Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau/Yn Dechrau Pregethu

Yn Dechrau Cyfansoddi Barddoniaeth Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau

gan John Owen, Yr Wyddgrug

Yn gadael Coleg y Bala


Yn dechrau pregethu.

Arferai Daniel Owen fynychu Ysgol Sabbothol a gedwid mewn tŷ annedd yn Rhydygoleu, o ba un y tyfodd eglwys bresennol Maesydre. Yr oedd yr ysgol hon dan ofal y fam eglwys yn yr Wyddgrug. Yr oedd Daniel Owen oddeutu 19eg oed pan y daeth yn aelod o Ysgol Sabbothol y dref. Nid oedd eto wedi ei dderbyn yn gyflawn aelod, er ei fod wedi ei ddwyn i fyny yn seiat y plant. Er bod ei fuchedd yn gwbl ddiargyhoedd, ac mai pobl y capel oedd ei gyfeillion, ac ym mhethau y capel y cymmerai ddyddordeb. Ac er iddo gael ei gymell yn fynych i ddod yn gyflawn aelod, ni chymerodd y cam hwn hyd y flwyddyn 1859, sef blwyddyn y diwygiad. Yn ol a glywsom, ni welwyd golygfeydd mor gyffrous yn yr Wyddgrug, ac mewn rhai rhannau o Gymru, eto adeg hyfryd iawn ydoedd y tymor hwn. Ymunodd llawer â chrefydd, ac yn eu plith Daniel Owen, yn ŵr ieuanc 23ain oed. Yn y flwyddyn 1864 dygwyd ei achos gerbron yr eglwys fel ymgeisydd am y Weinidogaeth. Cynnyrchodd y cais beth syndod ymhlith yr aelodau, o herwydd hyd yr adeg hon nid oedd Daniel Owen wedi cymmeryd unrhyw ran ym moddion cyhoeddus y capel. Er hynny yr oedd wedi profi ei hun yn ŵr ieuanc o allu diamheuol yn y cymdeithasau dadleuol, ac yng nghyfarfodydd llenyddol y dref. Diau fod y gwyleidd-dra naturiol, oedd yn elfen mor amlwg ynddo, wedi peri iddo fod yn ymarhous i gymmeryd rhan gyhoeddus yn y gwasanaeth. Y mae efe ei hun wedi dwyn tystiolaeth mai ildio i gymhelliadau taer ei gyfeillion a barodd iddo ddechrau pregethu, at lenyddiaeth yr oedd gogwydd cryf ei feddwl ef o'r cychwyn, eto, gallwn fod yn sicr fod y cyfeillion a'u hannogodd i ymaflyd yng ngwaith y Weinidogaeth yn gweled ynddo gymhwysderau arbennig, onide ni buasent byth yn ei wthio i gymmeryd y cam hwn. Oddiwrth yr hyn a ysgrifenodd ei hun, ac wrth alw i'n côf ei gyfeiriadau at y cam hwn, credwn na argyhoeddwyd ef ei hun erioed ei fod wedi ei alw i'r gwaith o bregethu, ac efallai nas gellir dweyd iddo un amser gael ei feddiannu gan ysbryd pregethu.

Ar ol i'r achos gael ei osod o flaen yr eglwys, cafodd ganiatâd i fyned ymlaen. . . . Yn y tŷ a nnedd yn Pownall's Row, Maesydrê, lle y cynhelid yr Ysgol Sabbothol, y pregethodd ei bregeth gyntaf, a hyny ar noson waith; ac er nad oedd ond ystafell fechan, a'r gynnulleidfa yn cyfatteb i'r lle, eto lled anhwylus fu arno, y fath oedd ei ddiffyg hunan-feddiant, fel y gorfu iddo fyned i'w logell, a dwyn allan yr hyn oedd wedi ei baratoi mewn ysgrifen. Yn fuan ar ol hyn, pa fodd bynnag, pregethai yn y dref, a'r tro hwn llwyddodd i fyned drwy ei waith yn ddi-brofedigaeth; yn wir, er boddlonrwydd cyffredinol. Ei destun ydoedd Galatiaid vi. 7, "Na thwyller chwi: ni watworir Duw; canys beth bynnag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe."

