Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Ei Gystudd a'i Farwolaeth

Materion Cyhoeddus a Threfol Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau

gan John Owen, Yr Wyddgrug

Ei Gofadail


i fyned allan. Bu yn y capel ychydig o weithiau, a'r tro diweddaf y bu yno ydoedd Sabboth, Mai y 5ed, pan yr oedd pregeth angladdol yn cael ei thraddodi i unig ferch hen gydymaith ei oes, Mr. Isaac Jones, yr hon oedd yn gymmeriad hynod o ddymunol. Elai hefyd am ychydig oriau yn ystod y dydd i'w fasnachdy yn misoedd yr haf; ond fel yr oedd yr hîn yn oeri, cadwodd yn gwbl i'r tŷ, ac yn ystod y tair wythnos diweddaf, cyfyngwyd ef yn hollol i'w ystafell wely. Codai am ychydig amser yn ei ystafell hyd y diwedd. Dylid dweyd ei fod wedi gwerthu y tŷ a adeiladodd iddo ei hun o dan gysgod Bryn y Beili, bron gyferbyn â'r tŷ bychan lle y ganwyd ac y magwyd ef, ac yn yr hwn hefyd yr ysgrifennodd Rhys Lewis. Bu yn ffodus yn ei lety, - darfu i Mrs. Evans, gyda'r hon y lletyai, a Miss Jones, weini arno gyda gofal a thynerwch mawr. Gwnaed pobpeth a allai caredigrwydd i leddfu ei gystudd. Nid arbedodd ei feddyg, Dr. Edwards, unrhyw ymdrech er ceisio ei wellhau, a galwodd ato y Doctoriaid Trushaw o'r dref hon, a Dobbie a Roberts o Gaerlleon, ond nid oedd dim yn tycio i beri gwellhad. Yn wir, ofnai ef ei hun o'r dechrau nad oedd adferiad iddo; eto, hiraethai am gael gwella. Dymunai am gael ymroddi yn fwy i weithio gyda chrefydd. Os ydoedd ei lafur llenyddol, ynghyd â'r temtasiynau a all fod yn gysylltiedig â bywyd felly, wedi myned a'i fryd yn ormodol, yn awr, pa fodd bynnag, pan yr oedd y diwedd yn nesâu sefydlai ei feddwl ar y sylweddau pur. Cafodd gysur arbenig ym Mhryddest Elfed ar "Orsedd Gras," yr hon a ymddangosodd y pryd hwn. Gwelsom ei fod wedi nodi allan rai darnau, a darllenai hwy eilwaith a thrachefn. Wele rai o'r darnau a nodwyd ganddo: -

Gorsedd dirion, Gorsedd anwyl, Gorsedd afradloniaid ffol,
Gorsedd lle disgwylia Cariad am y rhai sy'n d'od yn ol.
Nos na dydd ni ddaw neb yno heb fod croesaw iddo ef—
Nid oes porth na chauir rywbryd ond trugarog borth y nef!
Nid oes cau ar hwn: mae Duw'n rhy hoff o wel'd ei blant i'w gau;
A pho amlaf deuant, mwyaf yw ei ras yn amlhau:
Mae'n caru'r llaw sy'n curo'n fynych, fynych, wrth y drws.
Ac y mae'r fendith, wrth ei chadw'n hir, yn myned yn fwy tlws—
"Briwsion?" — llefai'r wraig o Ganaan, o dan gur ei phryder trwm,
Ond i enaid mor urddasol yr oedd briwsion yn rhy lwm.
Cadwodd Iesu'r briwsion, er i'w chalon dori bron yn ddwy.

"Y pethau mwyaf" a lanwant ei feddwl yr wythnosau hyn; eto, ar amserau, yr ymddangosai yn lled siriol. Dymunai yn fawr am ran yng ngweddïau ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol. Yr oedd yn credu yng ngweddïau'r eglwys. Credai fod yr Arglwydd wedi gwrando ei gweddïau yn flaenorol ar ei ran yn ystod ei gystudd trwm bedair blynedd ar bymtheg yn ôl. Ymsiriolai wrth glywed fod yna weddïau yn cael eu hoffrymu yn barhaus drosto. Ystyriai fod hyn yn rhyw awgrym i " bwy yr oedd yn perthyn." Nos Sadwrn diweddaf y bu fyw, gofynnai i Miss Jones i ddarllen iddo gyfieithiad o emyn hwyrol Lyte, yr hwn a welir yn Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd : -

"Trig gyda mi, fy Nuw mae'i dydd yn ffoi,
Cysgodau yr hwyr o'm hamgylch sy'n crynhoi;
Diflanna nerth y ddaear hon, a'i bri,
Cynhorthwy’r gwan, O aros gyda mi."

Gofynnodd i'r holl benillion oeddynt mor gyfaddas i'w sefyllfa ef gael eu darllen, a theimlai eu bod yn rhoddi cysur iddo fel yr oedd cysgodau yr hwyr o'i amgylch yn crynhoi. Yr oedd ers dyddiau yn credu fod dechrau'r diwedd wedi dod, a gweddïau am i'r struggle fod yn fyr. Yr oedd ei natur nervous yn brawychu wrth feddwl am yr ymddatodiad, ac er ei fod yn suddo yn gyflym dydd Llun, eto yr oedd yn ymwybodol hyd y diwedd, a gwelid ef a'i ddwylaw ymhleth yn fynych yn gweddïo yn floesg am gael gollyngdod buan, ac am 8 o'r gloch fore Mawrth, yr 22ain o Hydref, caniatawyd ei weddi. Bu farw ddau ddiwrnod wedi iddo gyrraedd ei 59 mlwydd oed.

