Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg /Ysgol y Llan Rhan I
← Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg/Rhagymadrodd | Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg gan Owen Morgan Edwards |
Ysgol y Llan Rhan II → |
CLYCH ADGOF
YSGOL Y LLAN Rhan I
CYN mynd i'r ysgol nid oedd blentyn hapusach na mi yn unlle ar fryniau a mynyddoedd Cymru. Gwyddwn ym mhle y tyfai pob math o flodau, gwyddwn lle'r oedd ugeiniau
o adar yn nythu, gwyddwn am bob carreg wen dywynnai mewn aber ac afon. Nid heb ymdrech a thrafferth y cefais y wybodaeth hon, — yr wyf yn cofio fy hun ar fy mhedwar yn y mynydd, wedi'm gadael yno tra triniai fy nhad y mawn, yn ymestyn at goes blodyn y dydd; yr wyf yn cofio fy hun wedi'm caethiwo yn fy nghader fach, ac yn cychwyn, a honno ar fy nghefn, tua'r graian mân oedd yng ngwaelod y ffynnon. Bum yn gwylio'r ehedydd yn ymgolli o'm golwg yn yr awyr; bum yn gwylio'r lleuad yn codi dros y bryn, ac yn gwaeddi arni, mewn ofn, ar bwy'r oedd yn sbio; bum yn gwylio'r eira'n pluo, gan dybied mai gwenyn wedi cael dillad newyddion welwn; ac yr wyf yn cofio'm dychryn wrth glywed rhu disymwth gwynt meiriol, a chreciadau brawychus y rhew yn yr afon.
Doi cymydog ar ei dro, ac ambell rodiadur, i'm cartref ar hirnos gaeaf, i ymgomio wrth y tân mawn yn yr hen dy clyd; a byddai gweled fy ngwyneb bychan llwyd chwilfrydig i yn gwneyd iddynt ddechre adrodd eu hystraeon. Gwyddwn hanes degau o ysbrydion wrth eu henwau, ond mai enw'r adroddwr fyddai f'enw i ar yr ysbryd. Gwyddwn pwy oedd yn medru witsio hefyd, a byddwn yn gochel cyffiniau eu caeau pan yn chwilio am flodau newyddion neu nythod adar.
Eis i'r Ysgol Sul yn fore iawn. Yr wyf yn cofio myned y tro cyntaf yn dda, ar fore braf ym mis Mehefin. Yr oedd yr hen deiliwr wedi bod ar ei draed ymron dan hanner nos i wneyd fy nillad newyddion; nid ar ei draed ychwaith, o ran hynny, ond ar y bwrdd. Yr oedd y gôt a'r trowsus yn barod, ond nid oedd bosibl gwneyd y wasgod mewn pryd. A bu cynhadledd uwch ben y dillad a'r tocion a minnau. Ni wnai'r hen wasgod, yr oedd yn amlwg, gyda'r dillad newyddion ; oherwydd yr oedd amser nythod adar newydd fynd drosodd, ac yr oedd y wasgod wedi bod drwy filldiroedd o wrychoedd. Yr oedd pawb mewn penbleth; ni fynnai neb fy siomi, a minne wedi meddwl cymaint am gael mynd i'r ysgol, ac eto gwelid mai i hynny yr oedd yn rhaid iddi ddod. " Wel, fy nyn dewr i," ebe'r hen deiliwr, "dydi dy wasgod di ddim yn barod, beth wnei di?"
"Mynd i'r ysgol heb yr un," meddwn innau, heb y petrusder lleiaf. "Mae'r bachgen wedi taro'r hoel ar ei phen," ebai yntau, "mae hi'n ddigon braf, cauwch i gôt o'n dynn, a gadewch iddo fynd heb yr un wasgod."
A hynny benderfynwyd. Cychwynnodd y teiliwr adre dros y mynydd, a gadawodd ei ystyllen a'i fflat ar ol, — yn ernes y doi fore dydd Llun i orffen y wasgod.
