Ceiriog a Mynyddog/Annie Lisle
← Dychweliad y Cymro i'w Wlad Ei Hun | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Yr Arad Goch → |
ANNIE LISLE
(Lledgyfieithiad)[1]
Ar fin yr afon araf yn y goedwig gain,
Fan mae'r dŵr yn gwneud arluniau gwiail melyn main,
Fan mae'r adar haf yn canu yn eu temlau dail,
Yma'r ydoedd am ryw adeg annedd Annie Lisle.
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.
Mwyn, mwyn yw'r awel beraidd, gana fel y dêl,
Trwy ryw fyrdd o erddi gwyrddion, lifant laeth a mel,
Ond ar wely wedi marw gorwedd Annie Lisle,
Hi ni egyr ei du lygad, Angau'n dyn a'i deil.
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.
"Cwyd fi, fy mam anwylaf, gad i'm weld y plant,
Yn y brwyn a'r melyn helyg draw ar fin y nant;
Hust! mi glywaf fiwsig nefol, miwsig Iesu'r nef,
Mam anwylaf, mi anelaf at ei fynwes Ef."
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.
Nodiadau
golygu- ↑ Annie Lisle gan Henry S. Thompson ar Wicidestun Saesneg