Cerddi Hanes/Gwenllian

Owain a Nest Cerddi Hanes

gan Thomas Gwynn Jones

Ednyfed Fychan

Gwenllian.

I.

"O, WENLLIAN, tawel ydwyt,
Nid oes arnat fraw na brys,
Onid wyt yn ofni?" meddai
Un o arglwyddesau'r llys;
Clyw, mae rhywun heno'n curo,
Curo, curo ar borth y llys."

"Nid oes oddi allan heno
Namyn sŵn y gwynt a'r glaw,"
Medd Gwenllian, y frenhines,
"Ac nid adwaen innau fraw
Gwrando ar y gwynt yn rhuo,
Rhuo dros y tyrau draw!"

"O, Wenllian, clywaf leisiau,
Lleisiau gwŷr ym mhorth y gaer;
Gwrando! oni chlywi dithau
Guro tost a gweiddi taer?"

Clywaf sŵn y gwynt yn rhuo,
Rhuo dros y tyrau draw,
Yna'n chwerthin ac yn gweiddi
Yn ei ruthr ar ôl y glaw."


"O na ddôi y brenin yma
Eto i'th amddiffyn di;
Ond os trechir yntau hefyd
Gan y Norman, gwae nyni!"

"Trechu Gruffudd, anodd fyddai,
Rhoddwyd iddo nawdd y nef,
Canodd adar Llyn Syfaddon
Iddo pan goronwyd ef.

A byddinoedd yn ei ganlyn,
Daw yn ôl o lys fy nhad,
Yna rhag ei fâr, bydd diwedd
Ar yr estron yn ein gwlad."

'Clyw! mae rhedeg yn y cyntedd,
O, Wenllian, ffown yn awr!"
Yna syrthiodd yr arglwyddes
Ar ei gliniau ar y llawr.

Cyfod!" meddai y frenhines,
Estyn imi'r cleddyf draw;"
Yna i agor dôr neuadd
Aeth a'r cleddyf yn ei llaw.

Syrthiodd un o wŷr y brenin
Ar ei liniau wrth ei thraed,
Cymysg ar ei wyneb ydoedd
Glaw a llaid a chwys a gwaed.


Yn ei fraw ni allai yngan
Gair o'i enau wrthi hi,
"Dywed imi," medd Gwenllian,
"Pa beth yw dy neges di."

"O f' arglwyddes," meddai yntau,
Dyfod y mae byddin fawr,
A Maurice de Londres yn arwain—
Byddant yma cyn y wawr!"

"Galw ynghyd holl wŷr y Castell
Allan i'w wynebu hwy;
Pwy o wyr y llys a'u harwain?
Medd y gennad yntau, Pwy?"

"Galw holl wŷr y Castell allan
Dan eu harfau llawn bob un,
Medd Gwenllian, y frenhines,
"Ac arweiniaf hwy fy hun."

"O, Wenllian, gwrando!" meddai
Yr arglwyddes welw ei gwedd,
"Ffo ar unwaith rhag yr estron,
Gorchwyl gwŷr yw trin y cledd."

Gwelais ruthrau lluoedd Gwynedd,
Bûm yn gwrando'u criau croch,
Wedi llawer buddugoliaeth
Gwelais gledd fy nhad yn goch.


"Huno'n dawel mae fy meibion,
Pell oddi wrthynt yw eu tad;
Gorchwyl gwraig yw tynnu cleddyf
Dros ei gŵr a'i phlant a'i gwlad."

II


Cyn bod gwawr yn cleisio'r dwyrain,
Pan oedd gyfliw gŵr a llwyn,
Clywid twrf ym mhorth y Castell, .
Llawer cri a llawer cwyn.

Dros y rhagfur daeth y gelyn,
Gan ddylifo'n chwyrn i lawr,
Ond 'roedd byddin y frenhines
Rhyngddynt fyth a'r castell mawr.

Hir a chwerw a fu yr ymladd,
Ond bu raid i'r fantol droi,
Nes bod byddin fach Gwenllian
Yn encilio, yna'n ffoi.

Rhuthro'n wyllt yr oedd yr estron,
Awchus oedd ei gleddyf erch,
Cledd bradwrus nid arbedai
Fawr na bychan, mab na merch.

Hunai deufab y frenhines
Yn eu diniweidrwydd pur,
Ond deffrowyd hwythau'n ebrwydd
Gan dinciadau arfau dur.


Duw a ŵyr pa beth fu yno,
Ac efô a farno'r cam,—
Dygwyd Maelgwn, ond gadawyd
Morgan yno gyda'i fam.

Yno'r oedd y ddau yn oerion
Pan dywynnodd bore wawr,
A'r ddwy ffrwd o waed oedd wedi
Ymgymysgu ar y llawr.



Nodiadau

golygu