Ceiriog a Mynyddog/Dacw'r Bwthyn Gwyn
← Cymru, Cymro, Cymraeg | Ceiriog a Mynyddog gan Mynyddog golygwyd gan John Morgan Edwards |
Yr Eneth ar y Bedd → |
DACW'R BWTHYN GWYN.
ALAW," Just before the battle, mother."
DACW'R bwthyn gwyn y'm ganwyd
Ar y llechwedd bychan, tlws;
Dacw'r pistyll gloew'n disgyn
Ar y garreg wrth y drws:
Dacw'r hen gelynen anwyl
Yn ymgrymu gyda'r gwynt,
Dan ei chysgod bum yn chwareu
Fil o weithiau'r amser gynt:
Ond ffarwel i'r holl fwynderau
Gefais pan yn faban iach,
Mynwes ysgafn, ddi ofidiau,
Ydyw mynwes plentyn bach.
Boreu disglaer di gymylau
Ydyw boreu bywyd brau,
Cyn y daw canolddydd einioes
Mae'r awyrgylch yn trymhau;
Gofid eilw ofid arall,—
'Stormydd ddaw i hulio'r nen,
Ni ddaw diwrnod heb ei gawod
I ymdywallt am fy mhen.
Ple mae'r hen gymdeithion difyr
Oedd yn llawn o nerth a nwyf?
Ateb mae'r twmpathau gwyrddion
Sydd ym mynwent oer y plwyf;
Amser chwalodd nyth fy ngwynfyd
Gyda phedwar gwynt y nen,
Pan ai 'n awr i geisio cysur,
Trallod chwardda am fy mhen.
Ond ffarwel i'r holl fwynderau
Gefais pan yn faban iach,
Mynwes ysgafn, ddi ofidiau,
Ydyw mynwes plentyn bach.