Ceiriog a Mynyddog/Mynyddog

Y Mynyddau Mawr Ceiriog a Mynyddog

gan John Morgan Edwards

Y Lili a'r Rhosyn

MYNYDDOG.

Mynyddog, gwr mwyn addien— ga' urddas
Angel gerddor trylen;
Er hunan, deil ffrwyth awen
Y mawr gawr tra'r Gymraeg wen."

YN Llanbrynmair, ardal hynod am ei henwogion, y ganwyd Mynyddog,— yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes cyn cael ei roddi i huno yn ei daear, yn 44 mlwydd oed.

Pymtheg mlynedd ar hugain yn ol, nid oedd neb mor adnabyddus yng Nghymru na Mynyddog, na'r un cymeriad a hoffid gan Werin Cymru yn fwy nag efe. Mewn ffermdy elwid Dôl Lydan y ganwyd ef, Ionawr 10, 1833. Pan oedd Ceiriog[1] yn flwydd oed, bedyddiwyd ef gan y Parch. John Roberts,— tad S.R., J.R., a G.R., a galwyd ef John[2] Symudodd ei rieni yn fuan i ffermdy mwy,— Y Fron, lle y treuliodd y Bardd fore oes dedwydd.

Yma mae'r bwth ar y Fron,
Cartref fy mam a fy nhad;
O! fel mae'n dda gennyf hon,
Anwyl yw Gwalia fy ngwlad."

Yr oedd o deulu cerddorol,— ei dad, Daniel Davies, godai'r canu yn yr Hen Gapel, fel y gwnai Mynyddog ar ei ol. Gweithiai John[2] yn galed y dydd gyda'r wedd, ac ymroddai'r hwyr, a phob cyfle gai, i ddiwyllio ei hun trwy ddarllen barddoniaeth, ac ymberffeithio yn y mesurau caeth a rhydd; ac ysgrifennu i'r "Cronicl destynau addysgiadol. Galwodd ei hun yn "Mynyddog" oddiwrth enw ffridd oedd y tu uchaf i'w dŷ. Meistrolodd reolau barddoniaeth, ac enillodd aml wobr; ond blinodd yn fuan ar gystadlu ar y mesur caeth. "Yr wyf yn fwy dedwydd o'r hanner," meddai, "wrth ganu caneuon bychain o'm dewisiad fy hun fel daw'r hwyl." Cyn hir, wedi marw ei dad, symud—odd i fyw i Gemaes, a galwodd ei dŷ newydd yn "Bron y Gân." Gelwid am ei wasanaeth fel beirniad, datganwr ac arweinydd i bob llan a thref, a byddai enw Mynyddog yn ddigon i sicrhau llwyddiant unrhyw gyfarfod. Fel arweinydd Eisteddfod, nid oedd ei ail,—difyrrai'r dorf â'i arabedd parod, neu ystori bert neu gân darawiadol. Meddai gorff lluniaidd, tal, heinyf, llygaid treiddgar, wyneb hardd, gwên siriol, a llais clir, swynol. Canai dan gyfeilio ei hun mor naturiol a dirodres ag aderyn. Byddai ganddo wers i'w dysgu ym mhob un o'i ganeuon. Yr oedd yn Eisteddfodwr selog, a hiraethai, fel Ceiriog, am ddiwygio'r Eisteddfod a'r Orsedd.

Yn Eisteddfod hynod Llangollen, 1858, y daeth yn amlwg gyntaf. Bu'n arweinydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddau. Yn Eisteddfod Gwrecsam, 1876, Eisteddfod y Gadair Ddu,— y bu'n arwain olaf.

Carai ei iaith, ei wlad, a'i genedl. Yr oedd yn Gymro i'r carn, a rhoddodd ei oreu i'w wlad. Dyma ddywed am Sais addolwr,— "Y mae rhai o honom yn llawer rhy barod i ymgrymu a gwneyd ein hunain yn slafiaid i'r Saeson sydd yn ymweld â'n gwlad. Os daw Sais i'r wlad, o'r anwyl! rhaid parchu Sais, gan nad pwy na pha beth a fydd. Os daw rhyw snobyn i bentref yn cario gwialen bysgota a basged ar ei gefn, ac yn gwisgo crys brith ac yn siarad Saesneg, O! dyma ŵr bynheddig' wedi dod. Rhaid rhedeg i bob cyfeiriad er cael brasder y tir iddo, a gallai yn y bore y collir y gŵr bynheddig' heb iddo weld yn dda dalu ei ddyled." Un o'i ganeuon mwyaf poblogaidd oedd yr un am gofio 'r iaith,—

"Siaradwch yn Gymraeg,
A chanwch yn Gymraeg,
Beth bynnag fo'ch chwi'n wneuthur,
Gwnewch bopeth yn Gymraeg."

Gostyngwyd ei nerth ar y ffordd, a chymerwyd ef ymaith ynghanol ei ddyddiau. Bu farw Gorffennaf 14, 1877, yn 44 mlwydd oed, gan adael Cenedl weddw i alaru ar ei ol. Claddwyd ef, yn ol ei ddymuniad, ym mynwent yr Hen Gapel, Llanbrynmair.

"Tra cura gwaed fy mynwes i,
Tra calon dan fy mron,
A thra y saif ei bryniau hi,
Bydd dda gen i am hon.

O cofiwch fy nymuniad i,
A deliwch ar fy ngair,
Pan wedi marw, rhowch i mi
Gael bedd yn Llanbrynmair."

Mae ei waith wedi ei gyhoeddi'n dair cyfrol ddestlus gan Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, ac ni ddylai cartref, ysgol, na llyfrgell fod hebddynt.

Nodiadau

golygu
  1. Diawl y wasg Mynyddog
  2. 2.0 2.1 Diawl y wasg 'Richard