Ei Gladdedigaeth

Pan ddeallwyd fod ei ysbryd wedi ehedeg ymaith, llanwyd yr holl dref a thristwch dwfn. Ac er nad oedd iddo berthnasau yn y dref, eto yr oedd ei farwolaeth yn alar personol i lu o gyfeillion. Anghofid yn llwyr bob diffygion a welwyd ynddo, ac ni chofid ond am y cyfaill hoff, caredig, a diddan, yr hwn ni chaem "weled ei wyneb ef mwy." Cymerodd y claddedigaeth le y dydd Iau canlynol, sef ar y 24ain, yng nghladdfa gyhoeddus yr Wyddgrug. Cyn cychwyn y corff i'r gladdfa, cynhaliwyd gwasanaeth yn addoldy y Methodistiaid yn New Street Ar ôl dechrau drwy ddarllen rhan o'r Gair a gweddïo, ynghyd â chanu emyn, cafwyd anerchiadau byrion gan y Parchn. Ellis Edwards, M.A., Bala, Robert Owen, Tŷ Draw, yr Wyddgrug. Rhoddodd Mr. Edwards amryw o'i atgofion am yr ymadawedig ym mlynyddoedd ei ieuenctid. Dilynwyd ef gan y Parch. Robert Owen, gyda sylwadau ar ei gymemriad. Cyfeiriodd at ei synnwyr cryf , ei onestrwydd, ynghyd â'i lafur gyda'r achos yn y dref.

Ar ôl gweddïo, aethpwyd yn orymdaith i'r gladdfa. Gwelwyd nifer mawr o weinidogion y sir o bob enwad, ynghyd â chlerigwyr y dref, yn yr orymdaith; aelodau o'r Bwrdd Llywodraethol yr Ysgol Ganolraddol, o ba un yr oedd yr ymadawedig yn aelod, ac o Gyngor Dinesig y dref, o ba un yr oedd yn gadeirydd, ynghyd ag amryw o gynrychiolwyr llenyddiaeth, a lliaws mawr o gyfeillion o'r dref a'r cylch, er bod yr hin yn dra anfanteisiol Gan fod yr orymdaith mor fawr, penderfynwyd myned ar unwaith at y bedd. Darllenwyd rhannau o'r Ysgrythur, a gweddïwyd drachefn, ac ar ôl canu'r hen emyn adnabyddus, -

O fryniau Caersalem ceir gweled
Holl daith yr anialwch i gyd,"

ymadawodd y dyrfa. Gosodwyd ef i orwedd yn yr un bedd a'i fam, a'i frawd a'i chwaer.

Y Saboth, y 27ain, gwnaed cyfeiriadau at gymeriad a gwasanaeth yr ymadawedig i lenyddiaeth Cymru, yn Eglwys y Plwyf, gan y Parch. E. M. Roderick, M.A., y Vicar. Pregethwyd hefyd bregeth angladdol iddo yn addoldy New street - lle yr arferai addoli- gan y gweinidog, oddi ar y testun Psalm xlix 1-4.

Wele y Beddargraff ar y garreg ddiaddurn, lle y gorwedd ei weddillion marwol, y fwyaf syml ei hargraff o fewn y fynwent : —

Yma
Y
Gorwedd gweddillion
DAFYDD OWEN
Adeiladydd, Wyddgrug
Yr hwn a fu farw Chwefror 4ydd, 1880,
Yn 53 oed.
Hefyd
SARAH OWEN
Awst 14eg,1881
Yn 85 oed

"Dibenodd 'nawr dy boenau— dy gyfall
Da gefaist yn angeu.
Daw dwthwn y doi dithau
Pwy ŵyr! wedi llwyr wellhau."

A
LEAH
Mawrth 3ydd, 1890
67 mlwydd oed.
Hefyd
DANIEL OWEN
Yr hwn a fu farw Hydref 22ain, 1895
"Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? Dangosed
trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn
mwyneidd-dra doethineb."

Ewyllys y diweddar Daniel Owen.

Y mae cynnwys ei ewyllys yn ddiddorol, ac yn unol â chymeriad y testamentwr.

Penododd ddau gymydog, a chyfeillion iddo, y rhai oeddynt yn aelodau yn yr un eglwys, yn gymun weinyddwyr, gan roddi £10 i bob un ohonynt, ynghyd ag £20 yn ychwanegol i gael ei rannu yn gyfartal rhwng eu plant Gadawodd £5 yr un i'w weithwyr, ynghyd â phâr o ddillad i bob un ohonynt £10 i'w egwyddorwas, ynghyd â'i oriawr a'r gadwyn aur berthynol iddi. £10 i'w gyfrannu ymhlith tlodion yr eglwys yn New Street. £20 tuag at y Genhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd. £5 i'w lety- wraig, ynghyd A'r gadair yr arferai eistedd ynddi ei ddarluniau ynghyd â'r gist lle y cadwai ei ddillad. £5 hefyd i Miss Jones a weinyddai arno, ynghyd â'r royalty a dderbynnid oddi wrth werthiant Straeon y Pentan am 40 mlynedd. Y gweddill o'i eiddo personol, yr hyn oedd yn ychydig gannoedd, i'w rhannu rhwng ei dair nith.

Nodiadau

golygu