. Fel arweinydd Eisteddfod, nid oedd ei ail,—difyrrai'r dorf â'i arabedd parod, neu ystori bert neu gân darawiadol. Meddai gorff lluniaidd, tal, heinyf, llygaid treiddgar, wyneb hardd, gwên siriol, a llais clir, swynol. Canai dan gyfeilio ei hun mor naturiol a dirodres ag aderyn. Byddai ganddo wers i'w dysgu ym mhob un o'i ganeuon. Yr oedd yn Eisteddfodwr selog, a hiraethai, fel Ceiriog, am ddiwygio'r Eisteddfod a'r Orsedd.

Yn Eisteddfod hynod Llangollen, 1858, y daeth yn amlwg gyntaf. Bu'n arweinydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddau. Yn Eisteddfod Gwrecsam, 1876, Eisteddfod y Gadair Ddu,— y bu'n arwain olaf.

Carai ei iaith, ei wlad, a'i genedl. Yr oedd yn Gymro i'r carn, a rhoddodd ei oreu i'w wlad. Dyma ddywed am Sais addolwr,— "Y mae rhai o honom yn llawer rhy barod i ymgrymu a gwneyd ein hunain yn slafiaid i'r Saeson sydd yn ymweld â'n gwlad. Os daw Sais i'r wlad, o'r anwyl! rhaid parchu Sais, gan nad pwy na pha beth a fydd. Os daw rhyw snobyn i bentref yn cario gwialen bysgota a basged ar ei gefn, ac yn gwisgo crys brith ac yn siarad Saesneg, O! dyma ŵr bynheddig' wedi dod. Rhaid rhedeg i bob cyfeiriad er cael brasder y tir iddo, a gallai yn y bore y collir y gŵr bynheddig' heb iddo weld yn dda dalu ei ddyled." Un o'i ganeuon mwyaf poblogaidd oedd yr un am gofio 'r iaith,—

"Siaradwch yn Gymraeg,
A chanwch yn Gymraeg,
Beth bynnag fo'ch chwi'n wneuthur,
Gwnewch bopeth yn Gymraeg."

Gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, a chymerwyd ef ymaith ynghanol ei ddyddiau. Bu farw Gorffennaf 14, 1877, yn 44 mlwydd oed, gan adael Cenedl weddw i alaru ar ei ol. Claddwyd ef, yn ol ei ddymuniad, ym mynwent yr Hen Gapel, Llanbrynmair.

"Tra cura gwaed fy mynwes i,
Tra calon dan fy mron,
A thra y saif ei bryniau hi,
Bydd dda gen i am hon.

O cofiwch fy nymuniad i,
A deliwch ar fy ngair,
Pan wedi marw, rhowch i mi
Gael bedd yn Llanbrynmair."

Mae ei waith wedi ei gyhoeddi'n dair cyfrol ddestlus gan Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, ac ni ddylai cartref, ysgol, na llyfrgell fod hebddynt.

MYNYDDOG.

Y LILI A'R RHOSYN.

GWELAIS ddau flodeuyn hawddgar
Yn cyd-dyfu mewn gardd fach,
Un yn Lili dyner, ddengar,
A'r llall yn Rhosyn gwridog iach;
Sefyll wnai y Rhosyn eon
Heb ddim byd i ddal ei ben,
Tra y llechai'r Lili dirion
O dan nawdd rhyw ddeiliog bren.

Storm a ddaeth i chwythu arnynt,
Chwyddo wnai mewn nerth a rhoch,
Ac o flaen ysgythrog gorwynt
Syrthio wnaeth y Rhosyn coch;
Ymddiriedodd ynddo'i hunan,
Yn ei falchder 'roedd ei nerth,
Ond mewn storm fe brofai'r truan
Dlysni boch yn beth di- werth.

Ond ynghanol y rhyferthwy,
Sylwais ar y Lili wen,
Gyda'i phwys ar le safadwy,
Sef ar foncyff cryf y pren;
Er i'r gwynt ymosod arni
Gyda nerth ei ddyrnod ddwys,
Gwenu'n dawel 'roedd y Lili
Fel pe buasai dim o bwys.


Dyma wers i'r ieuanc, bywiog,
Sydd a'i hyder yn ei nerth,
Tlysni grudd, a boch rosynnog,
Brofant iddo yn ddi- werth;
Stormydd cystudd ddeuant heibio,
Gwywa'r gwrid fel Rhosyn gwan,
Camp yw cael yr adeg honno
Rywbeth ddeil y pen i'r làn.

Awel oeraidd dyffryn marw
Chwytha arnom yn y man,
Popeth sy'n y byd pryd hwnnw
At ein cynnal dry'n rhy wan;
Byw yn ymyl Pren y Bywyd
Ddylem oll tra îs y nen,
Pwyso arno ym mhob adfyd,
Fel y gwnaeth y Lili wen.


MAE'R ORIAU'N MYND.

MAE'R oriau'n mynd yn mynd o hyd,
A dyn yn myned gyda'r oriau;
Un awr mae'n faban yn ei gryd,
A'r nesaf bron mae'r dyn yn angau.

Mae'r oriau'n mynd! :Pob awr a gawn
Sydd megis defnyn llawn sirioldeb;
Ond prin y ceir ei gweld yn llawn,—
Dyfera'i hun i dragwyddoldeb.

Mae'r oriau'n mynd! ac O! mae awr
Er byrred yw ei hoes, yn bwysig;
Mae'n gwthio'r dyn i lawr i lawr
Ar oriwaered einioes lithrig.



Mae'r oriau'n mynd! mae'n d'w'llwch prudd!
Oes awr imi yn y dyfodiant;
Ai ynte bysedd yr awr sydd
Fynn gau byth fy marwol amrant?

Mae'r oriau'n mynd! fel llif y nant,
Chwyrn deithia amser mewn prysurdeb,
O'i ynys fach mae'n gwthio'i blant
I faith gyfandir tragwyddoldeb.
 
Mae'r oriau'n mynd! ac mae pob awr
Yn dweyd ein hanes yn y nefoedd;
A'u cyfri hwy'n y frawdle fawr
A selia'n tynged yn oes oesoedd!


Y GWYLIAU.

TON,— "Dydd Gwyl Dewi."

