Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg/Ysgol y Llan Rhan II

Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg Ysgol y Llan Rhan I Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg

gan Owen Morgan Edwards

Ysgol y Llan Rhan III

II

Toc, er mawr lawenydd i mi, canodd y gloch. Rhedodd pawb i'r ysgol, a dois innau i lawr o ben fy mhulpud carreg, a rhedais ar eu hol. Wedi mynd i mewn, canfyddais yn union mai ofer oedd fy llawenydd, ac y buasai'n well i mi fod ar ben y garreg nag yn yr ysgol. Ffigiwr amhriodol hwyrach fuasai dweyd mai o'r badell ffrio i'r tân y dois, ond teimlwn mai rhywbeth felly oedd y cyfnewidiad. Gwell i mi, wedi'r cwbl, oedd trugaredd prin ac amynedd byr fy nghyd-ysgolheigion nag anghyfiawnder yr ysgoifeistres.

Yr oedd rhywun direidus wedi rhoi pin a'i ben i fyny ar y fainc, yn y lle y disgwylid i mi eistedd ar fy nyfodiad i'r ysgol. Tybiai'r plant, mae'n ddiau, y dylaswn anfarwoli'm dyfodiad i'r ysgol trwy lamu oddiar y fainc, a rhoi bloedd erchyll, heb un rheswm canfydadwy am y fath hyawdledd. Ond fel y digwyddodd y peth, nid ar flaen y pin yr eisteddais. Byddai'r person yn eistedd yn y lle y rhoddasid y pin ambell i dro, wedi i'r plant fynd allan, ar ei ymweliadau â'r ysgol i edrych y registers. Daeth i'r ysgol y diwrnod hwnnw, yr oedd yn ffyddlon iawn, fel y dylai gwarcheidwad ysgol fod. A eisteddodd yn ei le arferol, nis gwn.

Ffordd bynnag, pan ddaethom i mewn, galwyd am ddistawrwydd. Daeth distawrwydd fel y distawrwydd glywir o flaen ystorm o fellt a tharanau. Ni fum mewn lle mor ddistaw erioed. Gwyddwn mai peth rhyfedd oedd distawrwydd fel hyn, ni fuaswn yn coelio y medrai cynifer o blant llawn bywyd a direidi fod mor ddistaw. Yr oeddynt fel llygod. Safai'r ysgolfeistres wrth y ddesc, ac yr oedd y wialen yn ei llaw. Deallais wedyn mai pregeth draddodai ar ddyledswydd plant tuag at weinidogion cyfreithlawn yr efengyl, sef eu parchu a'u gwasanaethu ym mha le bynnag yr elem. Ond nid oeddwn i'n deall yr un gair. Yn unig gwelwn ol gwaith ar y wialen, yr oedd y brigau mân wedi cwbl ddirisglo, — a meddyliwn fod hyn yn arwydd ddrwg. Yr oedd pregeth yr ysgolfeistres yn bur hir. Ehedodd fy meddwl innau at y caeau gwair, at y cerrig mân ar lan yr afon, ac at fy nghi y gwyddwn ei fod yn fy nisgwyl trwy'r dydd. Daeth yr hen dy i'm cof; gwelwn y mŵg yn esgyn o'r corn simdde rhwng y coed, oherwydd yr oedd yn tynnu at amser te; yr oedd mor ddistaw fel y dychmygwn glywed y dwr yn disgyn dros y graig dan y ty. Gwelodd y bachgen osododd y pin yr olwg freuddwydiol oedd arnaf, a gwelodd y wialen. Ni fu'n hir yn gorffen ei gynllun. Yr oedd pregeth yr ysgolfeistres yn tynnu at y terfyn, ac yr oedd yntau mewn perygl. Byr iawn oedd y pen olaf, a chlywais un gair ddeallais, sef pin. Wrth glywed y gair, troais yn sydyn i edrych ar yr ysgol feistres. Yr oedd ei llygad arnaf, ond ni wyddwn pam. Gofynnwyd cwestiwn, a bu distawrwydd perffaith am eiliad. Yna daeth llais y bachgen hwnnw, yn cyhoeddi mewn ateb i'r cwestiwn, — "Ab Owen." Wrth glywed f'enw, troais yn anesmwyth yng nghyfeiriad y wialen. Er fy mod yn anwybodus ac yn hollol ddiniwed, yr oedd rhyw feddwl ynnof y byddai'r wialen honno a minnau'n agosach at ein gilydd cyn hir. Ni fedrwn achub fy ngham, oherwydd condemniwyd fi yn Saesneg, ac ni wyddwn amcan paham yr oedd y wialen i ddisgyn arnaf hyd nes yr oedd yn rhy hwyr i apelio at neb. Ni waeth i mi heb ddesgrifio'r gosb, — hwyrach fod rhai'n darllen y llinellau hyn heb fod gyrraedd cosb gyffelyb, — ond gallaf ddweyd hyn, y buasai'n llawer gwell i mi fod wedi eistedd ar y pin, a chael fy nghosbi am gadw swn. Yr oedd gan yr ysgolfeistres feddwl uchel o lywodraethwyr yr ysgol, yn enwedig o'r person, — os oeddwn i fesur ei pharch oddiwrth ei sel i gosbi.


Trwy weddill y prydnawn bum yn wylo ac yn ochain ac yn cynllunio bradwriaeth. Nid ydyw cosb yn gwneyd neb yn well. Y mae'n debyg fod rhyw gymaint o'r bwystfìl mewn plentyn, a dadblygodd y wialen lawer arno ynnof fi y prydnawn hwnnw. Mwyn i mi fuasai cael gosod pinnau dan filoedd o bobl, er nad oedd y syniad erioed wedi cael lle yn fy meddwl o'r blaen. Esboniasid i mi gan yr ysgolfeistres tra'r oedd y wialen uwch fy mhen, mewn Cymraeg lledieithog, paham yr oedd y gosb i ddisgyn arnaf. Meddyliwn innau yr hoffwn roi pin yng nghader y tafarnwr mawr y tybiwn mai efe oedd brenin y pentref, a phin yn set y pregethwr yn y pulpud, a phin yn seddau yr holl wŷr y clywais fy nhad yn eu darlunio'n eistedd yn y Senedd.


Pan ddaeth hanner awr wedi tri, — awr gollwng, — ymadewais a'r ysgol dan gredu yr edrychid arnaf fel bachgen drwg. Teimlwn fel Ismael, fod llaw pawb yn fy erbyn, a'm llaw innau yn erbyn pawb. Byth er hynny y mae gennyf ryw fath o gydymdeimlad â gwrthryfelwr a chwyldrowr. Pan ddarllennais Goll Gwynfa, lawer blwyddyn wedyn, cydymdeimlwn â Satan er fy ngwaethaf. Pan ddarllennais ei ddrama oreu gwelais fod Shakespeare yn rhoi ei holl athrylith ar waith i gondemnio Macbeth; edmygais innau Facbeth, er ei waethaf. A phan ddarllennais lyfr Iago'r Cyntaf yn erbyn ysmygu, ysmygais unig sigaret fy mywyd fel protest yn ei erbyn.