Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Mebyd ac Ieuenctid
← Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Cynnwysiad | Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau gan John Owen, Yr Wyddgrug |
Ei Addysg → |
DANIEL OWEN
GANWYD Daniel Owen ar yr 20fed o Hydref, 1836, yn Maesydrê, yr Wyddgrug. Enw ei dad ydoedd Robert Owen, ac enw morwynol ei fam ydoedd Sarah Edwards. Brodor ydoedd ei dad o Ddolgellau; ond yr oedd wedi symud pan yn lled ieuanc i weithio i'r mwnau yn Sir Flint. Cawn mai yn Rhesycae yr aeth ei dad a'i fam i fyw gyntaf ar ol priodi. Gyda golwg ar Robert Owen, dywed Daniel Owen yn y braslinelliad o'i fywyd a anfonodd i'r Cymro am Fehefin 1af, 1891, nad oedd dim neillduol yn ei dad am a wyddai ef, ond ei fod yn gymydog da, yn ddyn gonest, ac yn Gristion cywir. Yn yr hanes a ysgrifenwyd gan y diweddar Barch. Owen Jones o Landudno—yr Wyddgrug y pryd hwnw—am y trychineb a gymmerodd le yng ngwaith glô yr Argoed, pryd y collodd Robert Owen, yn ogystal a dau fab iddo, eu bywydau, dywedir am dano,—"Cawsai aml a blin gystuddiau yn y blynyddoedd diweddaf, ond yr oedd lle i feddwl ei fod yn ofni Duw yn fwy na llawer. Byddai yn ddyfal ac astud iawn yn yr arferiad o foddion gras; a'i ymdrech dwys yn ddiau oedd am ymddwyn yn addas i efengyl Crist."
Ymddengys mai gŵr dysyml ydoedd, heb fod ynddo unrhyw arbenigrwydd o ran talent. Yn wir, sylwa ei fab,—"Os oes ynof fymryn o dalent, yr wyf yn credu i mi ei etifeddu o ochr fy mam." Ganwyd a magwyd ei fam yn Llanfair, ger Rhuthun. Yr oedd ei daid o ochr ei fam yn berthynas i Thomas Edward , ac yr oeddynt ar delerau cyfeillgar iawn. Byddai y ddau gâr yn fynych yn ymryson prydyddu. Bu ei fam pan yn eneth lled ieuangc yn gwrando laweroedd o weithiau ar interliwdiau Twm o'r Nant, a dysgodd lawer o honynt ar ei chôf, a gallai eu hadrodd yn ei hen ddyddiau, a dywed ei mab y byddai yn arfer settlo pob cwestiwn drwy ddifynu llinell o weithiau Twm. Ymddengys mai nid interliwdiau Twm oedd yr unig rai y bu yn eu gwrando yn nyddiau ei hieuengctid; yr oedd ei mab yn cofio ei chlywed yn son am eraill. Nid dyma'r unig ddylanwadau, pa fodd bynnag, y daeth danynt ym moreu ei hoes, oblegid fe'i clywyd yn ymffrostio yn fynych ei bod wedi cael y fraint o adrodd pennod i Charles o'r Bala fwy nag unwaith pan yn lled ieuangc. Gwelwn felly yn hanes mam Daniel Owen gyd-gyfarfyddiad y ddwy ffrwd o ddylanwad a lifai drwy rannau o Ogledd Cymru oddeutu dechrau y ganrif hon. Dywed ei mab fod gan ei fam uwch meddwl o Charles o'r Bala na neb arall. Oblegid erbyn iddo ef ddod yn ddigon hen i sylwi, yr oedd Sarah Owen wedi cyfarfod â "throion chwith" a diau ei bod yn profi'r Ysgrythurau a ddysgodd, ac a adroddodd i Mr Charles, yn fwy o gysur ac o gynhaliad i'w meddwl na dim arall. Y mae ei mab wedi rhoddi desgrifiad lled fyw o'i fam yn y braslun y cyfeiriwyd ato uchod. Dyma fel y dywed, - "Dynes fechan oedd fy mam, ond yr oedd ryw ddefnydd anghyffredin ynddi. I ddangos y defnydd yr oedd fy mam wedi ei wneud o hono, yr wyf yn adrodd i chwi yr hanesyn hwn—gallwn adrodd eraill lawn mor rhyfedd: Cerddodd o Resycae i'r Wyddgrug â phlentyn ar ei braich. Cynnorthwyodd fy nhaid a fy nain i gorddi wedi cyrraedd yr Wyddgrug, yna cerddodd i Gaerllion a'r plentyn yn ei breichiau. Yr oedd iddi chwaer yn gwasanaethu yng Nghaer, a chwaer arall yn gwasanaethu chwe' milltir tudraw i Gaer. Cariwyd y plentyn y chwe' milltir hwn gan y chwaer o Gaer. Dychwelodd yn ol i'r Wyddgrug y noson honno, wedi cerdded ar ddiwrnod gwresog 44 o filltiroedd, ac wedi cario'r plentyn 38 o filltiroedd." Profa hyn ei bod o gyfansoddiad eithriadol o wydn; ond gwnelai ein tadau orchestion mewn cerdded yn y blynyddoedd hyny. Cafodd fyw i oedran mawr. Dioddefodd ingoedd am flynyddoedd ar amserau oddiwrth y cancer, yr afiechyd o ba un y bu farw yn y flwyddyn 1881, yn 83 mlwydd oed.
