Chwedlau'r Aelwyd/Yn Fachgen Gwell
← Paid a'i Sathru | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Yr Eneth Gloff → |
Yn Fachgen Gwell.
YMWELODD hen-wr ar ei hynt
A'n haelwyd ar un oer-nos ddu,
Son wnai am gartre'i ie'ngtyd gynt,
Ac am ei hoff rieni cu,—
Eu gweddi a'u llafur ar ei ran,
A'u bod er's talm mewn mynwent bell,
Ac yna d'wedai'n drist ei lef,
"Pe buaswn i yn fachgen gwell."
Meddyliais lawer tro 'rol hyn,
Wrth gofio ei ofidus wedd,
Rhaid myn'd o'm rhiaint i i'r glyn—
Cyn hir—a huno yn y bedd:
Gall f' anffyddlondeb atynt hwy
Fy mlino 'mhen blynyddau pell,
Am hyny'm gweddi fydd byth mwy,
Am ras i fod yn fachgen gwell.