Daffodil Cerddi a Baledi
Caneuon
gan I. D. Hooson

Caneuon
Y Cudyll Coch

Y LLWYN

Haf

Rhyfeddais at dy degwch di
Arglwyddes hardd, a thirion ferch,
Pan ddaeth Mehefin yn ei rwysg
Yn dwym ei fron i ddweud ei serch;
'R oedd aur y flwyddyn yn ei wallt,
Ac yn ei lygaid las' y nef,
A thywysogion Hafau fil
A gerddai yn ei osgordd ef.

Mor llon dy lys, mor llawn dy fwrdd,
Fore'r briodas yn y coed;
A'r llu yn dod â dawns a chân
Ar adain chwim ac ysgafn droed;
Tithau'n ymdroi yng nghwmni'r llanc,
Ac angerdd serch yn gwrido'i wedd;
A minnau a'th westeion fyrdd
Yn oedi uwch cwpanau'r wledd.


Gaeaf

TOSTURIAF wrthyt heddiw, chwaer,
Wyt weddw drist, a thlawd a noeth.
A phle mae'r llanc a'r melyn wallt
A'i eiriau mel, a'i gusan poeth?
Dy lys sydd lwm, ei furiau'n foel,
A'th wisgoedd gwych yn garpiau coch;
Ac nid oes telyn drwy dy ffin,
Ond oernad' blin y rhewynt croch.

Mae'r hen ddirgelwch deimlais gynt
Tra safwn yn dy wyddfod di,
Oll wedi mynd, oil wedi mynd;
Daearol ydwyt fel myfi;
Mae serch yn fyr, byr ei barhad,
A dail a chnawd yn frau, yn frau;
Ond pwy a ŵyr, fy chwaer, na ddaw
Mehefin eto inni'n dau?