Ceiriog a Mynyddog/Yr Eneth ar y Bedd

Dacw'r Bwthyn Gwyn Ceiriog a Mynyddog

gan Mynyddog


golygwyd gan John Morgan Edwards
Meddyliau Ofer Ieuenctid

YR ENETH AR Y BEDD.

ALAW,—"Annie Lisle."

DAN yr Ywen dewfrig gauad
Ar dywarchen lwys,
Gwelais eneth fach amddifad
Yn och'neidio 'n ddwys,
Ebai'r fechan,—"Dyma'r beddrod
Lle mae'm rhiaint cu,"
Ond o ganol loes a thrallod
Codai 'i golwg fry;—

Dwedai'r awel dyner, deneu,
Yn yr Yw uwch ben,
Nid oes galar na gofidiau
Yn y nefoedd wen.


Hiraeth wthiai'r dagrau gloewon
Dros ei gruddiau mâd,
Yn y beddrod 'roedd ei chalon
Gyda'i mam a'i thad;
Môr o dristwch ydyw'r ddaear
Mwy i'r eneth gu,
Ond o ganol tonnau galar
Codai 'i golwg fry.

"O na allwn wylo 'nghalon,"
Ebai'r eneth gu.
"Fel bo' nagrau'n berlau gloewon
Ar y beddrod du:
Nid yw 'nhad a mam yn wylo
Yn y nefoedd wiw,
Ac mae'r Iesu anwyl yno,—
Tad amddifaid yw: "—

Dwedai'r awel dyner, deneu,
Yn yr Yw uwch ben,
Nid oes galar na gofidiau
Yn y nefoedd wen.


Nodiadau

golygu