Chwedlau'r Aelwyd/Yr Eneth Gloff
← Yn Fachgen Gwell | Chwedlau'r Aelwyd Corff y llyfr gan Hughes a'i Fab, Wrecsam Corff y llyfr |
Tebyg i ddyn ydyw syrthio i bechod → |
Yr Eneth Gloff.
YN araf trwy y pentref clyd,
Y cerddai geneth gloff a gwan,
Ei gwisg, er aml bwyth a chlwt,
Oedd eto'n daclus ac yn lân.
Er cloffder ac afiechyd corff,
'Roedd ganddi wyneb hardd dinam,
A'r gwallt plethedig gylch ei phen,
Ddangosai ofal tirion mam.
Hi ddaeth hyd at ysgoldy'r llan,
Ar adeg gollwng plant yn rhydd ;
Trwy'r drws y rhuthrent â mawr floedd,
Y:n falch o orphen gwersi'r dydd ;
Daeth ati rai anfoesgar hyf,
Diystyr o wendidau hon,
A gwawdient yr anafus un,
Tra adref trôdd y brudd ei bron.
Bu amser pan y gwnaethai Jane
Ymddial eu hedliwiau cas,
Ond bellach nid yw yn yngan gair
Er pan y profodd rinwedd gras;
Ond teimlo ddarfu yn y fan
Ddwfn archoll eu cellweirus wawd,
Can's treiglai'r dagrau tros ei grudd,
A chodai'r gwrid i'w gwyneb tlawd.
Cyrnaeddodd ei chartrefle llwm,
Ac yna i'w hystafell aeth ;
Penliniodd wrth ei gwely gwael,
Ac ar ei Duw gweddio wnaeth:
Edifar fuasai'r bechgyn hyn
Pe'r weddi hon a glywent hwy,—
"Fel y maddeuwyd im', O Dad,
Rho ysbryd maddeu i mi mwy."
Rhad roddion Duw, O fechgyn hoff,
Yw iechyd, nerth, a thegwch pryd,
Ac atal wnai'i ewyllys ddoeth
Rhag rhoi'r bendithion gwerthfawr drud;
Na chlywer gair o'ch genau byth
A baro i'w calon bruddaidd glwy',
Ond gwnewch'r hyn, pe baech yn eu lle,
A hoffech dderbyn ganddynt hwy.