Ceiriog a Mynyddog/Lisi Fluelin
← Cymanfa Masnach Rydd | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Yn Ynys Mon Fe Safai Gŵr → |
LISI FLUELIN.
MAE Lisi Fluelin yn cael ei phen blwyddyn,
A phlant Mrs. Parry a phlant Mrs. Grey
Am gynnal y diwrnod yn ol braint a defod,
Trwy fwyta cacenau, a chyd yfed tê.
Cydgan y plant—
Mae Lisi bach yn deirblwydd oed,
Yn deirblwydd oed, yn deirblwydd oed:
Sirioli mae'r tân
Wrth glywed y gân,
A dawnsio mae'r gadair a'r stôl dri throed,
Oblegid fod Lisi'n deirblwydd oed.
Mae un am gael chwaneg o dôst bara canrheg,
Gan gyrraedd am dano heb rodres na rhith:
Ond mae y mwyafrif yn edrych o ddifrif
Ar gwpan y siwgwr, a'r plât bara brith.
Mae pob un yn rhoddi rhyw anrheg i Lisi,
Rhyw wydryn, neu gwpan, neu ddoli fach bren;
Ac Alis bach Owen, a'i hwyneb yn llawen,
Yn dod a gwniadur a rîl ede wen.
Mae Ifan bach Parry, yn llawn o ddireidi,
Yn dyfod a phictiwr o'i waith ef ei hun:
Ond wrth iddo redeg ar frys efo'r anrheg,
Ca'dd godwm anffodus a thorrodd y llun.
Mae Robert brawd Ifan, ar ochr y pentan
Yn rhoi cregyn cocos dan draed y gath ddu:
Mae "Gelert a'r sospan ynglŷn wrth ei gynffon,
Yn mynd am ei einioes gan synnu beth sy'.
Mae'n dda gennyf ganfod y plant yn cael diwrnod
I chwareu'n blith— dra— fflith yn un a chytûn:
A chadw penblwyddyn Miss Lisi Fluelin,
Er mwyn yr hen amser bum blentyn fy hun.
Mae Lisi bach yn deirblwydd oed,
Yn deirblwydd oed, yn deirblwydd oed:
Sirioli mae'r tân
Wrth glywed y gân,
A dawnsio mae'r gadair a'r stôl dri throed,
Oblegid fod Lisi'n deirblwydd oed.