Cerddi Hanes/Cynfrig Hir a'r Brenin
← Coron Cadwallon | Cerddi Hanes gan Thomas Gwynn Jones |
Owain a Nest → |
Cynfrig Hir a'r Brenin.
I.
A HUW GOCH yn iarll Amwythig,
A Huw Flaidd yn Arglwydd Caer,
Dewr fab Cynan a'u hwynebai,
Trechodd hwy mewn llawer aer.
Pan oedd Gruffudd fwya'i lwyddiant,
A'i elynion dan ei draed,
Medrodd brad yr hyn ni allai
Grymus gyrch ar faes y gwaed.
Meirion Goch oedd enw'r bradwr
A'i gwahoddes ef un dydd.
I gyfarfod dau bendefig
Ar ei dir i hela'r hydd.
Mynd a wnaeth y brenin yntau
Heb amddiffyn yn y byd
Namyn rhai o wŷr ei osgordd—
Nid amheus fydd mawr ei fryd.
Felly rhoed y gŵr a'u trechodd
Gynt mewn llawer ymdrech daer
Yng ngefynnau Iarll Amwythig
Ac yng ngharchar Arglwydd Caer.
Hir y bu'n dihoeni yno
Yn ei gell, a'r estron iau
Ar ei ddeiliaid di-arweinydd
Byth a beunydd yn trymhau.
II.
Cynfrig Hir o dir Edeirnion,
Gŵr oedd ef o gawraidd hyd,
Gŵr a'i gryfdwr yn ddihareb,
Gŵr nid ofnai ddim o'r byd.
Gwyddai Cynfrig ddulliau'r estron,
Yn y dref fel yn y drin,
A di-lediaith hefyd ydoedd
Iaith y gelyn ar ei fin.
Yno wedi llawer blwyddyn
O ddioddef gormes ddu,
Cyngor gan y pendefigion
Yn Edeirnion dir a fu.
"Gwych a fyddai wneuthur hynny,"
Medd un arall llym ei wedd;
Gwych!" medd eraill gan gyfodi
Bawb a'i law ar garn ei gledd.
Meddai bardd, a'i lais yn crynu-
Coder byddin, na hwyrhaer,
Llosger tai ac eiddo'r gelyn,
A diffeithier dinas Gaer!"
Diau, gwych fai wneuthur hynny,"
Meddai yntau Gynfrig Hir,
Ond fe laddant hwy y brenin
Tra diffeithiom ninnau'r tir.
"Af fy hun a mynnaf wybod
A yw'r brenin eto'n fyw,
Yna rhuthrwn a diffeithiwn
Dref yr estron, onid yw!"
Doeth ym marn y pendefigion
Ydoedd cyngor Cynfrig Hir;
Cyrchodd yntau dref y gelyn
A pheryglon estron dir.
III.
Gan Huw Flaidd a'i wyllt gymdeithion,
Goreu peth oedd drin y cledd,
Gweled creulon chwaryddiaethau,
Yna yfed gwin a medd.
Blinais ar ddiogi heddwch,
Heddiw, mynnwn wledd," medd Huw,
"Dygwch allan mewn gefynnau
Frenin Cymru, od yw fyw."
Dygwyd Gruffudd mewn gefynnau,
Llusgwyd ef drwy faes y dref,
A'i elynion yn ei wawdio
Ac yn gweiddi croger ef!"
"Na," medd Huw â gwên casineb
A chreulondeb ar ei wedd,
"Cadwer ef yn fyw a dyger
I'n difyrru wedi'r wledd."
Yna aeth y gwŷr i wledda
Gyda'r Iarll yn fawr eu blys;
Angof ganddynt Ruffudd yntau
Ar y lawnt o flaen y llys.
IV.
Safai yno ddau i'w wylio
Nes bod terfyn ar y wledd;
Pwysai'r naill ar fôn ei bicell,
Pwysai'r llall ar garn ei gledd.
Darfod 'r oedd y dydd yn araf,
Gwyll y nos oedd yn trymhau;
Cerddodd gŵr cyhyrog, cadarn,
Heibio'r lle y safai'r ddau.
Nid oedd lediaith ar ei dafod,
Ar ei ôl y cerddai'r ddau,
Cymwys iddo ef orchymyn,
Eiddynt hwythau ufuddhau.
Darfod 'r oedd y dydd yn gyflym,
Gwyll y nos oedd yn dyfnhau,
Dacw'r gŵr cyhyrog, cadarn,
Yn dychwelyd, heb y ddau.
Heb lefaru gair o'i enau,
Cyfyd Ruffudd ar ei fraich,
Yna'n ebrwydd, llithro ymaith
Megis un heb ofn na baich.
Hir fu'r daith drwy gors a gwerni
Oni lasodd gwawr y dydd,
Yna, gan benlinio, meddai,
Arglwydd, wele di yn rhydd!
"Bendith nefoedd," medd y brenin,
'Arnad am dy gariad gwir!”
"Dwyn fy mrenin o gaethiwed,
Digon im!" medd Cynfrig Hir.