Dyma y desgrifiad a gawsom o'r bregeth gan un oedd yn ei gwrando,— "Yr oedd yn bregeth feddylgar, wedi ei chyfansoddi yn fanwl, ac mewn iaith ystwyth a phrydferth: yr oedd mîn a bachau ynddi, a chyfeiriad ymarferol i'r holl sylwadau; y traddodiad yn weddaidd a naturiol, a gwelid yn ei bregeth gyntaf yn y capel y nodweddion a'i hynodai mewn blynyddoedd dilynol" Hamddenol, meddir, ydoedd ei ddull o draddodi — nid oedd yn canu nac yn dyrchafu ei lef — er na fyddai yn dibrisio y rhai a allent wneud hyny yn effeithiol. Yr oedd ei bregeth yn gyffelyb i'w arddull lenyddol, yn hynod o syml ac i'r pwynt. Nid oedd yn curo o amgylch y twmpathau, dywedai yr hyn oedd ganddo yn glir a hynod ddigwmpas. Teimlid wrth ei wrando ei fod yn siarad wrth ei gynulleidfa. Nid siarad am y gwirionedd, ond ei draethu wrth ei wrandawyr. O herwydd hyn, er nas gellid dweyd ei fod yn bregethwr poblogaidd, eto yr oedd yn ennill sylw ei wrandawyr yn gyffredinol. Yr oedd yn bregethwr "dyddorol iawn," meddai un chwaer o'r dref hon wrthym. Anfynych y clywyd ef yn pregethu ar bynciau athrawiaethol, ac ni roddai lawer o le i esboniadaeth. Desgrifio ac elfennu cymeriadau ydoedd y duedd amlycaf yn ei bregethu, fel y gwelir yn ei Offrymau Neilltuaeth. Ymhoffai mewn desgrifio cymmeriadau am y rhai na ddywedir ond ychydig iawn yn y Beibl ei hun. Yn wir, oddi wrth y cyfeiriadau lleiaf tynai ddarlun cyflawn o honynt, a nyddai o'i ddychymmyg ei hun hanes bywyd aml un, er enghraipht, y gŵr a ddymunai yn gyntaf gael myned a chladdu ei dad cyn dilyn yr Iesu, a diau ei fod yn fynych yn cael ei gario ymaith gan ei ddychymmyg, fel y gellir dweyd am un o bregethwyr enwogaf Scotland, sydd yn dra hoff o ymdrin â chymmeriadau Beiblaidd. Yr oedd ei wedd a thôn ei lais yn ddwys a difrifol, ac ni roddai ffordd i'r humour ddaeth i'r golwg yn ei ysgrifau. Y mae y pregethau a gyhoeddodd yn nghyfnod ei waeledd yn gosod allan yn lled glir i'r darllenydd ei nodweddion arbenig fel pregethwr. Yr oedd y dull hwn yn llai cyffredin y pryd hwnnw, yn enwedig ym mysg y Methodistiaid nag ydyw heddyw, ac nid pawb oedd yn mwynhau yr elfeniad clir a threiddiol o gymmeriadau a geid ym mhregethau Daniel Owen, eto pan gyhoeddwyd hwy yn y Drysorfa, ennillasant sylw a chymmeradwyaeth uchel.

Yn haf 1865 aeth i mewn i Athrofa y Bala, ac arhosodd yn y Coleg hyd ddiwedd y flwyddyn 1867. Hyfryd yw dwyn tystiolaeth i garedigrwydd cyfeillion yr Wyddgrug tuag ato yr adeg hon. Yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, ac yn wir, oddiwrth yr hyn a glywsom gan eraill, ni wnaeth gynnydd mawr yn ei efrydiau yn y Coleg. Yr ydoedd eisoes yn 29 oed, ac er ei fod yn lled gyfarwydd â'r iaith Saesneg, eto, nid oedd wedi cael nemor baratoad yn elfenau dysgeidiaeth, ac yr oedd erbyn hyn wedi cael blas ar ddarllen llenyddiaeth Seisnig, ac ar ol myned i'r Bala, cafodd gyfleusdra i ymroddi i ddarllen. Nis gellir dweyd iddo erioed ddysgu efrydu yn ystyr fanwl y gair, a dywed un oedd yn y Bala yr un amser ag ef, ac un a gafodd gyfleusterau arbenig i'w adwaen mewn blynyddoedd diweddarach, fod yn amheus a fuasai yn manteisio llawer pe yn cyfyngu ei hun i'r efrydiau arferol. Eto i gyd, safodd yn lled uchel yn arholiad y Coleg mewn rhai pynciau. Yr oedd yn sefyll rywle yn y canol ar y rhestr mewn materion duwinyddol. Esgeulusai rai cangennau, megis Meintonaeth yn hollol. Pan y dywedai un o'i gyd-hefrydwyr, "Tyr'd i ddosbarth Algebra, Daniel." "Na," meddai yntau, "nid wyf yn greadur cyfrifol." Efallai mai ofer fuasai ceisio ei rwymo dan ddisgyblaeth arferol y Coleg.