Bu i Robert Owen a'i briod chwech o blant—pedwar o fechgyn a dwy o ferched. Pan nad oedd Daniel ond 7 mis oed, cymerodd amgylchiad le a adawodd ei ôl ar ei holl fywyd, sef gorlifiad Gwaith Glo yr Argoed, hanner milltir gerllaw tref yr Wyddgrug, pryd y collodd un-ar-hugain o weithwyr eu bywydau, ac yn eu plith Robert Owen a'i ddau fab, Robert a Thomas. Taflodd y digwyddiad alaethus hwnnw oleuni ar aelwyd Robert a Sarah Owen, Maesydrê. Yn hanes y ddau fachgen—un yn ddeuddeg a'r llall oddeutu deg oed, gwelwn y fath gartre oedd ganddynt. Dyma fel yr ysgrifena y Parch. Owen Jones am danynt:—
"Robert Owen, un hynod am ganu Hymnau oedd yr un bychan yma, arferai ganu yn hynod o siriol yn yr addoldy yn wastadol; wrth fyned at ei waith yn y plygeiniau atseiniau Emynau Dirwest, neu ynte Emynau'r Ysgol Sabbothol, ar y dôn 'Hyfryd' gyda phereidd-dra neilltuol; a phan oedd gyfyngaf a duaf arnynt yn eu carchar chwith, wedi i'r dwfr gau arnynt, efe a roddai yr emyn prydferth a ganlyn allan, yr hon a ddatseinid â llawen floedd gan berchenogion ffydd yng nghrombil y ddaear, pan oedd eu cnawd a'u natur yn dechrau pallu, a gobaith am un ymwared, ond drwy angeu, wedi ei golli:—
'O fryniau Caersalem ceir gweled,'" &c.
Am y bachgen arall Thomas, dywedir,— "Y bachgen hwn oedd un tebyg iawn i fachgen duwiol; dwysach a difrifolach ei ymddiddanion a'i ymddygiadau na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion, Trysorai rannau helaeth o'r Ysgrythyrau yn ei gôf, a phan ellid cael y llaw uchaf ar ei wylder, ymddiddanai am bethau hanfodol crefydd fel hen Gristion profiadol." Credwn mai efe oedd yr hynaf o'r ddau.
Y mae Daniel Owen yn ei fras-linelliad o'i fywyd wedi desgrifio amgylchiadau ei gartre yn y geiriau dwys a ganlyn:— "Gadawyd fy mam yn weddw gyda phedwar o blant - dau fab a dwy ferch — myfi yn blentyn saith mis oed. Amgylchiad ofnadwy oedd hwnnw i fy mam, a bu agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos am amser wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan ryw led-ddisgwyl eu gweled yn dyfod adref o'r gwaith. Yr oedd damweiniau o'r fath yn bethau lled anghyffredin y dyddiau hynny, a chynhyrfwyd y wlad drwyddi oll." Gwnaeth yr amgylchiad trist hwn argraph annileadwy ar y plentyn ieuangaf. Agorodd ei ymwybyddiaeth megis o dan gysgod pruddaidd y trychineb ofnadwy. Bu boddiad ei dad a'i ddau frawd yn achos i bruddhau ffurfafen y cartre, ac arweiniodd y teulu i wybod beth ydoedd tlodi, os nad angen. Dyfynwn eiriau Daniel Owen ei hun,— "Drwy ymdrechion y Parch. Roger Edwards, yr hwn oedd ŵr ieuanc newydd ddyfod i'r Wyddgrug, a'r Parch. Owen Jones, diweddar o Landudno, ac yr wyf yn meddwl y Parch. Thomas Jones, awdur y Noe Bres, ac eraill, casglwyd cannoedd o bunnau i'r gweddwon a'r rhai niweidiwyd yn namwain Gwaith yr Argoed. Rhoddwyd yr arian ym manc Treffynnon, ac yn ol y trefniadau, derbyniasai fy mam, fel eraill, 14/- yr wythnos hyd nes y buaswn i — y plentyn ieuangaf — yn bedair-ar-ddeg oed. Ond och! Ymhen ychydig wythnosau torrodd y banc a chollwyd yr holl arian. Brwydr galed a fu hi wedyn ar fy mam i fagu ei phlant. Ni feiddiaf ddisgrifio i chwi fy mhrofiad, wedi i mi ddyfod i ddeall pethau — y cyfyngder a'r tlodi — mwyaf a feddyliaf am dano, mwyaf oll yr edmygaf ddewrder, ffydd, ac ysbryd di-ildio fy mam; ond beth yr ydwyf yn son, mi a geisiais bortreadu ychydig o'i phrofedigaethau yn Mari Lewis — mam Rhys Lewis — ond fy mod wedi ymatal rhag desgrifio ambell gyfyngder."
