Cofia'r byd, O! Feddyg da
← Iesu yw difyrrwch f'oes | Cofia'r byd, O! Feddyg da gan John Thomas Job |
Mi ganaf tra fo anadl → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
165[1] Y Meddyg Da.
74. 74. D.
COFIA'R byd, O! Feddyg da,
A'i flinderau;
Tyrd yn glau, a llwyr iachâ
Ei ddoluriau:
Cod y bobloedd ar eu traedoll
I'th wasnaethu;
Ti a'u prynaist trwy dy waed,
Dirion Iesu!
2 Y mae'r balm o ryfedd rin
Yn Gilead;
Ac mae yno beraidd win
Dwyfol gariad;
Yno mae'r Physygwr mawr,
Deuwch ato,
A chydgenwch, deulu'r llawr—
Diolch iddo!
John Thomas Job
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 165, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930