Dyfynwn yr hyn a ddywed un o'i gyd-efrydwyr mwyaf disglaer,— "Efallai mai gwell oedd iddo gymmeryd ei ffordd ei hun. Araf yr oedd ei alluoedd yn aeddfedu, a phe gosodid gorfodaeth arno, diau y gwnelid cam âg ef. Tyfodd ei dalentau i'r hyn oeddynt yn ddistaw ac arafaidd." Naturiol ydyw i ni ofyn, A oedd gan ei athrawon neu ei gyd-efrydwyr unrhyw syniad am y posibilrwydd iddo enwogi ei hun mewn bywyd? Ateb nacaol a gawsom i'r cwestiwn hwn. Er mor graff ydoedd Dr Edwards, y mae'n hollol sicr na ddychymmygodd ef, mwy na chyd-efrydwyr Daniel Owen, y byddai ei enw yn un o'r rhai mwyaf hysbys yn llenyddiaeth ei wlad cyn diwedd y ganrif; a'i fod yn un o'r ychydig efrydwyr y ceid model cerflun o hono o fewn muriau y Coleg. Nid yw hyn i ryfeddu ato. Nid oedd yna argoelion o'i allu i'w ganfod yn ei waith yn yr Athrofa, ac yr oedd y llwybr a gymmerodd yn un hollol newydd. D'od o hyd i'w ddawn a ddarfu ymhen blynyddoedd diweddarach. Dodwn yma sylwadau y Parch. Richard Evans, Harlech am dano, yn nghartref yr hwn y lletyai yn ystod ei arhosiad yn Athrofa y Bala:—

"Gallaf finnau ddweud am dano fel ag y dywed pawb yr wyf yn credu a ddaeth i gyffyrddiad âg ef, ei fod yn un o'r rhai mwyaf dymunol, yr oedd yn gwmni diddan, ac yn gyfaill ffyddlon ac yn garedig i bawb, ac yn tynu serch pawb tuag ato. Efe, yr wyf yn credu, oedd ffafrddyn y Bala tra y bu yno. Yr oedd y pryd hwnw yn or-hoff o'r digrifol. Os byddai rhywbeth felly wedi cael ei ddweyd neu ei wneyd, neu ryw berson felly yn y cyffiniau, byddai Dan (oblegid dyna fel y gelwid ef gan ei gyd-efrydwyr) yn bur sicr o wybod am dano a chael mwynhad mawr oddiwrtho, ond er mor hoff oedd o'r digrifol, ni welais mohono erioed yn gwneud dim i ymylu ar ddirmygu na gwawdio neb. Na, yr oedd yn fonheddwr yn ei holl ymddygiadau, ac ni fyddai dim y pryd hwnw ag y byddai ef yn ei anghymmeradwyo yn fwy nag ymddygiadau isel-wael. [Gallwn ychwanegu fod y nodwedd hon yn amlwg ynddo hyd y diwedd]. Nid wyf yn meddwl fod dim o waith y Coleg wedi ennill llawer o serch Mr Daniel Owen, ac nis gallaf ddweyd pa ran o'r gwaith aeth a mwyaf o'i fryd; ond gwn yn dda pa ran aeth a lleiaf, sef Mathematics. Yr wyf yn credu na chawsant ddim o'i serch. Yn wir, yr oedd yn wir gâs ganddo hwynt; ond er y cwbl yr oedd ef yn efrydydd cydwybodol, er nas gellid dweyd ei fod yn un aiddgar iawn. Nis gallasai, er hyny, oddef gwastraffu ei amser. Arferai aros i fynu yn hwyr i ddarllen, ac mewn canlynid nid oedd yn godwr bore, ac felly mewn brys y byddai yn paratoi ei hun i fynd i'w ddosbarth erbyn naw,"

Adeg hapus yn ei fywyd ydoedd y cyfnod hwn. Daeth i gylch hollol newydd, er na ffurfiodd gyfeillgarwch agos ond âg ychydig, eto, edrychid arno gan yr efrydwyr yn gyffredinol fel un diddan, synwyrol, a chraff; yr oedd ar y telerau gorau â phawb, ac meddai ystôr ddiderfyn o hanesynnau yn egluro y "dynol deulu." Yn ei Hiraethgân i'r Parch. John Evans, Croesoswallt — un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol yn ystod ei arhosiad yn y Bala — cawn gyfeiriadau at y cyfnod hwn ar ei fywyd:—

Eisteddais wrth dy ochr lawer awr
Ar fainc y Coleg ddyddiau hapus gynt,
Pan oedd hoenusrwydd ysbryd yn rhoi gwawr
Ar ein breuddwydion — aethant gyda'r gwynt;
Pa le mae'r bechgyn oeddynt o gylch y bwrdd,
Rhai yma, a rhai acw — rhai'n y ne'?
A gawn ni, eto gyda'n gilydd gwrdd
Heb neb ar ol — heb neb yn wâg ei le?

Collgwynfa ydoedd colli'r dyddiau pan
Cyd-rodiem hyd ymylon Tegid hen,
Cyn i'w ramantus gyssegredig làn
Gael ei halogi'n hagr gan y trên;
Er byw yn fain, fel hen geffylau Rice,[1]
Ein calon oedd yn hoew ac yn llon;
Pwy feddyliasai, dywed, ar ein llais
Mor weigion oedd ein pyrsau'r adeg hon?

Nodiadau

golygu
  1. Mr. Rice Edwards, gan yr hwn y llogid ceffylau gan yr efrydwyr i fyned i'w teithiau.