Sancteiddrwydd im yw'r Oen di-nam

Mae enw Crist i bawb o'r saint Sancteiddrwydd im yw'r Oen di-nam

gan William Williams, Pantycelyn

Coffawn yn llawen gyda pharch
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

124[1] Crist yn bob peth.
M. S.

SANCTEIDDRWYDD im yw'r Oen di-nam,
'Nghyfiawnder, a'm doethineb
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
Fy Nuw i dragwyddoldeb.

2 Ces weld mai Ef yw 'Mrenin da,
Fy Mhroffwyd a'm Hoffeiriad,
Fy Nerth a'm Trysor mawr a'm Tŵr,
F' Eiriolwr fry a'm Ceidwad.

3 Ar ochor f'enaid tlawd y bydd
Ar fore dydd marwolaeth;
Yn wyneb angau mi wnaf ble,
Gan weiddi "Iechydwriaeth."

4 O fewn i'r wlad tu draw i'r bedd
Caf weled gwedd ei ŵyneb:
Ac yn ei fynwes llechu caf
Hyd eithaf tragwyddoldeb.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 124, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930