Ceris y Pwll/Dwy Genedl
← Hynt yr Esgob | Ceris y Pwll gan Owen Williamson |
Y Gwr Hysbys → |
XVII. DWY GENEDL
GADEWIR allan lawer o bethau amherthynasol o'r hanes, gan gyffwrdd yn unig ag anhebgorion. Dilynir yr Esgob yn ei deithiau a'i ymdrechion i ddilyn ei orchwyl fel Cristion, cymwynaswr, a chymydog i Geris a Dona.
Nid yw distawrwydd yn profi fod Iestyn a'i dad Maelog yn ddifraw, neu heb ddangos ymdrech i dreiddio i ddirgelwch sefyllfa anesboniadwy gwr cyhoeddus fel Ceris. Nid oedd un hysbysrwydd na goleuni tebygol i'w gael o unman. Dyna y rheswm na cheisiwyd dilyn hanes pob ymchwiliad i gyfeiriadau na choronwyd ag hysbysrwydd boddhaol. Trwy ddilyn yr Esgob y cafwyd yr ychydig oleuni ansicr, ond awgrymiadol, a roes amnaid i feddwl y gwr hwnnw fod a wnelai Bera ag absenoldeb Ceris a Dona.
Wedi ymgynghoriad rhwng yr Esgob a Iestyn penderfynwyd gosod yr holl amgylchiadau a'r amheuon ger bron y Tywysog, yr hwn roes bob anogaeth a chynhorthwy i geisio gwybodaeth a arweiniai i ddarganfyddiad agoriad i'r dirgelwch, a chaniatawyd maddeuant a gollyngdod i'r bugail a roes hysbysrwydd tebygol i arwain i lwyddiant yr ymchwiliad. Rhoddwyd pob rhwyddineb a chynorthwy i'r Goidel i groesi y Fenai yn Nhal y Foel, a gorchymynnwyd rhoddi clud iddo i fan lle gallai gael help a'i dygai i Ddolwyddelan. Tra bydd y Goidel ar ei daith i odrau Moel Siabod cymerir mantais yma ar yr oediad ynghwrs yr ystori i ddisgrifio ychydig yn gyffredinol ddigwyddiadau a ddilynasant y tawelwch a roes seibiant i'r llywodraeth i ddwyn oddiamgylch gyfnewidiadau angenrheidiol i gyfarfod y gofynion newydd godasant o'r chwyldroad. Rhanwyd yr Ynys i dri chantref. Cynhwysai cantref ddau gwmwd; a chwmwd a wneid i fyny o nifer o etifeddiaethau. Ni wyddis pa gyfnewidiadau yn y dull o lywodraethu Mon a wnaed yn oes Caswallon. Mae'n debyg mai math o batriarchaeth, neu lywodraeth dylwythol, oedd y ffurf yma cyn myned o'r Ynys dan lywodraeth Tywysog. Cesglir mai cyfeiriad at gyfnewidiad yn y ffurflywodraeth eglwysig o'r dylwythol i'r dywysogol sydd yn hanes gweithrediadau eglwysig a derfynasant yng Nghynadledd Llanddewi Brefi dan gyfarwyddyd Dewi Sant. Mewn oesoedd diweddar deallwn mi tylwythol oedd llywodraeth y Celtiaid yn Ucheldiroedd Ysgotland cyn chwyldroadau yno yn 1715 a 1745. Mae'n debyg na achoswyd cyfnewidiadau eglwysig ym Mon hyd nes i'r iaith gyffredin i'r Brython a'r Goidel gael ei ffurfio fel y gallai y ddau bobl ymuno yn y Gymraeg. Nid yw'n hysbys pa bryd gyntaf y daeth yn bosibl i'r genedl ymdoddedig ymuno mewn addoliad cyffredin. Mae'n sicr na symudodd Mon o'r dylwythol i'r dywysogol, mwy nag y ganwyd cenedl, mewn un dydd. Mae y gwirionedd yma mewn rhan yn cael ei gadarnhau yn hanes Doli Pentraeth o Gernyw, yr olaf i ddweyd ei phader yn yr iaith oedd wedi marw i ddefnydd ymarferol. Yr oedd llawer Doli gyffelyb ym Mon yn niwedd yr hen oruchwyliaeth pryd y cytunodd y Brythoniaid a'r Goidelod i ymuno yn un eglwys. A thebyg hefyd i lawer o'r hen gildŷwyr (culdees) ymlynu wrth eu hen ddisgyblaeth a threfn eglwysig er iddynt golli eu hiaith. Felly y bu yn y Werddon beth bynnag, oblegid dywed Giraldus Cambrensis (A.D. 1185), —"Yng Ngogledd Munster mae llyn yn cynnwys dwy ynys: yn y fwyaf mae eglwysi o'r hen fonachaeth, ac yn y leiaf gapel lle mae ychydig foneich a elwir Culdees yn defosiynol wasanaethu Duw. Yn nheyrnasiad y brenin Dafydd o Scotland tua 1130, deallwn fod y Culdees, mewn congl o'u heglwys eu hunain, yr hon oedd fechan iawn, yn arferol o arferyd eu trefn eglwysig eu hunain. Oni ellir esbonio cyfeiriadau at S.S. Padrig a Ffraid yn yr hanes, neu chwedloniaeth, sy'n priodoli cysylltiad rhyngddynt a'r grefydd Goidelig ym Mon; oherwydd y mae Llanbadrig a Chapel S. Ffreath yn Rhoscolyn yn awgrymu rhyw genhadaeth Goidelig ym Mon, fel pe buasai yr Eglwys yn y Werddon wedi tosturio wrth gildŷwyr ein hynys ac anfon cenhadon a fedrent siarad yr iaith oedd ar ddarfod yma? Ac hefyd, pe bai ryddid i newyddian geisio egluro dyryswch, onid ydyw y plwyfi mawrion gyda'r plwyfi bychain cysylltiol, fel un fywoliaeth eglwysig, yn awgrymu fod y ddau blwyf unwaith yn gwneyd i fyny un etifeddiaeth o dan un pennaeth gwladol, yr hwn, ar ol iddo adeiladu tŷ ac eglwys iddo ei hun, a ddarparodd gyfleusterau i'w denantiaid Goidelig ar wahân os byddent ymhell oddiwrth yr Eglwys Frythonig: neu os fel arall y byddai y meistr a'r tenantiaid yn fwy cryno yn yr etifeddiaeth, ceid mewn amser y ddau ddosbarth yn ymuno yn yr un adeilad i gynnal un gwasanaeth i Frython a'r llall i'r Goidel, hynny yw, tra buont yn ddwyieithog.
Pa faint bynnag o amser gymerwyd i uno Brython a Goidel ym Mon, ymuno a wnaethant: ond mae hanes yr undeb boreuol hwnnw wedi ei weu gan Frythoniaid oedd dan y drydedd fynachaeth, sef y Rufeinig, neu'r dramoraidd, y rhai trwy ymdrechion y Mynaich a than gyfarwyddyd y Pab, a lyncasant yr Eglwys Frythonig bron yn llwyr trwy osod Esgobyddiaeth Brydeinig yr eglwysi cadeiriol a Phabyddiaeth yr Abattai a'r Mynachdai yn benben mewn ymrysonau crefyddol a derfynodd mewn rhan yn ninystr a dadwaddoliad yr olaf.