Ceiriog a Mynyddog/Cartre'r Bardd

O Na Bawn i Gartref Ceiriog a Mynyddog

gan Mynyddog


golygwyd gan John Morgan Edwards
Cymru, Cymro, Cymraeg

CARTREF MYNYDDOG-CEMMAES, SIR DREFALDWYN.


CARTRE'R BARDD.

CARTRE'R bardd caredig mwyn
Sydd dan y llwyn celynen,
Pwy a welodd lecyn bach
Siriolach îs yr heulwen;
Dymunoldeb pur a'i todd,
Mae'n lle wrth fodd yr awen.

Mynydd mawr tu cefn i'r tŷ
Ymgoda fry mewn mawredd,
Creigiau noethion ar ei warr
Sydd goron arucheledd;
Ac ar gopa tal y bryn
Mae'r cwmwl gwyn yn eistedd.

O! mae'r ardd o flaen y drws
Yn arlun tlws o Eden,
Hawdd yw gweld oddeutu'r lle
Ei fod yn gartre'r awen;
Yn y gwrychoedd gylch y tŷ
Barddoniaeth sy'n mhob deilen.


Nodiadau

golygu