Cerddi Hanes/Owain a Nest

Cynfrig Hir a'r Brenin Cerddi Hanes

gan Thomas Gwynn Jones

Gwenllian

Owain a Nest.

I.

YNG nghastell Rhys ap Tewdwr
Yr oedd llawenydd mawr,
Am ddarfod unwaith eto ddwyn
Bwriadau trais i lawr.

Daeth mil o bendefigion
O lawer lle i'r llys,
A mil o feirdd i ganu clod
A mawl y Brenin Rhys.

A pheri a wnaeth y Brenin
Fod yno dwrneimaint,
Ymryson trin y gwayw a'r cledd
Rhwng gwŷr o uchel fraint.

Ar wastad lawnt y castell
Cyfodwyd adail wiw,
A'i gwisgo â theisbanau gwych
A llenni o lawer lliw.

I'r adail eang honno
Yn ôl eu gradd a'u braint,
Y daeth yr arglwyddesau oll
I wylio'r twrneimaint.


Mewn gynau pali cannaid
Gosgeiddig rodiai'r rhain,
A mentyll hir o sindal gwyrdd
Neu sidan gwineu cain.

Am wên y fun ifengaf
A glanaf yn y llys,
Ymdrechai y marchogion oll,
A hi oedd Nest ferch Rhys.

A'i gwallt fel blodau'r eithin,
A'i grudd fel gwrid y rhos,
A'i llygaid megis fflamau tân—
Gwae hi ei bod mor dlos!

A daeth i gae'r ymryson
Wŷr cedyrn llawer cad,
I brofi pwy o'u plith a geid
Yn ben cleddyfwr gwlad.

Daeth meibion ieuainc hefyd
I drin yr arfau dur,
A chaled fu'r ymryson rhwng
Yr hen a'r ieuainc wŷr.

I ganol y marchogion
Ar ganwelw farch y daeth
Rhyw farchog lluniaidd, ieuanc iawn,
A'i wayw a'i gledd a'i saeth.


Gloyw arian oedd y tidau
A'r byclau ar ei seirch,
A gwych a digyffelyb oedd.
Ei farch ymysg y meirch.

Gwastraffwyd aur yn addurn
Ar hyd ei darian gref,
A llawer o gywreinwaith aur
Oedd ar ei ddurwisg ef.

Yng ngolau'r haul disgleiriai
Yr helm oedd am ei ben,
A'r ddraig oedd ar ei chopa hi
Yn dwyn tair pluen wen.

A'i baladr hir yn barod
Y dôi yn falch ei ffriw,
A meini gwyrth yng ngharn ei gledd
O lawer llun a lliw.

I'r gamp yr âi'r marchogion
Bob un â llawen floedd,
Ond gorau gŵr â'r paladr hir,
Y marchog ieuanc oedd.

Ar drin y cledd a'r bwa
Ymryson hir a fu,
Ond nid oedd ail i'r marchog gwyn
I'w gael ymhlith y llu.


Edrychai'r pendefigion.
A syndod ar eu gwedd,
Wrth weld y marchog ieuanc hwn.
Yn trechu gwŷr y cledd.

A hwythau y marchogion
Syn ganddynt oedd, a chas
Eu trechu yno gan y sawl
Nid oedd ond ieuanc was.

A dewis a fynasant
Y blaenaf yn eu plith
I herio'r estron eto 'mlaen
A throi ei chwarae'n chwith.

Daeth hwnnw i'w gyfarfod
A'i baladr uwch ei ben,
A hawlio gwybod enw a gradd
Y gwas a'r bluen wen.

"Bid hysbys iti farchog,"
Ebr yntau'n oer ei wên,
"Mai Owain ap Cadwgan wyf,
O deulu Powys hen."

"Mae braint i mi dy herio,"
Ebr hwnnw, "am y bri";
"A pharod dderbyn," ebr y llall,
"Dy her yr ydwyf i."


A throi o'r ddau yn ebrwydd
Bob, un i ben ei faes;
A phawb a'i lygaid ar y fan,
Fe glywid oergri laes.

Carlamodd meirch y ddeuwr,
A sŵn eu rhuthr yn fawr;
A syrthio a wnaeth yr heriwr dros
Bedrain ei farch i lawr.

O'r adail lle'r eisteddai
Holl arglwyddesau'r llys,
Derbyniodd Owain faneg wen
O ddwylo Nest ferch Rhys.

A gwelodd Nest yn cynnau
Yn llygaid Owain serch,
Ac yntau yn ei llygaid hi
Ofnadwy gariad merch.

II.


"Ha! Owain ap Cadwgan,
Pa beth a weli di?
"Dros donnau môr Iwerydd draw,
Fy ngwlad a welaf i."

Ai yn y wlad a weli
Mae'r ferch a geri di?'
"Cawn galon llawer rhiain dlos,
Ond gwell ei haros hi."


"Oferedd a fai aros,
Ni weli moni mwy!"
Afati, ni ddeil dwfr na thân
Ni ar wahân yn hwy!"

A'i long o dir Iwerddon
A ffoes o flaen y gwynt,
Ond mynnai cariad ben y daith
Yn llawer canwaith cynt.

Yn Aberdyfi tiriodd
Y llong yng ngwyll y nos,
A gyrrodd Owain ar ei farch
Dros lawer anial ros.

