Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg/Rhydychen

Aberystwyth Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg

gan Owen Morgan Edwards

Dyrniad o Beiswyn

RHYDYCHEN.

NID anghofiaf fy siwrne i Rydychen byth. Nis gallaf feddwl am y colegau henafol hynny, a'u hathrawon difrif, heb gofio'r wers ddysgais mor dda yn eu mysg. Hen wir yw y wers honno, ceir hi ym mywyd brenhinoedd a gwladweinyddion yn ogystal ag yn fy mywyd distadl i, sef fod balchder yn dwyn cwymp.

Ni lethid fi gan wyleidd-dra pan benderfynais fynd gan belled a Rhydychen. Yr oedd fy mryd ar basio trwy'r arholiad a elwir Y Fach. Ac nid oeddwn am basio'r Fach yn y dull cyffredin. Yr oeddwn wedi dewis y chwareuon Groeg anhawddaf, a'r awdwr Lladin peryclaf; yr oeddwn wedi darllen digon o Gicero fel y medraswn roddi ambell awgrym iddo sut i berffeithio'i arddull, a chymaint o rif a mesur fel y gallaswn ddannod i Euclid mor ddidrefn oedd ei lyfrau. Yn ddiameu, gwnawn argraff ddofn ar feddyliau f'arholwyr.

Ni thery Rhydychen yr ymwelydd fawr ar y dechreu, — meusydd gwastad ac ystrydoedd newydd welais gyntaf. Ond pan ddeuais i gynteddau Balliol, — ei adeiladau henafol, ei goed, a'i lennyrch o laswellt gwyrdd, — buan y deallais fod gweled Rhydychen yn addysg. O'm ffenestr gwelwn y myfyrwyr yn darllen dan y coed, a'r brain yn fawr eu twrw uwch eu pennau. Eis allan, a chefais fy hun yn dadlueddu wrth deimlo y glaswellt esmwyth dan droed ac wrth anadlu'r awel hafaidd gynnes. Pan ddeuais yn ol cefais bapur ar fy mwrdd, ac arno mewn llaw fras anghelfydd, —

"The Master presents his compliments to Mr. Ab Owen, and wishes to have the honour of his company at breakfast tomorrow morning at 8.30."

Nid oedd y llaw yn debyg, feddyliwn, i law ysgolor Groeg enwog; ond yr oeddwn yn casglu llawysgrifau gwyr mawr, a rhoddais hon yn fy Meibl, i'w rhoddi gyda'm trysorau ereill pan awn adre.

Daeth y bore, a chlywn swn clychau afrifed, yn lle dislawrwydd dwys Sabbothol fy nghartref mynyddig. Prysurais i chwilio am dŷ y Master, a chefais fy hun yn unig yn yr ystafell hwyaf a welswn erioed. Nid oedd y Master wedi dod o'r capel eto, meddai ei was, a theimIwn mor grefyddol y rhaid ei fod. Toc dechreuodd amryw fechgyn lithro i'r ystafell. Edrychent yn swil, ac yn anhapus iawn. Ceisiais dynnu sgwrs gyfeillgar â rhai ohonynt, ond ni chefais fawr o dderbyniad. Wedi cynnyg ofer neu ddau, dechreuais ddyfalu pa fath ddyn fyddai Jowett pan ddeuai o'r capel, — tybed ai gŵr tal a barf hir a llais dwfn melodaidd, un wnai inni deimlo'n gartrefol ar unwaith, un a'n llenwai â brwdfrydedd am wybodaeth cyn i ni orffen e'in brecwest?

Dyma hen wr bach yn dod i mewn, a gwallt arianaidd teneu; rhwbiai ei ddwylaw yn anfoddog, a meddyliwn hwyrach iddo glywed pregeth sal yn y capel. Perodd i ni eistedd i lawr, mewn tri gair; a dechreuasom frecwesta mewn distawrwydd llethol. Eisteddwn i wrth ben y bwrdd, — nis gwn sut y daethum yno. — a buaswn yn dweyd gair pe medraswn ddal llygad rhywun yn edrych arnaf. Ond edrychai pawb ar y bwrdd, fel pe mewn ofn. Toc cododd y Master ei ben, edrychodd arnom yn flinedig, a dywedodd mewn llais main bach,

"Foneddigion, buasai'n dda gen i pe buase un o honoch yn mentro dweyd rhywbeth."

Yr oeddwn i'n awyddus iawn am ddweyd rhywbeth tarawiadol. Ond, taswn i'n crogi, fedrwn i feddwl am ddim. Aeth y distawrwydd yn ddistawach fyth, a thybiwn y byddai'n debycach i un o'r darluniau oedd ar y muriau ddweyd rhywbeth nag i un ohonom ni. Wedi aros hir a phoenus, dyma'r llais main yn torri'r distawrwydd eto,

" Foneddigion, nid yw yswildod yn bechod, ond y mae'n brofedigaeth fawr i'r neb a'i medd."

Nis gallwn oddef y distawrwydd yn hwy. Gwnes ymdrech i'w dorri, a meddwl anwylaidd gafodd lais, bron heb i mi wybod, —

" Master, onid ydych yn meddwl fod y Cymry yn genedl athrylithgar iawn?"


