Cerddi a Baledi/Daffodil
← Y Pren Afalau | Cerddi a Baledi Caneuon gan I. D. Hooson Caneuon |
Y Llwyn → |
DAFFODIL
FE'TH welais di ar lawnt y plas,
A gwyntoedd Mawrth yn oer eu min;
Ar feysydd llwyd a gweirglodd las,
Ac awel Ebrill fel y gwin;
Ni welwyd un erioed mor llon,
Ath fantell werdd a'th curaid rudd,
Yn dawnsio yn y gwynt a'r glaw
I bibau per rhyw gerddor cudd.
Fe'th welais di mewn llestr pridd
Ar flawydd fwrdd gwerinwr tlawd;
Mewn ffiol ddrud o risial pur
Yn neuadd wych y da ei ffawd;
Ond ofer yno bob rhyw gerdd;
Ni ddawnsit mwy; ac ar dy rudd
'R oedd hiraeth am y gwynt a'r glaw,
A phibau pêr y cerddor cudd.