MAE rhai yn hoff o hinon haf,
Ei flodau tlws a'i ddail,
Ei wresog hin a'i ffrwythydd braf,
Ei hirddydd têg a'i haul;
Ond o bob darn o'r flwyddyn gron
Y Gwyliau well gen i,
Mae rhywbeth yn y Gwyliau llon
Yn anwyl iawn i mi:
Cawn eiste'n rhes o gylch y tân
O sŵn y storm a'i rhu,
Cawn chwedl bob yn ail â chân
Ar hirnos Galan gu.

Er fod yr eira ar y tô,
A rhew yn hulio'r llyn,
Ac er fod stormydd trwy y fro
Yn chwythu'n gryf pryd hyn;


Ond chwythed gwynt, a rhewed dŵr,
Mi neswn ninnau'n nes,
Ac ar yr aelwyd lân, ddi- stwr,
Try'r gaeaf oer yn wres.

Y Gwyliau daw y plant di nam
I gyd o'r trefydd pell,
Cânt groesaw tad, a gwenau mam,
A llawer henffych well;
Mor ddifyr ydynt wedi cwrdd,
Daw pawb a'i stori'n rhwydd,
Cânt wledda oll o gylch un bwrdd
Ar gorpws ceiliog gŵydd.

Y Gwyliau caiff hen ffryndiau llon
Ddweyd cyffes calon lawn,
Ac adrodd helynt blwyddyn gron
Wrth olau tân o fawn;
Mae tad a mam, mae mab a merch,
A phawb yn ei fwynhau,
A hen gylymau anwyl serch
Yn cael eu hail dynhau:

Cawn eiste'n rhes o gylch y tân,
O sŵn y storm a'i rhu,—
Cawn chwedl bob yn ail â chân,
Ar hirnos Galan gu.


DIM OND DEILEN.

DIM ond deilen fechan, felen,
Dyfai gynt yng nghoed yr ardd,
Roed mewn llyfr rhwng dau ddalen,
Flwyddau'n ol gan Elen hardd;
Gwerdd pryd hynny oedd y ddeilen,
Hithau, Elen, oedd yn iach;
Ond daeth chwa i wywo Elen,
Felly hefyd gwywai'r ddeilen,
Dim ond deilen felen, fach.


Canfu'r ddeilen Haf yn gwenu
Pan yng ngwynfa deg y coed,
Gwelodd hefyd storm yn mathru
Ei chwiorydd dan ei throed;
'Chydig a feddyliai Elen
Pan yn cadw'r ddeilen iach,
Fod darluniad pur o'i bywyd
Wedi ei gerfio gan ryw ysbryd
Ar y ddeilen felen, fach.

Ple mae tlysni gwyrdd y ddeilen
Pan y tyfai yn ei lle?
Ple mae tlysni wyneb Elen?
Adsain ofyn eilwaith, Ple?
Ond mewn argraff ar y ddalen,
Lle y rhoed y ddeilen iach,
Mae rhyw air am "nefoedd lawen,"
Gyda chofion serchog Elen
At y ddeilen felen, fach.


CYMRU FACH I MI.

MAE rhai yn lladd ar Gymru,
Am nad yw Cymru'n fawr,
Ac am fod Cymru'n fechan,
Yn tynnu Cymru i lawr;
Ond nid yw hynny yn rheswm
I ladd ar Gymru iach,
Tra dywed teimlad calon
Mai anwyl popeth bach.

Cymru i mi
A'i cheinion di-ri',
Mae'n llonaid fy nghalon
Er lleied yw hi.


Ceir weithiau loi o ddynion
A synwyr digon tlawd,
Yn dweyd mai "geifr" yw'r Cymry,
Er mwyn ein gwneyd yn wawd;
Ond os yw'r Cymry felly,
Mae'n well gen i gael ffoi
I wlad yn llawn o eifr
Na gwlad yn llawn o loi.

Mae rhai yn trin Eisteddfod,
A dwedant yr un pryd
Fod well cael rhedeg mulod
Na hela beirdd ynghyd;
Ond tra b'ont hwy yn trafod
Rhedegfa ffol a gwag,
Af finnau i'r Eisteddfod
I ganu cân Gymra'g.

Mae rhai yn trin genethod
Anwylaf Gwalia lân,
A dwedant nad oes harddwch
I'w gael yng ngwlad y gân;
Ond dweded pawb a fynned,
A phlesied pawb ei hun,
Mi fynnaf wraig o Gymru,
Neu ynte, fynnai'r un.

Y mae dyffrynnoedd breision
Yn nhir Amerig bell;
Y mae yng ngwlad y Saeson
Ddoldiroedd llawer gwell;
Ond os yw serch cenhedloedd
Yn rhedeg ar i lawr,
Fe rêd serch Cymro i fyny
At droed yr Wyddfa fawr.

Cymru i mi
A'i cheinion di- ri',
Mae'n llonaid fy nghalon
Er lleied yw hi.


BEDD LLEWELYN.

Y Gerddoriaeth gan Mr. D. Emlyn Evans.

ADRODDGAN.
AR fedd Llewelyn, heb un maen na chôf
I ddweyd yr hanes—dim ond dagrau cenedl
Wedi'u cyd-gymysgu gyda gwlith y nos
Uwchben y marw sy'n anfarwol byth:
Fan honno safai gŵr,
Yn rhoi ei bwys ar garn ei waedlyd gledd,
A chanai,—

ALAW.
Ar un o fryniau Buallt draw
Fe safai'r dewr Lewelyn,
A'i gleddyf gloew yn ei law,
Gan edrych ar y gelyn;
A gwaeddai,—"Filwyr, dewch yn awr,
I'r gonewest fawr neu drengu;
A dyma'i floedd wrth fynd i'r gâd,—
"Yn enw Duw, ein hiaith, a'n gwlad,
Y ddraig, a rhyddid Cymru."

Yng ngwaelod gallt ger maes y gwaed,
Pan ddaeth y frwydr i derfyn,
Fe glywid trwst bradwrus draed,
A thwrf rhegfeydd y gelyn;
Ac uwch tinciadau'r arfau dur,
Fe waeddai'r dewr wrth drengu,—
"Doed mil o oesau eto i'r gâd,
Yn enw Duw, ein hiaith, a'n gwlad,
I gadw rhyddid Cymru."


PISTYLL Y LLAN.

MAE pistyll henafol yn ymyl y llan,
A draenen ganghennog yn gysgod i'r fan;
O'i gylch mae'r genethod y boreu a'r nawn
Yn disgwyl dan ganu eu llestri yn llawn:
Gwenu'n llon o ddydd i ddydd
Mae y ffrwd risialaidd rydd,
Nid yw'n cwyno ar ei byd
Er rhoi a rhoi o hyd!

