Chwedlau'r Aelwyd/Y Copyn a'r Pryf

Y Dewr a'r Llwfr Chwedlau'r Aelwyd
Corff y llyfr
gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Corff y llyfr
Oddiuchod y Daeth

Y Copyn a'r Pryf.

"A ddoi di mewn i'm parlwr i?"
'Be'r copyn wrth y pry';
"Hwn yw yr harddaf le, rwy'n siwr,
Erioed a welaist ti;
Mae'r grisiau harddwych yma sydd
Yn arwain iddo'n syth,
Ac ynddo'r pethau gwychaf geir,
A welir genyt byth."
"Na ddeuaf fi," atebai'r pry',
"Hyn fyddai'n weithred ffol,
Can's os i fynu'r grisiau'r awn,
Ni ddeuwn byth yn ol."

"Rhaid bellach" meddai'r copyn call
"Dy fod yn teimlo'n flin,
Wrth 'hedeg ar ddiorphwys daith,
Mewn uchel le fel hyn.
Tyr'd ar fy ngwely i gysgu, ffrynd,
Gwnaf di yn gynes glyd;
O'i gylch mae lleni sidan hardd,
Mae'r glanaf le'n y byd."
"Na ddeuaf fi," atebai'r pry',
"Can's clywais rhai yn dweud,
Mai marwol gwsg yw rhan y rhai
O fewn dy wely geid."


"Mae arnat eisieu bwyd rwy'n siwr,"
'Be'r copyn wrth y pry';
"Tyr'd fro i mewn am damaid, tyr'd,
Mae digon yn fy nhy;
Mae pob danteithion yma wrth law,
A dysglau maethlon mad;
Os gweli'n dda droi mewn yn awr,
Rho'f damaid iti'n rhad."
"Na ddeuaf fi,"atebai'r pry',
"Er llyfned ydyw'th iaith,
I mewn ni ddeuaf i dy dŷ,
Ni cheisiaf damaid chwaith."

"Yr wyt dros ben o'r hardd yn wir,"
'Be'r copyn wrth y pry';
"Ac O! mor ddoeth a ffraeth dy air,
Pan y siaredi di:
Fath lygaid ac adenydd gwych,
'Does arall un a fedd ;
Nid wyt yn coelio'r haner, gwn,
Am dlysni'th ffurf a'th wedd:
Mae genyf gywir ddrych o fewn,
Yn crogi ar yr hoel;
Tyr'd, gwel dy hun o'th ben i'th draed,
A'm gair gaiff genyt goel."


Ond och! mor fuan darfu'r pryf,
Wrth wrando gweniaith cas,
Anghofio'r peryg' oedd gerllaw,
Trwy swyn ei hyfryd flas.
Tra'n meddwl am ei hunan bach—
Ei lygad gloyw, byw—
A'I ffurf main taclus, gyda hyn—
A'i edyn hardd eu lliw ;
Yn ddiarwybod iddo'i hun,
Fe aeth yn nes—yn nes,
Ac yna'r copyn arno ddaeth—
Am dano rhodd ei drês.

I fynu'r grisiau llusgo wnaeth,
I'w gell y truan ffol,
A byth ni ddaeth y pryfyn bach
Oddiyno i lawr yn ol.
'Nawr cym'rwch addysg, ie'ngtyd hoff
Oddiwrth y chwedl hon,
Yn erbyn gweniaith ceuwch byth
Eich llygaid, clust, a'ch bron.
Ar bleser gau, a medd'dod brwnt
Sydd am eich hudo chwi,
Trowch gefn o hyd a chofiwch am
Y copyn gyda'r pry'.