Ceiriog a Mynyddog/Yr Arad Goch
← Annie Lisle | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Y Gwcw → |
O ALUN MABON.
YR ARAD GOCH.
Os hoffech wybod sut
Mae dyn fel fi yn byw,
Mi ddysgais gan fy nhad
Grefft gyntaf dynol ryw;
Mi ddysgais wneyd y gors
Yn weirglodd ffrwythlon ir,
I godi daear las
Ar wyneb anial dir.
'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr,
Ac yn codi efo'r wawr,
I ddilyn yr ôg, ar ochr y Glôg,
A chanlyn yr arad goch
Ar ben y mynydd mawr.
Cyn boddio ar eich byd,
Pa grefftwyr bynnag foch,
Chwi ddylech ddod am dro
Rhwng cyrn yr arad goch;
A pheidiwch meddwl fod
Pob pleser a mwynhad
Yn aros byth heb ddod
I fryniau ucha'r wlad.
Yn ol eich clociau heirdd,
Bob bore codwch chwi:
Y wawr neu wyneb haul
Yw'r cloc a'n cyfyd ni;
Y dyddiaduron sydd
Yn nodi'r haf i chwi;
Ond dail y coed yw'r llyfr
Sy'n dod a'r haf i ni.
Nis gwn i fawr am fyw
Mewn rhwysg a gwychder byd;
Ond diolch, gwn beth yw
Gogoniant bwthyn clyd;
Ac eistedd hanner awr
Tan goeden ger fy nôr,
Pan aiff yr haul i lawr,
Mewn cwmwl tân i'r môr.
Cerddorion Ewrop ddont
I'ch mysg i roddi cân:
'R wyf innau'n ymfoddhau
Ar lais y fronfraith lân;
Wrth wrando'r gwcw las,
A'r hedydd bychan fry,
A gweled Robyn Goch
Yn gwrando'r deryn du.
Ddinaswyr gwaelod gwlad,
A gwŷr y celfau cain,
Pe welech Fai yn dod,
A blodau ar y drain—
Y rhosyn ar y gwrych,
A'r lili ar y llyn;
Fe hoffech chwithau fyw
Mewn bwthyn ar y bryn.
Pan rydd yr Ionawr oer
Ei gaenen ar yr ardd,
Y coed a dro'nt yn wyn
Tan flodau barrug hardd;
Daw bargod dan y to
Fel rhes o berlau pur,
A'r eira ddengys liw
Yr eiddew ar y mur.
Daw Ebrill yn ei dro,
A chydag ef fe ddaw
Disymwth wenau haul,
A sydyn gawod wlaw;
Fel cyfnewidiog ferch,
Neu ddyn o deimlad gwan,
Galara'r awyr las,
A gwena yn y fan.
'Rwy'n gorwedd efo'r hwyr,
Ac yn codi efo'r wawr,
I ddilyn yr ôg ar ochor y Glôg
A chanlyn yr arad goch
Ar ben y mynydd mawr.