Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Ei Addysg
← Mebyd ac Ieuenctid | Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau gan John Owen, Yr Wyddgrug |
Ei brentisiaeth → |
Ei Addysg
Nid oes sicrwydd i ba le yr anfonwyd ef am addysg gyntaf. Ni ddarfu ein hysbysu yn ei adgofion. Y mae yn wir ei fod yn rhoddi desgrifiad o Rhys Lewis yn myned y tro cyntaf i Ysgol Robert y Sowldiwr, eto ni ddylid cymryd yr hanes hwn yn ddesgrifiad llythrennol o fore oes y Nofelydd. Bu yna ysgol yn cael ei chynnal gan hen filwr yn rhan o'r Wyddgrug a elwir y Bedlam, ond yr oedd hyny cyn geni awdur Rhys Lewis. Yr oedd yna Ysgol Eglwysig yn cael ei chadw y pryd hwn yn Ponterwyl, ar yr ochr ddwyreiniol i orsaf y Rheilffordd. Y mae rhanau o'r muriau yn aros hyd heddyw. Y tebyg ydyw ei fod wedi mynychu yr ysgol hon am ychydig amser, er nas gellir bod yn gwbl sicr. Wele'r cyfeiriad at yr ysgol hon yn y Dreflan,— "Cyn dechreuad yr Ysgol Brydeinig yn y Dreflan, yr oedd yn rhaid i mi fyned i'r Eglwys o leiaf unwaith bob Sabboth, neu ynte orfod goddef triniaeth yr hold out ddydd Llun y bore. Yr wyf yn cofio yn dda am lawer awr y bu raid i mi ei threulio yn yr hen Eglwys o fewn i'r eisteddleoedd dyfnion, o ba le yr oedd yn amhosibl bron i mi weled y Person, o herwydd bychander fy maintioli a dyfnder y sêdd, na ychwaith ddeall ond ychydig o'r hyn a ddwedai efe. Yn wir, nid oeddwn yn gofalu rhyw lawer beth a ddywedai y gŵr eglwysig, canys fy mhryder mawr i fyddai gallu edrych yn ddifrifol pan fyddai yr "hen ffoniwr," fel y gelwid ef gan y plant, yn myned heibio, yr hwn a gerddai yn ol a blaen ar hyd yr Eglwys yn ystod yr holl wasanaeth cyn ddistawed â chath, a gwialen gref yn ei law, gweinyddu'r hon ar ein penau a'n hysgwyddau oedd yn fforddio dirfawr ddifyrrwch iddo, goeilem ni. Yn y cyfnod hwnw ar fy oes, yr oeddwn yn teimlo rhyw barchedigaeth mawr i'r adeilad henafol a gwych, ac yr oedd rhyw ddirgelwch ac ofnadwyaeth i mi ynglŷn â llawer o bethau perthynol iddi." Yr ysgol-feistr ar y pryd ydoedd gŵr o'r enw John Roberts. Prif noddwr yr ysgol ydoedd y Parch. Charles Butler Clough, M.A. — wedi hyny Deon Clough o Lanelwy, desgrifiad o'r hwn a geir yn ddiau yn Mr Brown, y Person. Disgwylid i'r plant a fynychent yr ysgol — a dyma yr unig ysgol y pryd hwnw i blant tlodion yr Wyddgrug — (yr oedd yna ysgol breifat i'r hon yr anfonid plant rhieni allent fforddio talu) i fyned i wasanaeth yr Eglwys. Ond gadawodd Daniel yr ysgol hon yn rhy ieuanc i dderbyn nemawr o argraph, oblegid yn y flwyddyn 1845 cychwynnwyd yr Ysgol Frytanaidd. Diamheu i'r cyfeillion Ymneillduol yn y dref gael eu symbylu i adeiladu yr Ysgol Frytanaidd, o herwydd yr orfodaeth a roddid ar eu plant i fyned i wasanaeth yr Eglwys, oblegid wythnos cyn agor yr Ysgol Frytanaidd, cyhoeddodd yr ysgol-feistr yn Ponterwyl fod rhyddid i holl blant yr Ymneillduwyr i fyned gyda'u rhieni ar y Sabboth. Pa fodd bynnag, pan agorwyd yr Ysgol Frytanaidd, ymadawodd oddeutu hanner y plant o'r Ysgol Eglwysig, ac yn eu plith, mae'n debyg, Daniel Owen, oblegid y mae yn sicr ei fod yn bresennol ar agoriad yr ysgol hono. Ysywaeth, nid yw wedi adrodd dim o hanes y blynyddoedd hyn yn y bras-linelliad y cyfeiriwyd ato. Yn ol ydym wedi casglu gan rai o'i gyfoedion, nid oedd dim hynod ynddo pan oedd yn blentyn yn yr ysgol. Cymmerai ei ran mewn chwaraeon gyda y plant, er nad oedd yn fachgen cryf iawn. Tueddai braidd at fod yn ddistaw, os nad yn yswil. Ni thynnodd sylw neb yn ystod y blynyddoedd hyn, fel yn meddu unrhyw allu arbenig. Enw yr athraw yn yr Ysgol Frytanaidd ydoedd William Davies, ac er bod yr enw yn un digon Cymreig, eto Sais uniaith ydoedd. Credid yn lled gyffredinol, y pryd hwnw, mai mantais arbenig i blant Cymreig ydoedd cael eu dysgu gan un na fedrai Gymraeg. Yr oedd y gŵr hwn, pa fodd bynnag, yn un tra llwyddiannus fel ysgol-feistr. Nodweddid ef yn bennaf gan fanylder, ac er na ragorodd Daniel Owen mewn dysgu, eto nis gellir amheu i'r addysg a dderbyniodd adael ei hol arno, yn enwedig ar ei syniadau am y dull goreu o gyfranu addysg, oblegid yr oedd ynddo rai elfenau nodedig fel athraw; ac y mae yn ffaith fod yna liaws o rai a dderbyniant addysg y pryd hwnw yn yr Ysgol Frytanaidd wedi d'od i amlygrwydd — ac yn ddynion a gydnabyddid gan bawb fel gwŷr o allu, megis y diweddar Barchn. Robert Davies, Amwythig, W. Hinton Jones o'r un lle, y Parch. David Jones, Gweinidog yr Annibynwyr yn Sleaford, swydd Lincoln.