Cerddi Hanes/Ednyfed Fychan

Gwenllian Cerddi Hanes

gan Thomas Gwynn Jones

Yr Hen Ffermwr

Ednyfed Fychan

I.

RHUA storm ym mrig Eryri,
Rhua'n hir a dofn ei thôn,
A chynhyrfus ydyw'r tonnau
Ar dueddau Ynys Fôn.

Disgyn gwyll y nos yn araf
Ar y mynydd, ar y môr;
Da fydd gaffael cysgod heno
Pan agoro'r gwynt ei ddôr.

Tua phlas Tre Garnedd heno
Llawer un yn cyrchu sydd,
At briodas yr arglwyddes
Yn yr eglwys fory a fydd.

Gwŷr o fonedd ac anrhydedd
Sydd yn dyfod fwy na mwy,
A rhianedd penna'r ynys
Yn eu harddwch gyda hwy.

Yn y neuadd fawr eisteddant
Bob yn ail o gylch y bwrdd;
Melys yw y medd a'r gwinoedd,
Ysgafn yw eu llawen dwrdd.


Wele res o delynorion.
Ac o feirddion ar y fainc,
Gwyr yn medru gweu a chanu
Hwylus gerdd a melys gainc.

Tyner ydyw sain y tannau,
Sŵn y lleisiau sy yn llon,
Fel yr awel yn y llwyni,
Megis chwerthin araf don.

Cân y bardd am gariad dirfawr
Garwy Hir a Chreirwy dlos,
Cariad Trystan gynt ac Esyllt
Ar y môr yn nyfnder nos.

Gloywa llygad llawer marchog,
Cura calon llawer merch,—
Melys ydyw aros cariad,
Peraidd ydyw cofio serch.

Yno mae Gwenllian hithau,
Yn ei llen o sindal drud;
Er nad ieuanc moni mwyach,
Hardd ei chorff a glân ei phryd.

Gwrendy ar y beirdd yn canu
Hanes calon mab a merch,—
Eiddi heno aros cariad,
Eiddi heno atgof serch.


Cof yw ganddi serch Ednyfed
(Och nad byw Ednyfed mwy!)
Cofio heno yn ei chalon
Am y dydd y rhwymwyd hwy.

Gwrendy ar chwerthin y rhianedd,
Eto gwelw a thrist ei gwedd;
Gwêl y gad yng ngwlad yr estron
A'r rhyfelwr yn ei fedd.

Nid oes neb a wêl ei gofid,
Nid oes neb a ŵyr ei loes,
Mae a'i gwelsai ac a'i gwypai
Yn y gweryd dan ei groes.

Oddi mewn mae cân a chwerthin,
Gwin a medd a gwenau mwyn;
Oddi allan mae y gwyntoedd
Heno'n wylo'n drist eu cwyn.

Trwm i galon friw Gwenllian
Yw y gân a'r chwerthin llon,
Gwell fai sŵn y gwynt galarus
Gan yr hiraeth yn ei bron.

Cyfyd yn ei gofid distaw,
Gwên yn welw ac yna chwardd,
Fel a chwarddo'n oer rhag wylo,—
Yna cerdda i grwydro'r ardd.


Cerdda'n araf hyd y llwybrau,—
Yn ei gwallt mae gwynt y nos;
Dagrau'r nos sydd ar ei gruddiau,
Lle'r oedd unwaith wrid y rhos.

Nid oes arni ofn nac arswyd,
Un yw hi â'r noswaith hon,
Ac ni thry a ffoi pan genfydd
Wr yn sefyll ger ei bron.

"Rhynged bodd i ti, arglwyddes,
Roddi imi borth a nawdd,'
Medd y gŵr, a'i lais yn crynu,
"Teithio heno nid yw hawdd."

Gwir yw hynny," medd Gwenllian,
"Rhoddaf iti borth a bwyd ;
Dyred gyda mi i'r gegin,—
Wrth dy olwg, estron wyd?"

"Estron wyf," medd yntau, bellach
Yn fy hen gynefin dir,
Crwydro bûm hyd wledydd daear
Lawer lawer blwyddyn hir."

"Dyred," medd Gwenllian hithau,
Di gei roesaw ar dy hynt
Am mai'n estron crwydr y collais
Un a gerais innau gynt."


"Pwy oedd hwnnw, fwyn arglwyddes?
Medd y gŵr a'r wyneb llwyd,
Gwael oedd iddo fynd a'th ado,
Tithau eto'i gofio'r wyd."

Gelwid ef Ednyfed Fychan,
Gŵr oedd ef a garai Dduw,
Cymerth ef y groes a hwylio
Dros y môr, a mwy nid yw."

Pwy a etyb, fwyn arglwyddes,
Na ddaw eto ar ei hynt,
Y mae gobaith gŵr o ryfel,
Medd hen air a glywais gynt."

Ni ddaw eto," medd Gwenllian,—
Gwelw ac athrist oedd ei gwedd,—
"Oes, mae gobaith gŵr o ryfel,
Nid oes obaith neb o'r bedd!"

Medd yr estron, dichon Duw
"Na fydd drist, arglwyddes dirion,"
Gadw y sawl a ddygo arfau
Drosto ef o hyd yn fyw."

"Ond nid byw Ednyfed Fychan,
Huno y mae," medd hi, "mewn hedd,
Adwaen yma ŵr a'i gwelodd
Ef yn farw o fewn ei fedd."


Mynd y mae Gwenllian ymaith,
Heb lefaru dim ond hyn,
Saif y crwydryn yntau'n edrych
Ar ei hôl yn hir a syn.

II.


Daeth y bore a'r briodas,
Wele bawb wrth fwrdd y wledd,
A Gwenllian gyda'i phriod
Yno'n oer a gwelw ei gwedd.

Wrth y drws fe saif y crwydryn
Yn ei garpiau'n llwm a llwyd,
Ac edrycha'r arglwydd arno
Yno'n awr yn flin ei nwyd.

Grwydryn, pwy wyt ti, atolwg?
Beth a fynnit?" medd efe;
Pwy i'r neuadd a'th wahoddes?
Gwêl nad yma y mae dy le."

"Pe cawn delyn," medd y crwydryn,-
Hen delynor ydwyf i,-
Canwn foliant i'r arglwyddes
Am y nawdd a roddes hi."

"Os mai hen delynor ydwyt,"
Medd yr arglwydd, cần i ni;
Wele delyn wrth y ffenestr,
Hen yw honno, cymer hi."


Yna gwrida yr arglwyddes,
Yna troi yn welw ei gwedd,—
Mae a ganai'r delyn honno
Heddiw'n huno yn ei fedd.

Ond mae dwylo y cardotyn
Bellach ar y tannau mân,
Nes bod pawb yn troi a gwrando
Ar y ryfedd gainc a gân.

Yna codi o Wenllian,
A sibrydai'n wan ei llef,—
"O Ednyfed, O Ednyfed!"
Yna syrth i'w freichiau ef.



Nodiadau

golygu