Ysgawen Mewn Mynwent Claf o Gariad

gan Robin Llwyd ab Owain

Rebel Mewn Siwt
Cyhoeddwyd gyntaf yn Yr Adferwr, Hydref, 1986. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Ar ymweliad y llofrudd AIDS a'n gwlad.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



Neithiwr, ar ol dinoethi dy swildod di
a llithro dan gynfasau llathraidd i'r cuddfannau cwyr,
'rol llwyr ymladd, fel gwadd ar benrhyn hunell,
dihunwyd arswyd ynof i, ond roedd hi'n rhy hwyr.

Synhwyrais gusan arall yn ein Hafallon
a hono'n ein gwahanu yn lle ein huno'n llwyr,
rhywle yng Ngethsemane'r menydd daeth llofrudd i'n lloc
a'i fryd ar dolcio cawg y diliau cwyr.

Hwyrach mai dau gywely yw angau a chenhedlu nawr;
dy gasau'n uniad o gusanau na wahenir ennyd,
dy garu'n ein gwahanu a'n hysgaru yn nawns y gwaed,
a'r gwyw a'r byw ar wely-angau bywyd.

Ein mynd a'n dod am ennyd yn diodi'i gilydd,
Oni wyddost, fy nyweddi, mai fi yw dy ddienyddiwr?
Yr angel yn genhedlwr angau, a'r hadau'n d'erydu,
a'th fru'n diferu'n gyforiog o ddagrau crogwr?

Hwren garpiog yw Heno, yn feichiog o afiechyd,
a'r crud a fu'n fywyd sy'n fedd, f'anhunedd, fy ngwen!
Ynom mae angau ynghwsg a'r Anghenfil yn disgwyl
gwyl dy gwymp - a'r awr y bydd ei dymp ar ben.