Cerddi a Baledi/Y Goeden Nadolig
← Morys y Gwynt | Cerddi a Baledi I'r Plant gan I. D. Hooson I'r Plant |
Guto Benfelyn → |
Y GOEDEN NADOLIG
AR ganol bwrdd y parlwr
Fe dyf y goeden hardd,
Ac arni ffrwyth nas gwelwyd
Ar un o brennau'r ardd;
Mae yno farch a modur,
A chi, a llong, a thrên,
A doli fawr las-lygad,
Balŵn ac eroplên.
Mae yno filwr hefyd
Yn cario 'i utgorn plwm,
A llongwr llaes ei lodrau
Yn pwyso ar y drwm;
Ac ar ei lwyfan brigwyn
A'i wasgod fel y tân,
Mae Robin yntau'n sefyll
Yn barod i roi cân.
Ust! tewch!-mae'r milwr bychan
Yn chwythu'r utgorn plwm,
A'r llongwr llaes ei lodrau
Mewn hwyl yn curo'r drwm;
A Robin yn ymsythu,
Gan ddechrau ar ei gân,
A minnau'n deffro'n sydyn
O'm trwmgwsg wrth y tán.