Cerddi'r Bwthyn/Beddargraff Areithiwr

Claddu Bardd Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Beddargraff Gwerthwr Gwin

BEDDARGRAFF AREITHIWR

LLEFODD ar lawer llwyfan,—a'i arawd
Eirias yn llawn trydan.
Ei le'n awr yw llawr y llan,—
Byd oer i fab y daran.

Ysodd a'i chwyrn ymosod—nwyd gwerin;
Arf deufin ei dafod.
Yn nawn ei ddawn, prudd ei ddod
I hendy oer mudandod.


Nodiadau golygu