Yr oeddwn i wedi codi o flaen yr ehedydd bore drannoeth. Ac o'r diwedd daeth amser cychwyn. Cauwyd fy nghot yn ofalus, ac nid oedd berygl i'r botymau newydd ddatod. Rhoddwyd fi ar fainc, yn nosbarth hen wr gydag amryw o'r un oed a phrofìad a mi fy hun. Ar lyfr yr oeddym i edrych, ond blin iawn oedd edrych ar y llyfr o hyd, a gwelais bron bopeth oedd yn digwydd yn yr ysgol. Y mae'r olygfa'n fyw o fy mlaen y funud hon. Y mae dwndwr yr ysgol, lleisiau llawer yn esbonio'r Beibl, yn fy nghlustiau. Dacw'r hen bobl, gydag aml ben gwyn yn crynnu, a phawb bron a'i spectol,— oll erbyn hyn yn y fynwent ger llaw. Dacw'r "dynion," — dynion cydnerth, yn llawn ynni wrth ddadlau a'u gilydd, — erbyn hyn wedi eu torri i lawr, neu'n hen wyr yn yr ysgol fel y gwelais eu tadau. Dacw hog-lanciau, erbyn hyn wedi hen gynefino â throion bywyd ; a dyma ninnau'r plant, ar chwal, erbyn heddyw, ym mhob man. A dacw ddosbarthiadau'r merched, — anesboniadwy iawn i mi oedd merched, rhai na fedrai ddringo'r coed, nac agor cyllell, na lluchio cerrig ond â'u llaw chwith.
Yr A B oedd fy ngwers i y bore hwnnw, ac erbyn dweyd yr holl lythrennau ar ol yr hen athraw, yr oeddwn yn meddwl na welais ddim byd rhyfeddach erioed. Yr oeddwn yn methu dirnad sut yr oedd y plant ereill yn adnabod pob llythyren wrth ei henw; yr oedd yn haws lawer "adnabod ol traed adar. Pan adewais yr ysgol, yr oedd A ar ewin un fawd imi, a B ar ewin y fawd arall; a'm tasg am yr wythnos oedd cofio'r ddwy lythyren hyn. Yr oedd gen i ystraeon mwy difyr na'r A a'r B, ond rhoid taw arnaf mewn munud pan soniwn am flodau drain neu nyth dryw. Daeth diwedd yr ysgol, ac er fy llawenydd dyma hwy'n dechre canu pennill fedrwn, yn araf araf fel swn y gwynt. Yr oedd golwg henaidd arnaf finnau'n treio canu, er mawr ddifyrrwch i'm cyfoedion, —
“ |
|
” |
Hyd yn hyn yr oeddwn wedi bod yn weddol ddi-brofedigaeth. Ond wrth fynd adre, cofiais am fy nillad newyddion, a betiais a bachgen pengoch fod gennyf fwy o fotymau nag ef, — hen lafn cyllell yn erbyn reel wedi ei gwneyd yn dop sgwrs oedd y fet. Yr oeddwn wedi cyfri holl fotymau fy nillad newyddion, a'r botwm oedd ar fy nghap, ond yr oeddwn ddau fotwni ar ol. "Dangos fotyme dy wasgod," ebe un o'r bechgyn. Yr oedd dau fotwm ar fy nghrys; a mentrais ddangos nad oedd gennyf wasgod, er mwyn cael cyfrif y rheini. Ond ni fedrai yr un o honom gau'r gôt yn ei hol. Dywedais yr hanes yn onest wedi mynd adre, a chefais fy chwipio, am falchder, ac am fetio ar ddydd Sul. Ar ddiwrnod gwaith nid wyf yn cofio i mi fod yn segur erioed cyn mynd i'r ysgol. Pan na fyddwn yn gwneyd da, byddwn wrthi â'm holl egni'n gwneyd drwg. Er hyn yr oedd awydd adeiladu yn gryfach ynnof nag awydd dinistrio. Y mae'n wir fy mod wedi gosod dannedd ogau yn y gwair yn ystod un oedd wedi fy nghuro; ac y mae'n wir fy mod wedi gosod penweig cochion ar dannau adawsai ysgogyn o glarc yn yr afon; medrwn hefyd ddynwared lleisiau llawer o ferched y fro. Ond gwell oedd gennyf fod ar fy mhen fy hun, yn cynllunio, ac yn gweithio fy nghynlluniau allan. Medru codi pont a medru codi ty oedd fy hoff freuddwyd. Bum am wibdaith droion yn edrych ar hynny o bontydd oedd yn fy nghyrraedd, a darganfyddais o'r diwedd pa fodd yr adeiladwyd hwy, a phaham y safent. Codais ugeiniau o bontydd dros fân aberoedd, pontydd bychain o gerrig mân y gallai gwartheg gerdded drostynt yn hawdd. Weithiau gwnawn bont lydan dros aber, ac ar honno codwn dy bychan fyddai'n ddiddos drwy'r gaeaf, — gyda charped o dywyrch trum esmwyth sych ar ei lawr. Wrth weled fy muriau, dywedai pawb y gwnawn saer maen dan gamp, a chwilid fy achau'n fanwl, i weled i bwy y tebygais. Pan fethid cael neb wedi arfer adeiladu ymysg fy hynafiaid, ond pawb wedi tynnu i lawr, ysgydwai pobl eu pennau, a dywedent na safai fy muriau'n hir.
