Cerddi'r Bwthyn/Claddu Bardd
← Gwylan Farw | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Beddargraff Areithiwr → |
CLADDU BARDD
ER rhoddi'r bardd dan briddyn—heb aur byd,
Bu aur byw i'w linyn;
A thrwy ei glod, aeth i'r glyn
Yn gyfoethog o'i fwthyn.
A fydd rhyw gân ryfeddol—i'r hoff ŵr
Hwnt i'r ffin ddaearol?
A erys nwyf sy ddwyfol,
A thwf rhyw wyrth fwy ar ôl?