Coffawn yn llawen gyda pharch

Sancteiddrwydd im yw'r Oen di-nam Coffawn yn llawen gyda pharch

gan Isaac Watts


wedi'i gyfieithu gan Dafydd Jones o Gaeo
Duw ymddangosodd yn y cnawd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

125[1] Archoffeiriad Trugarog.
M. S.

1 COFFAWN yn llawen gyda pharch
Am ras ein Harchoffeiriad;
Un yw o galon dyner iawn,
A mynwes lawn o gariad.

2 Ni ddiffydd lin fo'n mygu byth,
Yn fflam fe'i chwyth yn hytrach;
Y gorsen ysig byth nis tyr;
Y gwan, fe'i gyr yn gryfach.

3 Am hynny, yn ei nerth a'i nawdd
Rhown ninnau'n hawdd ein hyder;
Cawn waredigaeth ganddo Fo
Mewn amser o gyfyngder.

Isaac Watts, Cyf. Dafydd Jones o Gaeo

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 125, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930