Er hynny credai pawb y down yn ddyn enwog, os anfonid fi i'r ysgol. Dyna oedd cwestiwn pawb, — "Sut na anfonech y bachgen yma i'r ysgol?" Yr oeddynt yn credu mewn ysgol, a druan o honynt. Ond, o'r diwedd, pan oeddwn rhwng naw a deg oed, penderfynwyd mai i'r ysgol yr oedd yn rhaid i mi fynd. Ac yno, er mawr alar a cholled i mi, y gorfod i mi droi fy wyneb.
Yr oedd yr ysgol yn y Llan, rai milldiroedd o'r fan lle 'roeddwn yn byw. Yr oedd yn eiddo i'r tirfeddiannwr yr oedd ymron yr holl fro yn perthyn iddo ; ac yr oedd ei wraig, boneddiges dal urddasol, yn cymeryd dyddordeb mawr yn
addysg yr ardal. Yr adeg yr es i i'r ysgol gyntaf, yr oedd yno ysgolfeistres. Awd a fi i'r ty; yr oedd yr ysgol wedi dechre, ac nid oedd blentyn yn y golwg ar y Llan. Daeth yr ysgolfeistres atom, — dynes fechan, a llygaid treiddgar, ac yn dal ei dwylaw o'i blaen y naill ar y llall. Siaradai dipyn o Gymraeg lledieithog. iaith y werin: Saesneg. mae'n amlwg,
oedd ei hiaith hi, — iaith y bobl fonheddig, iaith y bobl ddieithr oedd yn lletya yn y Plâs, a iaith y person o sir Aberteifi. Ni fedrai wenu ond wrth siarad Saesneg. Sur iawn oedd ei gwep wrth orfod diraddio ei hun trwy siarad Cymraeg; o ran hynny, surni welais i ar ei gwedd
erioed, ond pan wisgai ei gwyneb teneu â gwên i gyfarfod y foneddiges hael oedd yn talu ei
chyflog iddi. Ni wrandewais i ar ei geiriau, ac nid oeddwn yn hoffii ei gwyneb, meddyliwn
am drwyn llwynoges welais yn f'ymyl unwaith wedi nos.
"Fy machgen i," ebai fy mam, " dyma dy feistres newydd. Edrych arni, tyn big dy gap o dy geg, mae hi'n mynd i ddysgu pob peth i ti. Ysgwyd law a hi."
Estynnodd ei llaw ataf, gyda gwên wan yn marw ar ei gwyneb, — "gwnawn," meddai, "mi dysgwn ni pob peth sydd isio i gwbod iddo; mi dysgwn ni o sut i bihafio."
Nid dysgu sut i fihafio oedd arnaf fi eisiau, ond dysgu sut i wneyd pont a sut i wneyd capel. Daeth awydd mawr drosof am fynd adre gyda fy mam; ond ar ol yr ysgolfeistres y gorfod i mi fynd. Agorwyd drws yr ysgol; clywn ddadwrdd rhyfedd, a gewelwn blant wedi eu pacio'n dyn wrth eu gilydd ar lawer o feinciau. Yr oedd dau le agored ar lawr yr ysgol, a gwelwn ddau ar eu traed, un ymhob llecyn agored. Deallais wedyn mai is-athraw ac is-athrawes oeddynt. Aeth yr ysgolfeistres a fi at un o honynt, ond nid wyf yn cofìo ond "niw boi " o'r hyn ddywedai. Yr oeddwn yn medru darllen Cymraeg yn bur dda erbyn hyn, a rhoddwyd fì mewn dosbarth plant yn dechreu darllen Saesneg. Un o lyfrau'r S.P.C.K. oedd y llyfr darllen, ac y mae'n gas gennyf y llythrennau byth, oherwydd y creulondeb ddioddefais wrth geisio dysgu o'r llyfr hwnnw. Llanc diddan oedd yr athraw, a bu'n garedig iawn wrthyf, ond wedi gwers y darllen aeth i'w le at ddisgyblion ereill. Buan yr aeth y gair fod un newydd, a gwirion hefyd, wedi dod i'r ysgol. Yr oedd llygaid amryw o blant creulon arnaf, — gwn am danynt i gyd, plant cegog o'r pentref oedd y rhan fwyaf, — nid ydynt uwch bawd sawdl byth. Yr oedd yr athraw wedi dweyd wrthyf yn ddistaw am beidio siarad gair o Gymraeg ; ond yr oedd y bechgyn drwg hynny'n