Ceiriog a Mynyddog/Bedd Llewelyn (Ceiriog)
← Hun Gwenllian | Ceiriog a Mynyddog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) golygwyd gan John Morgan Edwards |
Y March a'r Gwddw Brith → |
BEDD LLYWELYN
Alaw,—Goslef Llywelyn
I feddrod Llywelyn mae'r tir wedi suddo,
Ac arno'r gwlawogydd arosant yn llyn;
Mae'r lloer wrth ymgodi, a'r haul wrth fachludo,
Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.
Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
A deryn y mynydd yn nabod y bedd.
Ar ddamwain mae'r Cymro yn dyfod i weled,
Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran;
Yr awel a gwyna a'r ddaear a ddywed,
Fod calon hen Walia yn curo 'n lled wan;
Dieithriaid a ddônt i weled y fan
Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd;
Wel diolch am ddeigryn o'r nefoedd i waered,
Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd!