Cerddi a Baledi/Guto Benfelyn

Y Goeden Nadolig Cerddi a Baledi
I'r Plant
gan I. D. Hooson

I'r Plant
Y Ddwy Wydd Dew

GUTO BENFELYN

GUTO benfelyn o Dyddyn-y-celyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt,
A aeth un diwrnod
I chwarae i'r tywod,
Yn ysgafn a llawen eu hynt—
Guto benfelyn o Dyddyn-y-celyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.

Hwy welsant y llongau yn mynd dros y tonnau,
A'u hwyliau yn chwarae'n y gwynt,
A llawer i wylan
Benchwiban yn hofran
A hedfan yn simsan ei hynt,—
A diwrnod i'w gofio oedd hwnnw i Guto,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.

Castell o dywod, a ffos yn ei waelod,
A'i faner yn chwifio'n y gwynt,
A chlawdd i'w amddiffyn
O wmon a chregyn
I atal y llanw, a hynt
Holl lengoedd y gelyn, wnaeth Guto benfelyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.


A'r tonnau a ruodd, a'r castell a gwympodd,
A'r llanw a ruthrodd yn gynt,
Gan ddwrdio a gwylltio
A'r wylan yn crio,
Bron syrthio mor simsan ei hynt—
Ond chwerthin, a chwerthin, wnaeth Guto benfelyn,
A Gwenno o Dyddyn-y-gwynt.