Cerddi'r Bwthyn/Hiraeth Alltud

Porth yr Eglwys Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Yr Afradlon

HIRAETH ALLTUD

[Wrth glywed seindorf yn canu "Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech."]

CENWCH hen ardal fy serch i'm calon,
Pob llyn a gofer a pob llwyn ac afon!
Gelwch yn ôl glych hen ei hawelon,
Hudlais ei moelydd a'i gelltydd gwylltion!
Erddi, a'i dolydd gwyrddion—a'i llwyd gaer,
Awn i ferw yr aer i farw yr awron.

O! na chawn eilwaith, o'r daith adwythig,
Awr o ddiddanwch ar ffriddoedd unig,
Gweled tawelfro'r pinaglau talfrig,
Ail ddringo'i chreigiau a'i llethrau llithrig,
Drachtio'i hoen gyda'r oenig—a'r chwa bur,
A chladdu cur dan ei chloddiau cerrig!


Nodiadau

golygu