Mi ganaf tra fo anadl
← Cofia'r byd, O! Feddyg da | Mi ganaf tra fo anadl gan William Williams, Pantycelyn |
Fyth, fyth, rhyfedda'i'r cariad → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
166[1]Haeddiant mawr yr Aberth.
76. 76. D.
1 MI ganaf tra fo anadl
O fewn i'r ffroenau hyn,
Am gariad yn dïoddef
Ar ben Calfaria fryn;
Am goron ddrain blethedig,
Am hoelion garwa'u rhyw—
I gannu f'enaid euog
Fel eira gwynna'i liw.
2 Fe rwygwyd muriau cedyrn,
Fe dorrwyd dorau pres,
Oedd rhyngom ni a'r bywyd—
Mae'r bywyd heddiw'n nes ;
Palmantwyd yr holl lwybrau,
Mae'r pyrth o led y pen,
O ddyfnder dinas distryw
I eitha'r nefoedd wen.
3 Fe bery trugareddau'r
Cyfamod gwerthfawr drud,
Pan ddarffo'r grëadigaeth
Ddiderfyn oll i gyd;
Ni bydd ond dechrau gweled
Daioni mawr y ne'
Pan gollo haul a lleuad
A'r holl blanedau'u lle.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 166, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930