Ceiriog a Mynyddog/Maes Crogen Bore Trannoeth

Pa Le Mae'r Hen Gymry? Ceiriog a Mynyddog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)


golygwyd gan John Morgan Edwards
Tros y Garreg

MAES CROGEN BORE TRANNOETH.

Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae tŷ fferm mawr, o'r enw Crogen Iddon. Ac ar y llechwedd, yr ochr arall i'r afon, y mae Castell Crogen, yr hwn a adwaenir yn awr dan yr enw Castell y Waun. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owain Gwynedd, a milwyr Harri yr ail. Yr oedd Harri wedi ei orfodi i ddychwelyd i'w wlad ei hun ddwywaith o'r blaen, ond i ymosod drachefn ar Gymru fe grynhodd ei holl rym milwrol o Ffrainc a Flanders, yn gystal ag o holl wledydd Lloegr. Yr oedd ganddo berffaith hyder o barth llwyddiant y rhyfelgyrch hwn. Yr oedd ei fyddin yn awchus am fuddugoliaeth, a sychedig am ymddial hyd yr eithaf. Arweiniwyd hwy gan Harri i gymydogaeth Croesoswallt, er mwyn ymosod yn gyntaf ar diriogaethau Owain Gwynedd, y galluocaf o'r tywysogion Cymreig. Yn y cyfamser, nid oedd y Cymry yn segur, ond ymunasant i'r frwydr y tro hwn yn well nag ond odid un amser. Penderfynasant gyfarfod oll yng Nghaer Drewyn. Llifodd cadernid Gwynedd yno o dan Owain. Daeth Owain Cyfeiliog, Madog ap Meredydd, a gwŷr Powys, sef Sir Amwythig, i'r un lle. Dygodd dau fab Madog ap Idner wŷr y wlad, a orwedd rhwng afon Gwy a'r Hafren. Gwersyllodd Harri o dipyn i beth yng nghoed Eflo, a glannau afon Ceiriog. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin— ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i. O leiaf, dyna y traddodiad. Mae haneswyr yn gyffredinol yn cyfleu y frwydr fu rhyngddynt yn ymyl Crogen. Gweler "Cofion Dyfrdwy," gan Meudwy Môn, yn y "Traethodydd" am 1855, tudalen 366. Gorfu i Harri droi yn ol y drydedd waith, ar ol ymladdfa Crogen, ond i'r "hin afrywiog" y priodolir methiant y rhyfelawd hwn gan hanesiaeth ein cyfeillion Seisnig. Dywed yr Atheneum am y dôn hon ei bod yn tra rhagori ar y dôn Wyddelig, "The Last Rose of Summer."— J.C.H.

Alaw,—Y Fwyalchen

Y frwydr aeth trosodd o'r diwedd,
A baeddwyd y gelyn yn llwyr;
A'r sêr edrychasant ar Wynedd,
A'r bore ddilynodd yr hwyr.
'R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
Am sefyll tros Wynedd yn bur—
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
I chwilio am feibion a gwŷr.

Fe ganai mwyalchen er hynny,
Mewn derwen ar lannerch y gad;
Tra 'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu,
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.
Gorweddai gŵr ieuanc yn welw,
Fe drengodd bachgennyn gerllaw;
Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
A'i gleddyf yn fyw yn ei law.

Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;
Agorwyd y ffos ac fe 'i cauwyd,
Ond canai 'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn fyd yr aderyn nas gŵyr
Am alar y byw am y meirw,
Y bore ddilynodd yr hwyr.


Nodiadau

golygu