A gwawr y bore'n torri,
Fe ddaeth i gyrrau'r tir
A lywiodd meibion Bleddyn gynt
Drwy lawer helynt hir.

Lle bu digonedd unwaith
Nid oedd ond anrhaith du,
A gwŷr y goror wedi ffoi
Rhag creulon estron lu.

Daeth dewin i'w gyfarfod
Ar odre coediog allt,
Yn grwm ei gefn a byr ei gam,
A hir ei farf a'i wallt.


"Ha! Owain ap Cadwgan,
Pa beth a fynni di?"
"O ddewin hysbys, ceisio'r ferch
A gerais yr wyf i."

"Och! Owain ap Cadwgan,
Mynega im pa le
Yr oeddyt pan fu gwympo Rhys
A llosgi llys y De?"

"Ni chwympodd llew Deheubarth,
Nid oedd a drechai Rhys!"
"Mae castell estron ar y fan
Lle'r oedd ei lydan lys !"

"O Dduw! a laddwyd hithau,
Y ferch a gerais gynt?"
"Y gelyn traws a'i dug, a thi
Ar lawer ofer hynt!"

III.


Gwanychodd braich Cadwgan,
A phylodd min ei gledd,
A daeth y gŵr a garai'r gad
Yn ŵr a geisiai hedd.

I feithrin mwyn dangnefedd
A rhinwedd o bob rhyw,
Gwnaeth wledd Nadolig yn ei lys
Er anrhydeddu Duw.


Gwahoddes bendefigion.
Y wlad at fwrdd y wledd,
A gwelwyd Owain yn eu plith
A'i drem mor llym â'i gledd.

Bu lawen y gymdeithas,
Nid oedd ond dau yn drist,
Sef Owain oedd yn cofio Nest,
A Brawd a gofiai Grist.

Och! Owain, pwy sibrydodd
Y geiriau wrthyt ti?—
"Mae Nest yng nghastell Cenarth fry
A Gerallt gyda hi!"

Mor bêr oedd sain y delyn,
Mor fwyn oedd cân y bardd
Am hanes llawer marchog dewr
A llawer rhiain hardd.

Ond trist a mud oedd Owain,
Er yfed gwin a medd,
A chas a chariad bob yn ail
Yn tanio'i waed a'i wedd.

Distewi'r oedd y lleisiau
I gyd o un i un,
A llaw'r telynor ar y tant
Yn crwydro drwy ei hun.


Cyfododd yntau Owain,
A'r tân yn llosgi'n goch,
A'r tannau'n seinio'n is ac is,
A'r gwynt yn rhuo'n groch.

Och! Owain ap Cadwgan,
Pa le y cyrchi di?—
Mae bywyd a marwolaeth rhwng
Dy gariad a thydi!

IV.


Mae gwaedd yng nghastell Cenarth
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
A'r gwylwyr oddi ar y mur
Yn cwympo'n feirw i'r ffos.

Mae braw yng nghastell Cenarth
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
Mae wyneb Gerallt fel yr ia
Ac wyneb Nest fel rhos.

Mae ofn yng nghastell Cenarth
(O Dduw! mor ddu yw'r nos!)
Mae Gerallt wedi ffoi, a'i wŷr
Yn dianc hyd y rhos.

Mae serch yng nghastell Cenarth
(O Dduw! mae'r nos yn ddydd),
Ar fynwes Owain wyla Nest
O rwymau trais yn rhydd.


Mae nef yng nghastell Cenarth
(O Dduw, mor bêr yw serch!)
Angerddol ydyw cariad mab,
Ond mwy yw cariad merch.

Mae tân yng nghastell Cenarth,
A'i fflamau'n bwyta'r nos,
A dau yn eithaf gwynfyd serch
Yn rhodio ar hyd y rhos.

Ni chlywant sŵn y gwyntoedd,
Ni theimlant oerni'r nos,
Mae Owain fel y storm, a Nest
Yn annaearol dlos!

V.


Yng nghoedydd Ystrad Tywi,
Ar nos ddrycinog ddu,
Ymguddio rhag y gelyn cas
Mae ffoedigion lu.

Och! Owain ap Cadwgan,
Ai ti yn frwnt dy frad,
Y sydd er mwyn dy elyn gynt.
Yn hela gwŷr dy wlad?

Ai angof gennyt heno
Dy hen wladgarwch gynt,
Pan daniai Cymru wrth dy air
Fel goddaith yn y gwynt ?


Ai dibris gennyt dylwyth
Y ferch a'th garodd di
Nes rhoddi popeth er dy fwyn
Y nos y dygaist hi?

Och! Owain ap Cadwgan,
Pa beth a glywi di?
Mae llu yn dyfod yn y gwyll
Ac ar ein gwarthaf ni!"

Y gwŷr a'th garodd unwaith,
Dy ladd a geisiant mwy;
Na, llu y Fflandrwys diog yw,
Ni syflaf rhagddynt hwy."

A safodd mab Cadwgan
A'i filwyr ar y rhos,
Ac yno ber a chwern a fu
Y frwydr yng ngwyll y nos.

Daeth saeth, a chwympodd Owain
I lawr yn flin ei floedd,
A saeth dialedd chwerw a chas
O fwa Gerallt oedd.



Nodiadau

golygu