Mae'r merched yn canu
Cân felus gan foli
Y dwfr gloew glân,
A'r pistyll yn gwenu
Wrth glywed y gân.

Gwyn fyd na fai tafod gan bistyll y llan
I adrodd y chwedlau ga'u dweyd gylch y fan;
Mae'n rhaid cael rhyw hanes un newydd neu hên,
 I aros i'r pistyll lenwi y stên:
Ond fe dreuliwyd oriau 'nghyd,
Ar ol llenwi'r steni i gyd,
Ac os triniai mamau rhai,
Y pistyll gai y bai.

Yr eneth hoff unig a'r galon lawn, frwd,
Ollynga ochenaid i ganlyn y ffrwd,
At un sydd yn byw yn y tŷ ar y graig,
Yn ymyl yr afon rhwng hynny a'r aig;
Gyrr y llall och'neidiau gant
Ar i fyny gyda'r nant,
At yr un sy' a'i gartre iach
Ar fin y ffynnon fach.

Am gadw cyfrinach y merched i gyd,
'Does neb fel y pistyll o bobol y byd:
Dioda a golcha i fawr ac i fân,
A cheidw ei hunan trwy'r cyfan yn lân.

Dysgwn wersi'r pistyll bach,
Tra yn drachtio'i ddyfroedd iach,
Ac ymunwn yn y gân
Sydd gan y merched glân:

Mae'r merched yn canu
Cân felus gan foli
Y dwfr gloew glân,
A'r pistyll yn gwenu
Wrth glywed y gân.


MAE'R AFON LOEW, LOEW

MAE'R afon loew, loew,
A'i dyfroedd croew, croew,
Yn treiglo'n hoew, hoew,
Rhwng blodau tlws a dail;
O clywch ei pheraidd drydar
Yn suo'n ddengar, ddengar,
A hithau'r fronfraith gerddgar
Yn canu bob yn ail:
Pur yw ei dyfroedd
Fel glesni'r nefoedd,
Ddont o'r mynyddoedd
Ar hyd y graian mân;
O na bai nghalon
Fel ffrydiau'r afon
A'm holl ymadroddion
Yn loewon ac yn lân.

Mae'r dyfroedd gloewon, gloewon,
Fel baban tirion, tirion,
Yn rhedeg ar eu hunion
I fynwes hoff eu tad;
A'r ffrydiau siriol, siriol,
Rhwng dolydd swynol, swynol,
Sy'n siarad geiriau nefol
Wrth dreiglo trwy ein gwlad.

Dangos mae'r dyfroedd
Ddont o'r mynyddoedd,
Ddelw y nefoedd
Ar eu mynwesau llon:
O! na bai dynion,
Fel ffrydiau'r afon,
Yn dwyn delw dirion
Y nefoedd yn eu bron.


"I FYNY."

ALAW," The Moonlight Sea."

I FYNY fo'r nôd,
Dringwn lethrau serth clôd,
Mae wedi'r holl stormydd fyd dedwydd yn dod.
Ymdrechwn o hyd,
Wneyd da yn y byd,
Cawn goron gan rinwedd yn wobrwy ryw bryd:
Na hidiwn os awn i genfigen yn wawd,
A chwarddwn pan ddwedant ein bod yn dylawd;
I fyny fo'r nôd,
Dringwn lethrau serth clôd,
Mae wedi'r holl stormydd fyd dedwydd yn dod.

Gadawn y byd,
A'i wagedd i gyd,
I fyny, i fyny, fo'n harwydd o hyd.
Anrhydedd a fynn
Ein gwisgo mewn gwyn,
Wedi dringo'n fuddugol i gopa y bryn;
Lle na ddaw cenfigen, na malais, na gwawd,
Na neb byth i ddwedyd ein bod yn dylawd.

I fyny fo'r nôd,
I fyny mae clôd,
Mae miloedd i fyny,— mae miloedd yn dod:

Mae Purdeb, heb daw,
I fyny draw, draw,
Yn gwahodd yn dyner gan godi ei law:
I fyny mae'r saint, a'r angylion yn byw,
I fyny mae'r nefoedd, i fyny mae Duw!
I fyny fo'r nôd,
Dringwn lethrau serth clôd,
Mae wedi'r holl stormydd fyd dedwydd yn dod.


MAM A CHARTREF.

ALAW," Beautiful Nell."

MOR anwyl im' yw cofio'n awr
Am ddedwydd ddyddiau fu,
Pan nad oedd gofid fach na mawr
Yn blino nghalon i;
Ond gorfu im' ado'r bwthyn gwyn
Lle cefais hyfryd hedd,
A gwelais ddodi wedi hyn
Fy anwyl fam mewn bedd.

Anwyl yw gwedd y bwthyn bach tlws,—
Anwyl yw'r eiddew sy' o amgylch y drws;
Anwyl yw'r côf am faboed di nam,
Anwyl yw, anwyl yw meddwl am mam.

Mor ddifyr oedd y chwareu gynt
Heb ddim i friwio'r fron,
A'm corff a'm meddwl fel y gwynt,
Yn rhydd, yn iach, a llon;
Cawn fam i'm gwylio'n glaf ac iach,
A byw'n y bwth llawn hedd,
Ond cefnais ar y bwthyn bach,
A mam sydd yn ei bedd!


Ce's lawer noson ddifyr iawn
Ar aelwyd tŷ fy nhad,
A chanu llawer hir brydnawn
Alawon hoff fy ngwlad;
Ond llawer o'm cyfoedion cu
A roed yn llwch y llawr,
Ac adsain hoff ein canu ni
Sydd wedi tewi'n awr.

Mae hen adgofion yn ymdroi
O gylch y bwthyn clŷd,
A'm myfyrdodau sydd yn ffoi
I hwn o bellder byd;
Dychymyg sydd yn gweld fy nhad,
A'm mam ar dir y byw,
A thynn ei ddarlun o fy ngwlad,
Ond gwag ddychymyg yw!

Anwyl yw gwedd y bwthyn bach tlws,—
Anwyl yw'r eiddew sy' o amgylch y drws;
Anwyl yw'r côf am faboed di nam,
Anwyl yw, anwyl yw meddwl am mam.


DEWCH ADREF, FY NHAD.

"Father, come home."