Am y gweddill o'r plant. Nid oes dim i'w ddweud am ei chwiorydd. Arosodd un chwaer gyda ei mam, a chyda ei brawd ar ol hyny hyd ei marwolaeth. Ond dylid gwneud crybwylliad arbennig am ei frawd hynaf, ac erbyn hyn ei unig frawd. Wele'r disgrifiad a gawsom o honno, — "Yr oedd Dafydd Owen yn meddu corph hardd, ac wedi ei ddonio â meddwl bywiog a chyflym, yn llawn o nwyfiant chwarae. Darllenodd lawer yn Gymraeg a Saesneg ar hanesyddiaeth, barddoniaeth, a ffug-chwedlau. Meddai gôf gafaelgar, a thoreth o ddawn i draethu ei feddyliau. Yr oedd yn bert a pharablus dros ben, ac yn ddigymhar am adrodd ystoriau. Yr oedd ganddo ystôr dihysbydd o hanesynau a chwedlau am bethau rhyfedd a digrifol, y rhai a adroddai gyda y fath hwyl i'w gyfeillion. Ymhyfrydai hefyd mewn chwarae triciau digrifol gydag amryw o'r rhai a gydweithiant âg ef." Nis gellir amau nad oedd ei frawd iau yn meddwl am dano pan yn desgrifio rhai o'r cymmeriadau mwyaf adnabyddus yn Rhys Lewis. Dyma fel y dywed am dano yn y bras-linelliad y cyfeiriwyd ato uchod:-
"Nid oedd dim neilltuol yn fy chwiorydd; ond yr oedd fy mrawd Dafydd yn sicr yn un o'r bechgyn mwyaf talentog — yn naturiol — a anwyd yng Nghymru. Pe buasai genyf chwarter ei dalent, buaswn yn ddiolchgar. Ond - ïe; yr "ond" ydyw yr aflwydd! — ac nid oes eisieu son mwy am dano. Ni wnaeth efe niwed i neb ond iddo ei hun. Gwastraffodd ei athrylith mewn cylchoedd na ddylasai; ond cafodd — drwy hir gystudd — amser i edifarhau, a mi a gredaf iddo gael trugaredd."
Teg ydyw cydnabod fod ei frawd ieuengach mewn dyled arbenig iddo. Yr oedd Dafydd, fel y sylwyd, yn ŵr darllengar, ac yn llawer mwy cyfarwydd na'r cyffredin mewn llenyddiaeth Gymraeg a Seisnig. Yr oedd yn "Sais" pur dda fel y dywedir, yr hyn sydd yn brawf o ragoriaeth, pan gofiom am ei ddiffyg manteision, ac iddo gael ei ddwyn i fynu mewn cymydogaeth hollol Gymreig, — yr hyn ydoedd Maesydrê y pryd hwnw. Drwy fod Daniel naw mlwydd yn iau na'i frawd, ac yn amddifad o dad, tyfodd i fynu megis o dan ei gysgod, ac y mae yn anmhosibl deall hanes bywyd y nofelydd heb gyfeirio at eiddo ei frawd — yr hwn a fu ei athraw cyntaf — ac a agorodd y drws iddo i ystorfeydd gwybodaeth, a theg yw cydnabod ymhellach fod Dafydd wedi bod yn dra charedig wrtho mewn ystyron eraill yn y cyfnod yr oedd yn dechrau pregethu, ac er hwyrach fod Nofelydd mewn perygl o fyned i eithafion pan yn son am "Dafydd," canys efe oedd ei wron cyntaf; eto tystiolaeth unfryd y rhai a'i hadwaenant ydyw ei fod yn meddu ar alluoedd tra anghyffredin.