Ceris y Pwll/Ymostwng i Caswallon

Ffydd ac Ofn Ceris y Pwll

gan Owen Williamson

Y Ciliau

XIII. YMOSTWNG I GASWALLON

PAN ymgynullodd Gogleddwyr Môn, o dan arweiniad Caswallon, wrth Ffynnon Clorach, yr oedd yno liaws yn ei gyfarfod o bob rhan o'r ynys, yn disgwyl am ymddangosiad y blaenor llwyddiannus oedd eisoes wedi creu argraff ffafriol iawn mewn amryw fannau. Cyrhaeddodd llawer o benaethiaid llwythau yn hwyrach yn y dydd oherwydd pellter y ffordd i le y cyfarfyddiad. Yr oedd llawer o ymholi ynghylch rhagolygon Caswallon ym mharthau mwyaf Goidelig o'r ynys, megis y gogledd-orllewin, y gorllewin, a glannau y Fenai. Yr un ateb oedd gan bawb. Nid oedd yno neb yn barod i godi gwrthwynebiad i gynlluniau Caswallon, yr hwn ym mlaen llaw a wnaethai yn hysbys nad oedd efe am ymyrryd dim â neb, nag eiddo undyn, os cydnabyddid ef fel pen llywydd yr ynys.

Yr oedd pob manylion i'w trefnu a'u cadarnhau yn ffurfiol yn y gynhadledd ohiriedig nesaf. Ond cyn ymwahanu galwyd enwau yr holl benaethiaid ffafriol i heddwch a chytundeb, a- rhoddwyd saith niwrnod o seibiant cyn rhoi neb ar ei lw o -ffyddlondeb i Gaswallon, er mwyn i rai oedd absennol y pryd hwnnw ddyfod i'r gynhadledd ohiriedig i roi eu cydsyniad yn bersonol, neu anfon eu rhesymau mewn ysgrif ardystiedig. Arddangosid llawenydd cyffredinol drwy bob rhan o'r gwersyll mawr a amgylchai babell Caswallon. Un yn unig oedd yn gwisgo gorchudd tristwch dros ei wynepryd. Safai Moelmud, Esgob Cil Llwyn Onn, yn synfyfyriol, ond gan ei fod bob amser o ymddangosiad myfyrgar a thawel, nid oedd neb wedi sylwi ar ei ymddangosiad prudd, nac ar hyd yn oed absenoldeb gwr mor gyhoeddus a Cheris y Llwyn, arolygydd porthladd y Pwll. Fel yr oedd brwdfrydedd yn oeri, a'r amgylchiadau yn dyfod yn fwy dealladwy, daeth absenoldeb Ceris yn bwnc pwysig, a phryder a fantellodd dros yr holl wersyll; ac ofnid y buasai ymgyrch Frythonaidd dros y Fenai yn peri cynnwrf ym Môn, lle yr oedd, yn ôl pob ymddangosiad, y Goidelod yn ymostwng i dderbyn yr iau o law Caswallon.

Yr oedd yr Esgob Moelmud yn fuan ynghanol llawer o'r penaethiaid oedd yn adnabyddus iddo, a llawer oedd yn ofni bradwriaeth ac ymgodiad Goidelig oherwydd ansicrwydd y sefyllfa, oblegid yr oedd rhai a wrthwynebasent Gaswallon yn y gogledd o'r ynys, yn deuluaidd gysylltiol â theuluoedd yn y gorllewin. Er pob ymofyn ac ymholiad ni allai neb roi y mymryn lleiaf o eglurhad. Yr oedd yr Esgob Moelmud yn sicrhau pawb nad oedd un sail i amheu gair a gonestrwydd Ceris, yr hwn, ychydig oriau cyn i'r Esgob glywed am ei ddiflaniad, a ymunasai ag ef yn y datganiad o benderfyniad i aros yn llonydd hyd onid aflonyddid arno fel gwyliwr goror ddwyreiniol yr ynys.