Edrychodd y bechgyn ereill arnaf gyda braw, a chyda pheth diolchgarwch. Yna clywsant y llais main didostur o'r pen arall i'r bwrdd, —

" Ydynt, ond y maent yn meddwl tipyn ohonynt eu hunain."


Synnwn am bwy Gymry yr oedd yn meddwl, a meddyliwn y gwnawn gynnyg arall, llai hunanol ei wedd. Yr oedd Ymreolaeth yn unig bwnc y dydd hwnnw, a thybiais y gwellhawn dipyn ar leidyddiaeth y Master, os oedd eisiau. Ac ebe fi, tra gwyliai'r lleill fi gyda chywreinrwydd rhai yn edrych ar ffosyl mewn amgueddfa, — "Master, onid ydych yn tybio fod yn bryd i'r Gwyddelod gael yr hyn ydynt yn ddymuno? "

"A fuoch chwi yn yr Iwerddon erriod?" ebe yntau.


"Naddo," meddwn innau, gan deimlo'n weddol sicr ei fod wedi darganfod na fum erioed o Gymru o'r blaen.

"Y mae gennych reswm da, felly," meddai, "dros ofyn eich cwestiwn yn y dull yna."


Ni theimlais fy hun erioed wedi fy llethu mor ddidrugaredd; tôn ei lais oedd greulon, ac nid ei eiriau. Dechreuodd fy ngwefusau grynnu, yr oedd Iwmp mawr yn fy ngwddf, ac am fy llygaid, — wrth gwrs yr oeddwn yn wirion iawn. Newidiodd dull Jowett mewn amrantiad. Collodd ei olwg ddidaro, ac yr oedd rhywbeth fel direidi llawen yn y llais bach pan ddywedodd, —

"Byddaf yn hoffi mynd i Gymru bob amser. Mae bardd neu ddau ymhob pentre bach yno, ac y mae hynny yn arwydd dda iawn am genedl. Yr oeddwn yng Nghymru y gwyliau diweddaf, a dywedai y westywraig fod boneddiges newydd adael y gwesty ac wedi eu ceryddu am na siaradent Gymraeg. Lady Charlotte Guest oedd honno. Yr oedd un o'm cyfeillion goreu, Rowland Williams, yn Gymro. A Chymro yw Lord Aberdare. Hwyrach na fedrwn ni ddim cytuno am y Gwyddelod, ond rhaid i chwi beidio digio wrthyf, yr wyf yn hoff o'r Cymry erioed."

Daeth fy holl hunanoldeb yn ol ar unwaith, a dywedais y gallwn dderbyn cerydd, fy mod yn ceryddu rhai fy hun weithiau, a fod dihareb Gymraeg yn dweyd na ddylai pobl sy'n cerdded yn droednoeth hau drain. Hoffodd y Master y ddiharieb, a dywedodd yn awchus, — "Mae honyna'n well na'r ddihareb Ysgotaidd am y ty gwydr. Dywedwch rai o'r lleill wrthyni."


Cyfieithias hynny o ddiarhebion oeddwn yn gofio, gan wneyd y camgymeriadau rhyfeddaf, oherwydd trwsgl iawn wyf yn fy Saesneg. Prin y medrai'r bechgyn ereill, er boneddigeiddied oeddynt, beidio chwerthin; ond coethai'r Master fy Saesneg, nes yr oedd yr hen ddiarhebion yn loew yn eu gwisg newydd. Rhyngom troisom enw'r alaw "Glan Meddwdod Mwyn" yn "Sweet Verge of Drunkenness." "Cyfieithiad da iawn," ebai," yr wyf yn cofio cydwladwr i chwi na fydd byth yn peidio condemnio y lan yna; yr ydych yn gwybod am Ruffydd Ellis, ond ydych?"

Wrth adael ystafell foreubryd y Master, teimlwn fod gan bob un o'r bechgyn hyn un cysur nas gallwn i ei hawlio. A dyma oedd, — teimlo mai nid efe oedd y ffwl mwyaf yn y brecwest y bore hwnnw. Nid oeddwn yn ddigon hunanol i fedru cuddio oddiwrthyf fy hun y ffaith fy mod wedi gwneyd asyn ohonof fy hun, a hynny ym mhresenoldeb Jowett.

"Hidiwch befo, meddwn wrthyf fy hun, gan geisio ennill hyder, " mi wnaf i fyny am hyn oll yn y Fach. Os na fedraf siarad, medraf ysgrifennu." Hiraethwn, bron, am drannoeth, a'r arholiad. Ymddangosais yn Ysgol yr Arholiadau'n brydlon; a throwd fi allan ar unwaith, gan nad oedd gennyf got ddu a chadach gwyn, yn ol deddf gaeth y Brifysgol. Cyfarwyddwyd fi i siop ddillad ar gyfer, lle y prynnais gadach gwyn ac y llogais got ddu. Yr oeddwn wedi colli botwm fy ngholer, ac yr oedd y got yn dynn iawn am f 'ysgwyddau. Ni fu dim rhyfedd yn ystod yr arhoiad. Ni ches gyfle i ymddisgleirio, ond ni freuddwydiais am drychineb.