gwneyd popeth fedrent i wneyd i mi waeddi, ac o'r diwedd llwyddasant. Collais fy nhymer, a dechreuais ddweyd fy meddwl wrth y chwilgi bradwrus ddyfeisiai sut i'm poenydio. Gydag i mi ddweyd fy Nghymraeg cryf, chwarddodd pawb, a rhoddwyd llinyn am fy ngwddf, a thocyn pren trwm wrtho. Ni wyddwn ar wyneb y ddaear beth oedd, yr oeddwn wedi gweled tocyn cyffelyb am wddf ci i'w rwystro i redeg ar ol defaid. Tybed ai i'm rhwystro adre y rhowd y tocyn hwnnw am fy ngwddf i? O'r diwedd daeth canol dydd, awr y gollwng. Daeth yr ysgolfeistres yno a gwialen yn ei llaw. Gofynnodd ryw gwestiwn, a chyfeiriodd pob plentyn gwasaidd ei fys ataf fi. Daeth rhyw beth tebyg i wên dros ei gwyneb pan welodd y tocyn am fy ngwddf i. Dywedodd ryw rigwm hir wrthyf na fedrwn ddeall gair o hono, danghosodd y wialen imi, ond ni chyffyrddodd â mi. Tynnwyd y tocyn i ffwrdd, a deallais wedi hynny mai am siarad Cymraeg y rhoddid ef am wddf.
Bu'r tocyn hwnnw am fy ngwddf gannoedd o weithiau wedi hynny. Dyma fel y gwneid, — 'pan glywid plentyn yn dweyd gair o Gymraeg, yr oeddis i ddweyd wrth yr athraw, yna rhoddid y tocyn am wddf y siaradwr; ac yr oedd i fod am ei wddf hyd nes y clywai'r hwn a'i gwisgai rywun arall yn siarad Cymraeg, pryd y symudid ef at hwnnw druan. Ar ddiwedd yr ysgol yr oedd yr hwn fyddai yn ei wisgo i gael gwialenodiad ar draws ei law. Bob dydd byddai'r tocyn, fel pe yn ei bwysau ei hun, o bob cwr o'r ysgol, yn dod am fy ngwddf i. Y mae hyn yn gysur i mi hyd heddyw, — ni cheisiais erioed gael llonydd gan y tocyn trwy ei drosglwyddo i un arall. Ni wyddwn ddim am egwyddor y peth, ond yr oedd fy natur yn gwrthryfela yn erbyn y dull melldigedig hwn o ddinistrio sylfeini cymeriad plentyn. Dysgu plentyn i wylio plentyn llai'n siarad iaith ei fam, er mwyn trosglwyddo'r gosb arno ef! Na, nid aeth y tocyn erioed oddi am fy ngwddf, dioddefais wialenodiad bob dydd fel y doi diwedd yr ysgol.
Erbyn heddyw y mae llawer o'r rhai fu'n cyd-ddysgu â mi, — yn fechgyn ac yn ferched, — wedi marw. Bu rhai farw wedi dioddef a nychu gartref, bu rhai farw mewn gwledydd pell. Plant tyner a charedig oedd y rhain, plant yr oedd cosb un arall yn peri mwy o boen iddynt nag iddo ef. Ac ehedodd llawer o honynt ymaith cyn gwybod am ddim ond diniweidrwydd a chydymdeimlad. Bum yn meddwl lawer tro, — beth pe buaswn wedi tynnu'r tocyn oddi am fy ngwddf, ac wedi ei roddi am wddf un o'r rhain? Bum yn diolch ar fy ngliniau i Dduw lawer adeg ei fod wedi cadw'r chwerwder hwnnw o fy mywyd.
Y mae llawer o'm hen gyd-ysgolheigion yn fyw, ac yn llwyddo. Ond byddaf yn clywed ambell dro am brofedigaeth lem yn cyfarfod ambell un o honynt. A'r adeg honno, medraf ymgysuro wrth feddwl na fum i yn foddion cosbi yr un o honynt erioed am siarad Cymraeg. Y mae'r bachgen oedd yn is-athraw pan welais i'r ysgol gyntaf yn amaethwr cyfrifol, ac nid ydyw'r blynyddoedd wedi dwyn ymaith y chwerthin chwareus o'i lygaid. Y mae'r eneth hithau'n wraig amaethwr, a'i meddwl yn ehedeg weithiau oddiwrth ei miloedd defaid sy'n pori ar y Berwyn, yn ehedeg yn ol i hen ysgol y Llan.