Dygai Iestyn, a'i dad Maelog, dystiolaethau i'r un perwyl, a chan nad amheuid ffyddlondeb Ceris i'w gyd-ynyswyr, a'i alwedigaeth gyhoeddus, ni allai neb roddi barn foddhaol ar y mater dyrus. Ni chaed un math o oleuni er i'r Esgob ac Iestyn ymweled â'r mannau tebycaf i gael hysbysrwydd ynghylch Ceris a Dona. Lle bynnag yr elent, yr oedd pawb am y cyntaf i ofyn hysbysrwydd, ond ni ellid boddloni neb gydag atebion neu ddyfaliadau. Un peth yn unig a dybid ei fod yn gywir, sef fod Ceris a Dona yn cael eu symud gan un bwriad, ond yr oedd tywyllwch caddugol yn cuddio y bwriad hwnnw oddiwrth ddirnadaeth y doethaf a'r mwyaf craff o'r dyfalwyr.

Penderfynodd yr Esgob (wedi iddo ymgynghori ag Iestyn), fyned i Gil Dwynwen, gyda dim ond ychydig iawn o obaith y cai un math o eglurhad ar ddigwyddiad mor ddyrus: oblegid er y gallasai Dona ymweled â Chil mor enwog, eto yr oedd ymddygiad dieithr Ceris yn anesboniadwy, gan y gwyddai'r Esgob na fuasai ei gyfaill yn symud o gartref ar adeg mor gynhyrfus heb y rheswm cryfaf dros wneud hynny, heblaw gwneyd felly heb ymgynghori ag ef. Troes Moelmud yn gyntaf i ymweled âg Esgob Cil Ceinwen, ond nid oedd neb yn y parth hwnnw wedi clywed dim ynghylch yr helynt, heblaw yr hyn oedd wybyddus eisoes. Wedi iddo gyrraedd Cil Dwynwen ar fin y môr, clywodd yno fod peth anesmwythdra yn y llechweddau mynyddig uwch Dinlle: oblegid ofnid fod Goidelod yr Eryri yn ymbaratoi ymosod ar Gaswallon: ond ni wyddai gwyr Dinlle, Dinas y Prif, na Dinorthwy, ond ychydig iawn o sicrwydd ynghylch y sibrydion. Yr oedd un hysbysrwydd a barodd beth anesmwythdra i Moelmud. Clywodd fod Bera y widdan yn brysur iawn yn ei hymweliadau o fan i fan yn yr holl ardaloedd hyd Ddinas y Ceiri; ac ymhellach na hynny hefyd, hyd derfynau gwledydd Brythoniaid Dunodig ac Ardudwy. Aeth yr Esgob ymlaen i gyfeiriad Caer Helen. Yn ymyl y ddinas honno cyfarfu â gwladwr, ac o'i flaen yr oedd gyrr o wartheg duon, y rhai, meddai y gyrrwr, a brynasai yn y bwlch, ychydig yn uwch i fyny na Chastell Cidwm. Yr oedd gwyliadwriaeth fanwl wedi ei rhoi ar y porthmon yn y bwlch, yr hyn a barodd iddo ryfeddu llawer: oblegid ni chyfarfuasai y cyffelyb o'r blaen. Yr oedd gwladwyr Troed y Wyddfa yn dawedog ac yn anewyllysgar i ymuno mewn un math o ymddiddan yn cyfeirio at y cyfnewidiad yn sefyllfa pethau yn y Bwlch. Un peth a glywsai cyn cyrraedd yr hen gaerfa Rufeinig Segontium, oedd fod llawer yn disgwyl i symudiad pwysig gymeryd lle yn fuan.

Croesodd yr Esgob i Fôn yn un o ysgraffau Aber Menai, gan lanio yn agos i'r Foel. Dychwelodd i Lwyn Onn heb ymaros, oblegid yr oedd yn hwyrhau pan groesodd y Fenai. Ar hyd y ffordd drwy Dre'r Beirdd myfyriai lawer ar yr hyn glywsai mewn perthynas i'r Wrach Ddu, er mai ei brif neges y diwrnod hwnnw oedd gwneyd ymchwiliad i achos diflaniad sydyn Ceris a Dona o'r Llwyn ger y Pwll.