Ceiriog a Mynyddog/Hoffder Pennaf Cymro
← Paradwys y Ddaear | Ceiriog a Mynyddog gan Mynyddog golygwyd gan John Morgan Edwards |
O Na Bawn yn Afon! → |
HOFFDER PENNAF CYMRO.
Canig.
HOFFDER pennaf Cymro yw
Gwlad ei dadau;
Dyna'r fan dymuna fyw
Hyd ei angau:
Chwareu ar ei bronnydd,
Yfed o'i ffynhonnydd,
A gwrando cân yr adar mân,
Delorant yn ei gelltydd.
Clywed rhu ei nentydd gwylltion,
Ac yfed iechyd o'i halawon,
Yw prif ddymuniad penna'i galon:
Mae golwg ar ei dolydd gwiwlwys,
Yn adlewyrchiad o baradwys,
Ac awyr iachus ei mynyddoedd
Yw'r awyr iachaf dan y nefoedd:
Mae 'ngwlad a fy nghalon fel wedi ymglymu,
Yn uwch, yn uwch dyrchafer hen Gymru.