Yr oedd gennyf ddiwrnod neu ddau i aros am y rhan dafod leferydd o'r arholiad. Un noson eis gyda chyfaill i un o gyfarfodydd Cymdeithas Dafydd ab Gwilym. Collais fy holl ofidiau yn y cyfarfod hwnnw, a theimlais fod yn werth i mi ddod i Rydychen, pe i ddim ond profi wladgarwch aelodau y gymdeithas hon. Prynnais ddarlun o'r aelodau, i'w gadw'n ofalus, fel y gwelai fy wyrion y gwyr enwog y cefais yr anrhydedd o fod unwaith yn eu mysg.

Daeth dydd tafod leferydd. Responsions yw enw yr arholiad; ond "Smalls," neu y " Fach," y gelwir hi'n gyffredin. Cefais fy hun am y bwrdd a thri arholwr, pob un yn edrych arnaf yn ddwys. Dechreuasant fy ymlid drwy droion diddiwedd yr afreolus ferfau Groeg. Buasai'n well gen i orfod rhedeg trwy yr afreolus enwau na'r berfau; ond nid myfi oedd i ddewis, ysywaeth, yn y Fach. Y mae'n ddiameu gennyf fod yr arholwyr wedi clywed ffurfiau na chlywsent erioed o'r blaen, y dydd hwnnw. Ymgynghorasant yn ddistaw, ac yna rhoisant fi wrth fwrdd, gan ofyn i mi droi darn o bapur newydd Saesneg i'r iaith Ladin. Nid oeddwn yn hollol sicr beth oedd hyn oll yn feddwl; ond meddyliais am arddull a miwsig, yn hytrach nag am ramadeg, wrth gyfieithu — gan ochel ffurfiau a moddau nad oeddwn wedi cael rhesymau digon cryfion dros gredu, hyd yn hyn, eu bod yn dda i ddim yn y byd. Dywedodd yr arholwyr, wedi darllen fy Lladin, na thrafferthent fi ymhellach. Tybiwn fod hyn yn arwyddocaol iawn. Dywedais wrth y clerc, yr hwn a ŵyr holl gyfrinion yr arholiadau, fy mod wedi pasio, ond nas gallwn ei hysbysu ar hynny o bryd gyda pha ryw ogoniant. "Os dowch yma am un o'r gloch," meddai, "cewch drwydded las, wedi ei harwyddo gan yr holl arholwyr." Tybiwn y byddai honno yn gymaint o drysor a llawysgrif Jowett. Ond, pan ddois yn ol un o'r gloch, nid oedd yno bapur glas i Audoenus filius Audoeni. Dywedais wrth y clerc fod rhyw gamgymeriad. Cyrhaeddai gwên fawr y clerc i flaen ei ddwy glust wrth ddweyd y gwneid camgymeriadau lawer yno bob dydd arholiad. "Dengys, syr," meddai, "nad ydych wedi pasio."

Rhuthrais ymaith o Rydychen, ac yn y daith dren hir cefais deimlo holl ingoedd balchder wedi ei glwyfo, a hunanoldeb wedi ei lethu. Rhoddais bob gobaith am anrhydedd fel ysgolhaig i fyny, a phenderfynais fod Rhagluniaeth wedi taro'r hoel ar ei phen wrth fy ngwneyd yn bugail defaid. Ond gwnaeth fy ymweliaid â Rhydychen fi'n fwy pwysig lawer na fy haeddiant yn fy ardal fynyddig. Mynnai rhai fy mod yn wr o radd; a phan fyddwn wedi gwneyd araeth fwy eithafol nag arfer yn Swper y Bugeiliaid, dywedai gŵr y Bryn fod holl awdurdod moesol Rhydychen y tu cefn imi.


Daeth dau israddolyn o Falliol heibio'm cartref, ymhen rhai blynyddoedd. Ymysg fy nhrysorau, danghosais iddynt lawysgrif Jowett. Wedi syllu arni, ac edrych ar eu gilydd, — "Brown," meddai Smith, "dylem ddweyd wrth Mr. Ab Owen mai nid llaw Jowett ydyw hon, ond llaw y llechgi hwnnw o was y negesydd." Dylwn fendithio Rhagluniaeth am roddi i mi gof mor wan. Mor druenus fuaswn fe medrwn gofio fy holl droion chwith. A phan ddaw adlais ambell adgof am y gorffennol, yr wyf yn cofio mor chydig am dano fel y gallaf fforddio chwerthin am fy mhen fy hun. Mae bywyd yn llawn o gamgymeriadau, — aml lwybr dyrus wedi ei gerdded yn ofer, cyfle ar ol cyfle wedi ei golli, gair heb ei ddweyd yn ei amser neu ei gam-ddweyd pan ddylesid bod yn ddistaw. Hyfryd yw meddwl nad oes ddychymyg yn y bedd, ac mai gogoniant yr Hollwybodol yw y medr lwyr anghofio bai.