Ceiriog a Mynyddog/Ffarwel iti, Gymru Fad

Myfanwy Ceiriog a Mynyddog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)


golygwyd gan John Morgan Edwards
Morfa Rhuddlan

FFARWEL I TI, GYMRU FAD

Y Gerddoriaeth (Canig) gan Dr. Jos. Parry.

Ffarwel iti, Gymru fad,
Mynd yr ydym tros y tonnau,
Mynd gan adael ar ein holau
Beddau mam a beddau tad;
O ffarwel, ein hanwyl wlad.

Tua'r lan fe drodd y bâd,
Tra cyfeillion ger yr afon
Godant eu cadachau gwynion;
Rhaid dy adael, Gymru fad,
O! ffarwel, ein hanwyl wlad.

Ffarwel, ffarwel, Gymru fad,
Bydd yr heniaith a ddysgasom,
A'r alawon a ganasom
Gyda ni mewn estron wlad;
Ffarwel iti, Gymru fad.


Nodiadau

golygu