DEWCH adref, dewch adref, 'rwy'n erfyn, fy nhad,
Mae bysedd yr awrlais ar un,
Addawsoch ddod adref 'nol darfod eich gwaith
Er mwyn eich anwyliaid eich hun:
Mae'r tân wedi diffodd, mae'r aelwyd mor oer,
A mami a'i llygaid yn lli',
A mrawd yn ei breichiau bron gadael y byd,
Heb undyn i'w helpu 'blaw fi:


Fy nhad, fy nhad,
Dewch adref, dewch adref, fy nhad,
Pwy na wrandawai ar lais
Geneth anwyl mor llawn o dristad?
Pa galon na roddai ufudd-dod i'w chais:—
Dewch adref, dewch adref, fy nhad.

'Rwy'n erfyn trwy'm dagrau dowch adref, fy nhad,
Mae'n ddau ar hen awrlais y llan,
Mae'r tŷ'n mynd yn oerach, a mrawd sydd yn waeth,
Mae'n galw am danoch yn wan;
Mae mami dan wylo yn dweyd nad all fyw,
Efallai, hyd doriad y wawr;
Er mwyn fy mrawd bychan a dagrau fy mam,
'Rwy'n erfyn dewch adref yn awr:
Fy nhad, fy nhad,
Dewch adref, dewch adref, fy nhad.

'Rwy'n erfyn yn daerach, dewch adref, fy nhad,
Mae bŷs yr hen awrlais ar dri,
Mae'n cartref mor unig a'r oriau mor faith
I mami hiraethlon a fi;
Heb ddim ond ein dwy,— bu farw fy mrawd,
Diangodd i nefol fwynhad,
A dyma'r gair olaf ddywedodd cyn mynd,—
"Mi hoffwn roi cusan i nhad:

Fy nhad, fy nhad,
Dewch adref, dewch adref, fy nhad,
Pwy na wrandawai ar lais
Geneth anwyl mor llawn o dristad?
Pa galon na roddai ufudd-dod i'w chais:—
Dewch adref, dewch adref, fy nhad.


HEDDWCH.

MAE Heddwch fel gwawr yn goreuro'r eangder,
Neu lon ragredegydd i Haul y cyfiawnder;
Nos dywyll sy'n dianc ar doriad y wawrddydd,
Ac felly creulondeb rhag heddwch a chrefydd.
Gwareiddiad a heddwch sy'n cyd-daenu golau,—
Pob bryn ddarostyngir— cyfodir y pantau;
Mewn effaith palmentir ffordd newydd a hyfryd
I gerbyd efengyl olwyno trwy'r holl fyd:
Daw rhyddid masnachol a'r byd yn gyfeillgar,
Rhoir gwregys tangnefedd am lwynau y ddaear.

Yr hen ager longau fu'n derbyn archollion
Gan belau dinistriol magnelau gelynion,
A lwythir yn awr â chenhadon a Beiblau;
 Estynant i Bagan efengyl a'i breintiau:
Cenhadon tangnefedd, a geiriau y bywyd,
Sy'n llwyth mil mwy gwerthfawr na'r fagnel ddychrynllyd

Pan gyflawn orchfyga Tywysog tangnefedd,
Y llewpard a'r mynn a wnant dawel gydorwedd.
Pryd hyn daw'r hen lew, ymerawdwr y goedwig,
I'r ddôl at y fuwch, a chydborant yn ddiddig;
Cnoi'i chil heb ddim arswyd wna'r fuwch ar y borfa,
A'r llew mor ddiniwaid o'i deutu chwareua,
Daw'r plentyn tyneraidd at hwn yn ddiarswyd,
A phletha ei law yn ei fwng mawr a dulwyd,
Heb arswyd fe'i tywys â thenyn o flodau,
Ymeifl yn ei farf, a chyd chwery â'i balfau;
Daw plentyn bach arall at dwll y sarff greulon,
Dat- droa ei chylchau,— ymeifl yn ei chynffon,
A chyda'i law arall fe chwery â'i cholyn,
Cyfrifa'i chen brithion heb ofni'r un gronyn.
Gordoir y ddaear â phob rhyw hyfrydwch,
Dan dawel deyrnasiad efengyl a heddwch:
Hen gorsydd yr anial flodeuant mewn mawrfri,
Lle pigai y drain, daw ffinidwydd yn llwyni.


GWNEWCH BOPETH YN GYMRAEG.

OS Cymry anwyl ydych,
Na wadwch byth mo'ch iaith,
Er mynd i wlad yr estron,
Neu groesi moroedd maith;
Os holir chwi yn Saesneg,
Yn Lladin neu'n Hebraeg,
Gofalwch, doed a ddelo,
Am ateb yn Gymraeg:

Siaradwch yn Gymraeg,
A chanwch yn Gymraeg,
Beth bynnag fo'ch chwi'n wneuthur,
Gwnewch bopeth yn Gymraeg.

Os gwneir cymwynas i chwi
Gan gyfaill ar eich taith,
Os cewch chwi eich boddloni
Mewn geiriau neu mewn gwaith,
Diolchwch am gymwynas
Yn acen yr hen aeg,
Ac os byth canmolwch rywun,
Canmolwch yn Gymraeg.

Pan fo'ch chwi wedi blino
Gan lafur maith y dydd,
A'r heulwen wrth fachludo
Yn gollwng pawb yn rhydd;
Adroddwch eich blinderau
Yng ngeiriau'r Omeraeg,
A phan yr ewch i gysgu,
Wel cysgwch yn Gymraeg.

Pan fyddo rhyw sirioldeb
Yn ysgafnhau eich bron,
A gwenau ar eich gwyneb,
A'r galon fach yn llon,

Addurnwch eich llawenydd,
A gwisg yr Omeraeg,
A phan yr ewch i chwerthin,
Wel chwarddwch yn Gymraeg.

Os ewch chwi dros glawdd Offa
I fyw at Sion y Sais,
Mae'n siwr o geisio'ch denu,
Ond peidiwch gwrando'i gais;
Ewch heibio'r capel Saesneg,
A chofiwch yr hen aeg,
Yn sŵn addoli'r Saeson
Addolwch yn Gymraeg:—

Siaradwch yn Gymraeg,
A chanwch yn Gymraeg,
Beth bynnag fo'ch chwi'n wneuthur,
Gwnewch bopeth yn Gymraeg.


DIOLCHGARWCH ADERYN.

