Cerddi'r Bwthyn/Doe
← Y Medelwyr | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Dail yr Hydref → |
DOE
O I un a gladdwyd lun a goleddwn,
Yn unig, anniddig yr heneiddiwn
Dan frithliw'r gorffennol a addolwn.
Eilwaith ein nef a welwn—fel carn lwyd
Annedd a chwalwyd, ond ni ddychwelwn.