Cerddi'r Bwthyn/Y Llosgfynydd
← Dail yr Hydref | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Y Ddrycin → |
Y LLOSGFYNYDD
HEN ffwrn naturiol, uffern y tiroedd,
A'i chorun ufel yn cochi'r nefoedd ;
Mygdwll yr uchder, pair yr aberoedd
A lam yn oddaith o le mynyddoedd.
Is ei goelcerth, mae'r nerthoedd—a dry'n ôl
Her ei dân ysol, gladdwr dinasoedd ?