DERYN bach
Yn y llwyn,
Gana'n fwyn,
Nes fy synnu gyda'i swyn;
Sain ei lais
Swyna lu,
Ar y gangen fry:
O! mae'r 'deryn wrth ei fodd
Pan yn diolch am bob rhodd,
Moliant yw'r
Nodau byw
Gana'r 'deryn gwiw;
Nid oes gofal dan ei fron,
Ysgafn beunydd ydyw hon,
Ac am gael fath galon iach,
Cana'r 'deryn bach.

Blentyn bach,
Cofia di'r
'Deryn cu
Gana ar y gangen fry,
Anfon cân
Lawn o dân
Tua'r nefoedd lân:
Fel y 'deryn bychan tlws
Sydd yn diolch wrth y drws,
Diolch wnawn
Am a gawn
Gyda chalon lawn;
Unwn oll mewn moliant byw
Am holl drugareddau Duw,
Canwn glôd â chalon iach
Fel y 'deryn bach.


ADGOFION DEDWYDD.

Canig.

DEDWYDD oedd treulio noson gynt
Ym mynwes hen wlad y gân,
Dedwydd oedd clywed sŵn y gwynt,
VA theimlo gwres y tân;
A'r merched iach
A'u troellau bach
Yn nyddu, yn nyddu y llin a'r gwlan:

Ceid hen hanesion Cymry fu
A wnaent orchestion heb eu hail,
Ac unai pawb o fewn y tŷ
I ganu bob yn ail:
Difyr oedd adrodd am Gymru a'i bri,
A difyr oedd canu'i halawon hi;
A'r troellau yn canu Bass i'r gân
Wrth nyddu, a nyddu y llin a'r gwlan.


CYMRU RYDD.

DATBLYGER baner glaerwen hedd
Ar ben pob clogwyn clir,
Mae Cymru wedi gweinio'i chledd
Ar ol gwasanaeth hir;
Mae nos trallodion wedi ffoi,
Ac wele daeth y dydd,
Mae dorau gorthrwm yn datgloi,
A Chymru'n rhydd, yn rhydd!

Hardd dorch o flodau moesau sydd
Am wddw Cymru wen,
A rhinwedd megis eurliw'r dydd
Sy'n dalaith am ei phen;
Awelon tyner cariad cu
Yn distaw sibrwd sydd
Wrth lwch gwroniaid "Cymru fu"
Fod Gwalia'n rhydd, yn rhydd!
 
Ymysg yr oll o'r perlau glân
Sy' nghoron benna'r byd,
Caiff pur deyrngarwch gwlad y gân
Fod byth y gloewa i gyd:
Bydd hen Geninen Cymru'n werdd
Tra golau haul y dydd,
A chenir gyda thant a cherdd
Fod Cymru'n rhydd, yn rhydd!


O NA BAWN I GARTREF.

ALAW," The last Rose of Summer."

NA bawn i gartref ar aelwyd fy nhad,
Yn lle bod fel alltud ymhell o fy ngwlad;
Lle treuliwn foreuddydd fy einioes yn llon
Heb ofid na hiraeth, yn ysgafn fy mron.


'N ol chwareu boreuddydd fy einioes i gyd,
Newidiodd y chwareu am ofal y byd;
Ymguddiodd haul disglaer boreuddydd fy oes
Tu ol i gymylau o drallod a loes.

'R oedd awyr boreuddydd fy einioes yn glir,
Ond ow! ni pharhaodd fy heulwen yn hir;
Daeth 'stormydd o ofid i hulio fy nèn,
Mae rhei'ny 'n ymdywallt o hyd am fy mhen.

Pan fyddaf yn cefnu ar ofid a loes,
Boed f'awyr yn ddisglaer fel boreu fy oes,
Terfyngylch fy hwyrddydd fo'n olau pryd hyn,
A'i belydr yn cyrraedd gwaelodion y glyn.


CARTREF MYNYDDOG-CEMMAES, SIR DREFALDWYN.


CARTRE'R BARDD.

CARTRE'R bardd caredig mwyn
Sydd dan y llwyn celynen,
Pwy a welodd lecyn bach
Siriolach îs yr heulwen;
Dymunoldeb pur a'i todd,
Mae'n lle wrth fodd yr awen.

Mynydd mawr tu cefn i'r tŷ
Ymgoda fry mewn mawredd,
Creigiau noethion ar ei warr
Sydd goron arucheledd;
Ac ar gopa tal y bryn
Mae'r cwmwl gwyn yn eistedd.

O! mae'r ardd o flaen y drws
Yn arlun tlws o Eden,
Hawdd yw gweld oddeutu'r lle
Ei fod yn gartre'r awen;
Yn y gwrychoedd gylch y tŷ
Barddoniaeth sy'n mhob deilen.


CYMRU, CYMRO, CYMRAEG.

ALAW, "The good Rhine Wine."

A WYR hen fynyddoedd Cymru iach
Yw'r awyr buraf brofais,
A sŵn ei nentydd bywiog, bach,
Yw'r sŵn pereiddia' 'rioed a glywais;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch eled Cymru wen.

Penderfynu sefyll fel y dur
Dros ei iawnderau'n mhobman,
Ac esgyn grisiau rhinwedd pur
Fo nôd pob Cymro "gwaed coch cyfan;"
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch eled Cymru wen.

Oes y byd i'r iaith Gymraeg, a chân,
A thelyn anwyl Cymru,
A'r hen alawon llawn o dân
O oes i oes fo'n cael eu canu;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch eled Cymru wen.


DACW'R BWTHYN GWYN.

ALAW," Just before the battle, mother."

DACW'R bwthyn gwyn y'm ganwyd
Ar y llechwedd bychan, tlws;
Dacw'r pistyll gloew'n disgyn
Ar y garreg wrth y drws:
Dacw'r hen gelynen anwyl
Yn ymgrymu gyda'r gwynt,
Dan ei chysgod bum yn chwareu
Fil o weithiau'r amser gynt:

Ond ffarwel i'r holl fwynderau
Gefais pan yn faban iach,
Mynwes ysgafn, ddi ofidiau,
Ydyw mynwes plentyn bach.

Boreu disglaer di gymylau
Ydyw boreu bywyd brau,
Cyn y daw canolddydd einioes
Mae'r awyrgylch yn trymhau;
Gofid eilw ofid arall,—
'Stormydd ddaw i hulio'r nen,
Ni ddaw diwrnod heb ei gawod
I ymdywallt am fy mhen.

