Chwedlau'r Aelwyd/Oddiuchod y Daeth
← Y Copyn a'r Pryf | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Wil a'r Pren Afalau → |
Oddiuchod y Daeth.
Yn oedd yn byw yn Ffrainc ar un adeg fachgen tlawd, yr hwn a adwaenid wrth yr enw Pedr fychan, Bachgen amddifad ydoedd, ac enillai ei damaid drwy gardota o dŷ i dŷ. Medrai ganu yn hynod felus, ac anfynych y danfonid ef oddiwrth ddrws neb yn waglaw. Bywyd diog ac annifyr ydoedd yr eiddo ef ar y goreu, ond nid oedd gan Pedr druan neb i ofalu am dano, ac nis gwyddai beth a allai wneud yn amgen. Arferai ddweud ar bob amgylchiad, "Oddiuchod y daeth." Ac yn awr yr wyf am adrodd i chwi paham y dywedai felly.
Pan oedd ei dad ar ei wely angau (os oedd gan- ddo wely hefyd, oblegyd yr oedd yn hynod o dlawd) fe ddywedodd wrth ei fab, "Pedr anwyl, yr wyf yn awr yn dy adael dy hunan, a byddi yn siwr o gyfarfod â llawer o drafferthion yn y byd. Ond os bydd i ti gofio ar bob amgylchiad fod pob peth a'th gyferfydd yn dyfod oddiuchod, bydd yn help mawr i ti ddyoddef y cwbl yn amyneddgar."
Pedr a ddeallodd ei feddwl—a mynych yr adroddai eiriau ei dad â'i leferydd, er mwyn eu hargraffu ar ei gôf. Ar dderbyniad pob rhodd dywedai, "Oddiuchod y daeth." Fel yr oedd yn cynyddu mewn maintioli, myfyriai yn fynych uwchben y geiriau. Yr oedd yn ddigon doeth i ganfod, yn gymaint a bod Duw yn llywodraethu y byd, fod genym y seiliau cryfaf i gredu am bob peth a gymer le yn ffordd ei ragluniaeth mai "Oddiuchod y daeth."
Profai y ffydd hon o eiddo Pedr yn fantais iddo yn fynych. Unwaith, pan oedd yn myned trwy y dref, chwythwyd llech oddiar dô gan awel ddisymwth o wynt, yr hon a syrthiodd ar ei ysgwydd, ac a'i tarawodd i lawr. Y geiriau cyntaf a ddywedodd oeddynt, "Oddiuchod y daeth. "Y rhai a safent gerllaw, heb wybod paham y dywedai felly, a dyblent ei fod wedi colli ei synwyrau, gan y gwyddent nas gallai y llech syrthio oddi isod. Y funud nesaf chwythwyd tô cyfan oddiar dŷ yn yr un heol, yr hwn a syrthiodd ar dri o ddynion, ac a'u lladdodd yn y fan. Y tebygolrwydd ydyw pe buasai Pedr wedi myned yn ei flaen yn ddirwystr, y buasai wedi cyrhaedd y fan ar yr adeg y syrthiodd y tô.
Dro arall, cyflogwyd ef gan wr bonheddig i gario llythyr drosto i ryw dref, gyda gorchymyn fod iddo wneud y brys mwyaf. Ar y ffordd, gwnaeth ymgais i neidio dros ffos lydan, ond methodd yn ei amcan—syrthiodd iddi, a bu agos a boddi. Collwyd y llythyr yn y llaid, a methwyd ei adferu. Pan adroddodd Pedr y dygwyddiad wrth y boneddwr, "ymgynddeiriogodd i'r fath raddau nes cymeryd chwip ato â'i yru o'r tŷ. Ond pan ar y rhiniog, dywedai Pedr, "Oddiuchod y daeth." Y dydd canlynol y boneddwr a ddanfonodd am dano. "Dowch yma," meddai, "dyma bum swllt i chwi am syrthio i'r ffos... Mae amgylchiadau wedi cyfnewid cymaint erbyn hyn, fel y buasai yn golled ddirfawr i mi pe buasai y llythyr wedi ei gymeryd yn ddyogel."
Byddai yn hawdd adrodd llawer yn rhagor yn nghylch Pedr. Gelwid ef Pedr fychan wedi tyfu o hono yn llanc. Anfonodd boneddwr Seisnig, yr hwn a ymwelodd â'r dref, am dano, gyda'r bwriad o roddi anrheg iddo. Pan aeth Pedr i'w wyddfod, gofynodd iddo, "Beth wnaeth i mi ddanfon am danoch, debygech chwi, Pedr?"
"Oddiuchod y daeth, syr," meddai Pedr,
Boddhawyd y boneddwr yn fawr yn yr atebiad. Wedi ystyried o hono am beth amser, dywedodd wrtho, "Yr ydych yn dweud y gwir, Pedr, canys yr wyf wedi penderfynu yn awr eich cymeryd chwi i fy ngwasanaeth, a gwneud darpariaeth ar eich cyfer. A ydych chwi yn foddlon i hyn ?"
"Oddiuchod y daeth, syr," atebai Pedr. "Mae Duw yn dirion iawn o honof; mi a ddeuaf gyda chwi yn ewyllysgar."
Cymerodd y Sais ef ymaith. I'r bachgen, druan, gan yr hwn nid oedd yr un grefft, yr oedd yn ddygwyddiad ffodus dros ben. Clywsom ymhen amser maith ar ol hyn fod ei feistr wedi marw, ac wedi gadael iddo swm mawr o arian i gario ei fasnach yn mlaen, a bod "Pedr fychan" yn wr cyfoethog yn byw yn Birmingham. Parhaodd i ddweud mewn perthynas i bob amgylchiad, "Oddiuchod y daeth."