Cerddi'r Bwthyn/Yr Afradlon
← Hiraeth Alltud | Cerddi'r Bwthyn gan Dewi Emrys |
Mam a'i Baban → |
YR AFRADLON
PAHAM y gŵyraf dan y baich
Sy'n fwy nag wylo mawr?
Nid am fy nghloi rhwng muriau cell
Sy'n nos pan dorro'r wawr.
Nid am na fedraf ddwyn y gosb
Sy'n gyfiawn dâl i'm bryd;
Nid am na feddaf ffrind, fy nhad,
Na cheiniog yn y byd.
Nid am im ddwyn dy aur a throi
Dy rudd yn boethder hallt,
Ond am na fedraf wario fyth
Yr arian sy'n dy wallt.