Ple mae'r hen gymdeithion difyr
Oedd yn llawn o nerth a nwyf?
Ateb mae'r twmpathau gwyrddion
Sydd ym mynwent oer y plwyf;
Amser chwalodd nyth fy ngwynfyd
Gyda phedwar gwynt y nen,
Pan ai 'n awr i geisio cysur,
Trallod chwardda am fy mhen.

Ond ffarwel i'r holl fwynderau
Gefais pan yn faban iach,
Mynwes ysgafn, ddi ofidiau,
Ydyw mynwes plentyn bach.


YR ENETH AR Y BEDD.

ALAW,—"Annie Lisle."

DAN yr Ywen dewfrig gauad
Ar dywarchen lwys,
Gwelais eneth fach amddifad
Yn och'neidio 'n ddwys,
Ebai'r fechan,—"Dyma'r beddrod
Lle mae'm rhiaint cu,"
Ond o ganol loes a thrallod
Codai 'i golwg fry;—

Dwedai'r awel dyner, deneu,
Yn yr Yw uwch ben,
Nid oes galar na gofidiau
Yn y nefoedd wen.


Hiraeth wthiai'r dagrau gloewon
Dros ei gruddiau mâd,
Yn y beddrod 'roedd ei chalon
Gyda'i mam a'i thad;
Môr o dristwch ydyw'r ddaear
Mwy i'r eneth gu,
Ond o ganol tonnau galar
Codai 'i golwg fry.

"O na allwn wylo 'nghalon,"
Ebai'r eneth gu.
"Fel bo' nagrau'n berlau gloewon
Ar y beddrod du:
Nid yw 'nhad a mam yn wylo
Yn y nefoedd wiw,
Ac mae'r Iesu anwyl yno,—
Tad amddifaid yw: "—

Dwedai'r awel dyner, deneu,
Yn yr Yw uwch ben,
Nid oes galar na gofidiau
Yn y nefoedd wen.


MEDDYLIAU OFER IEUENCTID.

WR ieuanc, with ollwng y ffrwyn i dy feddwl
I edrych ymlaen ar bleserau y byd;
Wrth dynnu darluniau o einioes ddigwmwl
Meddyli mai mwyniant fydd d'amser i gyd;—
Arafa dy gamrau,— ystyria'th ffyrdd anghall,
Efallai fod gofid yn meddwl fel arall.

Wrth edrych ymlaen ar ryw gyfnod dychmygol
Mae'n hawdd gennyt feddwl am gyfoeth a bri,
A rhed dy ddychymyg ymhell i'r dyfodol,
A lleinw dy logell âg aur yn ddi ri';—
Arafa dy gamrau,— ystyria'th ffyrdd anghall,
Efallai fod tlodi yn meddwl fel arall.


Dy feddwl goledda fod coron anrhydedd
Yn goron osodir ryw dro ar dy ben;
Dychymyg gymera ddyrchafiad, a mawredd,
A gwenau cyfeillion i fritho ei len;
Arafa dy gamrau,— ystyria'th ffyrdd anghall,
Efallai fod siomiant yn meddwl fel arall.

Wrth edrych ar iechyd yn gosod ei rosyn
I harddu dy wyneb,— ystyria ei werth;
Wrth deimlo corff iachus, a nwyf ym mhob gewyn,
Mae'n hawdd gennyt feddwl y pery dy nerth;
Arafa dy gamrau,— ystyria'th ffyrdd anghall,
Efallai fod cystudd yn meddwl fel arall.

Wrth syllu ar d'einioes yng ngolau trybelid
Yr heulwen ddisgleiria ar foreu oes glir,
Gwnai gynllun o fywyd llawn c'yd a'r addewid,
Edrychi ar d'einioes yn gyfnod hir, hir;—
Arafa dy gamrau,— ystyria'th ffyrdd anghall,
Efallai fod angau yn edrych fel arall.


CARTREF.

ALAW," The tight little Island."

WEDI teithio mynyddoedd,
Llechweddi a chymoedd,
A llawer o diroedd blinderus,
'Does unlle mor swynol,
Na man mor ddymunol
A chartref bach siriol cysurus:

O fel mae'n dda gen' i 'nghartref,—
Mae sŵn bendigedig mewn "cartref;"
Chwiliwch y byd, drwyddo i gyd,
'Does unman yn debyg i gartref.


Pan fo'r gwyntoedd yn chwythu,
A'r storm yn taranu
Ei chorn i groesawu y gaeaf,
Mae nefoedd fy mynwes
Yn yr hen gornel cynnes,
Yng nghwmni fy nheulu anwylaf.

Mae yr aelwyd ddirodres
Yn agor ei mynwes
I'm derbyn yn gynnes, heb gennad;
Ac mae'r hen gadair hithau,
Yn estyn ei breichiau,
A bron a dweyd geiriau o gariad.

Mae y dodrefn yn gwenu
I gyd o fy neutu,
A phrin mae'r piseri heb siarad;
Ac mae'r hen awrlais tirion
Pan cura ei galon,
Yn siarad cysuron croesawiad.

O fel mae'n dda gen' i 'nghartref,—
Mae sŵn bendigedig mewn "cartref;"
Chwiliwch y byd, drwyddo i gyd,
'Does unman yn debyg i gartref.


PARADWYS Y DDAEAR.

PARADWYS y ddaear yw Cymru fach lonydd,
A bendith y nef ar ei phen;
'Rwy'n caru gwylltineb ysgythrog ei chreigydd,
A'm serch a ymglyma o amgylch ei moelydd
Fel iddew'n ymglymu am bren.

Coleddwn ein hiaith, a mawrygwn ein gwlad;
Tra cura y galon yn gynnes,—
Tra gronyn o serch yn ein mynwes,
Carwn hen Gymru fâd.


Mae'r awel a chwery a grug ei mynyddoedd,
A'i dyfroedd yn iechyd i gyd;
Ac yma mae'r awen, a'r delyn trwy'r oesoedd,
A rhyddid yn byw yn mynwesau y glynnoedd,
Addurnant baradwys y byd.

Mae enwau ei dewrion trwy'r byd yn ddiareb,
Ni fagodd y ddaear eu hail;
Ei harwyr gwladgarol sydd lawn o wroldeb,
A'u henwau ddarllennir ar graig anfarwoldeb
Tra goleu yn llygad yr haul.

Cael bwthyn i fyw, a chael bedd a ddymunaf
Yn rhywle yng Nghymru bach lon,
A'm gweddi at Dduw mewn Cymraeg a anadlaf,—
Bendithia hen Gymru, O! Dad trugarocaf,
:Dy nodded fo'n aros ar hon.

