Ceris y Pwll/Cynhadledd Ffynnon Clorach
← Y Ciliau | Ceris y Pwll gan Owen Williamson |
Hynt yr Esgob → |
CYNHADLEDD FFYNNON CLORACH
PAN wawriodd y dydd apwyntiedig i Gaswallon i gyfarfod ei ddeiliaid wrth Ffynnon Clorach, daeth ynghyd holl benaethiaid yr Ynys i glywed y 'penderfyniadau y cytunwyd arnynt gan Gaswallon a'i gynghorwyr i ddwyn yr holl ddeiliaid dan iau y Tywysog newydd, yr hwn a addawai lywodraethu Mon ar yr un cynllun ag y llywodraethid tywysogaethau ereill yn y Cyngrair Brythonig.
Gan fod yr etifeddiaethau Goidelig o'r blaen yn mwynhau mwy o ryddid hunanlywodraeth nag a addawid iddynt yn y cynllun newydd, bu hynny yn achos peth dadleu rhwng plaid y gorllewin a phlaid gymysg y gogledd a'r dwyrain; ond gan y gwelai y blaid flaenaf fod y Tywysog yn ffafrio y blaid arall, penderfynwyd yng ngwyneb yr anocheladwy, derbyn telerau Caswallon a thyngu llw o ffyddlondeb iddo.
Mewn perthynas i'r cwestiwn crefyddol oedd yn llawer llai dyrus y pryd hwnnw nag ydyw yn awr, penderfynwyd gadael i'r ddau bobl oedd yn wahanedig yn unig oblegid gwahaniaeth iaith a ffurf lywodraeth eglwysig, ddilyn eu trefn eu hunain, am y rheswm y byddai yn ddoethach gadael i'r esgobion Goidelig lywodraethu eu praidd eu hunain yn ol eu cynllun syml oedd ddealladwy i'r Goidelod. Yr oedd y Brythoniaid yn dilyn trefn fwy tywysogol,—is-esgobion, neu offeiriaid, yn cydnabod prif esgob fel arolygydd yr esgobion plwyfol.
Dylid cyfeirio yn neillduol yn y fan yma at adran arbennig yn y cyhoeddiad tywysogol, sef yr adran yn yr hon y rhoddid dyfarniad yn erbyn penaethiaid a wrthwynebasent Caswallon, a'r rhai na ddaethant i ymostwng yn ffurfiol, ac oblegid eu habsenoldeb a gyfrifid yn wrthwynebwyr ystyfnig. Cyhoeddwyd y rhai hyn yn Foelion, hynny yw, yn gaethion heb freintiau gwŷr rhyddion. Ymhlith y rhai hynny enwyd Ceris y Moel, ac fel y cyfryw dietifeddwyd ef a'i ferch Dona. Cyn i Moelmud gael amser i roddi ei brotest yn erbyn y dyfarniad, ac erfyn am oediad hyd oni chlywid amddiffyniad Ceris o'i enau ef ei hun, canfyddwyd cynnwrf yn y gwersyll oherwydd ymddangosiad rhedegydd swyddogol gyda neges bwysig. Wedi ymgynghoriad byr rhwng y Tywysog a'i brif swyddwyr, cyhoeddwyd fod perygl, sef bod y gelyn wedi glanio yn Abermenai-y brif adran yn y lanfa orllewinol ger Tal y Foel, a'r ail yn y lanfa ddwyreiniol o'r tu hwnt i'r Foel. Yr oedd, meddid, y ddwy adran wedi meddiannu rhydau Malldraeth, a chroesi i'r ochr arall yn finteioedd yn frysiog fel pe buasent ar fedr ymwthio tua'r gorllewin i gadw yn agored cymundeb â'r Werddon.
I gyfarfod y symudiad hwnnw, anfonwyd adran i feddiannu yr ysgraffau a groesent i Roscolyn o wahanol gyfeiriadau: a threfnwyd i adrannau gyfarfod ac ymosod yn ddiymaros ar y goresgynwyr mynyddig. Bu mân ysgarmesoedd cyn i'r dieithriaid gael eu gyrru yn ôl ar y brif sefyllfa a gymerasent i fyny yng Ngherrig y Gwyddel. Un ymladdfa bwysig gymerodd le, ac yn honno y lladdwyd Serigi ac y gorchfygwyd ei ddilynwyr. Bu y mynyddwyr ysgafndroed yn fwy llwyddiannus yn eu henciliad; oblegid nid oedd ganddynt gludgelfi i'w rhwystro, na llawer o ddarpariaeth gan y Monwyson i'w hymlid. Nid yw y traddodiad na'r hanes yn ddigon helaeth a manwl i ni ddeall holl amgylchiadau y goresgyniad a'r gorchfygiad dilynol; ond mae'n amlwg na effeithiwyd ond ychydig ar y prif symudiad ddiweddodd mor hapus yn yr holl ganlyniadau o honno. Argraffodd llwyddiant Caswallon yn arosol ar breswylwyr yr Ynys, yn Goidelod a Brythoniaid, fel y siaredir hyd heddyw am oresgyniad Mon fel pe buasai wedi ei achosi gan Wyddelod a ymsefydlasant yn Arfon a'r Eryri ryw gyfnod dilynol i ymadawiad y Rhufeiniaid. Penderfynir y cwestiwn dyrus gan y gwŷr sicr o bob tu, os yw hynny yn bosibl. Hyn sydd sicr, fod olion "cytiau Gwyddelod" tybiedig, os nad Goidelod, i'w canfod mewn amryw fannau o'r Ynys, yr hyn sy'n myned ymhell, i brofi nad ydyw Cymry Mon o ddisgyniad Brythonig mor bur ag y tybir gan rai. Awgrymir yma eto fod olion Goidelig ymhob rhan o Gymru, yn enwedig ym mynyddoedd y Gogledd, yn hollol wrthwynebol i'r syniad mai olion goresgyniadau lleol o'r Werddon ydynt. Nid yw y disgrifiad "yr hen Wyddelod" yn profi dim yn gryfach na bod cyd-gymysgu ieithoedd a gwaed, dilynol i'r goresgyniad Brythonig cyffredinol yng Nghymru, wedi bod mor drwyadl nes yr anghofiwyd y Goidel a'r Brython yn y Cymro a'r Gymraeg. Saeson yw brodorion 'presennol Lloegr er fod mwy o'r Brython yn y defnydd nag o'r Sais yn gyntefig. Yn yr un modd y mae plant Cymry ynghwahanol barthau o Brydain a gwledydd eraill, yn wirfoddol neu fel arall, wedi iddynt anghofio eu tarddiad Cymreig, yn gosod eu hunain allan fel Saeson. Felly yn gyffelybol, aeth Goidelod Mon yn Gymry. Ac os na chamgymerir yn fawr, aeth Goidelod Cochion Mawddwy, a'u disgynyddion yn Gymry o'r Cymry. Onid cyffelyb dynged hefyd a syrthiodd i ran coedwigwyr cochion yr Eryri o'r un cyff Goidelig wedi eu gorchfygiad gan daid Syr John Wynn o Wydir?