Nis gwn ym mha le mae'r athrawes, ac ni wa«th gennyf. Nid oes gennyf ond adgof gwan am dani, ni feiddiais edrych arni erioed ond yn llechwraidd. Y mae'n debyg iddi adael ein gwlad fynyddig ni ar y cyfle cyntaf, a symud i ryw ysgol fechan mewn pentref Seisnig. Ni fynnwn wneyd anghyfìawnder à'i chymeriad. Efallai, pe yr adwaenaswn hi yn ei thy, wedi oriau'r ysgol, ei bod yn wraig dyner-galon, ac yn pryderu llawer am danom. Hwyrach mai ar ei chredo yr oedd y bai, ac nid arni hi. Yn ol credo llawer athraw yr adeg honno, ei brif waith oedd dysgu Saesneg i'r plant. A'r ffordd oreu, fe dybid, i gyrraedd yr amcan hwnnw, oedd ymwadu â'r Gymraeg yn
gyfan-gwbl, a rhwystro plant siarad dim ond yr ychydig Saesneg fedrent gofio o lyfrau neu ymadroddion rhywun cyfarwydd â Saesneg. Tybid yn y wlad nas gallai ysgolfeistr siarad Cymraeg, tybid mai sarhad arno oedd tybied hynny. Bum yn meddwl lawer tro wedyn mai dan deimlad cryf o ddyledswydd y rhoddai ysgolfeistri y tocyn am wddf plant. Tybient, hwyrach, fod yn gyfreithlawn iddynt wneyd plentyn yn fradwr, os medrent trwy hynny ddysgu Saesneg iddo. Mor bell ag yr oeddwn i'n mynd, methodd yr oruchwyliaeth. Gwnaeth i mi gashau llyfrau ac ysgol, a chasliau gwybodaeth ei hun; gwnaeth i mi anufuddhau i'm rhieni am y tro cyntaf erioed, trwy ymguddio mewn coedwigoedd rhag mynd i'r ysgol; gwnaeth flynyddoedd ddylasent fod yn flynyddoedd dedwyddaf fy mywyd,— blynyddoedd agor y meddwl a dangos rhyfeddodau iddo, — gwnaeth y blynyddoedd hyn i mi yn chwerwaf rhai.
Hen gyfundrefn felldigedig, diolchaf wrth gofio fod gobaith i mi weled amser y caf ddawnsio ar dy fedd. Nid ar yr ysgol-feistres yr oedd y bai, ond ar y gyfundrefn. Merthyr oedd hi, fel y finnau. Yr oeddwn yn medru iaith, ond ni chymerwyd honno'n foddion i'm haddysgu. Yr oeddwn i'n siarad un iaith, a'm hathrawes yn siarad iaith arall, — ac ni ddysgais ddim. Oni bai am yr Ysgol Sul Gymraeg, buaswn heddyw yn anllythrennog, yn gorfod dibynnu ar arall am y newyddion am iachawdwriaeth. Bum yn dysgu llawer iaith ar ol hynny, eithr ni fu neb mor ynfyd a cheisio dysgu yr un i mi ond trwy gyfrwng iaith a wyddwn yn barod. Yn Gymraeg y medrir dysgu plentyn o Gymro feddwl, a thrwy'r Gymraeg y medrir dysgu iaith arall iddo. Un bore yn yr wythnos gawn i o Ysgol Sul, a chwe diwrnod o ysgol Saesneg. Fy mhrofiad yn awr ydyw, — yr wyf yn ddyledus am bob peth i'r Ysgol Sul; i'r ysgol Saesneg, nes y daeth Cymro i'm dysgu yn Gymraeg, nid wyf yn ddyledus am ddim. Ond, — fy stori.
Medrais fynd i dy perthynas i mi i gael tamaid; yr oedd y plant yn rhy brysur i'm hatal, pawb yn llawn eisiau bwyd. Ond pan ddois at y porth tuag un, yr oedd y swn wedi mynd fod bachgen od wedi dod i'r ysgol, — bachgen yn medru peth enbyd o ystraeon o bob math. Daliwyd fi gan y beciigyn mwyaf, a gosodwyd fi ar ben carreg, a than boen curfa gorfod i mi ddechreu ar f'ystraeon.