Coleddwn ein hiaith, a mawrygwn ein gwlad;
Tra cura y galon yn gynnes,—
Tra gronyn o serch yn ein mynwes,
Carwn hen Gymru fâd.


HOFFDER PENNAF CYMRO.
Canig.

HOFFDER pennaf Cymro yw
Gwlad ei dadau;
Dyna'r fan dymuna fyw
Hyd ei angau:
Chwareu ar ei bronnydd,
Yfed o'i ffynhonnydd,
A gwrando cân yr adar mân,
Delorant yn ei gelltydd.

Clywed rhu ei nentydd gwylltion,
Ac yfed iechyd o'i halawon,
Yw prif ddymuniad penna'i galon:
Mae golwg ar ei dolydd gwiwlwys,
Yn adlewyrchiad o baradwys,
Ac awyr iachus ei mynyddoedd
Yw'r awyr iachaf dan y nefoedd:
Mae 'ngwlad a fy nghalon fel wedi ymglymu,
Yn uwch, yn uwch dyrchafer hen Gymru.


O NA BAWN YN AFON!

ALAW, "Rosalie the Prairie Flower."

MYND ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Rhwng y dolydd lle mae blodau fyrdd;
Chwerthin mae am ben y 'Deryn du a'i gân,
Byncia ar y cangau gwyrdd:
Mynd ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Nid yw'n hidio rhwystrau bach na mawr;
Mynd ymlaen mae'r afon loew, loew, lân,
Mynd ymlaen i lawr, i lawr:
Rhwng ei cheulanau araf yr ä, Gwenu yn llon ar bopeth a wna,
Siarad dwyfol iaith ymysg y graian mân Mae yr afon loew, lân.

O na bawn i'n afon loew, loew, lân,
Unrhyw ofid dwys na phoen ni chawn;
Treulio f'oes ynghanol blodau tlŵs a chân,—
Fel yr afon, O na bawn!
O na bawn i'n afon loew, loew, lân,
Fel y gallwn beidio hidio'r byd,
Chwerthin ar flinderau'r ddaear fawr a mân,
Mynd ymlaen, ymlaen o hyd:
Teithio yn ddiwyd i dŷ fy nhad,
Tynnu o hyd tua môr cariad rhâd;
Treiglo tuag eigion gwynfyd pur a chân,
Fel yr afon loew, lân.



GYDA'R WAWR.

ALAW," Gyda'r Wawr."

UDGANAI udgorn rhyfel,
Gyda'r wawr,
Gweryrai'r meirch yn uchel,
Gyda'r wawr;
Bu galed iawn y brwydro,
A'm hanwyl briod yno
Yn gorwedd wedi 'i glwyfo
Gan alw am ei Weno,
Gyda'r wawr.

Eis yno'r boreu wedyn
Gyda'r wawr,
I chwilio am Llewelyn,
Gyda'r wawr;
Ce's weld ei ruddiau gwelw,
Ce's glywed sŵn fy enw,
Oddiar ei fin wrth farw—
Rhyw foreu prudd oedd hwnnw,
Gyda'r wawr.

Bob dydd 'rwy'n mynd er hynny,
Gyda'r wawr,
At fedd y gŵr wy'n garu,
Gyda'r wawr;
I blannu tlysion flodau,
Eneiniwyd gyda'm dagrau,
Tra'r dydd yn taflu'i olau,
I ddweyd y cwyd ryw foreu,
Gyda'r wawr.


YR AMSER GYNT.

ALAW," Auld Lang Syne."

MI welais lawer tro ar fyd,
A llawer stormus hynt,
Er pan yn siarad gylch y cryd,
Yng nghôl yr hen amser gynt;
A wyt ti'n cofio, gyfaill mwyn,
Fel 'ro'em mor ysgafn droed,
Dan chwareu a neidio fel yr ŵyn
I ysgol Tan-y-coed?

Er mwyn yr hen amser gynt, fy ffrynd,
Er mwyn yr hen amser gynt;
Cawn eistedd lawr i siarad awr,
Er mwyn yr hen amser gynt.

A wyt ti'n cofio'r ddifyr drefn
O fyned gyda'r plant,
I deimlo dan bob carreg lefn
Am bysgod yn y nant;
A phan y trodd y garreg fawr
O dan y weirglodd wen,
A ninnau arni'n syrthio i lawr
I'r afon dros ein pen.

A wyt ti'n cofio'r oriau maith
Wrth ddysgu gylch y bwrdd,
A gwaeddi a helynt lawer gwaith
Wrth gael ein gollwng ffwrdd;
Edrychem fel rhyw saint mewn trefn
Pan roddai'r meistr sen,
Ac wedyn pan y tro'i ei gefn,
Cyd-chwarddem am ei ben.

A wyt ti'n cofio maint ein blys
Am dyfu'n ddynion llon,
Pob dydd a dreuliem cy'd a mis—
Pob mis fel blwyddyn gron;

A'r chwysu mawr wrth chwareu pêl,
A churo "bando " iach,
'Does cwpan neb mor llawn o fêl
A chwpan plentyn bach.

Mae'r hen deganau wedi ffoi
I gyd i'r pedwar gwynt;
Nid oes i'w wneyd yn awr ond troi
Dalennau'r amser gynt;
Os syrthiodd rhai cyfoedion gwiw
I huno hûn o hedd,
Mae hen adgofion eto'n fyw,
Fel engyl uwch eu bedd.

Er mwyn yr hen amser gynt, fy ffrynd,
Er mwyn yr hen amser gynt;
Cawn eistedd lawr i siarad awr,
Er mwyn yr hen amser gynt.


DEWCH I'R FRWYDR.

WELE'R T'wysog ar Blumlumon
Yn rhoi bloedd trwy'r udgorn mawr;
Wele 'i fyddin megis afon
Yn ymdywallt ar i lawr!
Dewch i'r frwydr, medd y dreigiau
Chwyfiant ar glogwyni'n gwlad;
Dewch i'r frwydr, medd y creigiau,
Gyd-atebant gorn y gâd.

Dewch i'r frwydr dros garneddau
Hen d'wysogion "Cymru fu,"
Dewch yn awr dros fil o feddau
Wyliant ryddid "Cymru sy';"

Ar y beddau mae ysbrydion
Sydd yn dweyd o ddydd i ddydd,—
"Dewch i'r frwydr, Gymry dewrion,—
'Rhaid cael Cymru'n Gymru rydd."

