Ceris y Pwll/Yr Esgob Moelmud

Y Wrach Ddu Ceris y Pwll

gan Owen Williamson

Dona

IV. YR ESGOB MOELMUD

CYN i Geris allu ateb Bera ymddangosodd yr Esgob. Cydnabu bresenoldeb y Wrach Ddu, a throes at Geris fel un yn disgwyl am wybod y rheswm paham y cyrchwyd ef i wyddfod derwyddes mor nodedig yn ei gwrthwynebiad i gymdeithas crefyddwr. Cyfarchwyd ef gan Geris, yr hwn a frysiodd, fel ei arfer, at ei bwnc heb ymdroi.

"Anfonais atat, Moelmud," meddai, i ofyn i ti ddeongli daroganau Bera yma, rhag ofn fod ganddi neges bwysig i'w thraethu a minnau yn analluog i'w deongli. Mae wedi cyfeirio, 'rwy'n meddwl, at fradwriaeth Caswallon: ac, os wy'n deall, mae'n darogan na ddaw Bran yn ôl i Fon. Ni fuaswn yn anfon atat oni bai fod yr hyn mae hi yn ddweyd yn cyffwrdd â'r amheuon gyffyrddaist ti â hwy y dydd o'r blaen."

"Bera," ebai'r Esgob, gyda'r difrifoldeb arferol a nodweddai ei lais a'i edrychiad, "gwna iawn, ac addaw benyd am dy esgeulusdra gyda moddion Cristionogol, ac edifarha cyn dy esgymundod gan allu mwy nag awdurdod eglwysig. Hysbysa i ni yr oll a wyddost, oblegid y mae dy deithiau a'th gyfrwystra yn dy alluogi i ddewinio, fel tylwyth Scefa gynt; ond gwylia rhag cael dy rwygo gan y demon sy'n llygru dy fywyd â'i dderwyddiaeth a hud ei ddewiniaeth."

Ni fu geiriau yr Esgob heb eu heffaith ar Bera, oblegid troes ei harddull o lefaru i siarad eglur, heb ddameg na diareb. "Moelmud," meddai, " nid oes dwyll ar dy wefus, na rhagrith yn dy fywyd; am hynny dywedaf yn eglur—mae Caradog ar goll, a Chaswallon y bradwr yn casglu gwyr gwylltion mwnglawdd y gogledd i rwystro dychweliad Bran, ac i sefydlu awdurdod y Brython ym Mon, a lledaenu mynachaeth Frythonig dros y wlad i gyd.'"

"Syrthied dy eiriau i'r ddaear," meddai'r Esgob, " a safed mynachaeth seml y Goidel fel creigiau'r Eryri."

Wrth glywed dymuniadau yr Esgob yn cael eu traethu cynhyrfodd ysbryd Bera gymaint o'i mewn nes iddi godi dwylaw a gweiddi,—

"Taweled Dofydd bob storm a chynnwrf, a thafled derwyddiaeth ei mantell wen dros y byd (fel yr oedd gynt, cyn i ymryson a ffug losgi'r llwyni sanctaidd).

Ni chymerwyd sylw o ebychiad y Wrach Ddu, oblegid caled oedd yr ymadrodd i deimladau yr Esgob a Cheris. Troes Ceris at Bera, ac mewn dull tra chwyrn gorchymynnodd iddi fyned i'r gegin, a chymeryd gofal rhag tramgwyddo Dona.