Cerddi'r Bwthyn/Dail yr Hydref
← Doe | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Y Llosgfynydd → |
DAIL YR HYDREF
TARIANT, lu syn, uwch y ddôl ddifoliant
Yn dorf allwynig lle darfu lloniant.
Yn nwyster rhyw angerdd tlws y trengant,
A fflam eu lliwiau yn cynnau ceunant.
Gleiniog hyd gwymp y glynant—wrth lwyni;
Cain eu geni, a'u tranc yn ogoniant.