Ceiriog a Mynyddog/Cymru, Cymro, Cymraeg

Cartre'r Bardd Ceiriog a Mynyddog

gan Mynyddog


golygwyd gan John Morgan Edwards
Dacw'r Bwthyn Gwyn

CYMRU, CYMRO, CYMRAEG.

ALAW, "The good Rhine Wine."

A WYR hen fynyddoedd Cymru iach
Yw'r awyr buraf brofais,
A sŵn ei nentydd bywiog, bach,
Yw'r sŵn pereiddia' 'rioed a glywais;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch eled Cymru wen.

Penderfynu sefyll fel y dur
Dros ei iawnderau'n mhobman,
Ac esgyn grisiau rhinwedd pur
Fo nôd pob Cymro "gwaed coch cyfan;"
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch eled Cymru wen.

Oes y byd i'r iaith Gymraeg, a chân,
A thelyn anwyl Cymru,
A'r hen alawon llawn o dân
O oes i oes fo'n cael eu canu;
Tra t'w'no seren yn y nen,
Yn uwch, uwch, uwch eled Cymru wen.


Nodiadau

golygu