Ymladd drosom y mae'r nefoedd,
Gwylia'r sêr uwch Gwalia lân,
Cynorthwyo mae'r tymhestloedd,—
Yna'r mellt a'u saethau tân;
"Dewch i'r frwydr," medd elfennau,—
Rhyddid wen yn bloeddio sydd,
Fel angyles uwch ein pennau:—
"Rhaid cael Cymru'n Gymru rydd."


CYNLLUN-WERS.

Dyma ddeuddeg gofyniad ar un pennill, ac ateb iddynt gan eneth ysgol bymtheg oed. Ymarfered pob ysgolor ateb y gofyniadau hyn, neu eu tebyg, ar rai o'r penhillion ereill. 1. Translate:—

Disgynnai'r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn,
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei chanwyll frwyn,
Wrth wely ei chystuddiol dad,
A'i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu'r wylo iddi'i hun
A darllen y Beibl Mawr.


The rain was falling and the night— wind was roaring in the woods, when a poor, motherless little girl was holding her rush candle by the bed of her invalid father, kneeling on the floor, weeping silently, and reading the Family Bible.

2. Write the verse in your own words as a story:—

Unwaith ar noson wlawog, tra gwynt yn rhuo yn y coed, penliniai geneth fach ar y llawr wrth erchwyn gwely ei thad claf. Yr oedd yr eneth fach yn dlawd ac wedi claddu ei mham. Wrth oleu canwyll frwyn oedd yn ei llaw, darllennai'r Beibl mawr gan ymdrechu peidio wylo'n uchel.

3. Parse:—

Disgynnai'r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn.


Disgynnai Verb, intrans., reg., act. voice, indic. Mood imper. tense, 3rd pers., sing.

'r Def. article, past vocalic form, qual. "gwlaw."

gwlaw Com. noun, masc. gen., sing. no., nom. case to "Disgynnai."


a Conj. joining "Disgynnai'r gwlaw. . .gwynt a ruai.

gwynt Com. noun, masc. gen., sing. no., norn. case to "ruai.'

y Def. article, qual. "nos."

nos Com. noun, fem. gen., sing. no., poss. (Genitive) case, possessing "gwynt."

a rel. pron., mas. gen., sing. no., nom. case, agreeing with its antecedent "gwynt."

ruai Verb intrans., reg., act. voice, indic. mood, imper. tense, 3rd pers. sing.

yn Prep. governing "llwyn" in the Obj. (Accusative) Case.

y Def. art., qual. "llwyn."

llwyn Com. noun, masc. gen., sing. no., obj. case, after prep. "yn."

4. Analyse—

Disgynnai'r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn."

Con. W'ord. . . Ext. of Pred. Subject. Predicate Object Ext. of Pred.
r gwlaw Disgynnai
a gwynt y nos ruai yn y llwyn.

5. Make a list of the nouns in the verse. Give their plural or singular, gender and equivalent in English.

gwlaw, m., rain, gwlawogydd.
gwynt, m., wind, gwyntoedd.
nos, f., night, nosweithiau.
llwyn, m., forest, llwyni.
genethig, f., a little girl, no plural; diminutive noun fr. geneth
canwyll, f., a candle, canhwyllau.
brwynen, f., a rush, brwyn.
gwely, m., a bed, gwelyau.
tad, m. (mam fem.), father, tadau (mamau).
glin, f., knee, gliniau.
llawr, m., floor, lloriau.
Beibl, m., Bible, Beiblau.


6. Write out the verb nouns of the verbs in the verse, with their meaning.

disgyn, to descend; rhuo, to roar; bod, to be; dal, to hold; tynnu, to draw; darllen, to read.

7. Make a list of the adjectives and compare them. tlawd, tloted, tlotach, tlotaf, or mor dlawd, mwy tlawd, mwyaf tlawd.

mawr, cymaint, mwy, mwyaf,

cystuddiol, mor gystuddiol, mwy cystuddiol, mwyaf cystuddiol.

brwyn is a noun used as an adjective.

difam is an adj. formed from the noun mam (mother) and the prefix di (without)=motherless.

8. Decline the Prepositions yn, wrth, ar.

1st per. sing. . . . . ynnof . . . . wrthyf . . . . arnaf.
2nd ynnot wrthyt arnat.
3rd ynddo or ynddi wrtho or wrthi arno or arni.
.
1st pers. plu. ynnom wrthym arnom
2nd wrthoch arnoch
3rd ynddynt wrthynt arnynt

9. How do words beginning with the letters c, p, t, b, d, g, ll, m, &c., mutate (change) after the Prepositions ar, yn, wrth? Give examples.

c, p, t, change into the soft mutation g, b, d, after ar and wrth.

ar Gaer, ar bont, ar dân.

wrth Gorwen, wrth bren, wrth droed.

c, p, t, after yn change into nasal mutation ng, mh, nh.

yng Nghaer, ym Mangor, ym Mhwllheli.

10. What mutations follow ei in this verse?

ei chystuddiol. c is mutated into the nasal ch.

ei chanwyll. c is mutated into the nasal ch.

ei (her) fem., takes the nasal form; ei "(his) masc. takes the soft mutation-ei ganwyll, ei gystuddiol.

11. Explain the following words,-genethig, frwyn, chystuddiol, dad.

genethig is formed from the noun geneth, and the diminutive termination,-ig, forming a diminutive noun. Compare afonig, oenig.

frwyn is from the noun brwyn, sing. brwynen. It is here used as an adjective. 6 mutates into f because canwyll is a feminine noun.

chystuddiol dad. The adjective in Welsh, as a rule follows the noun. In English it precedes the noun. Ei thad cystuddiol would be the correct form in prose, but in poetry the adj. sometimes precedes the noun. There are a few adjectives that always come before the noun prif, arch.

12. Write six sentences based upon the words in the verse.

(1) Yr oedd ei thad cystuddiol yn gorwedd ar ei wely.
(2) Penliniai yr eneth fach druan ar y llawr oer.
(3) Chwythodd y gwynt y ganwyll frwyn allan.
(4) Hon yw yr eneth sydd wedi colli ei llyfr.
(5) Goleu gwan sydd gan y ganwyll.
(6) Cofiwch ddarllen y Beibl bob nos.

Nodiadau

golygu
  1. Ar goll
  2. Annie Lisle gan Henry S. Thompson ar Wicidestun Saesneg
  3. Diawl y wasg Mynyddog
  4. 4.0 4.1 Diawl y wasg 'Richard
 

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.