Ceiriog a Mynyddog/Y Tren
← Y Gwely o Gymru | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Telyn Cymru → |
Y TREN.
[Y gerddoriaeth yn " Gems" Owain Alaw, ac hefyd i T.T.B.B. gan Ioan Williams, A.R.C.M.]
ROL lapio'm traed mewn hugan lwyd,
Fel pawb oedd yn y trên;
Ac ysgwyd llaw âg Wmffra Llwyd
A chanu'n iach i Jane,—
Chwibanodd y peiriant yn gryf ac yn groch,
Fel gwichiad soniarus pum ugain o foch;
"All right," meddai rhywun, a chanwyd y gloch.
Hergwd a phwff,
Ac mewn hanner chwiff,
Ysgytiad a chwff,
Piff, piff, piff-a-piff-piff,
Hwlti heltar skiltar skeltar,
A ffwrdd a ni
Fel rhai ar badellau,
Neu rês o degellau,—
Linc lonc wrth gynffon ci.
O danom mae teiau,
A llwyn o simneiau
Yn agor eu safnau 'n sỳn;
Ond wele ni'n sydyn,
Heb neb yn anhydyn,
Mewn hanner munudyn
Tros ddyffryn a bryn;
Trwy y twnel— tros y pynt
Fel y gwynt:
Bwrw drwyddi— 'mlaen a hi
Yn gynt, gynt, gynt,
Pellach, pellach
Cipir ni
Strim stram strellach:
Ha ha! hi!
Dacw efail, dacw shiop,
Dyma Gymru,— stop, stop, stop!